Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 559870

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 559870.

10.30 am

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais ar gyfer trwydded cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 559870.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â’r canlynol –

 

(i)            cais a dderbyniwyd am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan ymgeisydd rhif 559870;

 

(ii)          penderfyniad swyddogion i atgyfeirio'r cais at y Pwyllgor Trwyddedu i benderfynu arno oherwydd amgylchiadau penodol yr achos;

 

(iii)         methiant yr Ymgeisydd i ddatgan dwy euogfarn yn ymwneud â throseddau treisgar ym 1995 a 2011 a oedd wedi dod i’r amlwg yn dilyn gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd;

 

(iv)         gwybodaeth berthnasol gan gynnwys esboniad yr Ymgeisydd o’r rheswm dros beidio â datgan ynghyd â’r dogfennau yn ymwneud â’r achos gan gynnwys y cais a’r dystysgrif GDG a oedd ynghlwm â’r adroddiad;

 

(v)          polisi’r Cyngor mewn perthynas ag addasrwydd ymgeiswyr, ac

 

(vi)         estyn gwahoddiad i’r Ymgeisydd ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Roedd cydweithiwr yn bresennol gyda’r Ymgeisydd a chadarnhaodd yr Ymgeisydd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Darparodd y Swyddog Gorfodi grynodeb o adroddiad a ffeithiau’r achos.

 

Eglurodd yr Ymgeisydd amgylchiadau’r ddwy euogfarn, roedd peth amser wedi mynd heibio ers y troseddau hyn, roedd yn ifanc yn cyflawni’r drosedd gyntaf a darparodd sicrwydd i aelodau am ei ymddygiad presennol ac i’r dyfodol.   Mewn ymateb i gwestiynau aelodau, rhoddodd yr Ymgeisydd wybod nad oedd y troseddau’n ddigon difrifol i warantu cwrs rheoli dicter.   Nododd yr ymgeisydd y dylai fod wedi datgan ei euogfarnau; ond o ystyried yr holl amser a oedd wedi mynd heibio ers y troseddau, roedd yr ymgeisydd dan yr argraff na fyddai’r euogfarnau hyn ar ei gofnod troseddol mwyach.   Roedd bellach wedi sylweddoli, pryd bynnag ddigwyddodd y troseddau, y dylai fod wedi eu datgan ac ymddiheurodd am hynny.   Darparodd yr Ymgeisydd fanylion am ei amgylchiadau personol.   O ran datganiad terfynol yr Ymgeisydd, cadarnhaodd nad oedd ganddo unrhyw beth i’w ychwanegu.

 

Oedwyd y cyfarfod er mwyn ystyried y cais a -

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais ar gyfer trwydded cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 559870.

 

Dyma resymau’r Pwyllgor Trwyddedu dros y penderfyniad –

 

Roedd y Pwyllgor wedi ystyried y wybodaeth a ddarparwyd gan swyddogion cyn y cyfarfod yn ofalus yn ogystal â’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod gwrandawiad yr achos.   Diolchodd y Pwyllgor i bawb a oedd ynghlwm â’r achos hwn am eu cefnogaeth.

 

Wrth drafod eu penderfyniad, roedd yr aelodau wedi ystyried yr adrannau perthnasol yn Natganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor ynghylch addasrwydd ymgeiswyr a deiliaid trwydded yn y masnachau cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.   Roedd y Pwyllgor hefyd wedi ystyried y trwyddedau wedi’u nodi yn nhystysgrif GDG yr Ymgeisydd, oedran yr Ymgeisydd yn ystod y drosedd gyntaf, yr amser a oedd wedi mynd heibio ers y troseddau, pledion euog yr Ymgeisydd, a’r amgylchiadau a eglurwyd mewn perthynas â’r methiant i ddatgan y ddwy euogfarn droseddol.   Roedd y Pwyllgor yn fodlon ag esboniad yr Ymgeisydd bod y methiant i ddatgan ei euogfarnau o ganlyniad i gamddealltwriaeth gonest ac nad oedd wedi bwriadu eu twyllo.   O ganlyniad, daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod yr Ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i gael trwydded a phenderfynwyd cymeradwyo’r drwydded yn unol â’r cais.

 

Roedd y Pwyllgor o’r farn bod yr Ymgeisydd wedi bod yn agored ac yn onest yn ystod gwrandawiad y cais ac mewn ymateb i gwestiynau.   Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor yn ystyried y byddai’n briodol cyflwyno rhybudd clir i’r ymgeisydd am ei ymddygiad i’r dyfodol, gan gynghori’r Ymgeisydd i fod yn agored ac yn onest yn ei ymdriniaeth â Swyddogion Trwyddedu, y Pwyllgor a’r Cyngor cyfan yn y dyfodol.

 

Cafodd penderfyniad a rhesymau’r Pwyllgor felly eu cyfleu i’r Ymgeisydd.

 

 

Dogfennau ategol: