Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

GWEITHGAREDDAU I HYRWYDDO'R IAITH GYMRAEG

I dderbyn adroddiad yn rhoi gwybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am weithgareddau hyrwyddo’r Gymraeg ers y cyfarfod diwethaf a'r cynlluniau amlinellol ar gyfer y flwyddyn i ddod (copi ynghlwm)

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Iaith (SIG) yr adroddiad yn amlygu'r gweithgareddau i hyrwyddo'r Gymraeg (a ddosbarthwyd yn flaenorol); nod yr adroddiad oedd hysbysu'r pwyllgor am y gwaith mewnol ac allanol i hyrwyddo'r Gymraeg.

 

Roedd y rhain fel a ganlyn -

 

·         Eisteddfod Staff

Cynhaliodd y Cyngor ei bedwerydd Eisteddfod rhwng 18 Chwefror ac 1 Mawrth fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi. Roedd y digwyddiad yn rhan o ymdrechion y Cyngor i godi proffil y Gymraeg, i sicrhau gwell dealltwriaeth o’r iaith ac i ddathlu diwylliant Cymru. Cynhaliwyd yr Eisteddfod yn ystod cyfnod o gryn ffocws ar y Gymraeg gydag Eisteddfod yr Urdd  ar fin dychwelyd i’r Sir ym mis Mai 2022. Unwaith eto eleni, oherwydd Covid-19, cynhaliwyd Eisteddfod y Staff yn ddigidol. Defnyddiwyd ein platfform Facebook staff preifat i gynnal yr Eisteddfod ac i hyrwyddo’r categorïau amrywiol i staff gystadlu ynddynt drwy uwchlwytho llun i gyd-fynd â phob categori. Roedd y categorïau yn cynnwys Anifail Anwes yn y Cyflwr Gorau, Anifail Anwes Mwyaf Dawnus, Cyn ac Ar Ôl/Hen a Newydd, brawddeg gan DEWI SANT, fy hoff le yn Sir Ddinbych a llawer mwy; gwnaed hyn er mwyn annog mwy o bobl i gymryd rhan yn yr Eisteddfod eleni, penderfynwyd y dylai holl staff y Cyngor fod yn feirniaid. Fe ddewison nhw’r enillwyr trwy ‘hoffi’ lluniau/fideos ar y dudalen Facebook, a’r rhai wedi’u ‘hoffi’ fwyaf oedd yr enillwyr. Roedd yr ymateb a’r gefnogaeth a dderbyniwyd yn galonogol iawn eto eleni, gyda lefel dda o ymgysylltu â staff.

 

·         Eisteddfod yr Urdd yn Sir Ddinbych

 

Dychwelodd Eisteddfod yr Urdd i Sir Ddinbych eleni a chafodd ei chynnal ar Fferm Kilford ar gyrion Dinbych. Dechreuodd y paratoadau ar gyfer yr Eisteddfod yn 2018; fodd bynnag, bu'n rhaid ei ohirio ddwywaith oherwydd y Pandemig. Ailddechreuwydd trefnu’r Eisteddfod yn 2021 gyda llawer o fisoedd prysur yn arwain at y digwyddiad ei hun. Cyngor Sir Ddinbych oedd un o brif noddwyr yr Eisteddfod eleni, a ninnau hefyd yn noddi’r ddwy sioe – y sioe ysgolion cynradd ‘Ni yw y Byd’ a’r sioe ysgolion uwchradd ‘Fi di Fi’. Cawsom babell fawr ar faes yr Eisteddfod, a’n thema oedd ‘Darganfod Sir Ddinbych’. Roedd sawl adran i'r babell, a oedd yn cynnwys theatr, busnes/twristiaeth, celf a chrefft a chefn gwlad. Bu’n Eisteddfod hynod lwyddiannus, ac roedd pabell Sir Ddinbych yn brysur drwy’r dydd, bob dydd. Braf oedd gweld cymaint o gyffro a bwrlwm ar y maes ar ôl cyfnod mor hir.

 

·         Paned a Sgwrs

Mae sesiynau'n dal i gael eu cynnal yn rhithiol. Lleihaodd niferoedd yn ystod 2021 o ganlyniad i’r sesiynau’n rhai rhithiol, ond maent wedi codi eto dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae’r sesiynau’n mynd o nerth i nerth. Mae gennym glybiau darllen wyneb yn wyneb unwaith y mis yn Llyfrgelloedd Dinbych a Rhuthun. Mae staff yn dewis llyfr o’r gyfres ‘Amdani’, sy’n addas ar gyfer dysgwyr ac yn ei ddarllen erbyn y sesiwn nesaf, lle caiff y llyfr ei drafod wedyn, gan ganiatáu i ddysgwyr ddefnyddio’r Gymraeg i fynegi barn. Mae'r sesiynau hyn wedi bod yn llwyddiannus iawn, gyda staff yn ffafrio'r sesiynau wyneb yn wyneb. Mae tasgau ysgrifenedig wythnosol hefyd yn cael eu paratoi ar gyfer staff i'w helpu i ddatblygu eu medrau ysgrifennu.

 

Y camau nesaf: Amserlen gweithgaredd arfaethedig ar gyfer 2023:

 

Gweithgareddau trwy’r misoedd

 

·         Hydref 2022 – Awst 2023 - Ymgyrch fewnol ar ‘Dyblu eich defnydd dyddiol o’r Gymraeg

·         Tachwedd - Rhagfyr 2022 - Cwpan y Byd FIFA

·         Tachwedd 2022 – Mawrth 2023 – Strategaeth Iaith Gymraeg

·         Tachwedd 2022 – Ionawr 2023 – Polisi ar Weithredu’r Gymraeg yn fewnol

 

Trafododd y pwyllgor y materion canlynol ymhellach – 

 

·         Roedd y pwyllgor yn llwyr gefnogi'r gweithgareddau a gyflawnwyd.

·         Awgrymodd yr aelodau y dylid defnyddio cortynnau gwddf a bathodynnau yn amlach, ar-lein ac wyneb yn wyneb, a fyddai'n ei gwneud yn haws dechrau sgyrsiau.

·         Cododd y pwyllgor fod angen anogaeth o amgylchedd da i gael pobl i siarad Cymraeg o fewn y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD bod Pwyllgor Llywio'r Iaith Gymraeg yn nodi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gweithgareddau i hybu'r Gymraeg.

 

 

Dogfennau ategol: