Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y CADEIRYDDION

Ystyried adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro (copi ynghlwm) cyn i'r adroddiad gael ei gyflwyno i'r Cyngor Llawn.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn cyflwyno Adroddiad Blynyddol drafft y Cadeirydd i’w ystyried cyn ei gyflwyno i’r Cyngor. Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion am waith y Pwyllgor yn ystod 2021.

 

Roedd y Pwyllgor Safonau wedi cytuno cyn hyn y dylai Adroddiad Blynyddol gael ei gyflwyno ar waith y Pwyllgor i holl aelodau'r Cyngor fel rhan o ymgyrch y Pwyllgor i wella safonau ymddygiad moesegol ac i gydymffurfio â Chod Ymddygiad yr Aelodau. Oherwydd etholiadau llywodraeth leol mis Mai, bu oedi cyn derbyn yr adroddiad, fyddai wedi cael ei gynhyrchu’n llawer cynharach yn y flwyddyn fel arfer.

 

Arweiniodd y Dirprwy Swyddog Monitro yr aelodau drwy gynnwys yr adroddiad ac yn ystod trafodaeth, cytunodd y Pwyllgor ar y diwygiadau a ganlyn -

 

·         paragraff 4.2 – bod cyfeiriad at benodiad yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru newydd, Michelle Morris, oedd wedi cymryd drosodd gan Nick Bennett, yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad.  Nodwyd bod y term ‘Ombwdsmon’ yn dal i gael ei ddefnyddio er y penodiad newydd. Cytunwyd y byddai’r protocol datrysiad lleol yn cael ei gynnwys ac y dylid cyfeirio ato mewn ffordd gefnogol ac fel ffordd o atal materion rhag dwysau a’r ddolen i ymgysylltu Arweinwyr Grwpiau mewn gweithgareddau o’r fath yn y dyfodol.  Er bod yr adroddiad yn trafod 2021, ystyriwyd ei bod yn briodol sôn y byddai cyfansoddiad presennol y Pwyllgor Safonau yn cael ei adolygu yn y dyfodol gyda’r posibilrwydd o gael hyd at ddau aelod ychwanegol.

·         paragraff 4.3 – diwygio nifer yr adegau y mae’r Pwyllgor wedi cyfarfod i 4 gwaith (yn hytrach na 3 gwaith). Cytunwyd bod rhestru’r eitemau yn rhoi crynodeb priodol ac efallai y byddai’r Cadeirydd yn dymuno manylu ar unrhyw rai o’r eitemau hynny yn y Cyngor llawn.  Nododd yr aelodau’r newid ym mhroses adroddiadau blynyddol i’r Cyngor llawn o flwyddyn y cyngor yn ôl i flwyddyn galendr. Cafwyd trafodaeth ar y ffordd orau o adrodd i’r Cyngor am y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Mehefin 2021 i benderfynu ar honiad o dorri’r cod ymddygiad. Roedd cyfeiriad pellach wedi’i gynnwys ym mharagraff 4.6. Er ei bod yn bwysig bod yn sensitif i’r sefyllfa, roedd hefyd yn bwysig bod gan y Cyngor newydd ddealltwriaeth o rôl a phrosesau’r Pwyllgor Safonau. Cytunwyd i roi mwy o eglurhad yn yr adroddiad o ran hyn ac efallai y byddai’r Cadeirydd yn dymuno manylu ar y mater yn y Cyngor llawn.  Cytunwyd y byddai’r Cadeirydd a’r Dirprwy Swyddog Monitro yn trafod ac yn cytuno ar y ffordd orau y tu allan i’r cyfarfod.

·         paragraff 4.4 – cynnwys ‘Ceisiadau am Oddefebau’ fel eitem sefydlog ar gyfer y pwyllgor yn y dyfodol. 4.4(a) – aralleirio’r frawddeg i “o safbwynt cefnogol a chydweithredol” o “o safbwynt gefnogi ac addysgol” i adlewyrchu’r dull a ddefnyddiwyd yn well. Fel rhan o’r gwaith o fynychu ac arsylwi mewn cyfarfodydd, cynnwys cyfeiriad at sicrhau hefyd bod cyfarfodydd yn hygyrch i’r cyhoedd mewn modd priodol. 4.4(b) cytunwyd i gyfeirio yn yr adroddiad blynyddol nesaf at y dull newydd a ddefnyddiwyd gan yr Ombwdsmon o hysbysu am gwynion, ac nid yn adroddiad 2021, ond bod y geiriad yn cael ei gryfhau i egluro ymhellach ddull y Pwyllgor o ddynodi unrhyw dueddiadau a phatrymau i dargedu’r materion hynny’n rhagweithiol fel mesur ataliol. Cytunwyd i gynnwys Llyfr Achosion Cod Ymddygiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru fel eitem sefydlog.

·         paragraff 4.5 – cyfeirio’n fyr at y prif faterion sy’n codi o adolygiad Penn er mwyn codi ymwybyddiaeth ohonynt a’r goblygiadau posibl i’r Pwyllgor Safonau a’r Cyngor Sir, ynghyd â’r cyfrifoldeb newydd ar Arweinwyr Grwpiau, ac

·         egluro ymhellach bod yr adroddiad yn trafod 2021 ac aelodaeth y Pwyllgor ar yr adeg honno, oedd hefyd yn cynnwys cyfnod y cyn Gadeirydd. Byddai’r Cadeirydd presennol (yr Is-Gadeirydd yn 2021) yn cyflwyno’r adroddiad i’r Cyngor.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Dirprwy Swyddog Monitro am ei gwaith caled wrth baratoi’r adroddiad drafft a’r gwaith i baratoi drafft diwygiedig i gynnwys diwygiadau’r Pwyllgor.   Cytunwyd bod y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd yn cymeradwyo’r drafft terfynol.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Safonau -

 

(a)       yn nodi cynnwys yr adroddiad, a

 

(b)       wedi i’r sylwadau/diwygiadau uchod gael eu cynnwys yn yr adroddiad, ac wedi i’r Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd gymeradwyo’r drafft terfynol, argymell bod y Cadeirydd yn cyflwyno’r adroddiad i’r Cyngor llawn.

 

[Gadawodd y Cyng Bobby Feeley y cyfarfod ar y pwynt hwn (12.30pm)].

 

Dogfennau ategol: