Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYTUNO AR GYNLLUN AR Y CYD AR GYFER DARPARU GWASANAETHAU CYMORTH IECHYD MEDDWL SYLFAENOL LLEOL

Ystyried adroddiad ar y cyd gan Bennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Busnes a Phennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd (copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r Pwyllgor ystyried y gofyniad i gael cynllun a gytunwyd ar gyfer darparu Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol yn unol â’r ddeddfwriaeth, a’r trefniadau i ddatblygu a chytuno cynllun rhanbarthol i’r diben hwn.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes (HABS) adroddiad (a ddosbarthwyd o flaen llaw) i’r Pwyllgor gael gytuno ar gynllun ar y cyd ar gyfer darparu Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol (LPMHSS) yng Ngogledd Cymru, yn ôl gofynion Rhan 1 Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010. Cyflwynodd HABS Gyfarwyddwr Cynorthwyol Datblygiad Partneriaeth Cymunedol, BCUHB, (AD:CPD) Wyn Thomas a oedd yn arwain y cynllun ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB) a Phennaeth Gwasanaethau Plant a Theulu (HCFS) a oedd hefyd yn ymwneud â’r cynllun.   

 

Rhoddodd AD:CPD grynodeb o’r adroddiad. Nid oedd y Mesur yn ymdrin â derbyn a thrin pobl yn orfodol, ond yn hytrach yn ymdrin â phrosesau asesu a derbyn gofal a thriniaeth o fewn gwasanaethau iechyd sylfaenol ac eilaidd. Roedd y Mesur i fod i gryfhau rôl gofal sylfaenol   gyda’r gwaith o ddarparu gofal a thriniaeth iechyd meddwl effeithiol ac yn nodi’r gofyniad y byddai LPMHSS yn cael ei ddarparu trwy Gymru erbyn Hydref 2012.

 

Roedd y Mesur mewn pedair rhan:- 

 

Rhan 1 – Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol (LPMHSS) (Hydref 2012)

Rhan 2 – Cydlynu gofal a chynllunio gofal a thriniaeth (Mehefin 2012)

Rhan 3 – Asesiadau o gyn-ddefnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl (Mehefin 2012)

Rhan 4 – Eiriolaeth Iechyd Meddwl (Ionawr ac Ebrill 2012).

 

Roedd yr adroddiad a gyflwynwyd yn ymwneud â Rhan 1 o’r Mesur.

 

Roedd Awdurdodau Lleol ar draws Gogledd Cymru yn cyd-weithio gyda BCU ar y Mesur hwn. Codwyd nifer o gwestiynau ar agweddau amrywiol o’r wybodaeth a gyflwynwyd o fewn yr adroddiad gan aelodau, ac ymatebodd swyddogion fel a ganlyn:- 

 

Ø      Rhoddodd AD:CPD esboniad ynghylch lefelau staffio. Roedd y strwythur eisoes yn ei le yng Nghonwy a Sir Ddinbych i gynorthwyo gyda’r Mesur, ond nid dyna’r sefyllfa yng Ngwynedd.  Roedd y canllawiau yn nodi bod angen 1 gweithiwr i bob 20,000 o boblogaeth. Felly nid oedd Conwy a Sir Ddinbych angen nifer fawr o staff newydd gan fod y model angenrheidiol i bob pwrpas eisoes ar fod; fodd bynnag, roedd Gwynedd angen nifer o staff newydd.

Ø      Cadarnhaodd AD:CPD bod ymgynghoriad wedi digwydd gyda rhanddeiliaid amrywiol ynghylch y Mesur yn ei gyfanrwydd, gan gynnwys rhai defnyddwyr gwasanaeth, ac roedd gweithrediad arfaethedig Gogledd Cymru wedi’i gynnwys fel rhan o’r ymgynghoriad. Roedd y Cynllun drafft a’i weithrediad yn ofyniad deddfwriaeth Llywodraeth Cymru (LlC) ac roedd LlC wedi datblygu model gwasanaeth cenedlaethol ar LPMHSS. Roedd rhai defnyddwyr gwasanaeth yn aelodau o’r Bwrdd Prosiect ac felly byddai modd pasio unrhyw wybodaeth ymlaen o’r cyfarfodydd hynny.  Roedd y posibilrwydd o ymgynghoriad ymhellach gyda defnyddwyr gwasanaeth yn cael sylw, ac roedd adolygiad llawn ar y gweill. Byddai’r Cynllun ei hunan yn cael ei adolygu yn chwarterol gan Iechyd Meddwl Cydweithredol Gogledd Cymru.

Ø      Nododd Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theulu (HCFS) ei fod o brofiad yn ymwybodol bod defnyddwyr gwasanaeth wedi bod yn rhan o’r broses gyffredinol o lunio’r cynllun. 

Ø      Roedd pwyslais y Cynllun ar ymyrraeth gynnar, gyda’r nod o atal defnyddwyr gwasanaeth rhag cael eu derbyn i ofal; byddai elfen o unrhyw gynlluniau gofal a luniwyd yn cynnwys cyfranogiad aelodau teulu agos a gofalwyr y defnyddwyr gwasanaeth, yn unol â Rhan 2 o’r Mesur. O bryd i’w gilydd, nid oedd rhai defnyddwyr gwasanaeth am i aelodau o’r teulu fod yn rhan o’r broses. Ar y llaw arall, roedd rhai defnyddwyr gwasanaeth yn teimlo’u bod yn gallu ymdopi’n well pe byddai aelodau o’r teulu yn cael chwarae rhan weithredol.  Roedd y gofal gorau yn broffesiynol, ond hefyd yn cynnwys cefnogaeth teulu gan mai’r teulu fyddai’n sylwi ar newidiadau gyda’r defnyddiwr gwasanaeth, waeth pa mor fach fyddai’r newidiadau hynny’n aml. 

Ø      Nododd AD:CPD y dylai’r Mesur ar bapur liniaru peth o’r pwysau ar feddygfeydd meddygon teulu gan fod y Mesur i fod i gynorthwyo meddygon teulu i gael gafael ar driniaeth iechyd meddwl yn gyflymach. Byddai gweithwyr yn treulio amser o fewn Practis y Meddyg Teulu yn asesu ac atgyfeirio achosion. Fodd bynnag, gallai diffyg lle ym meddygfeydd meddygon teulu fod yn broblem, oherwydd os na allai’r meddygon teulu ddarparu’r gwasanaeth o fewn eu hadeiladau, yna byddai’n rhaid darparu’r gwasanaeth rhywle arall.   Byddai gwybodaeth y meddygon teulu a staff y Practis yn gwella o weithio’n agos gyda’r staff a fyddai’n cynnal yr asesiadau. Byddai’r atgyfeiriadau a’r gofynion ar yr LPMHSS a’u gweithgareddau cysylltiol yn cael eu monitro, a phe byddai’r galw’n cynyddu, byddai goblygiadau i’r gwasanaethau.  BCU fyddai’n cynnal y monitro ar y cyd gyda’r awdurdod lleol. Mae BCU ar hyn o bryd yn monitro elfennau o fewn Mesurau amrywiol, gan hysbysu LlC o’r canlyniadau. 

 

Nododd yr Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant bod y Mesur ar y cyfan yn un da. Roedd yn rhagweld y gallai’r Gwasanaeth ar y dechrau adnabod mwy o bobl a fyddai angen y gwasanaethau hyn, yn enwedig o gofio bod pobl yn byw yn hirach, a bod cynnydd yn nifer y bobl sy’n cael diagnosis o Afiechyd Alzheimer. O ganlyniad, roedd hi’n bryderus ynghylch cost potensial hyn a sut y byddai modd ariannu’r gost ar draws y rhanbarth.

 

Nododd yr Is-Gadeirydd bod un ymhob pedwar person yn y sir yn dioddef o broblemau iechyd meddwl, ac y byddai ar feddygon teulu angen hyfforddiant ar y cynllun hwn. Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch cymwysterau gweithwyr a fyddai’n cynnal yr asesiadau, cadarnhaodd yr AD:CPD y byddai’r Bwrdd Iechyd yn cyflogi gweithwyr iechyd cynradd sef nyrsys seiciatrig, gweithwyr cymdeithasol, therapyddion cymwys, ayyb, a oedd wedi’u recriwtio o fewn proffesiynau sydd wedi'u diffinio ac yn meddu ar y cymwysterau gofynnol i gynnal yr asesiadau. Bydden  nhw'n gweithio mewn meddygfeydd meddygon teulu yn rhan amser, o bosibl un diwrnod yr wythnos i asesu anghenion person.  Pe byddai gan berson anghenion iechyd meddwl mwy dwys, bydden nhw'n cael eu hatgyfeirio.  

 

Mewn ymateb i gwestiynau eraill, dywedodd yr AD:CPD:-

Ø      Mewn perthynas â nifer y gwelyau a ddefnyddiwyd o fewn Uned Ablett a oedd yn ward lem lle gallai defnyddiwr gwasanaeth gael gwely am hyd at chwe wythnos, roedd y ffigurau defnyddio yn uchel, 80% ac roedd cryn bwysau ar y defnydd o welyau yno. 

Ø      Roedd Unllais yn fudiad gwirfoddol a roddai gyngor, ac a oedd hefyd yn cynnal hyfforddiant  i fudiadau yn y sector gwirfoddol. Roedd Unllais hefyd yn delio gyda gwasanaethau eiriolaeth ac yn cefnogi ystod o fudiadau eraill. 

Ø      Roedd meddygon teulu yn cael eu hannog i ddefnyddio cyffuriau gwrth iselder yn effeithiol. Roedd gwasanaeth yng Ngogledd Cymru i bobl a oedd yn cymryd cyffuriau ar bresgripsiwn i’w helpu i ddod oddi arnynt yn y pen draw. Ar adegau, rhoddwyd cyffuriau i glaf yn hytrach nag ymyrraeth.

 

Mynegodd y Cadeirydd bryder ynghylch y cymorth a oedd yn cael ei gynnig i ofalwyr gan ofyn a oedd digon o gymorth yn cael ei gynnig.  Esboniodd yr AD:CPD nad oedd y Mesur yn effeithio’n uniongyrchol ar ofalwyr. Er hynny, cyfeiriodd at y Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010, a oedd yn nodi bod yn rhaid i awdurdodau GIG yng Nghymru ddatblygu Strategaethau ar gyfer Gofalwyr a bod yn rhaid i Weinidogion LlC eu cymeradwyo erbyn diwedd Hydref 2012; dywedodd y dylai hyn sicrhau bod anghenion gofalwyr yn cael eu cyflawni.  

 

Penderfynodd y Pwyllgor :

(a)    yn amodol ar y sylwadau uchod, ei fod yn cytuno gyda’r gofyniad i gael cynllun yn ei le i Ran 1 o’r Mesur, a’r trefniadau i ddatblygu a chytuno ar y cynllun rhanbarthol sydd wedi’i sefydlu;

(b)    y dylai’r Aelod Arweiniol sicrhau bod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau yn derbyn gwybodaeth ynghylch cynnydd a wnaed o ran gweithredu a monitro’r Cynllun; ac

(c)    y dylid cyflwyno adroddiad yn rhoi gwybodaeth bellach ar gynnydd o ran gweithredu’r Cyd Gynllun mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau yn naill ai Mawrth neu Ebrill 2013.

 

 

Dogfennau ategol: