Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNLLUNIAU AMDDIFFYN YR ARFORDIR CANOL Y RHYL A CHANOL PRESTATYN

Ystyried adroddiad (sy’n cynnwys dau atodiad cyfrinachol) gan y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol Amgylchedd a Chludiant (copi ynghlwm) ynghylch dau gynllun amddiffyn yr arfordir posib ar gyfer Canol y Rhyl a Chanol Prestatyn a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i gyflwyno’r prosiect i’r Cyngor gydag argymhelliad i ariannu cyfnod adeiladu’r ddau gynllun.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn:

 

(a)       cadarnhau ei fod wedi ystyried cynnwys yr Asesiadau o Effaith ar Les ar gyfer bob cynllun (sydd wedi’u hatodi fel Atodiad 3a ac Atodiad 3b yn yr adroddiad);

 

(b)       yn cefnogi’r cynnig i symud cynllun Amddiffyn Arfordir canol y Rhyl yn ei flaen i’r cam adeiladu, gan ddefnyddio’r model cyllid cymorth grant a nodir gan Lywodraeth Cymru ac yn cytuno i’r cynnig gael ei gyflwyno i’r Cyngor ar gyfer penderfyniad;

 

(c)        yn cefnogi’r cynnig i symud cynllun Amddiffyn Arfordir canol Prestatyn yn ei flaen i’r cam adeiladu, gan ddefnyddio’r model cyllid cymorth grant a nodir gan Lywodraeth Cymru ac yn cytuno i’r cynnig gael ei gyflwyno i’r Cyngor ar gyfer penderfyniad, ac

 

(d)       yn dirprwyo awdurdod i Fwrdd Prosiect Amddiffyn yr Arfordir gyflawni’r cynlluniau.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Barry Mellor yr adroddiad am ddau gynllun amddiffynfeydd arfordirol posibl ar gyfer Canol y Rhyl a Chanol Prestatyn a gofynnodd am gymeradwyaeth y Cabinet i gyflwyno’r prosiect i’r Cyngor gydag argymhelliad i ariannu cam adeiladu’r ddau gynllun.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys dau atodiad cyfrinachol a oedd yn nodi gwybodaeth ariannol a gofynnwyd i’r Cabinet symud i sesiwn breifat wrth drafod elfennau cyfrinachol y dogfennau.

 

Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Economi a’r Amgylchedd, y Rheolwr Adain – Rheoli Rhwydwaith a’r Ymgynghorydd Amddiffynfeydd Arfordirol yn bresennol ar gyfer yr eitem hon hefyd.

 

Darparwyd y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad y ddau gynllun er mwyn lleihau perygl llifogydd yn ardaloedd Canol y Rhyl a Chanol Prestatyn.  Roedd y Cyngor wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ar ddatblygu’r cynlluniau a byddai achos busnes terfynol yn cael ei gyflwyno cyn hir i gael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.  Cost gyfun y ddau gynllun oedd tua £84 miliwn, a chaiff 85% ei ariannu gan Lywodraeth Cymru fel cymorth grant, sy’n cael ei dalu i’r Cyngor dros gyfnod o 25 mlynedd drwy’r Grant Cynnal Refeniw.   Roedd ymgynghori helaeth wedi’i gynnal ar y ddau gynllun ac roedd y Pwyllgor Craffu Cymunedau a’r Bwrdd Cyllideb wedi craffu ar y cynlluniau arfaethedig a chefnogi cyflwyno’r prosiect i’w gymeradwyo.  Roedd caniatâd cynllunio wedi’i roi ar gyfer y ddau gynllun ym mis Gorffennaf 2022.

 

Eglurwyd y rhesymu dros y cynlluniau ymhellach gan gyfeirio at effaith newid hinsawdd, dirywiad amddiffynfeydd presennol rhag llifogydd a dinistr digwyddiadau llifogydd.  Amlygwyd llwyddiant Cynllun Amddiffyn Arfordir Dwyrain y Rhyl hefyd a’r gwersi a ddysgwyd o’r prosiect hwnnw.  Roedd Cynllun Canol y Rhyl wedi’i ddylunio i leihau risg llifogydd yn sylweddol i tua 600 o eiddo preswyl a masnachol ac roedd Cynllun Canol Prestatyn wedi’i ddylunio i ddiogelu mwy na 2,000 o eiddo preswyl a masnachol; roedd y ddau gynllun yn hanfodol ar gyfer diogelwch a chynaliadwyedd y trefi hynny ar gyfer preswylwyr, busnesau a thwristiaeth.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd –

 

·         Roedd y Cynghorydd Gill German yn awyddus i sicrhau bod pryderon a fynegwyd gan breswylwyr (yn dilyn adroddiadau yn y wasg) a oedd yn byw ger Cynllun Canol Prestatyn wedi cael sylw.  Dywedwyd wrthi fod y mwyafrif o’r pryderon hyn wedi bod yn seiliedig ar gamddealltwriaeth o’r cynlluniau.  Roedd swyddogion wedi cysylltu â phreswylwyr i roi sicrwydd yn hynny o beth gan egluro bod y cynllun yn bellach o lawer i ffwrdd o ffin eu heiddo nag a adroddwyd yn y wasg, a bod addasiadau pellach wedi’u gwneud i ymestyn y pellter hwnnw, ac ni fu unrhyw gynlluniau ar gyfer llwybr cerdded/beicio ar ben y bwnd, a fu’n bryder arall.

·         Dywedodd yr Arweinydd a’r Cynghorydd Gill German (aelodau’r ward) eu bod wedi bod yn yr ardal yn ddiweddar i siarad â phreswylwyr, ynghyd â thrydydd aelod y ward, y Cynghorydd Kelly Clewett, ac ni chodwyd unrhyw bryderon am Gynllun Canol Prestatyn.  Er ei bod wedi bod yn bleser nodi’r ymgysylltu cynhwysfawr a oedd wedi’i gynnal eisoes, pwysleisiodd yr Arweinydd bwysigrwydd ymgysylltiad rhagweithiol parhaus a chyfathrebu ag aelodau a phreswylwyr wrth symud ymlaen, yn enwedig o ystyried yr amhariad anochel a achosir o ganlyniad i’r cam adeiladu.  Rhoddwyd sicrwydd y byddai trafodaethau pellach yn cael eu cynnal am fanylion y cynlluniau a’r rhaglen ddarparu, pe bai’r cynlluniau’n cael eu cymeradwyo.  Cynigiwyd mesurau ymgysylltu tebyg i’r rhai a gynhaliwyd yn ystod Cynllun Amddiffyn Arfordir Dwyrain y Rhyl, a oedd yn cynnwys newyddlenni rheolaidd a chyfleuster galw heibio.

·         Cyfeiriodd y Cynghorydd Rhys Thomas at Gynllun Canol y Rhyl a phryderon o ran yr effaith niweidiol ar weithrediad cyfleusterau Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig (HSDd) fel SC2, ynghyd â gwaith adfywio arall arfaethedig yn yr ardal, a’r angen i leihau’r effaith gymaint ag sy’n bosibl.  Cadarnhawyd bod trafodaethau wedi cael eu cynnal ers peth amser gyda HSDd yn ystod datblygiad y prosiectau.  Byddai’r effaith ar HSDd a busnesau a phreswylwyr eraill yn cael ei hystyried wrth gynllunio manylion y prosiect, a fyddai’n cael ei ddarparu fesul cam gyda’r bwriad o leihau’r amhariad a achoswyd.  Roedd dull cydlynol gyda phrosiectau adfywio eraill yn yr ardal yn cael ei ddilyn hefyd er mwyn lleihau effaith y datblygiadau hynny ymhellach gyda’i gilydd.

·         Soniodd y Cynghorydd Hugh Irving am sylwadau a gafwyd gan breswylwyr dros yr wythnosau diwethaf a oedd yn sôn am bryderon am Gynllun Canol Prestatyn, ac roedd wedi’u cyfeirio at aelodau’r ward a’r aelod arweiniol.  Dywedodd yr aelodau perthnasol nad oeddent wedi cael sylwadau o’r fath.  Ailadroddodd yr Arweinydd bwysigrwydd ymgysylltu â’r gymuned ac fel aelod ward Prestatyn, ynghyd â’r Cynghorwyr Gill German a Kelly Clewett, roeddent yn awyddus i glywed gan breswylwyr ac fe’u hanogodd i gysylltu gydag unrhyw faterion neu bryderon er mwyn rhoi sylw priodol iddynt.  Ailadroddodd Swyddogion yr ymgynghoriad helaeth hefyd fel rhan o’r broses gynllunio a darparodd sicrwydd pellach y byddai ymgysylltiad cymunedol yn parhau trwy gydol y broses.

·         Soniodd y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones am sylwadau roedd wedi’u cael am Gynllun Canol y Rhyl, gan gynnwys yr effaith ar dwristiaeth a chwestiynau am pa bryd cafodd canol y Rhyl lifogydd.  Nodwyd fod rhannau sylweddol o Bromenâd y Rhyl a’r Stryd Fawr wedi cael llifogydd yn ystod llifogydd Towyn  ym 1990.  Fodd bynnag, roedd y cynllun wedi’i gynnig oherwydd y risg sylweddol o lifogydd yn y dyfodol oherwydd effaith newid hinsawdd a chyflwr gwael amddiffynfeydd llifogydd presennol a fyddai’n cael effaith fawr ar gynaliadwyedd y Rhyl fel tref ar gyfer busnes a thwristiaeth.  Ailadroddwyd bod Cynllun Amddiffyn Arfordir Dwyrain y Rhyl wedi’i gwblhau’n sylweddol is na’r gyllideb ac roedd hyder yn y gyllideb a’r dull o ddarparu’r prosiect.

 

Atebodd yr Aelod Arweiniol a swyddogion gwestiynau am amserlenni ar gyfer y cynlluniau a sicrwydd o ran cost.  Nodwyd y byddai’r contractwyr yn darparu rhaglen fanwl iawn a phan fyddai dyddiad dechrau wedi’i gadarnhau, gellid rhannu trosolwg o’r rhaglen gyffredinol.  Roedd llawer o waith yn cael ei wneud i adolygu ac ailwerthuso costau cyn i’r achos busnes llawn gael ei gyflwyno hefyd.  Roedd Swyddogion wedi bod yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru trwy gydol gwaith datblygu’r prosiect am y cynigion a’r costau posibl, ac er bod costau wedi cynyddu, roedd hyder y byddai Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r cynlluniau.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth, amlygodd yr Arweinydd fod ymgysylltu cymunedol yn rhan hanfodol o’r broses i sicrhau bod pawb a oedd yn cael eu heffeithio yn cael y wybodaeth ddiweddaraf.  Tynnodd sylw at y manylion cyswllt ar gyfer aelodau wardiau ar wefan y Cyngor gan annog preswylwyr i gysylltu gydag unrhyw bryderon er mwyn mynd i’r afael â nhw.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cadarnhau ei fod wedi ystyried cynnwys yr Asesiadau o Effaith ar Les ar gyfer pob cynllun (sydd wedi’u hatodi fel Atodiad 3a ac Atodiad 3b yn yr adroddiad);

 

(b)       cefnogi’r cynnig i symud cynllun Amddiffyn Arfordir Canol y Rhyl yn ei flaen i’r cam adeiladu, gan ddefnyddio’r model cyllid cymorth grant a nodir gan Lywodraeth Cymru ac yn cytuno i’r cynnig gael ei gyflwyno i’r Cyngor ar gyfer penderfyniad;

 

(c)        cefnogi’r cynnig i symud cynllun Amddiffyn Arfordir Canol Prestatyn yn ei flaen i’r cam adeiladu, gan ddefnyddio’r model cyllid cymorth grant a nodir gan Lywodraeth Cymru ac yn cytuno i’r cynnig gael ei gyflwyno i’r Cyngor ar gyfer penderfyniad, ac

 

(d)       dirprwyo awdurdod i Fwrdd Prosiect Amddiffyn yr Arfordir gyflawni’r cynlluniau.

 

Dogfennau ategol: