Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGU - DEDDF TRWYDDEDU 2003: DATGANIAD O'R POLISI TRWYDDEDU

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) gan ddiweddaru aelodau yn dilyn y broses ymgynghori statudol ar Adolygu Datganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chael cymeradwyaeth polisi terfynol ar gyfer ei gyflwyno i’r Cabinet i’w gymeradwyo.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod –

 

(a)       y newidiadau arfaethedig a argymhellir i’r polisi drafft fel y manylir yn Atodiad C (colofn 4) ynghyd â Chynigion 1-4 ac 6 yn Atodiad B yn cael eu cymeradwyo fel polisi drafft terfynol, a

 

(b)       cyfarwyddo swyddogion i symud y polisi drafft terfynol i’w gymeradwyo yn y Cyngor.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i ddiweddaru aelodau yn dilyn y broses ymgynghori statudol mewn perthynas ag adolygu Datganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor, a cheisiodd argymhelliad gan y Pwyllgor ar bolisi terfynol i’w gyflwyno i’r Cyngor i’w gymeradwyo.  [Eglurwyd mai’r Cyngor fyddai’n rhoi’r cymeradwyaeth terfynol i’r polisi drafft ac nid y Cabinet fel sydd wedi’i nodi yn yr adroddiad.]

 

Roedd gofyn i’r Cyngor ymgynghori ar a pharatoi Datganiad Polisi Trwyddedu o leiaf bob 5 mlynedd.   Fe ddaeth y polisi presennol i rym ar 1 Ebrill 2017 ac roedd y Pwyllgor Trwyddedu wedi awdurdodi swyddogion i ddechrau ar yr ymgynghoriad statudol i adolygu’r polisi presennol ym mis Medi 2021.   Cynhaliwyd adolygiad mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol eraill yng Ngogledd Cymru er cysondeb.   Darparwyd manylion y broses ymgynghori a oedd wedi arwain at un ymateb gan barti a oedd â diddordeb (bragdy cenedlaethol) ac un gan y Bwrdd Iechyd Lleol, a oedd yn ymwneud ag Adran Iechyd Cyhoeddus y polisi yn unig.    Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cefnogi’r newidiadau arfaethedig.  Roedd yr atodiadau i’r adroddiad yn cynnwys y polisi drafft, crynodeb o’r newidiadau arfaethedig, ymatebion i’r ymgynghoriad a sylwadau ac argymhellion y swyddogion ar hynny a’r polisi presennol.

 

Tynnodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu sylw’r aelodau at yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn Atodiad C ynghyd â’r rheswm y tu ôl i’r diwygiadau a argymhellir gan y swyddogion yng ngholofn 4.  Dyma’r tro cyntaf i’r Bwrdd Iechyd Cyhoeddus gyflwyno sylwadau fel rhan o’r adolygiad statudol a chroesawyd eu mewnbwn o ystyried eu harbenigedd mewn iechyd cyhoeddus.   Roedd rhai o’r sylwadau gan y parti a oedd â diddordeb wedi cael eu lliniaru i lefel foddhaol ac felly nid oedd angen unrhyw ddiwygiadau, ac aethpwyd i’r afael â sylwadau eraill drwy’r argymhelliad i waredu datganiadau ac ystadegau a’u hamnewid am wybodaeth gan y Bwrdd Iechyd Cyhoeddus yr awgrymwyd y dylid ei chynnwys o fewn y datganiad polisi.   [Nodwyd y dylid newid cyfeiriadau at ‘Atodiad C’ yng ngholofn 4 i ‘Atodiad 3’ ar dudalen 118 o’r adroddiad 3’].  Gofynnwyd i Aelodau naill ai gymeradwyo’r polisi drafft yn unol â’r ymgynghoriad h.y. heb unrhyw newidiadau, neu gymeradwyo’r diwygiadau arfaethedig a argymhellwyd i’r polisi drafft fel y manylir yn atodiad C (colofn 4) ynghyd â chynigion 1 - 4 a 6 yn Atodiad B (na wnaethpwyd unrhyw sylwadau yn eu cylch), a rhoi cyfarwyddyd i Swyddogion i gynnig y polisi ar gyfer ei gymeradwyo yn y cabinet.

 

Ystyriodd Aelodau’r polisi drafft ynghyd â’r ymatebion a dderbyniwyd i’r ymgynghoriad a sylwadau swyddogion mewn ymateb i’r rheiny.   Cydnabu’r Cadeirydd y ddogfen gynhwysfawr a diolchodd i bawb a oedd ynghlwm â’i chynhyrchu.   Roedd hi hefyd yn falch o nodi ymgysylltiad diweddar y Bwrdd Iechyd Lleol â materion trwyddedu a’u cyfraniad at y datganiad polisi, a oedd yn adlewyrchu pwysigrwydd iechyd cyhoeddus.   Mewn ymateb i gwestiynau, nododd yr Uwch Swyddog Trwyddedu y manteision a oedd ynghlwm â’r ymateb gan y Bwrdd Iechyd Lleol a oedd yn cynnig gwybodaeth berthnasol a chyfredol i gymryd lle’r ystadegau a fyddai o bosibl yn dyddio yn ystod bywyd y polisi, ac awgrymodd y dylid cymeradwyo’r diwygiadau fel y maent wedi’u hamlinellu a chynnwys awgrymiadau’r Bwrdd Iechyd Lleol yn y datganiad polisi.

 

Ar ôl ystyried y Datganiad Polisi Trwyddedu drafft a oedd ynghlwm yn ogystal â’r ymatebion a dderbyniwyd fel y manylir yn Atodiad C -

 

PENDERFYNWYD bod –

 

(a)       y newidiadau arfaethedig a argymhellir i’r polisi drafft fel y manylir yn Atodiad C (colofn 4) ynghyd â Chynigion 1-4 a 6 yn Atodiad B yn cael eu cymeradwyo fel polisi drafft terfynol, a

 

(b)       cyfarwyddo swyddogion i symud y polisi drafft terfynol i’w gymeradwyo yn y Cyngor.

 

 

Dogfennau ategol: