Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

PROSIECT DOLYDD BLODAU GWYLLT

Ystyried adroddiad gan Swyddog Ecoleg y Cyngor (copi ynghlwm) sy’n gofyn i’r Pwyllgor arfarnu effeithiolrwydd y mesurau a gymerwyd i ymgysylltu’n well a chynyddu cyhoeddusrwydd ynghlwm â’r prosiect.

 

11am – 11.45am

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Amgylchedd a Chludiant, y Cynghorydd Barry Mellor adroddiad sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ochr yn ochr â Phennaeth Dros Dro Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Swyddog Ecoleg y Cyngor.

 

Mae’r Prosiect Blodau Gwyllt yn brosiect cydweithredol rhwng y Tîm Bioamrywiaeth, Gwasanaethau Stryd ac adrannau eraill y Cyngor, sy’n anelu i greu dolydd lleol trefol a lled-drefol drwy drefn ‘torri a chasglu’ llai. Ystyriwyd y prosiect hwn yn hanfodol i derfynu a gwrthdroi colled bioamrywiaeth ac i fynd i’r afael ag Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol.

 

Nod yr adroddiad oedd darparu gwybodaeth am effeithiolrwydd y camau a gymerwyd i wella ymgysylltu a rhoi mwy o gyhoeddusrwydd i holl fudd-ddeiliaid y Prosiect Blodau Gwyllt. 

 

Fe wnaeth y Cadeirydd ddiolch i'r swyddogion am fod yn bresennol, gan fod y mater wedi'i drafod o’r blaen yn y Pwyllgor Craffu Cymunedau, a bod y materion a godwyd bryd hynny wedi cael sylw ac wedi gwella'n sylweddol.

 

Amlygodd y Swyddog Ecoleg y prif bwyntiau a godwyd yn flaenorol, gan gynnwys yr angen i wella cyfathrebu ac ymgynghori. Eglurodd ei fod ef a swyddogion eraill wedi cyfathrebu ag aelodau etholedig ar bob lefel a bod y wefan wedi'i diweddaru. Yn ogystal, roedd gohebiaeth a anfonwyd at breswylwyr bellach yn cynnwys manylion cyswllt swyddogion. Bu hwb hefyd ar y cyfryngau cymdeithasol a chyda'r wasg leol yn amlygu pwrpas a manteision y prosiectau blodau gwyllt. Roedd teithiau wedi'u trefnu ar gyfer aelodau etholedig o rai o'r dolydd blodau gwyllt ar draws y sir.

 

Trafododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol yn fwy manwl –

 

·         Roedd dryswch ymhlith yr aelodau gan fod rhai dolydd blodau gwyllt wedi cael eu torri, megis ardal yn Rhewl ac o amgylch ardal Dinbych. Holwyd pam na chafodd yr aelodau etholedig wybod am y mater cyn i'r gwaith torri gael ei wneud er mwyn iddynt allu lleddfu unrhyw bryderon a godwyd gan y cyhoedd, ac a oedd unrhyw ddiffyg cyfathrebu mewnol wedi arwain at hynny. Dywedodd swyddogion fod gwaith ar y gweill i fireinio'r polisi torri gwair priffyrdd. Gwnaethant hefyd egluro y cafodd llawer o ardaloedd eu torri cyn Eisteddfod yr Urdd yn Ninbych, rhai gan drigolion eu hunain a oedd am ‘dacluso’ y llwybrau a oedd gerllaw’r ŵyl.

·         Y defnydd o wirfoddolwyr ac a oedd gan y prosiect ddigon o adnoddau i’w gynnal yn yr hirdymor – roedd tua 50% o’r adnoddau staffio sy’n gweithio ar y prosiectau yn cael eu hariannu drwy gyllid grant ar sail 12 mis, a amlygodd y Swyddog Ecoleg ei fod yn her o ran cynllunio gwaith hirdymor a chynaliadwyedd yn y dyfodol.

·         Cododd y Pwyllgor bryderon ynghylch diogelwch tân, yn enwedig gan fod y flwyddyn wedi bod yn boethach ac yn sychach nag arfer. Cytunodd y Swyddog Ecoleg fod y flwyddyn wedi bod yn boethach nag arfer. O ganlyniad, cysylltodd y tîm â'r Gwasanaeth Tân a'r Tîm Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol i drefnu hyfforddiant diogelwch tân ac asesu risg tân. Yn y dyfodol, byddai pob safle yn destun asesiad risg tân yn fisol.

·         Awgrymodd y Pwyllgor y dylid defnyddio llwyddiant y dolydd blodau gwyllt at ddibenion twristiaeth; roedd y prosiect yn gyflawniad pwysig i Sir Ddinbych a gallai ddenu pobl i'r ardal ac addysgu'r rhai a ddaeth i'r sir. Sicrhaodd swyddogion yr aelodau fod hyn yn rhywbeth yr oedd swyddogion yn bwriadu mynd ar ei drywydd.

·         Codwyd ymgysylltu ag ysgolion a thenantiaid tai a thenantiaid busnes/diwydiant Sir Ddinbych, ac a fu unrhyw ymdrech i’w cael i blannu ardaloedd o flodau gwyllt mewn caeau/gerddi/tir ysgol. Ymatebodd y Swyddog Ecoleg, gan ddweud bod logo prosiect y dolydd blodau gwyllt wedi'i ddylunio gan ddisgyblion ysgol Sir Ddinbych; roedd tua 55 o sesiynau plannu hadau wedi’u cynnal gydag ysgolion fel rhan o’r fenter ‘gwestai gwenyn’. Roedd disgyblion yn awyddus i gymryd rhan yn y sesiynau hyn. Roedd y Swyddog Ecoleg mewn cysylltiad â'r Adran Tai a oedd yn awyddus iawn i fod yn rhan o'r prosiect yn y dyfodol. Awgrymodd y Pwyllgor hefyd y dylid cysylltu â chymdeithasau tai/landlordiaid cymdeithasol cofrestredig sy’n gweithredu yn y sir gyda’r bwriad o’u cael i gymryd rhan yn y prosiect.

·         Codwyd amrywiaeth y planhigion a fyddai'n tyfu ar safleoedd dolydd blodau gwyllt; eglurodd y Swyddog Ecoleg y byddai rhai planhigion yn tyfu ac yn sefydlu eu hunain ar gyfraddau gwahanol yn dibynnu ar fath ac ansawdd y pridd yn yr ardal. Roedd planhigfa Green Gates yn Llanelwy yn allweddol i sicrhau llwyddiant y prosiect gan y byddai meithrin a gofalu am yr hadau a heuwyd yno yn caniatáu i fwy o blanhigion ‘deniadol’ gael eu plannu yn gynt.  Ers iddi agor, mae 5,000 o goed a 10,000 o blanhigion blodau gwyllt wedi cael eu tyfu yn y blanhigfa cyn cael eu trawsblannu mewn coetiroedd a dolydd blodau gwyllt ar draws y sir.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth, wrth grynhoi barn y Pwyllgor, pwysleisiodd y Cadeirydd bwysigrwydd cryfhau’r agweddau canlynol gyda’r bwriad o sicrhau llwyddiant ac ehangiad parhaus y Prosiect:

 

·         cyfathrebu effeithiol gyda’r holl fudd-ddeiliaid.

·         gweithio gydag Adran Tai’r Cyngor, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig lleol, busnesau a thenantiaid eiddo domestig ac eiddo diwydiannol i’w perswadio i gymryd rhan yn y Prosiect;

·         addysgu trigolion o bob oed am ddiben a buddion hirdymor y prosiect (gan gynnwys defnyddio aelodau etholedig fel sianel i hysbysu ac addysgu eu preswylwyr); ac

·         archwilio manteision posibl o hyrwyddo dull y Cyngor o ddatblygu dolydd blodau gwyllt fel rhan o’r cynnig twristiaeth sydd ar gael i bobl sy’n ymweld â’r sir.

 

Ar ddiwedd trafodaeth drylwyr:

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar y sylwadau uchod -

 

(i)    bod y Pwyllgor yn cadarnhau ei fod yn hapus gyda’r camau a gymerwyd i wella ymgysylltu a chynyddu cyhoeddusrwydd, ynghyd â’r cynnydd a wnaed hyd yma i gyflawni budd y prosiect; a

(ii)  bod y pwyllgor yn addo ei gefnogaeth barhaus i'r Prosiect.

 

 

Dogfennau ategol: