Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

PROSIECT YSGOL PLAS BRONDYFFRYN - ADRODDIAD YMGYNGHORI FFURFIOL AR DREFNIADAETH YSGOL

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gill German, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd (copi ynghlwm) ar ganfyddiadau’r ymgynghoriad ffurfiol i gynyddu’r capasiti o 116 i 220 yn Ysgol Plas Brondyffryn a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i gyhoeddi hysbysiad statudol i Gyngor Sir Ddinbych gynyddu’r capasiti o 116 i 220 yn Ysgol Plas Brondyffryn o 1 Medi 2024 os bydd yr adeilad newydd yn barod.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       nodi canfyddiadau’r ymgynghoriad ffurfiol i gynyddu’r capasiti o 116 i 220 yn Ysgol Plas Brondyffryn;

 

(b)       cymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol i Gyngor Sir Ddinbych gynyddu’r capasiti o 116 i 220 yn Ysgol Plas Brondyffryn o 28 Ebrill 2025 ymlaen.  Bydd gweithredu’r cynnig yn amodol ar gytuno ar safle, derbyn caniatâd cynllunio, p’un a fydd cyllid ar gael a p’un a fydd yr adeilad newydd yn barod, ac

 

(c)        yn cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les, fel y manylir yn Atodiad 1 yr adroddiad, fel rhan o'i ystyriaethau.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gill German yr adroddiad am ganfyddiadau’r ymgynghoriad ffurfiol am brosiect Ysgol Plas Brondyffryn a cheisiodd gymeradwyaeth y Cabinet i gyhoeddi hysbysiad statudol i’r Cyngor gynyddu’r capasiti o 116 i 220 yn Ysgol Plas Brondyffryn.  Cyfeiriodd hefyd at ddiwygiad i argymhelliad 3.2 yr adroddiad, i gynnwys dyddiad gweithredu diwygiedig sef 28 Ebrill 2025.

 

Roedd y prosiect yn rhan o Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru (Band B) a gymeradwywyd ym mis Medi 2020.  Ar hyn o bryd, roedd yr ysgol yn darparu darpariaeth arbenigol ar gyfer disgyblion ag awtistiaeth rhwng 3 a 19 oed ar draws pedwar safle yn Ninbych.  Y cynnig oedd dod â phob safle at ei gilydd mewn adeilad pwrpasol mewn cae drws nesaf i Ganolfan Hamdden Dinbych ac a ddefnyddir gan Ysgol Uwchradd Dinbych ar hyn o bryd, a chynyddu capasiti’r ysgol wrth i alw am y lleoedd arbenigol hynny gynyddu.  Roedd manylion yr ymatebion i’r ymgynghoriad wedi’u nodi yn yr adroddiad, ynghyd â’r adroddiad ymgynghori a’r dogfennau ategol.

 

Soniodd y Pennaeth Addysg a’r Prif Reolwr – Cymorth i Ysgolion fwy am y cynnig i gynyddu capasiti’r ysgol yn seiliedig ar y cynnydd a ragwelir o ran galw a materion presennol o ran capasiti.  Roedd trafodaethau wedi bod yn parhau â Llywodraeth Cymru yn ystod proses ddatblygu’r achos busnes a gwnaed llawer o waith i sicrhau bod maint yr ysgol yn gywir wrth symud ymlaen, a llwybr clir ar gyfer cynyddu niferoedd disgyblion yn raddol yn yr ysgol, a threfniadau derbyn.

 

Roedd y Cabinet yn croesawu’r cynnig i gynyddu capasiti’r ysgol er mwyn bodloni’r galw cynyddol am leoedd.  Canolbwyntiwyd ar y prif faterion trafod a ganlyn -

 

·         amlygodd y Cynghorydd Elen Heaton yr angen i greu rhagor o gyfleoedd i rai sy’n gadael yr ysgol sydd ag anableddau dysgu.  Cadarnhawyd bod y dyluniad presennol ar gyfer yr ysgol yn cynnwys caffi cymunedol, a’r nod oedd darparu rhagor o ymgysylltiad cymunedol yn yr ysgol a chyfleoedd i ddisgyblion ag anableddau dysgu, yn enwedig mewn darpariaeth ôl-16, i ddefnyddio’r cyfleusterau newydd a datblygu sgiliau cymdeithasol a chysylltiadau â’r gymuned ehangach.  Roedd ysgolion cynradd yn y sir oedd ag ardaloedd caffi eisoes a modelau eraill yn y trydydd sector oedd ag oedolion ag anghenion dysgu ychwanegol.  Fodd bynnag, roedd hi’n hollbwysig diogelu disgyblion, ac os na ellid gwarantu hynny, ni fyddai unrhyw ddatblygiadau.

 

·         Mynegodd y Cynghorydd Rhys Thomas bryderon am eiriad argymhelliad 3.2 yr adroddiad a gofynnodd am eglurder am elfennau penodol yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion a sut roedd yn ymwneud â’r cynnig, yn enwedig o ran nodi lleoliad ar gyfer yr ysgol, pryderon am y broses ymgynghori ochr yn ochr â’r ymgynghoriad cyn ymgeisio ar wahân ar gyfer safle newydd arfaethedig yr ysgol, a phryderon am y safle arfaethedig ei hun. Roedd cyfarfod arbennig o Grwpiau Ardal yr Aelodau Dinbych wedi’i drefnu i drafod y broses dewis safle a phryderon yn hynny o beth.  O ganlyniad, roedd yn teimlo y byddai rhinweddau wrth oedi cyhoeddi’r hysbysiad neu aileirio argymhelliad 3.2 i sicrhau eglurder o ran y broses bresennol a gwneud penderfyniadau.  Nododd y Cynghorydd Gill German ei dewis am ddiwygiad er eglurder yn hytrach nag oedi, o ystyried yr amserlen a’r effaith bosibl ar ddatblygu prosiectau eraill.

 

Darparodd y Swyddog Monitro gyngor cyfreithiol am y pwyntiau hyn, a phwyntiau dilynol a godwyd er mwyn egluro prosesau eraill, fel a ganlyn –

 

¨      nid cynnig ar gyfer ysgol newydd oedd hwn; roedd y cynnig yn ymwneud â chynyddu capasiti ysgol bresennol, felly roedd darpariaethau’r Cod Trefniadaeth Ysgolion yn ymwneud â’r hysbysiad a’r ymgynghoriad o ran eu bod yn ymwneud ag addasu ysgol bresennol nid creu ysgol newydd

¨      o ran cyhoeddi’r hysbysiad, neu oedi cyhoeddi’r hysbysiad, roedd rhaid cyhoeddi’r hysbysiad o fewn amser penodol ar ôl yr ymgynghoriad a byddai oedi yn golygu risg bosibl o fod y tu allan i’r amserlen ar gyfer y broses

¨      o ran diwygiad i argymhelliad 3.2, roedd angen eglurder o ran bod ‘amodol ar’ yn cyfeirio at weithredu’r cynnig, ac nid bod y cynnig yn ‘amodol ar’ fod yr adeilad newydd yn barod, nac unrhyw ffactorau eraill.  Fodd bynnag ni ellid gweithredu cynnydd o ran capasiti’r ysgol oni bai bod rhywle i ddarparu ar gyfer y capasiti uwch hwnnw.  Felly, dylai aralleirio’r diwygiad ei gwneud yn glir y byddai gweithredu'r cynnig yn amodol ar ffactorau eraill ac nid cyhoeddi’r hysbysiad statudol 

¨      roedd y gofyniad yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion i nodi safle’r ysgol yn yr hysbysiad yn ymwneud â sefydlu ysgol newydd, felly nid oedd yn berthnasol yn yr achos hwn oherwydd bod yr hysbysiad yn ymwneud â chynyddu niferoedd y disgyblion.  Fodd bynnag, yn y wybodaeth ychwanegol a oedd yn cyd-fynd â’r hysbysiad, roedd yn bosibl nodi lle’r oedd safle arfaethedig yn cael ei ragweld

¨      roedd angen i’r hysbysiad statudol nodi’r dyddiad gweithredu arfaethedig

¨      o ran yr effaith ar y broses pe bai’r safle newydd arfaethedig yn methu â mynd trwy’r broses gynllunio, ni fyddai’n bosibl gweithredu’r newid oni bai bod safle priodol wedi’i nodi, neu nes i safle o’r fath gael ei nodi

¨      nodi’r broses gwneud penderfyniadau ar gyfer Cabinet yn dilyn cyhoeddi’r hysbysiad a ph’un a ddylid parhau â’r cynnig neu beidio yng ngoleuni unrhyw wrthwynebiadau a gafwyd; roedd prosesau eraill a oedd yn penderfynu a oedd y safle’n briodol ai peidio.

¨      roedd cymeradwyo’r hysbysiad o ran y cynnig trefniadaeth ysgolion yn benderfyniad gweithredol i’r Cabinet ac ni fyddai mewn unrhyw ffordd yn rhagfarnu unrhyw gais cynllunio dilynol ar gyfer y safle newydd arfaethedig, a fyddai’n benderfyniad i’r awdurdod cynllunio, ac yn broses gwneud penderfyniad ar wahân.

 

Ymatebodd yr Aelod Arweiniol a swyddogion i gwestiynau gan rai nad oeddent yn aelodau’r Cabinet, gan egluro y gallai oedi o ran y prosiectau sy’n ymwneud â’r rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu gael effaith ar brosiectau yn y dyfodol dan y rhaglen honno, ond na fyddent yn effeithio ar brosiectau ysgol eraill sy’n amodol ar ffrydiau ariannu gwahanol.  O ran niferoedd disgyblion yn y dyfodol, nodwyd y bu gostyngiad diweddar o ran ceisiadau y tu allan i’r sir am amryw resymau ac roedd adolygiad o’r broses dderbyn a’r polisi yn cael ei gynnal i sicrhau bod yr ysgol yn cynnig y dewis gorau posibl i gynifer o ddisgyblion ag sy’n bosibl, gyda chydweithio agos ag awdurdodau lleol eraill yng Ngogledd Cymru.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth, ailddatganodd y Cynghorydd Gill German ei diwygiad i argymhelliad 3.2 yr adroddiad i gynnwys dyddiad gweithredu diwygiedig, sef 28 Ebrill 2025, a dileu sôn y byddai’r adeilad newydd yn barod.  Darllenodd y Cynghorydd Rhys Thomas ei awgrym am ddiwygiad am frawddeg newydd yn argymhelliad 3.2 am weithredu’r cynnig.  Wrth bleidleisio –

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi canfyddiadau’r ymgynghoriad ffurfiol i gynyddu’r capasiti o 116 i 220 yn Ysgol Plas Brondyffryn;

 

(b)       cymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol i Gyngor Sir Ddinbych gynyddu’r capasiti o 116 i 220 yn Ysgol Plas Brondyffryn o 28 Ebrill 2025 ymlaen.  Bydd gweithredu’r cynnig yn amodol ar gytuno ar safle, derbyn caniatâd cynllunio, p’un a fydd cyllid ar gael a p’un a fydd yr adeilad newydd yn barod, ac

 

(c)        cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les, fel y manylir yn Atodiad 1 yr adroddiad, fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Ar y pwynt hwn (11.45 am) cymerodd y pwyllgor egwyl am luniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: