Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CATEGORÏAU YSGOLION YN ÔL DARPARIAETH CYFRWNG CYMRAEG

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan y Pennaeth Addysg yn amlinellu casgliadau ymgynghoriad diweddar gan Lywodraeth Cymru ar Gategoreiddio Iaith a’i oblygiadau ar gyfer Ysgolion a disgyblion Sir Ddinbych.

 

10:10 – 11:00

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Plant, Addysg a Theuluoedd yr adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw) am ymgynghoriad Llywodraeth Cymru am gategoreiddio’r Gymraeg yn unol â’i uchelgais o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, gan amlinellu goblygiadau posibl ar gyfer ysgolion a disgyblion Sir Ddinbych.

 

Eglurodd y Pennaeth Addysg bod ysgolion yng Nghymru wedi’u dosbarthu i bump categori ers 2007, yn amrywio o gyfrwng Saesneg, cyfrwng Saesneg gyda defnydd sylweddol o’r Gymraeg, dwyieithog a chyfrwng Cymraeg.  Fe fydd yna dri chategori newydd o dan y system newydd arfaethedig yn y sector cynradd.   Roedd yna gydnabyddiaeth y gallai’r categorïau fod yn ddryslyd.

Categori newydd 1:            Iaith Saesneg (categori 5 yn hanesyddol)

Categori newydd 2: Dwyieithog

Categori newydd 3:            Cyfrwng Cymraeg (categori 1 yn flaenorol)

Fe fydd yna is-gategori rhwng pob un o’r categorïau hynny i ysgolion eu defnyddio yn ystod y cyfnod pontio.  Mae mwyafrif yr ysgolion yn Sir Ddinbych eisoes yn disgyn mewn i un o’r tri chategori.

 

Yn unol ag uchelgais Gymraeg Llywodraeth Cymru, byddai hyd yn oed disgwyl i ysgolion yng nghategori 1 (cyfrwng Saesneg) ddarparu 15% o gwricwlwm addysg ac allgyrsiol) trwy gyfrwng y Gymraeg fel isafswm.

 

Byddai’r ychydig ysgolion arferai fod yng nghategori 4 - yn darparu rhwng 20% a 50% o addysg yn Gymraeg - yn cael eu rhoi mewn i gategori pontio am hyd at 6 mlynedd tra’u bod yn paratoi i fod yn lleoliad dwyieithog.

 

Un o brif egwyddorion cyflwyno’r trefniadau newydd yw na ddylai ysgolion gynnig llai o ddarpariaeth Gymraeg yn y dyfodol na’r hyn a gynigiwyd yn y gorffennol.

 

Yn y sector uwchradd fe fydd yna 3 chategori newydd, ond byddai Categori 3 cyfrwng Cymraeg yn cael ei rannu mewn i ddau is-gategorïau. 

 

          Categori 3:              Cyfrwng Cymraeg

          Categori 3P:            Cyfrwng Cymraeg ddynodedig

 

Erbyn mis Ionawr 2024 rhagwelwyd y bydd categorïau yn y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion, ffurflen statudol y mae’n rhaid i ysgolion ei llenwi ar gyfer Llywodraeth Cymru, wedi newid ac na fydd y categorïau presennol yn bodoli.

 

Petai yna newidiadau sylweddol o dan y broses aildrefnu - newid a reoleiddir o dan adran 42 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 - byddai’n rhaid i’r cynigion fod yn destun ymgynghoriad.  Byddai’r cynlluniau yn cael eu monitro yn rhan o waith Grŵp Strategol Addysg Gymraeg.   Roedd y Grŵp yma’n cynnwys dau aelod arweiniol a dau gynrychiolydd o’r Pwyllgorau Craffu. 

 

Fe ailadroddodd Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth bwysigrwydd y mesur i gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Roedd adnoddau wedi cael eu gweithredu i gynorthwyo staff addysgu i wella eu sgiliau Cymraeg, yn cynnwys cwrs sabothol Cymraeg 12 mis o hyd sy’n cael ei ddarparu gan Brifysgol Bangor. Mae’r cwrs hwn yn dysgu Cymraeg yn ogystal â’r fethodoleg o addysgu Cymraeg mewn ysgol, ac i allu sgwrsio yn Gymraeg yn rhan o fywyd dyddiol arferol mewn ysgolion. 

 

Mae’r Gweinidog Addysg a’r Gymraeg wedi cyhoeddi y bydd gwersi Cymraeg i athrawon yng Nghymru yn cael eu darparu yn rhad ac am ddim yn ogystal â phobl ifanc 18 i 24 oed sydd yn dymuno parhau i wella eu sgiliau iaith.

 

Roedd Pennaeth profiadol bellach ar secondiad am y flwyddyn academaidd i weithio ar Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, oedd yn cynnwys ail gategoreiddio ysgolion, ac roedd swyddi pellach wedi cael eu hariannu trwy neilltuo cyllid grant i gynorthwyo â’r trefniadau pontio i ysgolion.

 

Fe gydnabyddir fod yna adegau pan nad oes gan rieni plant unrhyw wybodaeth am y Gymraeg, ond mae’n bwysig rhannu gohebiaeth o’r Grŵp Strategol Cymraeg mewn Addysg gan dynnu sylw at ofyniad gan nifer o sefydliadau (e.e. Heddlu Gogledd Cymru) i feddu ar lefel benodol o Gymraeg ar gyfer eu polisïau cyflogaeth er mwyn cael cefnogaeth y rhieni. 

 

Fe fydd gan Grŵp Strategol Cymraeg mewn Addysg, gan weithio mewn partneriaeth gyda Menter Iaith, Popeth Cymraeg, Yr Urdd, Mudiad Meithrin, rôl i’w chwarae yn hyrwyddo a darparu dosbarthiadau Cymraeg i oedolion. Roedd yna gyfleusterau o fewn llyfrgelloedd Sir Ddinbych i ddysgwyr Cymraeg, yn blant ac oedolion.

 

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cymeradwyo Cynllun Cymraeg mewn Addysg 10 mlynedd y Cyngor ym mis Gorffennaf 2022.  Serch hynny, mae’n rhaid cyflwyno cynllun gweithredu am weithredu’r cynllun i Lywodraeth Cymru erbyn diwedd mis Rhagfyr 2022. Fe fydd yna amserlenni a cherrig milltir hollbwysig yn y cynllun gweithredu, a bydd angen adrodd yn flynyddol ar y rhain.

 

Efallai y bydd yna oblygiadau o ran cludiant cyfrwng Cymraeg. Roedd Sir Ddinbych yn gweithredu o dan Fesur Teithio gan Ddysgwyr a oedd yn debygol o gael ei ddiwygio gan Lywodraeth Cymru gan symud ymlaen i gydweddu gyda’r newidiadau mewn categorïau.  Bydd yr Awdurdod angen cyhoeddi canllawiau eglurhaol newydd o ran lle mae Polisi Cludiant Sir Ddinbych yn ffitio - bydd categorïau 1 a 2 yn hanesyddol ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg yn newid i gategori 3 - nes bod y Polisi Cludiant Dysgwyr yn cael ei ddiwygio.  Bydd unrhyw newidiadau a fyddai’n cael effaith amlwg ar gludiant ysgol angen cael ei gyflwyno i’r pwyllgor craffu.

 

Ar ddiwedd trafodaeth fanwl:

 

Penderfynwyd:- derbyn y wybodaeth a ddarparwyd, yn amodol ar yr uchod, a –

 

(i)     cydnabod y newidiadau y bydd eu hangen yn rhai o ysgolion y sir wrth symud ymlaen os ydi’r Awdurdod yn mynd i sicrhau cydymffurfiaeth â gweledigaeth a gofynion Llywodraeth Cymru o ran darpariaeth addysg Gymraeg; a

(ii)    bod adroddiad cynnydd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn hydref 2023 yn amlinellu’r gwaith cynllunio a gweithredu sydd wedi’i wneud hyd yn hyn o ran darparu Cwricwlwm a darpariaeth allgyrsiol cyfrwng Cymraeg yn ysgolion y Sir yn unol â gweledigaeth Llywodraeth Cymru.

 

 

Ar y pwynt hwn, gyda chytundeb y Pwyllgor, cafodd trefn y busnes ar raglen y cyfarfod ei amrywio gydag eitem 7, adroddiad ‘Rhaglen Waith Craffu’ y Pwyllgor, yn cael ei drafod cyn eitem 6 ‘Diweddariad Canolfan Ddydd Hafan Deg’.

 

 

Dogfennau ategol: