Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

HAFAN DEG, Y RHYL

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan y Rheolwr Gwasanaeth, Cymorth Busnes a Chymunedau  ar effeithiolrwydd trosglwyddo’r cyfleuster a’r gwasanaethau i ddarparwr allanol, KL Care, gan gynnwys cynnydd y darparwr o ran datblygu ac ehangu’r gwasanaethau sydd ar gael yn y ganolfan, a’r gwersi a ddysgwyd o Covid-19.

11:00 – 11:30

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth, Cymorth i Fusnesau a Chymunedau yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) a oedd yn ddiweddariad am effeithiolrwydd trosglwyddo’r cyfleuster a’r gwasanaethau a ddarperir yng nghanolfan ddydd Hafan Deg i ddarparwr allanol, gan ganolbwyntio ar y sefyllfa ar ôl y pandemig ac edrych ar y pwyllgor craffu i gefnogi i barhau â chynlluniau ar gyfer y Gwasanaeth ac ymarfer monitro rheolaidd.

 

Clywodd y Pwyllgor bod Hafan Deg wedi cau ar gyfer busnes yn ystod y pandemig ond mae bellach wedi ailagor, mae’n gwbl weithredol ac yn boblogaidd ymysg dinasyddion.  Roedd yna rai meysydd a nodwyd i’w gwella yn unol â lleoliadau gofal cymdeithasol eraill.  Mae’r Cyngor yn bwriadu gweithio gyda’r darparwr i wella a datblygu’r gwasanaeth.  Yn y cyfamser, parhaodd y Tîm Contractau â’r gwaith monitro parhaol o ddarpariaeth gwasanaeth KL Care Ltd. yn Hafan Deg.

 

Dywedodd cynrychiolydd o’r darparwr gwasanaeth a oedd yn bresennol wrth y pwyllgor bod niferoedd presenoldeb ychydig yn is nag arfer ar hyn o bryd oherwydd salwch.  Roedd gwaith yn mynd rhagddo i ail ymgysylltu â bwytai archfarchnad lleol i gynnig teithiau cinio a the prynhawn i gleientiaid ac roedd disgwyl trefniant ar gyfer swper Nadolig yn fuan.

 

Gan ymateb i gwestiynau’r pwyllgor, dywedodd swyddogion:

·       Cafodd y ganolfan ddydd ei gontractio allan yn wreiddiol yn 2018 yn sgil pryderon dros effeithiolrwydd cost gan nad oedd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio’n llawn ac roedd angen gwaith cynnal a chadw.  Cytunwyd y byddai pwy bynnag a fyddai’n rhedeg y gwasanaeth hefyd yn derbyn prydles yr adeilad ac yn ei ddefnyddio fel canolfan gymunedol yn ogystal â’r gwasanaeth canolfan ddydd.

·       Roedd y ganolfan ddydd ar agor ar ddydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Gwener ar hyn o bryd - rhwng 10:30am a 3:30pm.

·       Roedd gan y ganolfan fws mini a oedd yn cael ei ddefnyddio i gasglu dinasyddion yn rhad ac am ddim i ddod i’r ganolfan ddydd.

·       Roedd y gwasanaeth bws mini yn gweithio i’w gapasiti llawn. Roedd yn casglu cleientiaid o’r Rhyl a Phrestatyn.  Fe awgrymwyd defnyddio Deialu a Theithio os nad oedd seddi ar gael yn y bws mini.

·       Roedd y ganolfan yn cynnig y cyfleuster i ymolchi cleientiaid ond nid oedd y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio’n aml.

·       Gallai’r ganolfan ddydd derbyn 25 o gleientiaid yn gyfforddus heb orfod cael staff ychwanegol, ar y pryd roedd yna 10 o gleientiaid ar gyfartaledd yn mynychu’r ganolfan ddydd.

·       Roedd y contract ar gyfer y ganolfan gofal dydd am 5 mlynedd i ddechrau, roedd gwaith yn parhau i ymestyn ei ddefnydd  trwy gydol y gymuned.  Byddai penderfyniad yn cael ei wneud yn y 6 mis nesaf ynglŷn â sut i symud ymlaen gyda’r contract.

·       Cyn Covid, roedd taflenni’n cael eu gadael mewn meddygfeydd teulu er mwyn hyrwyddo’r gwasanaeth yn y ganolfan ddydd, cytunwyd i ailgychwyn hyn.

·       Roedd yna bris penodol a gytunwyd ar gyfer y gwasanaeth gofal dydd, sef £54.60 fesul person, fesul diwrnod, a £6.00 am brydau a lluniaeth.  Fe ffurfiodd hyn rhan o’r contract rhwng y Cyngor a’r darparwr ac roedd yn unol â’r ffioedd a osodwyd yn rhanbarthol ar gyfer gwasanaethau gofal dydd.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth, diolchodd y Pwyllgor i’r cynrychiolydd o KL Care am ddod i’r cyfarfod ac am ateb eu cwestiynau.  Yna:

 

Penderfynodd:- yr aelodau yn amodol ar yr uchod i –

 

(i)             dderbyn y wybodaeth a ddarparwyd;

(ii)  gofyn i aelodau etholedig gael adroddiad gwybodaeth am y cefndir i’r penderfyniad i gontractio gwasanaethau gofal dydd allan yn Hafan Deg; a

(iii)                  cefnogi’r gwaith o ymarfer monitro chwarterol, gyda bwriad o sicrhau bod cynlluniau ar gyfer y Ganolfan yn cael eu darparu a bod cerrig milltir allweddol yn cael eu cyrraedd.

 

Dogfennau ategol: