Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNLLUNIAU AMDDIFFYN YR ARFORDIR CANOL Y RHYL A CHANOL PRESTATYN - PAPUR DILYNOL

Ystyried adroddiad diweddaru (sy’n cynnwys dau atodiad cyfrinachol) gan y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant ynghylch dau gynllun amddiffyn yr arfordir posib ar gyfer Canol y Rhyl a Chanol Prestatyn a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i gyflwyno’r prosiect i’r Cyngor gydag argymhelliad i ariannu cyfnod adeiladu’r ddau gynllun.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cadarnhau ei fod wedi ystyried cynnwys yr Asesiadau o Effaith ar Les ar gyfer pob cynllun (sydd wedi’u hatodi fel Atodiad 3a ac Atodiad 3b yn yr adroddiad);

 

(b)       cefnogi’r cynnig i symud cynllun Amddiffyn Arfordir Canol y Rhyl yn ei flaen i’r cam adeiladu, gan ddefnyddio’r model cyllid cymorth grant a nodir gan Lywodraeth Cymru ac yn cytuno i’r cynnig gael ei gyflwyno i’r Cyngor ar gyfer penderfyniad;

 

(c)        cefnogi’r cynnig i symud cynllun Amddiffyn Arfordir Canol Prestatyn yn ei flaen i’r cam adeiladu, gan ddefnyddio’r model cyllid cymorth grant a nodir gan Lywodraeth Cymru ac yn cytuno i’r cynnig gael ei gyflwyno i’r Cyngor ar gyfer penderfyniad, ac

 

(d)       dirprwyo awdurdod i Fwrdd Prosiect Amddiffyn yr Arfordir gyflawni’r cynlluniau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Barry Mellor yr adroddiad gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am ddau gynllun amddiffynfeydd arfordirol posibl ar gyfer Canol y Rhyl a Chanol Prestatyn a gofynnodd am gymeradwyaeth y Cabinet i gyflwyno’r prosiect i’r Cyngor gydag argymhelliad i ariannu cam adeiladu’r ddau gynllun.

 

Roedd y Cabinet wedi ystyried adroddiad tebyg yn eu cyfarfod diwethaf ac wedi cefnogi cynigion i ddatblygu’r ddau gynllun a’u cyflwyno i’r Cyngor ar gyfer penderfyniad.    Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Economi a’r Amgylchedd yn egluro wrth gwblhau’r achos busnes llawn, canfuwyd bod costau prosiect anghywir ar gyfer Cynllun Amddiffyn Arfordir Canol y Rhyl wedi’i gynnwys yn adroddiad y Cabinet, gyda ffigwr o £58miliwn wedi’i ddefnyddio yn lle £66miliwn, ac roedd yn ymddiheuro am y gwall.    Nodwyd nad oedd y Cabinet wedi gwneud penderfyniad cyllid yn eu cyfarfod diwethaf, ond roedd yn briodol adrodd ar y sefyllfa ariannol gywir yn ôl i’r Cabinet o ystyried y lefel gynyddol o ymrwymiad ariannol a nodwyd.    Tynnwyd sylw’r Cabinet at y ffaith bod y ddau gynllun yn dal i haeddu cefnogaeth y cyngor er mwyn diogelu tref y Rhyl a Phrestatyn rhag y risg o lifogydd.  Byddai 85% o gyfanswm cost y cynlluniau yn parhau i gael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ac er bod gwaith yn parhau i werthuso dewisiadau i leihau’r costau, roedd y dybiaeth bresennol yn seiliedig ar fwyafswm cost cyfunol y ddau gynllun sef £92miliwn.

 

Roedd y Cabinet wedi ystyried rhinweddau’r ddau gynllun yn eu cyfarfod diwethaf a phwysigrwydd diogelu tref y Rhyl a Phrestatyn rhag y perygl o lifogydd a’r trychineb a achoswyd gan ddigwyddiadau llifogydd.   Nodwyd bod y ddau gynllun wedi eu prisio’n llawn a’r gwall yn ymwneud â ffigwr anghywir wedi’i gynnwys yn adroddiad y Cabinet a nodwyd yn ystod gwiriadau a balansau dilynol.    Ar ôl ystyried y diweddariad a chost y prosiect wedi’i gywiro ar gyfer Cynllun Amddiffyn Arfordir Canol y Rhyl, roedd y Cabinet yn parhau o’r farn bod y ddau gynllun yn hanfodol ar gyfer diogelwch a chynaliadwyedd y trefi hynny i breswylwyr, busnesau a thwristiaeth a’i fod yn anochel bod y trefi hynny yn cael eu diogelu. 

 

Roedd y Cynghorydd Gareth Sandilands yn cefnogi’r prosiect ond gofynnodd am sicrwydd o ran sefydlogrwydd ariannol i’r cynlluniau wrth symud ymlaen.   Roedd yr Aelod Arweiniol a swyddogion yn amlygu llwyddiant Cynllun Amddiffyn yr Arfordir Dwyrain y Rhyl a gwblhawyd o fewn cyllideb ac o flaen yr amserlen.  Byddai dull tebyg yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynlluniau Canol y Rhyl a Phrestatyn gyda phob agwedd o gostau yn cael eu monitro’n barhaus gan y contractwyr a’r cyngor.    Roedd pob risg wedi eu prisio a’u cynnwys yn y gyllideb ond y rhagdybiaeth oedd na fyddai pob risg yn dwyn ffrwyth ac roedd costau chwyddiant hefyd wedi eu cynnwys yn y gyllideb na fydd ei angen o bosibl.   O ganlyniad, roedd yna hyder yn narpariaeth y gyllideb ar gyfer y ddau gynllun a gellir derbyn sicrwydd o ran eu cyflawni.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cadarnhau ei fod wedi ystyried cynnwys yr Asesiadau o Effaith ar Les ar gyfer pob cynllun (sydd wedi’u hatodi fel Atodiad 3a ac Atodiad 3b yn yr adroddiad);

 

(b)       cefnogi’r cynnig i symud cynllun Amddiffyn Arfordir Canol y Rhyl yn ei flaen i’r cam adeiladu, gan ddefnyddio’r model cyllid cymorth grant a nodir gan Lywodraeth Cymru ac yn cytuno i’r cynnig gael ei gyflwyno i’r Cyngor ar gyfer penderfyniad;

 

(c)        cefnogi’r cynnig i symud cynllun Amddiffyn Arfordir Canol Prestatyn yn ei flaen i’r cam adeiladu, gan ddefnyddio’r model cyllid cymorth grant a nodir gan Lywodraeth Cymru ac yn cytuno i’r cynnig gael ei gyflwyno i’r Cyngor ar gyfer penderfyniad, ac

 

(d)       dirprwyo awdurdod i Fwrdd Prosiect Amddiffyn yr Arfordir gyflawni’r cynlluniau.

 

Dogfennau ategol: