Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

SEFYDLU BWRDD RHEOLI MAETHYNNAU I FYND I’R AFAEL Â LLYGREDD FFOSFFORWS YN ARDAL CADWRAETH ARBENNIG “AFON DYFRDWY A LLYN TEGID”

Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Cynghorwyr Win Mullen-James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio a Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant (copi ynghlwm) mewn perthynas â ffurfio’r Bwrdd Rheoli Maethynnau a cheisio cynrychiolaeth yr aelod arweiniol ar y Bwrdd.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cytuno:

 

(a)       bod Cyngor Sir Ddinbych yn ymuno â’r Bwrdd Rheoli Maethynnau ac yn cydweithio gyda’i bartneriaid i fynd i’r afael â llygredd ffosfforws yn nalgylch Afon Dyfrdwy a

 

(b)       bod Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant yn cynrychioli’r Cyngor, gyda’r Aelod Arweiniol Cynllunio a Datblygu Lleol yn ddirprwy.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Barry Mellor adroddiad ar y cyd â’r Cynghorydd Win Mullen-James ar sefydlu Bwrdd Rheoli Maethynnau i fynd i’r afael â llygredd ffosfforws yn nalgylch Afon Dyfrdwy ac am gynrychiolaeth aelod arweiniol ar y Bwrdd.

 

Cafodd y Cabinet wybod bod safonau ffosfforws newydd wedi cael eu gosod ar gyfer Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) Afonydd Cymru a bod tua 38% o gyrff dŵr a arolygwyd yn ardal cydymffurfiaeth “ACA Afon Dyfrdwy a Llyn Tegid” wedi methu â chyrraedd y targed. Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i sefydlu Bwrdd Rheoli Maethynnau ac argymhellwyd bod Cyngor Sir Ddinbych yn ymuno â’r bartneriaeth i alluogi dull dalgylch cyfan o wella ansawdd dŵr yn Afon Dyfrdwy, a sicrhau bod y Cyngor yn gallu cyflawni prosiectau cymunedol lleol a Gwasanaeth Cynllunio effeithlon dan ystyriaethau Rheoliadau Cynefinoedd 2017. Roedd yr adroddiad yn nodi manylion y fframwaith cyfreithiol, y strwythur, y gofynion posibl o ran adnoddau a’r llwyth gwaith cynnar.

 

Roedd y Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai, yr Uwch Swyddog Cynllunio  a’r Swyddog Cynllunio  yn bresennol ar gyfer yr eitem hon. Cafodd y Cabinet wybod am y niwed amgylcheddol a achosir gan ormod o ffosfforws yn yr afon a goblygiadau’r targedau newydd ar geisiadau cynllunio a darparu tai newydd, tir ar gyfer cyflogaeth ac ati.  Cyfeiriwyd at y map oedd yn cyd-fynd â’r adroddiad yn dangos dalgylch Afon Dyfrdwy, oedd yn gorchuddio rhan helaeth o dde Sir Ddinbych, yn cynnwys Llangollen a Chorwen fel y prif drefi, a’r pentrefi rhyngddynt. Roedd y Bwrdd Rheoli Maethynnau yn darparu dull partneriaeth o fynd i’r afael ag ansawdd dŵr a gofynnwyd am gymeradwyaeth i ymuno â’r Bwrdd a chadarnhau’r Cynghorydd Barry Mellor fel cynrychiolydd y Cyngor a’r Cynghorydd Win Mullen-James fel dirprwy.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd -

 

·         Tynnodd y Cynghorydd Win Mullen-James sylw at effaith ddinistriol blymau algâu a achosir gan lefelau ffosfforws uwch ar ecoleg afonydd a bywyd gwyllt a phwysigrwydd ymuno â’r Bwrdd Rheoli Maethynnau er mwyn gallu mynd i’r afael â llygredd ffosfforws a’r goblygiadau ar geisiadau cynllunio yn y dyfodol.

·         Gofynnodd y Cynghorydd Emrys Wynne gwestiynau am y diffyg cyfeiriad yn yr adroddiad at Afon Alyn fel llednant i Afon Dyfrdwy a’r broblem hysbys â ffosfforws yn ardal Llanarmon yn Iâl. Dywedodd y Swyddogion nad oedd Afon Alyn ei hun a Llanarmon yn Iâl yn rhan o’r Ardal Cadwraeth Arbennig oedd yn canolbwyntio ar yr ardal benodol o amgylch Afon Dyfrdwy. Fodd bynnag, roedd y dalgylch ehangach yn dod dan Reoliadau Cynefinoedd 2017 oherwydd bod gan gynnydd mewn ffosfforws yn yr ardaloedd hynny lwybr i Afon Dyfrdwy. Tynnwyd sylw at y map ynghlwm â’r adroddiad yn amlygu’r gwahaniaeth rhwng ardaloedd cydymffurfiaeth ffosfforws yn yr ACA a’r ardaloedd sensitif o ran ffosfforws yn yr ACA.

·         Mae Llywodraeth Cymru yn dynodi Ardaloedd Cadwraeth Arbennig afonol yng ngoleuni argymhellion a wneir gan Gyfoeth Naturiol Cymru (Cyngor Cefn Gwad Cymru cyn hynny), drwy’r Pwyllgor Cadwraeth Natur ar y Cyd.  

·         Pwysleisiodd y Cynghorydd Barry Mellor fod angen ystyried yr holl ffynonellau ffosfforws oedd yn mynd i Afon Dyfrdwy, yn cynnwys y rhai o du allan i’r ACA a’r lle gorau i godi’r mater fyddai’r Bwrdd Rheoli Maethynnau. Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid i gefnogi gwaith y Byrddau Rheoli Maethynnau, a bod hyd at £415,000 ar gael yng Nghymru yn 2022-23 a darpariaeth ychwanegol yn 2022-23 a 2024-25.

·         Cyfeiriodd y Cynghorydd Rhys Thomas at arolwg yr oedd wedi ei gynnal ar Afon Dyfrdwy a’i fod yn deall y problemau’n gysylltiedig â lefelau ffosfforws yn iawn.   Pwysleisiodd fod angen gweithio ar draws y dalgylch, gan ystyried popeth sy’n achosi llygredd ffosfforws er mwyn datrys y broblem ac felly roedd yn cefnogi gwaith y Bwrdd Rheoli Maethynnau yn llawn. 

 

Cydnabu’r Cabinet bwysigrwydd mynd i’r afael â llygredd ffosfforws am resymau amgylcheddol a’r effaith ar geisiadau cynllunio, yn cynnwys darpariaeth tai yn y dyfodol, ac roeddent yn llwyr gefnogi’r cynnig y dylai’r Cyngor ymuno â’r Bwrdd Rheoli Maethynnau.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cytuno:

 

(a)        bod Cyngor Sir Ddinbych yn ymuno â’r Bwrdd Rheoli Maethynnau ac yn cydweithio gyda’i bartneriaid i fynd i’r afael â llygredd ffosfforws yn nalgylch Afon Dyfrdwy a

 

(b)        bod Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant yn cynrychioli’r Cyngor, gyda’r Aelod Arweiniol Cynllunio a Datblygu Lleol yn ddirprwy.

 

 

Dogfennau ategol: