Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DIWEDDARIAD HUNANASESIAD PERFFORMIAD, CHWARTER 2, 2022 I 2023

Ystyried yr adroddiad gan yr Arweinydd Tîm Perfformiad a Chynllunio Strategol (copi ynghlwm) sy’n darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch perfformiad y Cyngor yn erbyn ei swyddogaethau ar ddiwedd chwarter 2, 2022/23 ac sy’n gofyn am sylwadau gan aelodau ar faterion sy’n ymwneud â pherfformiad.

10.10am – 10.40am

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad, ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Gwyneth Ellis, yr adroddiad Chwarter 2 Diweddariad ar Hunanasesiad Perfformiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch perfformiad y Cyngor yn erbyn ei swyddogaethau ar ddiwedd chwarter 2, 2022 i 2023, gan gynnwys amcanion y Cynllun Corfforaethol a Chydraddoldeb Strategol, a’r saith maes llywodraethu allweddol.

 

Mae adroddiadau rheolaidd yn un o ofynion monitro hanfodol Fframwaith Rheoli Perfformiad y Cyngor. Caiff adroddiadau perfformiad chwarterol eu rhannu’n rheolaidd â’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, y Cabinet a Phwyllgor Craffu Perfformiad, er mwyn cefnogi trafodaeth adeiladol ynghylch ein perfformiad a nodi ymyraethau, lle bo angen.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad mewn dau ran i geisio amlinellu cynnydd yn erbyn y meysydd allweddol canlynol -

·         Amcanion Perfformiad - yn cynnwys Amcanion y Cynllun Corfforaethol/ Cydraddoldeb Strategol.

·         Meysydd Llywodraethu – Saith maes llywodraethu sydd wedi’u pennu ymlaen llaw gan y Canllawiau Statudol ar berfformiad o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

 

Roedd y gwerthusiad crynodeb wedi’i benderfynu gan statws o fesurau a phrosiectau i bob un o’r blaenoriaethau canlynol:

·         Tai: Cafodd pawb eu cefnogi i fyw mewn cartrefi a oedd yn diwallu eu hanghenion

·         Clymu Cymunedau: Roedd y Cymunedau wedi eu cysylltu, ac mae ganddynt fynediad at nwyddau a gwasanaethau yn lleol, ar-lein a thrwy gysylltiadau cludiant da

·         Cymunedau Cryf: Bu i’r Cyngor weithio gyda phobl a chymunedau i gynyddu annibyniaeth a chadernid

·         Yr Amgylchedd: Deniadol ac wedi’i ddiogelu, gan gefnogi lles a ffyniant economaidd

·         Pobl Ifanc: Man lle bydd pobl iau am fyw a gweithio ynddo, a bod ganddynt y sgiliau i wneud hynny

Iechyd Corfforaethol: Roedd y Cyngor yn effeithlon, wedi’i reoli’n dda ac yn amgylcheddol gynaliadwy

 

Cynghorwyd yr Aelodau mai’r adroddiad a gyflwynwyd iddynt oedd yr adroddiad terfynol ar y Cynllun Corfforaethol 2017-2022.  O hyn ymlaen bydd yr adroddiadau perfformiad yn ffocysu ar gyflwyniad a gweithrediad y Cynllun Corfforaethol newydd, rhwng 2022 - 2027.

 

Cafodd y pwyntiau canlynol eu crynhoi yn ystod y drafodaeth –

 

·         Nifer uchel o unedau tai wedi’u clustnodi ar gyfer datblygiad dan y Cynllun Corfforaethol 2017-22 bron â’u cwblhau tuag at ddiwedd hyd fywyd y Cynllun.

·         Nid oedd ffyrdd a phalmentydd wedi’u difrodi o fewn yr adroddiad gan mai’r mater oedd mynd i’r afael â’r gwasanaeth perthnasol.

·         Camdriniaeth Domestig - Bu gostyngiad o 34.3% yn nifer dioddefwyr eildro troseddau domestig yn Sir Ddinbych ym mis Gorffennaf, Awst a Medi 2022 o gymharu â’r un cyfnod y llynedd.  Gostyngodd y niferoedd o 405 i 266.  Ar y cyfan, mae Gogledd Cymru wedi gweld gostyngiad o 7.5% mewn trais domestig gyda dioddefwyr eildro ar gyfer mis Gorffennaf i fis Medi . Mae nifer y rhai sy’n aildroseddu gyda thrais domestig hefyd wedi gostwng yn Sir Ddinbych o 33 y llynedd i 28 y flwyddyn hon, gostyngiad o 15.2%. Mae hyn yn debyg i’r darlun cyffredinol ar gyfer Gogledd Cymru sydd â gostyngiad o 8.1% ar gyfer yr un cyfnod.  

·         Cynhaliwyd 100 o asesiadau gofalwyr rhwng mis Gorffennaf a mis Medi, gan ddod â chyfanswm y flwyddyn ariannol i 197 (cronnus ers mis Ebrill).  Mae’r ffigwr, fodd bynnag, yn ostyngiad o 11% ar gyfer yr un cyfnod y llynedd (221).   Dywedodd swyddogion efallai bod aelodau yn dymuno craffu’r maes penodol hwn yn fuan iawn.

·         Mae’r data ar gyfer y cyfnod cyfartalog mae oedolion (65 oed a throsodd) yn cael eu cefnogi mewn cartrefi gofal preswyl wedi gostwng o 1,059 (mis Ebrill i fis Mehefin) i 1,043 diwrnod ar gyfer y cyfnod rhwng mis Gorffennaf i fis Medi. Y ffigwr ar gyfer yr un cyfnod y llynedd oedd 1050 diwrnod. 

·         Roedd y data diweddaraf a gyhoeddwyd am gyfanswm effaith economaidd twristiaeth yn Sir Ddinbych wedi gweld cynnydd sylweddol o £213m yn 2020 i £432m yn 2021.  Er bod hyn yn is na’r ffigyrau cyn y pandemig (£552m yn 2019), mae’r cynnydd yn galonogol ac yn nodi gwydnwch y sector twristiaeth a’i arwyddocâd economaidd parhaus yn y sir.

·         Blaenoriaeth Pobl Ifanc - Roedd dim ond un diweddariad i roi o fewn yr adroddiad i’r fframwaith data i Bobl Ifanc. Mae hyn yn berthnasol i 18 i 24 cyfrif hawlydd. Mae’r data ar gyfer mis Gorffennaf i fis Medi yn nodi ychydig o gynnydd yng nghyfrif hawlwyr Sir Ddinbych, yn awr yn 5.3% (i fyny o 4.9% ym mis Mehefin).  Mae’r cynnydd yn adlewyrchu tueddiadau cenedlaethol, gyda chyfartaledd Cymru a’r DU hefyd yn cynyddu.  Rydym yn parhau i fod y tu ôl i gyfartaledd Cymru, sef 4.3% (i fyny o 4.1%).   Nid yw cyfrif hawlwyr y DU wedi dychwelyd i’r lefelau cyn y pandemig (a oedd yn is na Chymru yn y gorffennol), nawr yn 4.6%, (i fyny o 4.3% ym mis Mehefin).   Byddai’r Cynllun Corfforaethol newydd yn ffocysu ar ffyrdd o gael pobl ifanc i’r math cywir o waith a llwybrau gyrfa.

·         Mae dechrau gwaith wedi newid i fod “mewn perygl”.   Roedd y prosiect mewn perygl gan fod oedi parhaus i gyhoeddiad Y Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.  Roedd hyn yn ddyledus ym mis Awst ond yn awr nid oed disgwyl tan ddiwedd mis Hydref bellach. Ni chytunwyd ar unrhyw gyllid ychwanegol i gefnogi’r prosiect y tu hwnt i fis Rhagfyr, sy’n cyflwyno perygl y bydd staff yn colli swyddi.   Fodd bynnag, rydym yn parhau i fod ar y trywydd cywir i gyflawni’r targedau presennol tan ddiwedd fis Rhagfyr 2022.   Roedd y Tîm Gweithredol Corfforaethol y Cyngor wedi cytuno i bontio’r bwlch cyllid dros dro, tan fydd ffrydiau ariannu yn y dyfodol wedi’u sicrhau.

·         Roedd yr ail ran o’r adroddiad yn egluro’r pwysau iechyd corfforaethol ar gyllid.

·         Mae recriwtio a chadw staff yn fater parhaus.    Dengys yr adroddiad cynhyrchiant a chynnydd y Cyngor.  Roedd y Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu eisoes wedi gwneud cais am adroddiad gwybodaeth yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol gyfredol ar recriwtio a chadw staff yn Sir Ddinbych, gyda’r bwriad o benderfynu os oedd y maes hwn angen ei graffu’n fanwl.

·         Cymunedau Cysylltiedig - Roedd BT Openreach wedi mynychu’r cyfarfod Pwyllgor Craffu yn y gorffennol ac awgrymwyd bod Swyddog Digidol Sir Ddinbych yn mynychu cyfarfod yn y dyfodol.

·         Mewn perthynas â Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych, cadarnhawyd bod y Cyfarwyddwr Rheoli Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych yn mynychu’r Pwyllgor Craffu Partneriaeth ar 15 Rhagfyr 2022 i drafod ei berthynas a gwaith gyda Chyngor Sir Ddinbych.

·         Cytunodd yr Aelodau ddarparu rhagor o wybodaeth i aelodau ar ohiriad y Polisi Dyrannu ar gyfer Tai Cymdeithasol ac ar ganran gwariant diweddar y Cyngor gyda chyflenwyr o fewn Sir Ddinbych.

 

Eglurodd awduron yr adroddiad hwn na ellir defnyddio darluniadau a graffiau ayyb o fewn yr adroddiad oherwydd rheolau hygyrchedd.  Fodd bynnag, mae’r fframwaith perfformiad newydd sydd yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd i gefnogi’r Cynllun Corfforaethol newydd yn gyfle i swyddogion i archwilio gyda chydweithwyr cyfathrebu’r ffyrdd gwahanol o adrodd data, megis ailgyflwyno statws lliw a dadansoddiad tueddiadau.  Byddwn yn ceisio mewnbwn Aelodau drwy adroddiadau yn y dyfodol.

 

Ar ddiwedd trafodaeth fanwl ar y materion a godwyd o fewn yr adroddiad diweddaru Hunanasesu Perfformiad, anogodd y Cadeirydd yr aelodau i gyfeirio at feysydd a oedd yn achosi pryder penodol iddynt i’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu ystyried fel pynciau posibl yn y dyfodol ar gyfer eu craffu’n fanwl.  Felly:

 

Penderfynodd y Pwyllgor: - yn amodol ar y sylwadau uchod –

 

(i)   i dderbyn cynnwys yr adroddiad Diweddaru Hunanasesu Perfformiad ar gyfer Chwarter 2 2022 tan 2023; a

(ii) Bod yr aelodau yn llenwi ffurflenni cynnig craffu ar unrhyw feysydd o bryder a’u cyflwyno i’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu i’w hystyried i’w cynnwys yn y rhaglen waith i’r dyfodol y pwyllgor craffu ar gyfer archwiliad manwl yn y dyfodol.

 

Dogfennau ategol: