Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGIAD O'R GOFRESTR RISG GORFFORAETHOL, MEDI 2022

Ystyried adroddiad ar y cyd gan yr Arweinydd Tîm Perfformiad a Chynllunio Strategol a Swyddog Perfformiad a Chynllunio Strategol (copi ynghlwm) sy’n gofyn i’r Pwyllgor drafod a rhoi sylwadau ar y risgiau, sgoriau a rheolaethau sydd wedi’u cynnwys yn y Gofrestr Risgiau Gorfforaethol a dull y Cyngor o ran rheoli risg.

10.40am – 11.10am

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Julie Matthews yr adroddiad i roi diweddariad ar yr Adolygiad o’r Gofrestr Risg Gorfforaethol, mis Medi 2022.

 

Yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth a’r Cabinet sydd yn datblygu a pherchen ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol. Caiff ei hadolygu ddwywaith y flwyddyn gan y Cabinet yn ystod sesiwn Friffio’r Cabinet.

 

Yn dilyn pob adolygiad, caiff y gofrestr ddiwygiedig ei chyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Perfformiad ac unwaith bob blwyddyn, i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Eglurodd swyddogion rôl a ffocws gwahanol pob Pwyllgor mewn perthynas â’r Gofrestr Risg.

 

Crynhodd y Swyddog Cynllunio Strategol a Pherfformiad, Emma Horan, y risgiau o fewn yr adroddiad fel a ganlyn -

·         Risg 01: Roedd y risg o wall diogelu neu ymarfer difrifol, ble roedd gan y Cyngor gyfrifoldeb, gan olygu niwed difrifol neu farwolaeth, wedi cynyddu yn ei sgôr cynhenid (A1 - Risg Critigol Bron yn Sicr / Effaith uchel iawn) a’i sgôr gweddilliol (A1 - Risg Critigol Bron yn Sicr / Effaith uchel iawn). Cafodd sgôr y risg ei gynyddu ar sail asesiad fod y siawns o hyn yn digwydd yn uwch ar hyn o bryd nag oedd yn flaenorol. Er nad yw’r Cyngor yn ystyried y tebygolrwydd fel “bron iawn yn sicr o ddigwydd yn y rhan fwyaf o amgylchiadau” (sef y diffiniad o Debygolrwydd Risg A yn methodoleg risg yr awdurdod), mae’r risg yn sicr wedi cynyddu. Felly teimlir ei bod yn briodol i gynyddu’r sgôr Tebygolrwydd Risg, ac roedd hynny’n golygu ei gynyddu o B i A. Mae cynyddu sgôr y risg yn galluogi i’r risg i gael ei flaenoriaethu a’i uwch gyfeirio ymhellach, sy’n teimlo’n briodol ac yn angenrheidiol ar hyn o bryd.

Nodwyd bod y Tîm Gweithredol Corfforaethol (CET) wedi cynnal adolygiad o Risg 01. Byddai Tîm Gweithredol Corfforaethol yn adolygu'r risg hwn yn fisol, a byddai'r Cabinet yn derbyn diweddariad ar lafar bob mis yng Nghyfarfod Briffio'r Cabinet.

·         Risg 12: Y risg o adroddiad(au) hynod o negyddol gan reoleiddwyr allanol. Roedd sgôr y risg wedi cynyddu i C3 - Risg Cymedrol: Effaith Posib / Canolig.

·         Risg 36: Y risg bod yr amgylchedd economaidd ac ariannol wedi gwaethygu y tu hwnt i ddisgwyliadau cyfredol, a chafodd effaith niweidiol ar fusnesau lleol a chaledi economaidd i’r gymuned leol. Roedd y sgoriau risg cynhenid a gweddilliol wedi cynyddu.

·         Risg 43: Y risg nad oedd gan y Cyngor y cronfeydd neu’r adnoddau i fodloni ei oblygiadau statudol o dan y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Roedd y cynnig a amlygwyd yn adolygiad mis Medi 2022 i ddad-uwchgyfeirio’r risg hon i’w rheoli gan y Gwasanaethau Plant ac Addysg wedi’i gytuno gan y Cabinet mewn Cyfarfod Briffio Cabinet ar 14 Tachwedd, 2022.

·         Risg 44: Y risg o Glefyd Coed Ynn (ADB) yn Sir Ddinbych yn arwain at achosion iechyd a diogelwch sylweddol a oedd yn cynrychioli risg posib i fywyd. Perchennog y risg yn awr oedd Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad. Ar sail  gwybodaeth well, roedd y sgoriau risg cynhenid a gweddilliol wedi gostwng (ond yn parhau y tu hwnt i barodrwydd y cyngor i dderbyn risg).

·         Risg 47: Roedd y risg y byddai Cydbwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru (CJC) newydd yn golygu bod gan y Cyngor llai o ddylanwad a rheolaeth ar lefel leol. Y cynnig oedd dad-uwchgyfeirio’r risg hwn er mwyn iddo gael ei reoli gan Wasanaeth(au). Roedd y cynnig a amlygwyd yn adolygiad mis Medi 2022 – i ddad-uwchgyfeirio’r risg hwn i’w rheoli gan y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd – wedi’i gytuno gan y Cabinet yng nghyfarfod Briffio’r Cabinet ar 14 Tachwedd, 2022.

Yn ystod trafodaethau codwyd y pwyntiau canlynol:

·         Roedd effaith gronnus materion recriwtio a chadw ym maes gofal cymdeithasol yn effeithio'n sylweddol ar allu'r Cyngor i gyflawni swyddogaethau gofal cymdeithasol statudol. Roedd yna argyfwng recriwtio a chadw cenedlaethol ym maes gofal cymdeithasol. Roedd gofal cymdeithasol yn aml yn colli staff oherwydd y tâl ac amodau gwell a gynigir gan asiantaethau recriwtio, awdurdodau lleol eraill a'r Bwrdd Iechyd, yn aml ar gyfer rolau tebyg ond llai beichus. Yn aml roedd gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ond yn gallu disodli staff profiadol gyda gweithwyr newydd gymhwyso neu ddibrofiad a oedd angen cymorth sylweddol ac nad oeddent yn gallu gweithio’n annibynnol gyda’r achosion cynyddol gymhleth a gyfeiriwyd at y gwasanaeth. Roedd llawer o ddechreuwyr newydd yn staff iau,  newydd gymhwyso ac roedd cyfraddau absenoldeb mamolaeth mewn rhai timau yn uchel. Roedd effaith Covid-19 yn symudiad sylweddol yn y gweithlu oddi wrth ofal cymdeithasol ac iechyd.  Roedd llai o weithwyr cymdeithasol yn ymuno â'r proffesiwn nag oedd yn gadael. Roedd y farchnad yn hynod gystadleuol ac nid oedd strwythur tâl cenedlaethol ar waith yn y sector.

Ar yr un pryd, roedd llwyth achosion yn cynyddu ac yn dod yn fwy cymhleth.  Roedd risg na fyddai pobl yn cael eu cefnogi, neu nad oeddent yn cael eu gweld â'r dwyster cywir. Roedd hyn yn effeithio ar allu gwasanaethau gofal cymdeithasol i gyflawni eu cyfrifoldebau statudol a oedd yn rhoi mwy o bwysau ar staff ac yn effeithio’n negyddol ar eu lles ac yn achosi lefelau uwch o absenoldeb heb ei gynllunio. I gefnogi trafodaeth ar y gofrestr risg, cyflwynodd swyddogion o’r Gwasanaethau Cymorth Cymunedol a Gwasanaethau Plant trosolwg byr ar nifer y rolau mewn gwahanol dimau a rhywfaint o wybodaeth am swyddi gwag. . Gofynnwyd i'r wybodaeth fanwl am staffio a swyddi gwag o fewn timau gofal cymdeithasol a ddarparwyd yn y dyfodol gael ei rhannu o ran Gwasanaethau Oedolion a Phlant. Roedd mater recriwtio a chadw staff yn broblem genedlaethol. Roedd y broblem y tu hwnt i reolaeth yr Awdurdod Lleol. Roedd cyfarfodydd wedi'u cynnal gyda Llywodraethau Cymru a'r DU i drafod y pryderon a sut yr oedd y risg wedi cynyddu. Roedd cyfarfodydd mewnol yn cael eu cynnal yn cynnwys y Tîm Gweithredol Corfforaethol, yr Arweinydd a'r Aelodau Arweiniol. Bu rhywfaint o symudiad yn y dyfodol ar femorandwm drafft, a oedd yn cael ei arwain gan Ofal Cymdeithasol Cymru. Amlinellodd swyddogion Gwasanaethau Plant a Gwasanaethau Oedolion y gweithdrefnau a’r amserlenni yr oeddent yn cadw atynt pan oeddent yn derbyn atgyfeiriadau at eu Gwasanaethau.  Amlinellwyd hefyd yr holl ddulliau yr oeddent wedi'u defnyddio i geisio recriwtio gweithwyr ar bob lefel a'r berthynas waith da oedd ganddynt ag ysgolion, colegau a phrifysgolion lleol. Roedd telerau ac amodau cenedlaethol yn fater o fewn gallu LlC, a oedd wedi sefydlu fforwm i archwilio’r potensial o sefydlu telerau ac amodau cenedlaethol.

·         Risg 45 – y risg bod y Cyngor yn methu â dod yn gyngor di-garbon net ac ecolegol gadarnhaol erbyn 2030. Gan fod y risg yn B2 – Risg Critigol: Tebygol/Uchel, gofynnodd yr aelodau a oedd trefniadau cadarn ar waith i sicrhau ein bod yn bodloni’r targed. Eglurodd swyddogion ein bod wedi ymrwymo i adolygu ein rhaglen ar ôl dwy flynedd i fapio buddion yn erbyn adnoddau. Bydd yr adolygiad hwn yn darparu tystiolaeth ynghylch a ydym, yn seiliedig ar yr ymdrech a’r cynnydd a wnaeth hyd yma, ar y trywydd iawn i fodloni ein targed ar gyfer 2030.

·         Risg 36 - y risg bod yr amgylchedd economaidd ac ariannol yn gwaethygu y tu hwnt i ddisgwyliadau cyfredol, ac yn cael effaith niweidiol ar fusnesau lleol a chaledi economaidd i’r gymuned leol. Gofynnodd yr aelodau sut yr oedd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (NWEAB) yn cynorthwyo gyda hyn.  Cadarnhawyd bod adroddiad ar weithgareddau a pherfformiad y Bwrdd Uchelgais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau bob chwarter.  Pe bai'r aelodau'n teimlo bod Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn haeddu cael ei wahodd i'r Pwyllgor Craffu yn gynharach na'i ymweliad blynyddol, dylid cyflwyno ffurflen gynnig er mwyn i Gadeiryddion ac Is-Gadeiryddion y Pwyllgorau Craffu ei hasesu.

·         Gofynnodd yr Aelodau i swyddogion ystyried ffyrdd o gyflwyno crynodeb risg, a allai gynnwys gwybodaeth am dueddiadau a statws mewn lliw, fel rhan o drafodaethau ynghylch cyflwyno gwybodaeth am berfformiad. Byddwn yn ceisio mewnbwn Aelodau drwy adroddiadau yn y dyfodol.

 

Ar y pwynt hwn, diolchwyd i'r Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad a'r Swyddog Cynllunio Strategol a Pherfformiad am eu hadroddiad manwl a'u cyflwyniad ac i'r Aelod Arweiniol a swyddogion Gwasanaethau Cymdeithasol am eu hymateb manwl i'r cwestiynau a godwyd.

 

Ar ddiwedd dadansoddiad a thrafodaeth drylwyr:

 

Penderfynodd: y Pwyllgor yn amodol ar y sylwadau uchod -

 

(i)   ar ôl trafod y risgiau, y sgoriau a’r rheolaethau sydd wedi’u cynnwys yn y Gofrestr Risg Gorfforaethol (Atodiad 1), gan gynnwys statws pob risg yn erbyn Datganiad Parodrwydd y Cyngor i Dderbyn Risg (Atodiad 2), a derbyn y diweddariad ar lafar a ddarparwyd ar newidiadau diweddar i’r datganiad parodrwydd i dderbyn risg, i dderbyn a chymeradwyo'r wybodaeth a ddarparwyd; a

(ii) gofyn i aelodau sydd â phryderon arbennig am risgiau penodol sydd wedi'u cynnwys yn y Gofrestr Risg Gorfforaethol ynghyd â'r rheolaethau sydd ar waith i reoli'r risgiau hynny eu huwch gyfeirio i gael ei  harchwilio'n fanwl trwy gyflwyno ffurflen Cynnig Craffu gan Aelodau i Gadeiryddion ac Is-gadeiryddion y Grŵp Craffu.

 

Dogfennau ategol: