Eitem ar yr agenda
ADOLYGU OEDRAN CERBYDAU I DRWYDDEDAU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT
Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) gan ofyn i’r aelodau adolygu’r uchafswm oedran cerbydau presennol ar gyfer ceisiadau newydd ac adnewyddu yn dilyn newidiadau dros dro i’r polisi presennol ym mis Ionawr 2022.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD
bod –
(a) y dyddiad gweithredu i
gerbydau trwydded yn unig hyd at 12 oed o ddyddiad y cofrestriad cyntaf i gael
ei oedi am ddeuddeng mis arall o fis Gorffennaf 2023 tan Gorffennaf 2024, yn aros
am adolygiad o’r cyfyngiadau oedran cerbyd cyfredol;
(b) swyddogion yn gallu
awdurdodi i ddechrau proses ymgynghori gyda holl ddeiliaid trwydded a
phartneriaid allweddol i ystyried cynyddu oedran adnewyddu cerbydau i dros 12
oed, ar sail gofynion amserlen cynnal a chadw caeth a threfn profi
cydymffurfio, yn hytrach nag oedran fel y prif ddynodwr;
(c) swyddogion yn gallu
awdurdodi i ddechrau proses ymgynghori gyda holl ddeiliaid trwydded a
phartneriaid allweddol i ystyried cynyddu oedran cerbydau fflyd newydd i dan 8
oed, ar sail gofynion amserlen cynnal a chadw caeth a threfn profi
cydymffurfio, yn hytrach nag oedran fel y prif ddynodwr; a
(d) swyddogion yn gallu awdurdodi i edrych i mewn i broses dirprwyo i benderfynu ar geisiadau cerbyd fflyd newydd i gerbydau dros 5 oed, tra bod y broses ymgynghori uchod yn parhau, a chyflwyno adroddiad i gyfarfod nesaf o’r Pwyllgor ei ystyried.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y
Cyhoedd adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn ceisio adolygiad aelodau o’r
uchafswm oedran cerbydau ar gyfer ceisiadau newydd ac adnewyddu yn dilyn
newidiadau dros dro i’r polisi presennol ym mis Ionawr 2022 ac ymlacio’r terfyn
oedran uchafswm ar gyfer ceisiadau cerbydau newydd.
Cafodd polisi presennol cerbydau hacni
a cherbydau hurio preifat ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Trwyddedu ym mis Rhagfyr
2016, yn dilyn ymgynghori helaeth, a daeth i rym ar 1 Gorffennaf 2017. Roedd y polisi’n cynnwys cyfyngiad oedran ar
gerbydau sef na ddylai unrhyw gerbyd newydd i’r fflyd fod yn hŷn na 5
mlwydd oed ac y dylid gwaredu unrhyw gerbyd sy’n cyrraedd 12 oed. Rhoddwyd cyfnod gras o 5 mlynedd i gerbydau
oedd eisoes â thrwydded a fyddai’n dod i ben ym mis Gorffennaf 2022. Yn dilyn cais gan berchennog cerbyd tacsi ym
mis Ionawr 2022 i ystyried adolygu’r polisi oedran cerbydau ar unwaith yn sgil y
pandemig Coronafeirws a’i effaith ar ail-gerbydau a cherbydau newydd,
cymeradwyodd y Pwyllgor i oedi gweithrediad y cyfyngiad oed am gyfnod o 12 mis
er mwyn rhoi cyfle i adfer yn dilyn effeithiau’r pandemig, gan adolygu’r
sefyllfa ym mis Ionawr 2023. Gofynnodd
yr un perchennog tacsi i’r aelodau hefyd ymlacio’r gofyniad nad yw ceisiadau
cerbydau newydd yn hŷn na 5 oed ac yn hytrach, caniatáu i gerbydau beidio
bod yn hŷn na 8 mlwydd oed. Yn
ogystal, roedd swyddogion wedi derbyn cais gan weithredwr gwahanol i ystyried
ymlacio gofyniad oed ar gyfer Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn. Roedd yr agweddau hyn yn newid polisi a
fyddai’n golygu bod angen i’r Aelodau eu hystyried fel rhan o’r adolygiad a’r
ymgynghoriad ehangach. Darparwyd
gwybodaeth am ofynion oedran cerbydau ar gyfer awdurdodau lleol eraill yng
Ngogledd Cymru, gan gynnwys Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn hefyd.
Gofynnwyd i Aelodau ystyried p’un a yw
hi’n briodol i ymlacio’r terfyn oedran uchafswm ar gyfer ceisiadau cerbydau
newydd ac adnewyddu, ac os felly, p’un a fyddai angen gofynion amodol pellach.
Roedd 21 o’r 287 o gerbydau trwyddedig wedi’u heffeithio gan y terfyn oedran
uwch, gan godi i 23 ym mis Gorffennaf 2023, ar ôl i’r 5 mlynedd o gyfnod gras
ddod i ben. Roedd nifer blynyddol y cerbydau
newydd i’r fflyd ers cyflwyno’r polisi yn 2017 wedi cael ei gynhyrchu, roedd y
cerbydau hyn wedi bod yn destun yr uchafswm oedran o 5 mlynedd. Ers 1 Awst 2022, roedd 12 o gerbydau newydd
i’r fflyd pellach wedi bod. Os oedd
Aelodau o blaid cefnogi unrhyw gynigion ar gyfer diwygiadau i’r polisi, byddai
angen ymgynghori â phob deiliad trwydded a phartner allweddol.
Trafododd yr aelodau’r adroddiad gyda’r
Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd ynghyd â’r rhesymau y tu ôl i gyflwyno
cyfyngiad oedran ar gerbydau trwyddedig a cheisiwyd rhagor o fanylion mewn
perthynas â hynny a ph’un a oedd angen amod oedran ar wahân mewn perthynas
â Cherbydau sy’n Hygyrch i Gadeiriau
Olwyn. Er y nodwyd bod y polisi oedran
cerbydau wedi cael ei gyflwyno i foderneiddio’r fflyd bresennol o gerbydau
trwyddedig i sicrhau safonau uchel, codwyd cwestiynau am y sylfaen dystiolaeth
i gefnogi polisi o’r fath, a ph’un a fyddai modd bodloni gofynion diogelwch a
safonau cerbydau yn well drwy batrwm cynnal a chadw cadarn sy’n cyfateb i
oedran neu filltiroedd y cerbyd o bosibl.
Yn ystod y ddadl, ymatebodd y Rheolwr
Busnes Gwarchod y Cyhoedd i gwestiynau/sylwadau’r aelodau fel a ganlyn -
·
cyflwynwyd y
polisi oedran cerbydau er mwyn mynd i’r afael â phryderon diogelwch a’r
disgwyliad o draul dros amser yn sgil y nifer uchel o filltiroedd
·
roedd safonau a
diogelwch yn mynd law yn llaw â’i gilydd, a byddai gwella safonau cerbydau yn
arwain at wella diogelwch cerbydau
·
byddai’n
fanteisiol cyflwyno cynllun cynnal a chadw rheolaidd i fynd i’r afael â thraul
fecanyddol ar gerbydau yn sgil oedran a milltiroedd y cerbyd
·
nid oedd
swyddogion yn ymwybodol o unrhyw ddigwyddiadau difrifol yn sgil oedran cerbyd
ac nid oeddent yn gwybod p’un a oedd hynny yn sgil y cyfyngiad oedran a oedd ar
waith
·
gellid
defnyddio cyfyngiad oedran gwahanol ar gyfer Cerbydau sy’n Hygyrch i Gadeiriau
Olwyn i annog rhagor o drwyddedau cerbydau hygyrch, a oedd yn llawer drytach na
cherbydau salŵn safonol, a derbyniwyd sylwadau gan yr Adran Cludiant
Teithwyr a oedd wedi cael trafferth nodi Cerbydau sy’n Hygyrch i Gadeiriau
Olwyn ar gyfer contractau’r cyngor
·
roedd gan rai
awdurdodau lleol bolisi a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i bob cerbyd newydd i’r
fflyd fod yn Gerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn i fodloni’r galw. Fodd bynnag,
nid oedd digon o alw am Gerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn yn Sir Ddinbych i
gyfiawnhau Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn yn unig yn y polisi newydd i’r
fflyd
·
roedd yn
ofynnol i berchnogion cerbydau ddarparu amserlenni cynnal a chadw ac roedd
gwaith yn mynd rhagddo i gyflwyno’r cofnodion hynny i sicrhau eu bod ar waith
·
byddai modd
cyflwyno gwiriadau cydymffurfiaeth mwy llym ar gyfer cerbydau hŷn a
chynyddu nifer yr archwiliadau’n ddibynnol ar oedran neu filltiroedd
·
roedd Llywodraeth
Cymru’n cynnal adolygiad o ddeddfwriaeth tacsi ar hyn o bryd, a byddai safonau
disgwyliedig yn cael eu hamlinellu yn dilyn hynny a fyddai’n disodli rhai o
bolisïau presennol y cyngor, gan gynnwys cyfyngiadau oedran, a nod Llywodraeth
Cymru oedd i bob tacsi fod yn gerbyd trydan erbyn 2028.
Yn ystod y trafodaethau, amlygodd y
Cadeirydd yr angen i ystyried deddfwriaeth sydd ar y gweill gan Lywodraeth
Cymru mewn perthynas â safonau trwyddedu cenedlaethol a allai arwain at
ailystyried polisïau trwyddedau cerbydau hurio preifat a cherbydau hacni.
Roedd rhai aelodau’n teimlo bod y
polisi oedran cerbydau wedi bod yn llwyddiannus o ran gwella ansawdd y fflyd
cerbydau ac roedd nifer y cerbydau newydd i’r fflyd wedi dangos bod y diwydiant
yn prynu o fewn yr amodau hynny.
Gofynnodd aelodau eraill am ymarferoldeb y polisi oedran cerbydau o ran
bod yn rhaid i gerbydau newydd i’r fflyd fod yn 5 oed neu iau i fod yn ddiogel
ond eu bod yn cael eu trwyddedu am 12 mlynedd yn dilyn hynny, ac roedd yn
bosibl hefyd i gerbydau newydd i’r fflyd fod â milltiroedd uchel a cherbydau
hŷn nad ydynt yn y fflyd tacsis â milltiroedd is. Fodd bynnag, roedd pawb yn cytuno mai
diogelwch y fflyd drwyddedig oedd y brif flaenoriaeth ac y byddai’n fuddiol
adolygu cyfyngiadau oedran ar gyfer ceisiadau adnewyddu a cherbydau newydd i’r
fflyd, yn arbennig o ystyried y costau a oedd ynghlwm â Cherbydau sy’n Hygyrch
i Gadeiriau a cherbydau hybrid/trydan, ynghyd â threfn brofi fwy llym yn
ddibynnol ar oedran a milltiroedd y cerbyd, a chynnal ymgynghoriad
perthnasol. Gan y byddai’r adolygiad yn
cymryd cryn dipyn o amser, cytunwyd hefyd y dylid gohirio’r dyddiad gweithredu
ar gyfer gwaredu cerbydau sy’n hŷn na 12 oed tan fis Gorffennaf 2024. Cafwyd hefyd dadl ynghylch cyflwyno mecanwaith
priodol drwy’r cynllun dirprwyo ar gyfer penderfynu ar geisiadau newydd mewn
perthynas â cherbydau sy’n hŷn na 5 oed dros dro.
Ar ôl ystyried y wybodaeth yn yr
adroddiad, a chytuno ar ffordd ymlaen, nododd y Cyfreithiwr unwaith eto, i
gadarnhau, y cynigion a gyflwynwyd ac a eiliwyd gan yr aelodau. Wrth bleidleisio –
PENDERFYNWYD
bod –
(a) y dyddiad gweithredu i
gerbydau trwydded yn unig hyd at 12 oed o ddyddiad y cofrestriad cyntaf i gael
ei oedi am ddeuddeng mis arall o fis Gorffennaf 2023 tan Gorffennaf 2024 wrth
ddisgwyl am adolygiad o’r cyfyngiadau oedran cerbyd cyfredol;
(b) swyddogion yn cael eu
hawdurdodi i ddechrau proses ymgynghori gyda holl ddeiliaid trwydded a
phartneriaid allweddol i ystyried cynyddu oedran adnewyddu cerbydau i dros 12
oed, ar sail gofynion amserlen cynnal a chadw caeth a threfn profi
cydymffurfio, yn hytrach nag oedran fel y prif ddynodwr;
(c) swyddogion yn cael eu
hawdurdodi i ddechrau proses ymgynghori gyda holl ddeiliaid trwydded a
phartneriaid allweddol i ystyried cynyddu oedran cerbydau fflyd newydd i dan 8
oed, ar sail gofynion amserlen cynnal a chadw caeth a threfn profi
cydymffurfio, yn hytrach nag oedran fel y prif ddynodwr; a
(d) swyddogion yn cael eu
hawdurdodi i edrych i mewn i broses dirprwyo i benderfynu ar geisiadau cerbyd
fflyd newydd i gerbydau dros 5 oed, tra bod y broses ymgynghori uchod yn
parhau, a chyflwyno adroddiad i gyfarfod nesaf o’r Pwyllgor ei ystyried.
Dogfennau ategol: