Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYMUNEDAU CYNALIADWY AR GYFER DYSGU - BAND B

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gill German, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd, (copi ynghlwm) ar ganfyddiadau adolygiad y Bwrdd Rhaglen Moderneiddio Addysg o’r broses flaenoriaethu ar gyfer Band B Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, yn unol â chais y Cyngor ym mis Ionawr 2022.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cadarnhau barn y Bwrdd Rhaglen Moderneiddio Addysg nad oedd unrhyw newid arwyddocaol wedi digwydd o ran cyflwr adeiladau ysgolion a bod y trefn polisi presennol ysgolion yn dal yn gyfredol a chywir.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gill German yr adroddiad ar y canfyddiadau o’r adolygiad gan y Bwrdd Rhaglen Moderneiddio Addysg ar y broses blaenoriaethu ar gyfer Cymunedau Cynaliadwy Band B ar gyfer Dysgu, yn ôl cais y Cyngor ym mis Ionawr 2022.

 

Yn dilyn rhybudd o gynnig yn Ionawr 2022, a oedd wedi tarddu o bryderon dros gyflwr Ysgol Uwchradd Prestatyn, roedd y Cyngor wedi gwneud cais fod arolygon cyflwr o holl ysgolion yn cael eu hadolygu er mwyn gweld os oeddent wedi newid i’r fath raddau er mwyn codi amheuon am drefn blaenoriaeth bresennol ysgolion.  Ymhelaethodd y Pennaeth Addysg ar y broses adolygu a gyflawnwyd gan y Bwrdd Rhaglen Moderneiddio Addysg yn Ebrill 2022 a’r ailasesiad o gyflwr adeiladau ysgol er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchiad cywir o’r ystâd addysg.  Ni chanfuodd yr adolygiad unrhyw newid sylweddol o ran cyflwr ysgolion ers 2016 a fyddai’n effeithio ar y blaenoriaethau dewisol, gan ddod i’r casgliad fod y blaenoriaethau’n gywir a bod yr ysgolion a gafodd eu neilltuo ar gyfer buddsoddiad Band B yn cynrychioli’r rhai â’r angen mwyaf.  O ran Ysgol Uwchradd Prestatyn yn benodol, nododd y Bwrdd fod gwaith wedi cael ei gyflawni gyda’r ysgol i wneud y defnydd gorau o fuddsoddiad cyfalaf o’r cynllun Cynnal a Chadw Adeilad.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y pwyntiau canlynol -

 

·         Er nad oedd sicrwydd y byddai cyfran pellach o gyllid ar gyfer ysgolion yn dilyn Band B, roedd disgwyliad o ran hynny, ond roedd natur unrhyw flaenoriaethau cyllido yn y dyfodol a pha ffurf y buasai hyn yn anhysbys.

·         Roedd y Cynghorydd Emrys Wynne wedi datgan diddordeb fel llywodraethwr ysgol Ysgol Brynhyfryd a mynegodd ei siom nad oedd posib cynnwys yr ysgol honno ac ysgolion eraill oedd angen buddsoddiad fel rhan o’r broses Band B, a gobeithiai y byddai cyfleoedd eraill i fuddsoddi yn yr ysgolion hynny fel rhan o’r cyfrannau cyllido yn y dyfodol.  Cydnabu swyddogion fod ysgolion eraill hefyd angen buddsoddiad ac nid oedd digon o gyllid i fuddsoddi yn yr holl ysgolion hynny.  Fodd bynnag, roedd ffrydiau cyllido eraill yn ychwanegol at Band B, megis y cynllun Cynnal a Chadw Adeiladau, yn cael eu defnyddio i ymateb i anghenion ysgolion eraill nad oedd yn destun buddsoddiad mawr trwy Band B ar hyn o bryd.

·         Roedd cyflwyno prydau ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd yn destun cyllid ar wahân, gyda chynllun cyfalaf ar gyfer rhai o’r gwaith dechreuol er mwyn galluogi darpariaeth ar gyfer Derbyn ym Medi a Blwyddyn 1 a 2 yn y Pasg, gyda dialog rhwng awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru o ran gofynion cyflwyno i Flwyddyn 6 yn y dyfodol.  Byddai goblygiadau refeniw o ganlyniad i’r newid ond roedd y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim yn cael ei hyrwyddo’n fawr gyda’r golwg i sicrhau cofrestriad cryf wrth fynd ymlaen.

 

Roedd y Cynghorydd Gill German wedi datgan cysylltiad personol yn yr eitem gan fod ei phlant yn mynychu Ysgol Uwchradd Prestatyn ac roedd hi hefyd yn gyn-ddisgybl.  Ynghyd â’i chyd aelod Prestatyn, y Cynghorydd Jason McLellan, roedd hi wedi cyflawni taith o’r ysgol ac wedi trafod gyda’r Pennaeth a Chadeirydd y Llywodraethwyr y materion yn ymwneud â’r rhybudd o gynnig.  Cyfeiriwyd at yr atodiad yn yr adroddiad yn manylu ar y rhaglen 5 mlynedd o fuddsoddiad i fynd i’r afael â blaenoriaethau’r ysgol a’r cynnydd a wnaed o ran hynny, ac roedd hi’n falch o ddarparu diweddariad ar gynnydd pellach o ran y maes parcio a’r coridor mynediad.  Hefyd rhoddodd sicrwydd y byddai hi’n sicrhau cynnydd amserol i fynd i’r afael â phrif flaenoriaethau’r ysgol yn unol â’r rhaglen pum mlynedd ac i sicrhau yr amgylchedd orau bosibl ar gyfer disgyblion wrth fynd ymlaen.

 

Roedd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yn falch o nodi fod y sefyllfa yn Ysgol Uwchradd Prestatyn wedi cael ei adlewyrchu’n gywir yn dilyn rhybudd o gynnig ac roedd yn awyddus i sicrhau nad oedd y broses yn cael ei ddefnyddio gan gynghorwyr fel ffordd o lobïo am fuddsoddiad i ysgolion yn eu wardiau.  Roedd hefyd yn falch o nodi fod canfyddiadau’r Bwrdd Rhaglen Moderneiddio Addysg yn rhoi hyder i’r broses blaenoriaethu ar gyfer ysgolion.  Cytunodd y Cynghorydd German, gan egluro bod ei sylwadau o ran buddsoddiad yn Ysgol Uwchradd Prestatyn yn ymwneud â gwaith a gytunwyd yn flaenorol, ac nid oedd y wasg negyddol o ran y rhybudd o gynnig wedi cynrychioli barn yr ysgol ar y mater.  Pwysleisiodd yr angen am broses blaenoriaethu teg a thryloyw ar gyfer ysgolion ac roedd canfyddiadau’r adolygiad wedi dangos fod y broses wedi cael ei gynnal yn briodol ac yn gywir.  Fel aelod arweiniol, roedd hi’n cynrychioli bob plentyn yn Sir Ddinbych, roedd pob plentyn yn bwysig, ac mi fyddai’n sicrhau bod pob ysgol yn cael sylw dyledus.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cadarnhau barn y Bwrdd Rhaglen Moderneiddio Addysg nad oedd unrhyw newid sylweddol wedi digwydd o ran cyflwr adeiladau ysgol a bod y drefn polisi presennol yn dal i fod yn gyfredol ac yn gywir.

 

Dogfennau ategol: