Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 559851

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 559851.

11.30 am

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais ar gyfer trwydded cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 559851.

Cofnodion:

[Cafodd yr eitem hon ei dwyn ymlaen at y rhaglen gyda chaniatâd y Cadeirydd]

 

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â’r canlynol –

 

(i)            cais a dderbyniwyd am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 559851;

 

(ii)          penderfyniad swyddogion i atgyfeirio'r cais at y Pwyllgor Trwyddedu i benderfynu arno oherwydd amgylchiadau penodol yr achos;

 

(iii)         methiant yr Ymgeisydd i ddatgan wyth o euogfarnau yn ymwneud â deddfwriaeth dramor/twyllo’r refeniw cyhoeddus yn 2015 a ddaeth i’r amlwg yn dilyn gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd;

 

(iv)         gwybodaeth berthnasol gan gynnwys esboniad y cais ynghyd â’r dystysgrif GDG ac esboniad yr Ymgeisydd o’r rheswm dros beidio â datgan euogfarnau a oedd ynghlwm â’r adroddiad;

 

(v)          polisi’r Cyngor mewn perthynas ag addasrwydd ymgeiswyr, ac

 

(vi)         estyn gwahoddiad i’r Ymgeisydd ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Cadarnhaodd yr ymgeisydd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Darparodd y Swyddog Gorfodi (KB) grynodeb o adroddiad a ffeithiau’r achos.

 

Eglurodd yr Ymgeisydd fod ganddo drwydded gydag awdurdod lleol gwahanol ar hyn o bryd a nododd yr amgylchiadau mewn perthynas â’r cais a pham nad oedd yn ymwybodol o’r euogfarn yn ystod y broses honno, dim ond y GDG sylfaenol yr oedd wedi’i weld, nid oedd wedi gweld y gwiriad manwl.   Eglurodd natur y drosedd, y broses gyfreithiol a ddilynodd a’r ddirwy y bu’n rhaid ei thalu.   Darparodd yr Ymgeisydd sicrwydd i aelodau y byddai wedi datgan yr euogfarn ar y cais pe byddai’n ymwybodol ohono ar yr adeg.   Mewn ymateb i’r cwestiynau, cadarnhawyd dyddiad y drosedd a’r euogfarn ddilynol ac eglurodd yr Ymgeisydd y rheswm y tu ôl i’w gais, sef i fodloni ei ofynion busnes i weithredu’n Sir Ddinbych.   Roedd yn is-gontractio ar gyfer contractwr yn Sir Ddinbych ar hyn o bryd a oedd wedi darparu llythyr o argymhelliad ar ei ran a gafodd ei ddarllen yn ystod y cyfarfod.   Yn ei ddatganiad terfynol, ymddiheurodd yr Ymgeisydd am yr hepgoriad a’r sefyllfa bresennol.

 

Oedwyd y cyfarfod er mwyn ystyried y cais a -

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais ar gyfer trwydded cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 559851.

 

Dyma resymau’r Pwyllgor Trwyddedu dros y penderfyniad –

 

Roedd y Pwyllgor wedi ystyried y wybodaeth a ddarparwyd gan swyddogion cyn y cyfarfod yn ofalus yn ogystal â’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod gwrandawiad yr achos.   Diolchodd y Pwyllgor i bawb a oedd ynghlwm â’r achos hwn am eu cefnogaeth.

 

Wrth drafod eu penderfyniad, roedd yr aelodau wedi ystyried yr adrannau perthnasol yn Natganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor ynghylch addasrwydd ymgeiswyr a deiliaid trwydded yn y masnachau cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.   Roedd y Pwyllgor hefyd wedi ystyried cyflwyniadau’r Ymgeisydd, y llythyr o argymhelliad a’r ymateb i gwestiynau yn ystod y gwrandawiad, y drosedd a nodwyd yn nhystysgrif GDG manwl yr Ymgeisydd, yr amgylchiadau a nodwyd mewn perthynas â’r drosedd a’r methiant i ddatgan y troseddau ar y ffurflen gais.   Roedd y Pwyllgor yn fodlon ag esboniad yr Ymgeisydd bod y methiant i ddatgan ei euogfarnau o ganlyniad i gamddealltwriaeth gonest yn sgil ymdriniaeth flaenorol â chais a gafodd ei gymeradwyo mewn sir arall.   O ganlyniad, daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod yr Ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i gael trwydded a phenderfynwyd cymeradwyo’r drwydded yn unol â’r cais.

 

Roedd y Pwyllgor o’r farn bod yr Ymgeisydd wedi bod yn agored ac yn onest yn ystod gwrandawiad y cais ac mewn ymateb i gwestiynau.   Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor yn ystyried y byddai’n briodol cyflwyno rhybudd clir i’r ymgeisydd am ei ymddygiad yn y dyfodol, gan gynghori’r Ymgeisydd i fod yn agored ac yn onest yn ei ymdriniaeth â Swyddogion Trwyddedu, y Pwyllgor a’r Cyngor cyfan yn y dyfodol.

 

Cafodd penderfyniad a rhesymau’r Pwyllgor felly eu cyfleu i’r Ymgeisydd.

 

Ar y pwynt hwn (11.50 am) cymerodd y pwyllgor egwyl fer.

 

 

Dogfennau ategol: