Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNLLUN CLUDIANT CYNALIADWY DRAFFT

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant (copi ynghlwm) yn cyflwyno’r Cynllun Cludiant Cynaliadwy Drafft i gael barn y Cabinet cyn yr ymgysylltiad cyhoeddus fydd yn cael ei gynnal ar y Cynllun yn gynnar yn 2023.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi cynnwys y Cynllun Cludiant Cynaliadwy Drafft, yn Atodiad A i’r adroddiad;

 

(b)       nodi, yn dilyn yr ymarfer ymgysylltu â’r cyhoedd, ac unrhyw ddiwygiadau o ganlyniad, y byddai fersiwn derfynol y Cynllun Cludiant Cynaliadwy yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet i’w drafod ac i roi cymeradwyaeth derfynol yng nghanol 2023, a

 

(c) cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les (Atodiad B yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Barry Mellor yr adroddiad yn ceisio barn y Cabinet ar y Cynllun Cludiant Cynaliadwy cyn yr ymarfer ymgysylltu â’r cyhoedd i ddod ar y Cynllun ar ddechrau 2023.  Byddai fersiwn terfynol o’r Cynllun yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ar gyfer cymeradwyaeth derfynol yng nghanol 2023. 

 

Darparwyd rhywfaint o gefndir i’r Cynllun a ddatblygwyd gan swyddogion o wahanol wasanaethau’r cyngor i adlewyrchu natur trawsbynciol cludiant.  Cyfeiriwyd at amcanion a dyletswyddau amgylcheddol y cyngor ac roedd y Cynllun yn cynnwys holl weithgareddau cysylltiedig â chludiant i annog teithio cynaliadwy, o’r Rhaglen Newid Hinsawdd ac Ecolegol a phrosiectau/polisïau eraill.    I alinio gyda Strategaeth Cludiant Cymru, “Llwybr Newydd”, roedd y Cynllun yn cynnwys gweledigaeth 20 mlynedd a blaenoriaethau ar gyfer y 5 mlynedd nesaf a olynir gan set arall o flaenoriaethau ar gyfer y 5 mlynedd yn dilyn hynny.  Pwysleisiwyd nad oedd camau o fewn y Cynllun yn angenrheidiol yn newydd, gyda llawer o waith yn cael ei wneud dros nifer o flynyddoedd.    Roedd y gweithgareddau hynny wedi eu cynnwys mewn un ddogfen hygyrch ar gyfer eglurder a byddent hefyd yn helpu i nodi unrhyw fylchau posibl. 

 

Roedd y Cabinet yn croesawu’r Cynllun drafft ac ymarfer ymgysylltu dilynol i roi cyfle i rhanddeiliaid a’r cyhoedd ddarparu mewnbwn i’r broses.    Derbyniwyd e-bost gan y Cynghorydd Jon Harland yn awgrymu mân adolygiadau i’r Cynllun, gan gynnwys y cwmpas i edrych eto ar ‘Fysiau Cerdded’ i gynnwys ‘Bysiau Beicio’ hefyd i annog mwy o ddysgwyr i gerdded a beicio i’r ysgol, a darparu llwybrau diogel i ysgolion i hwyluso teithio llesol.  Amlygodd y Cynghorydd Gill Greenland waith ar y gweill ar hyn o bryd gydag ysgolion gan gynnwys hyfedredd beicio a chysylltiadau i draffig/parcio a gwneud ysgolion yn fannau diogel, a byddai hefyd yn codi’r materion hynny fel yr aelod arweiniol perthnasol.    Roedd y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch Ffyrdd yn cadarnhau y gellir bwrw ymlaen a chynnwys bysiau beicio fel rhan o waith dichonoldeb ac yn cydnabod pwysigrwydd llwybrau diogel i’r ysgol i annog teithio mwy gwyrdd.  Roedd yna rywfaint o ddadl ar deilyngdod ‘Bysiau Cerdded’ a phwysigrwydd prynu i mewn gan rieni a’r sawl yn hwyluso’r cynllun iddo fod yn llwyddiannus.   Roedd y Cynghorydd Julie Matthews wedi amlygu materion a godwyd gan rai preswylwyr heb unrhyw le parcio oddi ar y stryd ar gael i wefru cerbyd ac roedd yn falch i nodi cyfeiriad yn y Cynllun i ddatblygu’r ddarpariaeth.

 

Roedd y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch Ffyrdd yn ymateb i gwestiynau pellach ynglŷn â phwysigrwydd y Cynllun i hybu twf economaidd a chadarnhawyd y byddai’r Cydffederasiwn Diwydiant Prydain a Ffederasiwn Busnesau Bach yn cael ei gynnwys yn rhan ymgysylltu â rhanddeiliaid o’r Cynllun.    O ran cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer terfyn cyflymder 20mya, roedd y nod yn cynnwys diogelwch ffyrdd ac annog dewisiadau teithio llesol.  Byddai adroddiad ar y terfyn cyflymder 20mya yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar 8 Rhagfyr 2022. 

 

Ategodd yr Arweinydd bod y Cynllun mewn ffurf drafft ar hyn o bryd ac yn annog cyfranogiad llawn yn y broses ymgysylltu cyn i Gynllun terfynol gael ei gymeradwyo ganol 2023.    Roedd yn falch o nodi y byddai pwyntiau’r Cynghorydd Harland yn cael eu symud ymlaen.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi cynnwys y Cynllun Cludiant Cynaliadwy Drafft, yn Atodiad A i’r adroddiad;

 

(b)       nodi, yn dilyn yr ymarfer ymgysylltu â’r cyhoedd, ac unrhyw ddiwygiadau o ganlyniad, y byddai fersiwn derfynol y Cynllun Cludiant Cynaliadwy yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet i’w drafod ac i roi cymeradwyaeth derfynol yng nghanol 2023, a

 

(c) cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les (Atodiad B yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Dogfennau ategol: