Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y BWRDD PARTNERIAETH RANBARTHOL 2021/22
Derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol a’r Pennaeth Cydweithio Rhanbarthol (copi’n ynglwm) sy’n cyflwyno Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gogledd Cymru i’r Pwyllgor ar ei weithgareddau yn ystod 2021/22.
10.45am – 11.15am
Cofnodion:
Cyflwynodd Aelod Arweiniol Iechyd a
Gofal Cymdeithasol ochr yn ochr â Phennaeth Cydweithio Rhanbarthol Adroddiad
Blynyddol - Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol 2021/22 (a ddosbarthwyd ymlaen
llaw). Pwrpas yr adroddiad oedd rhoi gwybodaeth i bartneriaid o ran Bwrdd
Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru a’i weithgareddau yn ystod 2021/22.
Ym mis Mawrth 2018, cyhoeddodd
Llywodraeth Cymru Ganllaw ar gyfer cwblhau adroddiadau Blynyddol Byrddau
Partneriaeth Rhanbarthol ac roedd disgwyl i Fyrddau
ddefnyddio’r canllaw hwn i gwblhau eu hadroddiadau. Roedd yr adroddiad a
gyflwynwyd i'r Pwyllgor yn cynnwys yr holl wybodaeth yr oedd angen ei chynnwys
yn unol â'r Canllaw. Roedd adroddiad Bwrdd
Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi’i ysgrifennu mewn fformat a oedd yn
dal yr holl wybodaeth yr oedd angen ei chyflwyno. Roedd yr adroddiad hefyd yn
cynnwys safbwyntiau nifer o aelodau’r Bwrdd.
Mae’r Bwrdd wedi’i sefydlu i fodloni
gofynion Rhan 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Roedd
y Ddeddf yn mynnu bod awdurdodau lleol yn gwneud trefniadau i hyrwyddo
cydweithredu â’u partneriaid perthnasol ac eraill,
mewn perthynas ag oedolion sydd ag anghenion gofal a chymorth, gofalwyr a
phlant. Roedd hefyd yn gosod dyletswydd ar bartneriaid perthnasol i
gydweithredu a darparu gwybodaeth i’r awdurdodau lleol at ddibenion eu
swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.
Tynnodd y Rheolwr Cydweithio
Rhanbarthol sylw at feysydd penodol o ddiddordeb yn yr adroddiad -
Rôl y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yw dod â
gwasanaethau iechyd, cymdeithasol, tai a’r trydydd sector a phartneriaid eraill
ynghyd i gydweithio i integreiddio gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a
lles ledled y rhanbarth.
I gefnogi’r gwaith a wneir, mae strwythur
llywodraethu cymhleth, fel y gwelir ar dudalen 6 o’r adroddiad Blynyddol. Y
prif fwrdd yw’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol sy’n
cyfarfod bob mis ac mae’n gyfrifol am bennu cyfeiriad clir ar gyfer gweithio
mewn partneriaeth a sicrhau bod hyn yn cael ei gyflawni. Mae Bwrdd Partneriaeth
Rhanbarthol Gogledd Cymru’n adrodd yn ffurfiol i Fwrdd
Arweinyddiaeth Gogledd Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru’n darparu cyllid refeniw a
chyllid cyfalaf i ni i gefnogi’r gwaith hwn.
Sefydlwyd Cronfa Gofal Integredig yn 2014 ac mae’n
galluogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i gydweithio i roi cymorth i:
pobl hŷn ag anghenion cymhleth a chyflyrau hirdymor gan gynnwys pobl sy’n
byw gyda dementia, pobl ag anableddau dysgu, plant ag anghenion cymhleth
oherwydd anabledd neu salwch, gofalwyr, gan gynnwys gofalwyr ifanc, plant sydd
mewn perygl o fod yn blant sy’n derbyn gofal, mewn gofal neu sydd wedi’u
mabwysiadu.
A’r rhaglen drawsnewid a ddechreuodd ym mis Ebrill
2018 i wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru.
Roedd y ddwy raglen yno i helpu i gyflwyno’r Ddeddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a Strategaeth Cymru Iachach
Llywodraeth Cymru drwy’r Bwrdd Partneriaeth
Rhanbarthol.
Mae’r 12 mis diwethaf wedi gweld y ddwy raglen flaenorol
ar gyfer Integreiddio - Rhaglen Drawsnewid a’r Gronfa Gofal Integredig yn dod i
ben a chronfa newydd yn cael ei datblygu - Cronfa Integreiddio Rhanbarthol.
- Asesiad o Anghenion y Boblogaeth 2022 - roedd y
Bwrdd wedi cwblhau adolygiad llawn o Asesiad o Anghenion y Boblogaeth
Gogledd Cymru’n llwyddiannus mewn partneriaeth â’r
awdurdod lleol ac arweinwyr y bwrdd iechyd, gyda chefnogaeth gan
Ganolbwynt Cydlynu Ymchwil, Arloesi a Gwella ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Byddai’r data a’r dadansoddiad a oedd wedi’u cynnwys yn yr Asesiad hwn yn
cael eu defnyddio i helpu i lunio blaenoriaethau rhanbarthol a chynlluniau
gwasanaeth ardal wrth symud ymlaen.
- Sefydlu Is-Grŵp Plant o Fwrdd
Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru i ddarparu cyfeiriad strategol mewn
perthynas â chefnogi teuluoedd plant ag anghenion iechyd a gofal
cymdeithasol penodol.
Byddai’r wybodaeth a oedd wedi’i
chynnwys yn yr Asesiad o Anghenion y Boblogaeth a’r Adroddiad Blynyddol yn
cynorthwyo’r Bwrdd i gwmpasu a datblygu ei flaenoriaethau rhanbarthol a
chynllunio a gwella gwasanaethau ledled y rhanbarth.
Yn ystod y drafodaeth, cododd yr
aelodau’r canlynol -
·
pryderon ynghylch llu o wahanol fyrddau ledled Gogledd Cymru ac a ydynt yn achosi i
adnoddau gael eu lledaenu’n rhy denau. Eglurodd y swyddogion a oedd yn ymateb
bod gan y gwahanol fyrddau eu cylch gwaith eu hunain
ac yn delio â materion yn unol â hynny. Cafodd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol
Gogledd Cymru ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru fel Bwrdd Statudol ac felly roedd
ei gylch gwaith wedi’i ddiffinio mewn deddfwriaeth.
·
Roedd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol
Gogledd Cymru’n ymgymryd ag ychydig o waith diddorol a defnyddiol gyda’r bwriad
o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol wedi’u hintegreiddio’n
well, er hynny, nid oedd y cyhoedd yn ymwybodol o’r gwaith a oedd yn cael ei wneud gan y Bwrdd. Roedd angen mynd i’r afael â hyn a’i
hyrwyddo.
·
Tynnwyd sylw at y ffaith bod digideiddio’r gwaith
yn her gan fod nifer o aelodau’r Bwrdd yn cynrychioli gwahanol awdurdodau /
cyrff ac nid oedd systemau meddalwedd y gwahanol sefydliadau’n gytûn a’i
gilydd. Arweiniodd hyn at oedi a
rhwystredigaeth ar gyfer y rhai a oedd yn darparu gwasanaethau. Roedd y Timau Adnoddau Cymunedol a’r Gwasanaethau
Anableddau Dysgu wedi cael problemau mewn perthynas â hyn.
·
Cododd yr aelodau’r mater gyda staffio
yn y sector gofal, ac amlygwyd nad oedd staff yn cael eu talu ddigon nac yn
cael eu gwerthfawrogi am eu gwaith. Roedd Bwrdd Gweithlu Bwrdd Partneriaeth
Rhanbarthol Gogledd Cymru’n ymgysylltu’n weithredol gyda Gofal Cymdeithasol
Cymru i fynd i’r afael â materion yn ymwneud â thâl, recriwtio a chadw, yn
ogystal â cheisio dylanwadu ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y
DU mewn perthynas â’r materion hyn.
Penderfynwyd:-
(i)
cadarnhau bod y pwyllgor wedi darllen,
deall ac ystyried y gwaith a oedd yn ofynnol i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol
ei wneud; a
(ii) yn amodol ar y sylwadau uchod ar y gwaith a’r cynnydd yn ystod 2021/22 ar y
meysydd gwaith sy’n cael eu symud ymlaen drwy Fwrdd
Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru, i dderbyn yr Adroddiad Blynyddol a
chadarnhau ei gynnwys.
Dogfennau ategol: