Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD CYLLID

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) sy’n nodi’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb a gytunwyd, a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer achosion busnes sy’n ymwneud â chyfleusterau newydd i storio halen yng Nghorwen a Lôn Parcwr, safleoedd depo Rhuthun a chyfleusterau lles, cerbydau a storio offer newydd yn nepo Gerddi Botaneg y Rhyl.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn:

 

(a)       nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2022/23 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb;

 

(b)       cymeradwyo’r cyfleusterau storio halen newydd yn safleoedd depos Corwen a Lôn Parcwr, Rhuthun fel y nodir yn Adran 6.9 ac Atodiad 5 yr adroddiad, a

 

(c)       chymeradwyo datblygu ac adeiladu cyfleusterau lles, storio cerbydau a chyfarpar newydd yng Ngerddi Botanegol y Rhyl, fel y nodir yn Adran 6.9 ac Atodiad 5 yr adroddiad.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad oedd yn cynnwys manylion am y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, gan dynnu sylw at yr ansicrwydd ariannol cyfredol a’r argymhelliad bod y Cabinet yn cymeradwyo dau achos busnes.

 

Rhoddwyd crynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn -

 

·         y gyllideb refeniw net ar gyfer 2022/23 oedd £233.696 miliwn (£216.818 miliwn yn 2021/22)

·         rhagwelir y byddai gorwariant o £1.953 miliwn ar gyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol

·         tynnwyd sylw at y risgiau a thybiaethau presennol yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd gwasanaeth unigol ynghyd ag effaith Coronafeirws a chwyddiant

·         manylion am arbedion gwasanaethau a chynnydd mewn ffioedd a thaliadau (£0.754 miliwn); ni ofynnwyd am arbedion gan Wasanaethau Cymorth Cymunedol nac Ysgolion

·         rhoddwyd diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Rheoli’r Trysorlys a’r Cynllun Cyfalaf a chafwyd diweddariad ar brosiectau mawr.

 

Eglurodd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo fod yr adroddiad wedi’i baratoi ar gyfer y Cabinet ar 20 Medi a bod rhai ffigurau wedi newid, ond byddai’r Cabinet yn cael diweddariad pellach ym mis Hydref. Tynnodd sylw at y pwysau ar y gyllideb mewn Gwasanaethau Plant a lleoliadau y tu allan i’r sir ac yn y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol, ac mai ychydig o gronfeydd wrth gefn arian parod oedd ar ôl i ariannu pwysau yn ystod y flwyddyn. Byddai unrhyw symudiadau yn y dyfodol yn debygol o ddangos fel gorwariant. Rhoddodd y Cynghorydd Gill German sicrwydd bod llawer o waith yn cael ei wneud i ymdrin â phwysau yn y gyllideb a achoswyd gan leoliadau y tu allan i’r sir, a bod cynlluniau ar waith. Cyfeiriodd yr Arweinydd at oblygiadau cyllideb Llywodraeth y DU ar gyllid Llywodraeth Cymru gyda phwysau anferthol ar gyllidebau wrth symud ymlaen. Roedd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo yn rhannu’r pryderon hyn a’r effaith ar osod y gyllideb yn y dyfodol, roedd y wybodaeth ddiweddaraf wedi’i drefnu ar gyfer Sesiwn Friffio’r Cabinet.

 

Gofynnwyd i’r Cabinet gymeradwyo dau achos busnes yn ymwneud â chyfleusterau storio halen newydd yn safleoedd depo Corwen a Lôn Parcwr, Rhuthun a chyfleusterau lles, storio cerbydau a chyfarpar newydd yn nepo Gerddi Botaneg y Rhyl, oedd wedi cael eu hadolygu a’u cefnogi gan y Bwrdd Cyllideb. Rhoddodd y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol Dros Dro drosolwg o’r achosion busnes a’r rhesymeg y tu ôl i’r cais a’r angen i fuddsoddi yn yr asedau hyn. Roedd y Cynghorwyr Gwyneth Ellis a Barry Mellor wedi ymweld â’r cyfleusterau ac yn llwyr gefnogi’r buddsoddiad arfaethedig.  Ystyriodd y Cabinet bob achos busnes ar wahân -

 

·         Cyfleusterau storio halen newydd yn safleoedd depo Corwen a Lôn Parcwr, Rhuthun

 

Ystyriodd y Cabinet y cynnig i ddatblygu cyfleusterau storio halen newydd yn lle’r adeiladau dros dro yng Nghorwen a chreu cyfleusterau newydd pwrpasol yng Nghorwen a Lôn Parcwr. Derbyniwyd nad oedd y systemau storio a draenio presennol yn addas i bwrpas ac nad oeddent yn cydymffurfio â chanllawiau presennol. Eglurwyd bod y cynnig yn cynnwys gwella’r safleoedd presennol ac nid symud y cyfleusterau. Roedd y Cabinet yn cefnogi’r buddsoddiad cyfalaf i wella’r cyfleusterau i ymdrin â’r problemau a godwyd a hefyd sicrhau gwelliannau sylweddol i gyfleusterau lles, storio cerbydau a chyfarpar a lleihau effeithiau amgylcheddol. Ynglŷn â Chorwen, nodwyd y byddai’r adeilad newydd yn galluogi i’r cerbydau gael eu cadw ar y safle gan hwyluso effeithlonrwydd gweithredol ac amgylcheddol.

 

·         Cyfleusterau lles, storio cerbydau a chyfarpar newydd yn Nepo Gerddi Botaneg y Rhyl

 

Ystyriodd y Cabinet y cynnig i ddatblygu ac adeiladu cyfleusterau lles, storio cerbydau a chyfarpar newydd ynghyd ag ad-drefnu gweddill y safle er mwyn codi adeiladau yn lle’r rhai dros dro sydd yno ar hyn o bryd.     Nodwyd nad oedd yr adeiladau presennol yn addas i bwrpas ac nad oedd modd eu hatgyweirio’n economaidd, roedd rhai eisoes wedi cael eu dymchwel oherwydd pryderon sylweddol am eu diogelwch. Cyfeiriwyd at waith adeiladu Cam 1 oedd wedi dechrau ar y safle, ac roedd yr achos busnes yn canolbwyntio ar Gam 2 er mwyn parhau â’r gwaith gwella ar y safle. Roedd y Cabinet yn ystyried ei bod yn hanfodol bod gan staff gyfleusterau priodol yn eu man gwaith. 

 

I grynhoi, nododd y Cabinet y buddsoddiad cyfalaf sylweddol arfaethedig yng nghyfleusterau'r cyngor o dros £3.5 miliwn am y ddau brosiect gyda’i gilydd er budd y sir, i wella cyfleusterau i staff, creu effeithlonrwydd ac effeithio’n bositif ar bryderon amgylcheddol, ac felly roeddent yn cefnogi’r ddau achos busnes yn llawn.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn:

 

(a)       nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2022/23 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb;

 

(b)       cymeradwyo’r cyfleusterau storio halen newydd yn safleoedd depos Corwen a Lôn Parcwr, Rhuthun fel y nodir yn Adran 6.9 ac Atodiad 5 yr adroddiad, a

 

(c)       chymeradwyo datblygu ac adeiladu cyfleusterau lles, storio cerbydau a chyfarpar newydd yng Ngerddi Botaneg y Rhyl, fel y nodir yn Adran 6.9 ac Atodiad 5 yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: