Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DARPARU CONTRACT GWASANAETHAU GORFODAETH AMGYLCHEDDOL

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Dros Dro Priffyrdd, a Gwasanaethau Amgylcheddol (copi ynghlwm) sy’n darparu gwybodaeth ac yn gofyn am sylwadau’r aelodau ynglŷn â’r statws presennol a chyfeiriad arfaethedig gwasanaethau gorfodi amgylcheddol ar draws y sir yn y dyfodol.

 

10.10am – 10.45am

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Gwastraff, yr Amgylchedd a Chludiant, y Cynghorydd Barry Mellor, yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ochr yn ochr â Phennaeth Dros Dro Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a'r Rheolwr Dros Dro Gwastraff ac Ailgylchu. Roedd yr adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau ar gynnydd y trefniant hwn drwy gontract allanol ar ddiwedd cyfnod y contract, ac mae’n manylu ar y trefniadau arfaethedig yn y dyfodol ar gyfer darpariaeth barhaus y gwasanaethau hyn ar draws ardal Sir Ddinbych, gan amlygu’r risgiau i’r trefniant hwn drwy gontract allanol a sut mae’r risgiau hynny yn cael eu rheoli. Eglurodd yr Aelod Arweiniol, er y gallai'r penderfyniad i ddyfarnu'r contract fod wedi'i wneud gan y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, dan bwerau a ddirprwywyd iddo, roedd Pennaeth y Gwasanaeth a'r Aelod Arweiniol yn awyddus i ofyn am farn yr aelodau ar fanylion y contract, yn enwedig y diwygiadau arfaethedig i'r contract.

 

Fe wnaeth y darparwr gwasanaeth ddarparu patrolau gan swyddogion Gorfodi Amgylcheddol ledled y sir (tir â mynediad cyhoeddus) er mwyn codi ymwybyddiaeth a chyhoeddi Rhybuddion Cosb Benodedig (RhCB) ar gyfer troseddau amgylcheddol lefel isel. Roedd mwyafrif y troseddau yn ymwneud â thaflu sbwriel a thorri Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus Sir Ddinbych (Rheoli Cŵn). Fe wnaethant hefyd roi Rhybuddion Cosb Benodedig am droseddau amgylcheddol eraill gan gynnwys gosod posteri'n anghyfreithlon a graffiti a gorfodi deddfwriaeth ddi-fwg. Roedd y darparwr gwasanaeth hefyd yn gyfrifol am ystod o gymorth swyddfa gefn mewn perthynas â Rhybuddion Penodedig, gan gynnwys rheoli cyfraddau taliadau a pharatoi ffeiliau achos ar gyfer erlyniadau posibl (am beidio â thalu Rhybuddion Cosb Benodedig a cherdded i ffwrdd heb dderbyn y ddirwy).  Mae hefyd yn ofynnol iddynt fod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cwynion a sylwadau gan y cyhoedd.

 

Cafodd y Pwyllgor wybod am amrywiadau’r contract, sef -

 

Daeth tri amrywiad i fanylion contract 2019 i rym ar 10 Hydref 2022:

(i)    Ymestyn y contract presennol am 24 mis (Amrywiad Sylweddol) tan 9 Hydref 2024.

(ii)  Ehangu cwmpas y contract drwy gynnwys dau faes ychwanegol o orfodi amgylcheddol – i ddechrau drwy ddau gynllun peilot chwe mis. (Nid yw’n cael ei ystyried yn amrywiad sylweddol);

(iii) Cynnwys cymal “terfynu er hwylustod”, sy’n galluogi’r contractwr i derfynu’r contract gyda 12 wythnos o rybudd, pe bai’r contract yn methu â bod yn ymarferol yn fasnachol iddynt. (Nid yw’n cael ei ystyried yn amrywiad sylweddol);

 

Trafododd Aelodau’r canlynol mewn mwy o fanylder:

 

·         Codwyd pryderon ynglŷn â nifer isel o batrolau a gofnodwyd ar gyfer ardaloedd mwy gwledig y sir, h.y ardaloedd Dyffryn Dyfrdwy, Dinbych a Rhuthun, gan fod rhai aelodau’n teimlo bod y patrolau’n canolbwyntio ar ardaloedd twristiaid ar hyn o bryd. Teimlai’r Pwyllgor bod angen dull Sir Ddinbych cyfan i’r contract newydd. Cadarnhaodd swyddogion bod y mater hwn wedi’i nodi ac roedd yn rhan o drafodaeth barhaus ar hyn o bryd rhwng y Cyngor a’r cwmni.

·         Roedd gan y Pwyllgor bryderon mewn perthynas â chost a maint yr elw ar gyfer y cwmni sy’n darparu’r gwasanaeth. Roedd Aelodau’n bryderus y gall hyn wthio’r cwmni i fynd ar drywydd ffynonellau elw yn hytrach na delio â’r materion a oedd yn achosi pryder i drigolion, taflu sbwriel a baw cŵn.  Eglurodd y swyddogion y byddai’r cynnig i godi lefelau dirwy mewn perthynas â throseddau baw cŵn yn gobeithio atal troseddau o’r fath a lleihau’r lefelau o droseddau o’r fath yn y dyfodol. Roedd baw cŵn yn cael ei ystyried gan y cyhoedd fel trosedd yn erbyn pobl a chymunedau, felly roedd yn bwysig bod dirwyon yn cael eu pennu ar lefel i helpu atal ail droseddu wrth hefyd addysgu troseddwyr parhaus am effaith y drosedd. Cytunodd y pwyllgor bod addysgu pobl yn hollbwysig, a byddai perthynas waith dda gyda’r Tîm Cyfathrebu’n hollbwysig i fynd i’r afael â’r mater yn effeithiol.

·         Cyfeiriodd yr aelodau at y posibilrwydd y byddai rhai pobl yn osgoi cael eu dal a chael dirwy wrth fynd â’u cŵn am dro yn ystod oriau anghymdeithasol pan na fyddai swyddogion yn bresennol. Eglurodd swyddogion nad oedd ganddynt reolaeth uniongyrchol dros ble a phryd y byddai gorfodi’n digwydd, ond roedd trafodaethau’n mynd rhagddynt gyda’r darparwr gwasanaeth i geisio addasu ei oriau gwaith i redeg o 7am tan 7pm bob dydd.

·         Codwyd y mater o ran nifer y biniau sydd ar gael ac a oes unrhyw ddull o gael biniau ychwanegol mewn ardaloedd gwledig. Dywedodd swyddogion eu bod wedi defnyddio ymholiadau a chwynion C360 i bennu a oes angen biniau newydd neu ychwanegol mewn rhai ardaloedd.

·         Codwyd y mater mewn perthynas â hen arwyddion a’r angen i adnewyddu arwyddion ledled y sir. Nododd swyddogion bod y mater yn cael ei adolygu ar hyn o bryd, a’u bod yn edrych ar Caru Cymru (Cadwch Gymru’n Daclus yn flaenorol) fel ffynhonnell cyllid posibl ar gyfer arwyddion newydd.

·         Ynglŷn â'r ffioedd cyfreithiol sy'n gysylltiedig ag erlyn troseddwyr am beidio â thalu Rhybuddion Cosb Benodedig, dywedwyd wrth yr aelodau y byddai'r Cyngor yn adennill yr holl gostau drwy system y llys ynadon.

·         Cadarnhawyd bod swyddogion Gorfodi Amgylcheddol y Cyngor yn delio â digwyddiadau tipio anghyfreithlon, y cynnig yn y contract penodol hwn oedd i’r cwmni (District Enforcement) ategu gwaith Tîm Gorfodi Amgylcheddol y Cyngor drwy ymgymryd â dyletswyddau megis gwirio bod y busnes yn meddu ar y trwyddedau gofynnol a bod ganddynt drefniadau ar waith i waredu eu gwastraff yn gyfreithlon. 

·         Dywedodd y Cynghorydd Martyn Hogg ei fod yn cytuno â’r contract arfaethedig a’i amrywiadau, ond byddai’n orfodol i’w ddarpariaeth gael ei fonitro’n agos a dylai data hanfodol fod ar gael i amlygu llwyddiant y busnes.

 

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl a thrylwyr gan y Pwyllgor:

 

Penderfynwyd: - ar ôl ystyried y wybodaeth yn yr adroddiad, cefnogi’r amrywiad contract arfaethedig i ymestyn y trefniant allanol presennol gyda District Enforcement i 9 Hydref 2024, ac yn amodol ar y sylwadau a wnaed yn ystod y drafodaeth:

 

(i)   cadarnhau a chymeradwyo’r Adroddiad Penderfyniad Dirprwyedig ‘Adolygiad o Symiau Dirwyon Rhybuddion Cosb Benodedig Cyngor Sir Ddinbych ar gyfer Troseddau Amgylcheddol’ fel y gall y Cyngor barhau i ddarparu patrolau gorfodi amgylcheddol trwy drefniant sy’n niwtral o ran cost (fel y manylir yn Atodiad 1 yr adroddiad); a

(ii)  argymell bod cynllun cyfathrebu yn cael ei lunio a’i ddechrau gyda’r bwriad o sicrhau bod trigolion, busnesau’r sir a’r holl gynghorau dinas, tref a chymuned yn cael gwybod am y newidiadau arfaethedig cyn eu rhoi ar waith.

 

 

Dogfennau ategol: