Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNLLUN CORFFORAETHOL CYNGOR SIR DDINBYCH 2022 - 2027

Derbyn adroddiad gan y Cyd-Bennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio Dros Dro (copi ynghlwm) i gymeradwyo drafft terfynol Cynllun Corfforaethol 2022 – 2027.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol yr adroddiad Cynllun Corfforaethol 2022-2027 (a ddosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Diolchwyd i bawb a oedd wedi bod yn rhan o lunio’r Cynllun Corfforaethol newydd arfaethedig. Roedd ymgynghoriadau eang ac amrywiol wedi cael eu cynnal. Diolchwyd hefyd i’r holl bleidiau gwleidyddol am eu sylwadau cadarnhaol ac adeiladol i helpu i fireinio’r cynllun.

 

Roedd yn ofyniad statudol bod Awdurdodau Lleol yn cyhoeddi Amcanion Lles, Amcanion Cydraddoldeb, ac yn nodi meysydd ar gyfer Gwelliant Sefydliadol. Roedd Cynllun Corfforaethol Sir Ddinbych2022-27 yn cyflawni hyn i gyd.

 

Roedd y cynllun drafft yn amlinellu’r blaenoriaethau a’r weledigaeth o’r hyn yr oedd y Cabinet, gyda chefnogaeth y Cyngor, yn anelu i’w gyflawni dros y 5 mlynedd nesaf.

Roedd yr addewidion allweddol yr oedd yr Awdurdod Lleol wedi ymrwymo i’w cyflawni yn y Cynllun wedi’u trefnu mewn themâu. Roeddent yn bwysig am eu bod naill ai:

 

·         Angen cyllid cyfalaf / refeniw sylweddol e.e. ffyrdd ac ysgolion newydd (ond nid oes angen cyllid ychwanegol ar bopeth);

·         Angen newid diwylliannol / sefydliadol sylweddol e.e. i fod yn Sir Ddinbych lle mae’r Iaith Gymraeg a Diwylliant Cymru yn ffynnu, a / neu

·         Yn effeithio ar y sir gyfan e.e. sefydlu isadeiledd gwefru cerbydau trydan.

 

Roedd y Cynllun Corfforaethol yn ddogfen bwysig i ddangos gweledigaeth ar y cyd y byddwn i gyd yn gweithio tuag ati gyda’n gilydd. Roedd y cynllun yn canolbwyntio ar wella lles cymunedau a thrigolion Sir Ddinbych drwy greu amodau da yn y gymuned. Roedd hefyd yn canolbwyntio ar ansawdd y gwasanaethau a oedd yn cael eu cynnig i’r rhai hynny a oedd angen cymorth.

 

Roedd y cynllun wedi cael ei rannu i naw thema allweddol a byddai pob un ohonynt yn cael eu dyrannu i Aelodau Cabinet er mwyn eu goruchwylio. Roedd pob thema yn disgrifio’r amcanion rydym yn gobeithio eu cyflawni dros y 5 mlynedd nesaf. Roedd y blaenoriaethau a amlinellwyd yn y Cynllun Corfforaethol wedi cael eu llunio drwy broses fanwl a chlir o gasglu a dadansoddi tystiolaeth ac ymgynghoriad manwl gyda chymunedau.

 

Nid oedd y Cynllun Corfforaethol yn cynrychioli holl fusnes y Cyngor ac ni fwriadwyd iddo wneud hynny. Roedd llawer iawn o waith pwysig yn cael ei wneud y tu allan i gwmpas y cynllun.

Nod y cynllun yw bod yn hyblyg gydag unrhyw newidiadau angenrheidiol yn cael eu hadrodd i’r Cyngor.

 

Wrth drafod, codwyd y materion canlynol:

·         Pe bai’r cynllun yn cael ei gymeradwyo, byddai gwaith ymchwil yn cael ei gynnal i nodi’r gwaith a fyddai angen ei wneud i gyflawni pob un o’r addewidion. Ar y cam hwnnw byddai swyddogion a’r Aelod Arweiniol yn gallu nodi beth oedd modd ei gyflawni a phryd o ystyried yr adnoddau, amser a chyllid sydd ar gael.

·         Yn ystod yr amser a gymerwyd i ddatblygu’r Cynllun Corfforaethol drafft, roedd y sefyllfa ariannol wedi dirywio. Roedd y rhagolwg ariannol ar gyfer y ddwy flynedd nesaf wedi newid ers dechrau’r flwyddyn. Roedd diweddariad Cyllid i gael ei gyflwyno yng Ngweithdy nesaf y Cyngor a fyddai’n rhoi manylion am y newidiadau. Byddai trafodaethau ag aelodau am newidiadau a chynlluniau arbed mewn perthynas â’r gyllideb yn cael eu cynnal unwaith i ffigyrau’r gyllideb gael eu cyhoeddi.

·         Roedd nifer o’r prosiectau a oedd wedi’u cynnwys yn y cynllun eisoes wedi cael eu cymeradwyo neu wrthi’n cael eu cymeradwyo ac wedi’u cynnwys yn y gyllideb.

·         Fel awdurdod, nid oedd benthyca at ddibenion buddsoddi yn cael ei awdurdodi.

·         Roedd teithio llesol a defnyddio llwybrau cerdded a llwybrau beicio yn cael eu hannog o dan thema rhif 5 y cynllun.

·         Bu i oddeutu 1300 ymateb yn ystod y cyfnodau ymgynghori. Roedd gwaith i annog cyfranogiad wedi cael ei gynnal. Roedd ansawdd y drafodaeth yn ffocws wrth ymgysylltu â’r cyhoedd. Cadarnhawyd bod fersiwn all-lein o ohebiaeth wedi cael ei chynnig i’r rhai hynny a oedd yn dymuno ymateb. Roedd y pwysigrwydd o siarad â’r cyhoedd wedi’i gynnwys yn thema rhif 9.

·         Roedd teitl y cynllun ysgolion yr 21ain ganrif wedi cael ei newid i Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru ac roedd wedi cael ei gynnwys yn y cynllun.

·         Roedd cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer tai wedi cael eu cynnwys yn y cynllun. Byddai nifer o gyfarfodydd yn y dyfodol yn mynd i’r afael â rhai o faterion a phryderon y cynllun a pholisi tai. Pwysleisiwyd y pwysigrwydd o allu bod yn agored a thryloyw am gynlluniau i’r dyfodol.

·         Roedd gan yr awdurdod nifer o ffioedd a thaliadau gwahanol sy’n cynhyrchu incwm. Mae rhai o’r ffioedd yn statudol ac wedi’u gosod ac mae ffioedd eraill yn fwy hyblyg.

 

Diolchodd y Prif Weithredwr i’r aelodau a’r swyddogion am y drafodaeth fanwl. Yn ei farn ef, roedd y drafodaeth wedi bod yn gadarnhaol ac fe gynigodd ei gefnogaeth o’r cynllun dros y 5 mlynedd. Dywedwyd wrth yr aelodau y byddai adolygiad blynyddol rhwng y Tîm Arwain Strategol a’r Cabinet yn cael ei gynnal i adolygu cynnydd. Anogwyd yr aelodau i gysylltu ag Aelodau Arweiniol gydag unrhyw gwestiynau sydd ganddynt yn ystod y cynllun 5 mlynedd. 

 

Cafwyd cynnig gan y Cynghorydd Mark Young, wedi’i eilio gan y Cynghorydd Cheryl Williams.

 

PENDERFYNWYD:

·         Bod yr aelodau’n cymeradwyo drafft terfynol Cynllun Corfforaethol 2022-27 er mwyn gallu cyfieithu a chyhoeddi’r ddogfen.

·         Bod yr Aelodau’n cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les fel rhan o’u hystyriaethau.

 

 

 

Dogfennau ategol: