Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

PRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD

I nodi presenoldeb aelodau'r Pwyllgor Safonau yn y Sir, Cyngor y Dref a'r Gymuned a derbyn eu hadroddiadau.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i aelodau i ystyried a chytuno ar agwedd gydlynus a strwythuredig at eu presenoldeb a’u harsylwadau mewn cyfarfodydd ac adborth. Roedd manylion Pwyllgorau'r Cyngor Sir, Cynghorau Tref, Dinas a Chymuned a sgript awgrymedig, a ffurflen adborth drafft ynghlwm â’r adroddiad.

 

Wrth gyflwyno, dywedodd y Cadeirydd nad oedd aelodau wedi mynychu cyfarfodydd ers tro byd ac mai diben yr adroddiad oedd cytuno ar ffordd ymlaen. Tynnodd sylw hefyd at drafodaethau â’r Swyddog Monitro ar y potensial o gael tâl am y gweithgaredd, o gofio bod aelodau Annibynnol Pwyllgorau Safonau eraill (mewn dau awdurdod arall yng Ngogledd Cymru o leiaf) yn cael tâl am wneud yr ymweliadau hyn. Eglurwyd y gallai aelodau annibynnol yn Sir Ddinbych hawlio costau teithio am ymweliadau ond nad oedd taliad yn cael ei wneud ar hyn o bryd am yr elfen fynychu.

 

Dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro fod y gweithgaredd wedi cael ei weld fel tasg wirfoddol yn Sir Ddinbych erioed ac nad oedd cyllideb ar ei gyfer ar hyn o bryd. Yn ôl cyngor anffurfiol gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, roedd tâl am y gweithgaredd yn ôl disgresiwn.    Roedd yr eitem wedi cael ei rhestru i’w thrafod yn y Grŵp Penaethiaid Gwasanaethau Democrataidd, fyddai’n darparu sefyllfa Cymru-gyfan ar y mater. Byddai angen ystyried y mater hefyd yng nghyd-destun yr argyfwng costau byw ehangach a chyllidebau llai gan gynghorau.   Roedd yn briodol bod y mater yn cael ystyriaeth ddyledus ac awgrymwyd bod y Pwyllgor yn ei ystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol, un ai’n ffurfiol neu’n anffurfiol, i lunio barn gan ystyried sefyllfa awdurdodau lleol eraill yng Nghymru ac ystyriaethau ariannol.  

 

Yn ystod trafodaeth, roedd cefnogaeth gyffredinol at gael dull cyson ar hyd a lled Cymru a chytunodd y Pwyllgor y byddai’n synhwyrol aros am fwy o wybodaeth ar y pwnc i hwyluso trafodaeth wybodus. Cytunwyd y dylid cynnal trafodaeth mewn cyfarfod ffurfiol mewn ffordd agored a thryloyw. Nodwyd y gellid teilwra rhaglen bresenoldeb a’i chostio’n briodol, gyda’r posibilrwydd o dargedu meysydd sy’n peri pryder/cwynion, wrth ystyried natur gefnogol yr ymweliadau i bawb a sicrhau hygyrchedd y cyhoedd.

 

Cafwyd trafodaeth a ddylid aros cyn ystyried yr adroddiad presennol a’r agwedd at bresenoldeb i’r dyfodol ac adborth er mwyn gwybod canlyniad y drafodaeth ar y potensial o gael tâl am y gwaith hwnnw. Eglurodd y Cadeirydd y rhesymeg y tu ôl i’r adroddiad, gan dynnu sylw at y dull a ddefnyddiwyd yn flaenorol at fynychu cyfarfodydd a chonsensws cyffredinol y dylid cynnal dull mwy ffurfiol.  Rhoddodd fanylion y broses a ddefnyddir mewn sir wahanol ble’r oedd hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Safonau fel man cychwyn ar gyfer ystyriaeth, gan dynnu sylw at y broses ddethol ar gyfer nodi cynghorau tref/cymuned i ymweld â nhw a nifer o ystyriaethau gweithredol, oedd wedi arwain at raglen strwythuredig dros flwyddyn. Roedd canlyniadau’n cael eu hadrodd yn ôl i’r Pwyllgor Safonau a negeseuon generig i bob cyngor tref/cymuned o ran nodiadau atgoffa ac arfer gorau i gefnogi a hwyluso gwelliant. Roedd y Swyddog Monitro yn darparu adborth penodol i gynghorau unigol, os oedd angen.

 

Fel ffordd ymlaen, cytunodd y Pwyllgor  i ystyried tâl posibl ar gyfer mynychu yn eu cyfarfod nesaf, ac i ohirio ystyried yr agwedd tuag at eu presenoldeb ac adborth i aros am ganlyniad y drafodaeth ar dâl. Yn y cyfamser, byddai’r Cadeirydd a’r Dirprwy Swyddog Monitro yn llunio methodoleg bosibl yn unol â’r broses a amlinellwyd yn y cyfarfod ac yn ystyried y ffurflen adborth. Y Cyngor fyddai’n penderfynu ar dâl yn y pen draw ond pwysleisiodd aelodau mor bwysig oedd hi i’r Cyngor gydnabod gwerth yr ymweliadau hyn i hyrwyddo'r Cod Ymddygiad a gostyngiad mewn cwynion.

 

PENDERFYNWYD bod –

 

(a)       adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor ar dâl posibl am bresenoldeb ac arsylwadau aelodau annibynnol mewn cyfarfodydd, i gynnwys cymariaethau ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru ac ystyriaethau ariannol, a

 

(b)       gohirio ystyried agwedd strwythuredig at bresenoldeb ac arsylwi mewn cyfarfodydd ac adborth, yn cynnwys methodoleg bosibl nes cyfarfod nesaf y Pwyllgor er mwyn cael gwybodaeth bellach o’r adroddiad yn (a) uchod a chanlyniad y drafodaeth.

 

Dogfennau ategol: