Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYDWEITHIO RHANBARTHOL AR DDATBLYGIAD ECONOMAIDD

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Adfywio Strategol (copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r Pwyllgor gefnogi datblygu strategaeth i wella perfformiad economaidd Gogledd Cymru a sefydlu Bwrdd i oruchwylio cyflawniad y strategaeth.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Adfywio Strategol (SRM) adroddiad (dosbarthwyd o flaen llaw) yn amlinellu datblygiad strategaeth i ymdrin â pherfformiad cymharol economi Gogledd Cymru mewn cymhariaeth gyda rhannau eraill o Gymru a’r DU, a sefydliad Bwrdd gan chwe awdurdod unedol y rhanbarth a fydd yn arolygu gweithrediad y strategaeth. Roedd gan economi Gogledd Cymru lefel isel o gynhyrchiant (71% o gyfartaledd y DU), lefelau isel o ran sefydlu busnesau newydd a lefelau uchel o ddiweithdra ymhlith ieuenctid. 

 

Roedd yr adroddiad yn edrych ar sut oedd y chwe awdurdod unedol yn ymwneud â rhanddeiliaid eraill a’r sector gwirfoddol.  Roedd cynnig i gael siarter fusnes ac i adfywio’r ymagwedd at fewnfuddsoddiad.    

 

Roedd tair thema wedi codi o’r gweithdai a’r trafodaethau a gynhaliwyd ar draws y rhanbarth, ac roedd cynnig i ganolbwyntio ar y themâu hyn a’u hymgorffori mewn cynllun gweithredu. Dyma’r themâu:-

 

  • Sector yr Amgylchedd ac Ynni
  • Gweithgynhyrchu uwch
  • “Cyrchfan Gogledd Cymru” – sut i hyrwyddo’r ardal

 

Tasg gyntaf y Bwrdd fyddai datblygu Cynllun Busnes, ac wrth gyd-weithio, byddai gan y chwe awdurdod lais cryfach ac unedig.   Yn nhermau symud y gwaith yn ei flaen, roedd yr adroddiad i’w gyflwyno i’r Cabinet ar 17 Gorffennaf 2012.   Roedd y pum awdurdod lleol arall hefyd yn cyflwyno eu hadroddiadau gerbron eu Cabinetau amrywiol.

 

Byddai Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn cynnwys aelodau etholedig o bob awdurdod; roedd hi’n ymddangos mai deilydd y portffolio gyda chyfrifoldeb am adfywio fyddai’r aelod mwyaf priodol i wasanaethau ar y Bwrdd.  Byddai disgwyl i bob aelod Cyngor ar y Bwrdd gyfathrebu gwybodaeth ar waith a thrafodaethau’r Bwrdd i’w hawdurdod eu hunain. Pe byddai Cyngor Sir Ddinbych, wrth benderfynu ar ei flaenoriaethau corfforaethol i dymor y Cyngor newydd yn penderfynu bod uchelgais economaidd yn mynd i fod yn un o’i flaenoriaethau, byddai’n debygol o sefydlu bwrdd rhaglen fewnol, ac mae’n bosibl y gallai aelodau craffu wasanaethu ar y bwrdd mewnol hwnnw.  

 

Cododd yr Is-Gadeirydd gwestiwn, sef a oedd modd ystyried Parc Busnes Llanelwy yn llwyddiant. Nododd ei bod yn ymddangos bod hanner yr unedau busnes yn wag a bod 50,000 metr sgwâr o ofod ar gael i’w osod.  Roedd cwmnïau yn wreiddiol wedi symud i’r parc ar ôl cael eu denu gan arian grant, ond pan ddaeth yr arian grant i ben, roedd rhai cwmnïau wedi adleoli. Roedd angen dirfawr i annog cwmnïau preifat i ymsefydlu yn yr ardal, i annog sefydliad a thwf busnesau lleol a hybu cyfleoedd gwaith i bobl ifanc.

 

Cadarnhaodd y SRM y byddai’r ymagwedd a oedd yn cael ei chynnig yn ymdrin â’r materion canlynol:-

 

  • A oedd adeiladau ar gael ac yn y lleoliadau mwyaf priodol
  • A oedd y seilwaith angenrheidiol ar gael
  • Roedd ar ddarpar gyflogwyr angen gwybod os oedd bobl ar gael gyda’r sgiliau perthnasol, ayyb.

 

Cytunodd y Pwyllgor ei fod am weld ymagwedd holistig yn cael ei datblygu at ddatblygiad economaidd, a oedd yn ystyried anghenion lleol, edrych ar seilwaith y rhanbarth, y sgiliau sydd ar gael, a’r cyfleoedd sydd ar gael er mwyn adeiladu arnynt a gwella sgiliau (yn enwedig sgiliau a chymwysterau bobl ifanc). Dylid rhoi mwy o bwyslais yn y dyfodol ar ddenu buddsoddiad sector preifat ac ar gefnogi pobl/busnesau lleol i ystyried sefydlu neu ehangu eu busnesau fel bod ystod llawer ehangach o gyfleoedd ar gael i bobl o bob oedran yn yr ardal.  Ymhellach, roedd angen cydbwysedd rhwng mewnfuddsoddiad, uchelgais, blaengaredd a rheoleiddio er mwyn datblygu economi cynaliadwy yn y tymor hir. Roedd teimladau cryf bod rheoleiddio ar hyn o bryd yn mygu busnesau preifat a blaengaredd.

 

Penderfynwyd yn amodol ar yr uchod, bod y Pwyllgor yn cefnogi:-

 

(a)               egwyddorion y ddogfen Uchelgais Economaidd – Strategaeth ar gyfer Newid fel y’u cyflwynwyd gyda’r adroddiad;

(b)               y cynnig i ffurfio’r Bwrdd Uchelgais Economaidd a’i gyfansoddiad drafft fel y nodir yn atodiad 2 i’r adroddiad; ac 

(c)               y dylid darparu diweddariad ar y ddogfen Strategaeth ar gyfer Newid a sefydliad y Bwrdd Uchelgais Economaidd Rhanbarthol i’r Pwyllgor yn gynnar yn 2013.

 

 

Dogfennau ategol: