Eitem ar yr agenda
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF
Cael cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 22 Gorffennaf,
2022 (copi ynghlwm).
Cofnodion:
Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 22
Gorffennaf 2022.
Cywirdeb –
Tudalen 7 - Presennol - rhoi ‘and’ yn lle ‘a’ yn y fersiwn Saesneg i
ddarllen ““Peter Lamb and Councillor Gordon Hughes”
Tudalen 10, ail baragraff - Eitem 8: Hyfforddiant Moeseg a Safonau - rhoi
‘Denbighshire’ yn lle ‘Denbighshire’s’ yn y fersiwn Saesneg.
Tudalen 10, ail baragraff i’r olaf - Eitem 8: Hyfforddiant Moeseg a Safonau - rhoi ‘sesiwn hyfforddi’ yn lle
‘cyfarfodydd’.
Tudalen 11, Eitem 9: Arweiniad Llywodraeth Cymru - Dyletswydd Arweinwyr i
Hyrwyddo Ymddygiad Moesol, brawddeg gyntaf - rhoi ‘circulated’ yn lle
‘circulate’ yn y fersiwn Saesneg.
Tudalen 14, Eitem 13: Dyddiad y cyfarfod nesaf - rhoi ‘March’ yn lle
‘march’. Nodwyd mai’r amserlen ar gyfer
cyfarfodydd y dyfodol oedd 10am ar ddydd Gwener, a bod aildrefnu’r cyfarfod
presennol i 11.30am yn mynd yn groes i’r amserlen honno. Fodd bynnag, gwnaed hyn oherwydd nad oedd
llawer o ddyddiadau na swyddogion allweddol ar gael.
Materion yn Codi –
Tudalen 8 – Eitem 6: Cofnodion (Materion yn Codi) – proses ar gyfer
recriwtio aelodau annibynnol y Pwyllgor Safonau – roedd Rheoliadau Pwyllgor
Safonau (Cymru) 2001 yn caniatáu hyd at naw aelod ac roedd cyfansoddiad Sir
Ddinbych eisoes yn nodi saith aelod, a thynnwyd sylw at y posibilrwydd o
adolygu’r sefyllfa honno. Ni chafwyd unrhyw drafodaethau pellach ar y mater ers
hynny a phenderfynwyd ychwanegu’r eitem at y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol i’w
hystyried yn y dyfodol. Derbyniwyd y byddai goblygiadau cyllidebol yn
gysylltiedig ag unrhyw gynnydd mewn aelodau, a fyddai’n benderfyniad i’r Cyngor
llawn ei wneud.
Tudalen 8 – Eitem 6: Cofnodion (Materion yn Codi) (Tudalen 11, Eitem 8) –
roedd rhai trafodaethau wedi bod am gynnwys aelodau annibynnol ar y Panel
Recriwtio ar gyfer aelodau annibynnol, oedd yn digwydd mewn awdurdodau lleol
eraill ond nid yn Sir Ddinbych. Yn dilyn trafodaeth, roedd y Cadeirydd wedi
cymryd rhan fel arsylwr yn y broses gyfweld ddiweddaraf. Roedd rheoliadau’n
llywodraethu recriwtio aelodau’r Pwyllgor Safonau ond roedd arferion amrywiol
mewn awdurdodau lleol gwahanol ar hyd a lled Cymru ac adroddiad ar y pwnc hwnnw
wedi cael ei gynnwys yn y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer mis Rhagfyr.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Irving ei fod wedi bod ar y Panel Recriwtio
diweddaraf ond nad oedd wedi gallu mynychu’r ddwy sesiwn. Cytunwyd y byddai’r
protocol i gael ei ddefnyddio yn yr amgylchiadau hynny hefyd yn cael ei gynnwys
fel rhan o’r adroddiad ar gynnwys y panel recriwtio.
Tudalen 10 – Eitem 8: Hyfforddiant Moeseg a Safonau, pumed paragraff –
roedd hyfforddiant Cod Ymddygiad wedi cael ei ddarparu i aelodau etholedig yn
dilyn etholiadau llywodraeth leol mis Mai ac roedd sesiwn arall wedi’i threfnu
ar gyfer 10am ar 20 Rhagfyr i’r aelodau hynny nad oedd wedi mynychu hyd yma, ac
roedd yn gyfle i aelodau’r Pwyllgor Safonau fynychu. Roedd tair sesiwn wedi’u
cynnal ar gyfer Cynghorau Tref, Dinas a Chymuned ond nid oedd presenoldeb yn
dda iawn oherwydd problem weinyddol. Felly, byddai sesiwn ar-lein yn cael ei
chynnig cyn y Nadolig ac roedd sesiynau wyneb yn wyneb wedi cael eu trefnu ar
gyfer y flwyddyn newydd yng Ngogledd a De’r sir. Cytunodd y Dirprwy Swyddog
Monitro i ddosbarthu’r dyddiadau i aelodau’r Pwyllgor dros e-bost.
Roedd y Cadeirydd yn siomedig i nodi’r problemau cyfathrebu a
phresenoldeb gwael, a phwysleisiodd bwysigrwydd y sesiynau ychwanegol i sicrhau
bod pob aelod yn cael cyfle i fynychu’r hyfforddiant cyn gynted â phosibl yn
nhymor y Cyngor newydd i ddatblygu dealltwriaeth o’r gofynion a disgwyliadau
o’r dechrau. Roedd yn ofynnol bod pob
aelod yn mynychu sesiwn hyfforddi Cod Ymddygiad o leiaf unwaith ym mhob tymor y
Cyngor, os ydynt yn aelodau sy’n dychwelyd neu beidio. Roedd diweddariad pellach ar hyfforddiant i
aelodau wedi cael ei gynnwys yn y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer mis
Rhagfyr.
Tudalen 11, Eitem 9: Arweiniad Llywodraeth Cymru – Dyletswydd Arweinwyr
Grwpiau i hyrwyddo ymddygiad moesegol – cyfeiriwyd at y cynnig i greu Grŵp
Cyswllt Moesegol i’w gefnogi gan y Swyddog Monitro ac aelod o’r Pwyllgor
Safonau (e.e. Cadeirydd neu Is-Gadeirydd).
Roedd y Cadeirydd yn teimlo y dylai’r Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd fod yn
rhan. Dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro bod adroddiad wedi cael ei roi ar
raglen cyfarfod mis Rhagfyr a gallai aelodau gytuno ar ddull bryd hynny. Nid oedd ganddi ddiweddariad ar hyn bryd ar gyfarfod cychwynnol y Swyddog Monitro
gyda’r Arweinwyr Grwpiau ar 29 Gorffennaf. Roedd y Cadeirydd yn aelod o’r
Pwyllgor Safonau gydag awdurdod lleol arall a darparodd dempledi oedd wedi eu
cynhyrchu ar y cyd ag Arweinwyr Grwpiau yn yr awdurdod hwnnw, y gellid eu
defnyddio fel man cychwyn i ddatblygu Arweinwyr Grwpiau Sir Ddinbych ymhellach.
Pwysleisiodd fod angen i’r protocol gael ei ddatblygu ar y cyd ag Arweinwyr
Grwpiau er mwyn iddo weithio i’r ddwy ochr. Cytunodd y Cadeirydd y dylai’r
Cadeirydd a’r Dirprwy Swyddog Monitro gydweithio ar dempled ar gyfer y diben
hwnnw.
Tudalen 12, Eitem 10: Fforwm Safonau Cenedlaethol – Dywedodd y Dirprwy
Swyddog Monitro fod cylch gorchwyl drafft wedi cael ei gynhyrchu a’i ddosbarthu
i bob Swyddog Monitro ac roedd gwaith yn mynd rhagddo ar hyn. Gofynnodd y Cadeirydd am i ddiweddariadau
rheolaidd ar gynnydd o ran sefydlu Fforwm Safonau Cenedlaethol cael ei gynnwys
yn y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.
Tudalen 14, Eitem 14: Cod Ymddygiad – Rhan 3 Deddf Llywodraeth Leol 2000
– roedd y Pwyllgor wedi nodi’r newid yn y ffordd roedd yr Ombwdsmon yn delio â
hysbysiadau am gwynion a gofynnwyd i’r Swyddog Monitro roi adborth i’r
Ombwdsmon bod cael copi o’r gŵyn wreiddiol yn werthfawr. Nid oedd y
Dirprwy Swyddog Monitro yn ymwybodol bod adborth wedi’i roi a chadarnhaodd y
byddai’n mynd a’r cam gweithredu hwn yn ei flaen ar ran y Pwyllgor.
Roedd pob mater arall oedd yn codi wedi cael sylw yn yr eitemau oedd ar
raglen y cyfarfod.
PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr
uchod, derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Gorffennaf
2022 fel cofnod cywir.
Dogfennau ategol: