Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 559747

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 559747.

11.00 am

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais ar gyfer trwydded cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 559747.

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor bod Ymgeisydd Rhif 559747 wedi rhoi gwybod nad oedd ar gael i fynychu’r gwrandawiad o ganlyniad i broblemau gofal plant a gofynnodd i’r cais gael ei drafod yn ei absenoldeb er mwyn osgoi oedi pellach.   Amlinellodd y Cyfreithiwr yr opsiynau a oedd ar gael i’r Pwyllgor, sef gohirio’r mater i ddyddiad arall, neu wneud penderfyniad ar y cais yn absenoldeb yr Ymgeisydd.   Os oedd y Pwyllgor am benderfynu ar y cais yn absenoldeb yr Ymgeisydd, roedd yn rhaid iddynt fod yn fodlon bod ganddynt ddigon o wybodaeth cyn gwneud penderfyniad cadarn.

 

Ar ôl ystyried cais yr Ymgeisydd ynghyd â’r cyngor cyfreithiol a ddarparwyd, roedd y Pwyllgor yn ystyried bod ganddynt ddigon o wybodaeth i wneud penderfyniad gwybodus, ac yn dilyn pleidlais ar y mater -

 

PENDERFYNWYD y dylai’r Pwyllgor benderfynu ar y cais yn absenoldeb yr Ymgeisydd.

 

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â’r canlynol –

 

(i)            cais a dderbyniwyd am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 559747;

 

(ii)          penderfyniad swyddogion i atgyfeirio'r cais at y Pwyllgor Trwyddedu i benderfynu arno oherwydd amgylchiadau penodol yr achos;

 

(iii)         methiant yr Ymgeisydd i ddatgan dwy euogfarn yn ymwneud â methiant i ddatgan newid mewn amgylchiadau, a oedd yn cael effaith ar hawl i fudd-dal/taliadau arall yn 2013 a ddaeth i’r amlwg yn dilyn gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd;

 

(iv)         gwybodaeth berthnasol gan gynnwys esboniad yr Ymgeisydd o’r rheswm dros beidio â datgan ynghyd â’r dogfennau yn ymwneud â’r achos gan gynnwys y cais, tystysgrif GDG a’r e-bost a dderbyniwyd yn cefnogi'r cais a oedd ynghlwm â’r adroddiad;

 

(v)          polisi’r Cyngor mewn perthynas ag addasrwydd ymgeiswyr, ac

 

(vi)         estyn gwahoddiad i’r Ymgeisydd ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Oedwyd y cyfarfod er mwyn ystyried y cais a -

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais ar gyfer trwydded cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 559747.

 

Dyma resymau’r Pwyllgor Trwyddedu dros y penderfyniad –

 

Roedd y Pwyllgor wedi ystyried y wybodaeth a ddarparwyd gan swyddogion cyn y cyfarfod cyn y gwrandawiad yn ofalus.  Nid oedd yr Ymgeisydd wedi gallu mynychu’r gwrandawiad a gofynnodd i’r Pwyllgor ystyried y cais yn ei absenoldeb.   Gan yr ystyriwyd bod digon o wybodaeth ar gael er mwyn galluogi penderfyniad gwybodus, cytunodd y Pwyllgor i benderfynu ar y cais yn absenoldeb yr Ymgeisydd.

 

Wrth drafod eu penderfyniad, roedd yr aelodau wedi ystyried yr adrannau perthnasol yn Natganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor ynghylch addasrwydd ymgeiswyr a deiliaid trwydded yn y masnachau cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.   Roedd y Pwyllgor hefyd wedi ystyried manylion ymgysylltiad yr Ymgeisydd â swyddogion fel sydd wedi’i nodi ym mharagraff 4.5 o’r adroddiad, e-bost yr Ymgeisydd ar 20 Gorffennaf 2022 yn egluro’r amgylchiadau mewn perthynas â’r methiant i ddatgan y troseddau ar y ffurflen gais (Atodiad C i’r adroddiad), a’r amser a oedd wedi mynd heibio ers y drosedd.   Roedd y Pwyllgor yn fodlon ag esboniad yr Ymgeisydd yn yr e-bost ar 20 Gorffennaf 2022 bod y methiant i ddatgan euogfarnau ar y ffurflen gais o ganlyniad i gamddealltwriaeth gonest.    O ganlyniad, daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod yr Ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i gael trwydded a phenderfynwyd cymeradwyo’r drwydded yn unol â’r cais.   Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor yn ystyried y byddai’n briodol cyflwyno rhybudd clir i’r ymgeisydd am ei ymddygiad yn y dyfodol, gan gynghori’r Ymgeisydd i fod yn agored ac yn onest yn ei ymdriniaeth â Swyddogion Trwyddedu, y Pwyllgor a’r Cyngor cyfan yn y dyfodol.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.50 pm.

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: