Eitem ar yr agenda
Y GRONFA FFYNIANT GYFFREDIN
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd, (copi ynghlwm) yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo datblygu Rhaglen y Gronfa Ffyniant Gyffredin ymhellach, dirprwyo awdurdod i ddatblygu a chyflwyno blaenoriaethau Sir Ddinbych ar gyfer cynhwysiant yn y Strategaeth Fuddsoddi Ranbarthol, ac i Gyngor Gwynedd weithredu fel corff arweiniol ar gyfer cyflwyno’r Strategaeth a chyflawni’r rhaglen.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -
(a) cymeradwyo datblygiad pellach
rhaglen y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn Sir Ddinbych ac yn rhanbarthol drwy fewnbwn
swyddogion, yn unol â’r egwyddorion a nodir yn yr adroddiad;
(b) rhoi awdurdod dirprwyedig
i’r Prif Weithredwr a’r Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd i
ddatblygu a chyflwyno blaenoriaethau Sir Ddinbych ar gyfer eu cynnwys yn y Strategaeth
Fuddsoddi Ranbarthol i alluogi i gyllid y rhaglen gael ei dynnu i lawr, a
(c) cefnogi’r cynnig i ofyn i Gyngor Gwynedd weithredu fel corff arweiniol i gyflwyno’r Strategaeth Fuddsoddi Ranbarthol i Lywodraeth y DU ac i arwain darpariaeth y rhaglen wedi hynny.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Jason McLellan yr adroddiad yn
ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddatblygu’r Rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin
ymhellach, dirprwyo awdurdod i ddatblygu a chyflwyno blaenoriaethau Sir
Ddinbych ar gyfer eu cynnwys yn y Strategaeth Buddsoddi Rhanbarthol ac i Gyngor
Sir Gwynedd weithredu fel arweinydd rhanbarthol ar gyfer y rhaglen.
Roedd y Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU yn rhan o’r agenda
Codi’r Gwastad gan ddisodli Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd. Roedd yn bennaf yn rhaglen cyllido refeniw a
dyraniad unigol Sir Ddinbych oed £25,647,958.
Eglurodd y Pennaeth Cymunedau a Gwasanaethau i Gwsmeriaid
y trefniadau ar gyfer cynllunio a darparu’r Strategaeth Buddsoddi Rhanbarthol
gyda blaenoriaethau buddsoddi yn canolbwyntio ar: (1) Cymuned a Lle, (2)
Cefnogi Busnesau Lleol, a (3) Pobl a Sgiliau.
Ar y cam hwn, nid oedd angen canfod prosiectau i gyflawni canlyniadau, a
byddai’r elfen honno’n cael ei chyflawni yng ngham nesaf y broses. Yn dilyn cyflwyno’r strategaeth, byddai
prosbectws yn cael ei ddatblygu yn manylu ar ymyraethau a sut allai
budd-ddeiliaid dynnu cyllid i lawr a darparu prosiectau i helpu cyflawni
canlyniadau. Yn olaf, cyfeiriwyd at yr
angen am strwythur partneriaeth rhanbarthol i ddarparu sicrwydd o ran
ymgysylltiad priodol gyda’r broses ac i arsylwi darpariaeth y rhaglen.
Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a
ddilynodd -
·
Roedd y Gronfa Codi’r
Gwastad yn raglen cyllido cyfalaf ac er fod gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin
elfen o gyfalaf, roedd yn rhaglen gyllido refeniw yn bennaf. Gellir defnyddio’r Gronfa Ffyniant Gyffredin
ar gyfer prosiectau refeniw mewn modd i wneud y mwyaf o effeithiau’r prosiectau
Codi’r Gwastad cyfalaf a sicrhau’r gwerth gorau, ac yn rhan annatod o’r un
rhaglen.
·
byddai angen recriwtio
nifer o staff i reoli a darparu’r rhaglen a gellir defnyddio hyd at 4% o
ddyraniad cyllido Sir Ddinbych ei ddefnyddio i wneud cais am gyllid ar gyfer y
diben hwnnw. Fodd bynnag, disgwyliwyd y
byddai llawer llai na’r swm hwnnw yn cael ei wario ar weinyddu’r rhaglen.
·
roedd
yr adroddiad yn canolbwyntio ar strwythur a threfniadau rhanbarthol ar gyfer
darparu’r Strategaeth Buddsoddi Rhanbarthol fel y cam cyntaf yn y broses gyda
manylion y prosiectau i’w darparu a chyflawni canlyniadau i ddilyn yn y cam
nesaf. Fodd bynnag, roedd dull o'r gwaelod
i fyny wedi cael ei gymryd i ddatblygu’r strategaeth ranbarthol gan
ganolbwyntio ar flaenoriaethau ac anghenion lleol yn y lle cyntaf, ac yn dilyn
hynny byddai unrhyw flaenoriaethau cyffredin gydag awdurdodau eraill yn cael eu
hystyried i ganfod lle byddai’n fwy effeithlon neu effeithiol i gydweithio yn
isranbarthol neu’n rhanbarthol. Roedd
posib rhoi sicrwydd fod oddeutu 40% o’r dyraniad wedi ei glustnodi ar gyfer
buddsoddi mewn cymunedau lleol (blaenoriaeth Cymuned a Lle)
·
Roedd y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts yn awyddus i aelodau etholedig fod yn rhan o’r broses gwneud
penderfyniadau a nodwyd hynny yn y strwythur ar gyfer trefniadau darparu
lleol. Dywedodd y Pennaeth Cymunedau a
Gwasanaethau i Gwsmeriaid, er nad oedd mandad gan Lywodraeth y DU o ran hynny,
roedd er budd Sir Ddinbych i gyflawni ymarfer ymgysylltu lleol ac roedd
disgwyliad i Gynghorau Cymuned/Tref/Dinas a Grwpiau Ardal yr Aelodau fod yn
rhan o hyrwyddo’r cyfle i wneud cais ar gyfer cyllid a chanfod prosiectau i’w
blaenoriaethu wrth fynd ymlaen. Cynigodd
y byddai’n adrodd yn ôl gyda rhagor o wybodaeth ar y trefniadau lleol fel rhan
o’r cam nesaf.
·
Cyfeiriodd yr Arweinydd at
feirniadaeth o ddiffyg ymgysylltiad gan Lywodraeth y DU gyda Llywodraeth Cymru
o ran rhaglenni wedi’u cyllido’n ddomestig i gymryd lle rhaglenni Ewropeaidd
megis y Gronfa Ffyniant Gyffredin, a phwysleisiodd y Cynghorydd Mark Young fod
angen mynd i’r afael â’r mater o ystyried y trawsgroesiad o gyfrifoldeb rhwng y
ddau lywodraeth a’r heriau a wynebir.
Rhoddodd y Pennaeth Cymunedau a Chwsmeriaid sicrwydd fod Sir Ddinbych yn
gweithio’n agos gyda chydweithwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a
Llywodraeth Cymru o ran buddsoddiad rhanbarthol gan sicrhau nad oedd dyblygu a
nodi targedau presennol o strategaethau a chynlluniau amrywiol.
Diolchodd yr Arweinydd i’r aelodau am eu cyfraniad i’r drafodaeth ar
fecanweithiau'r strategaeth buddsoddi a sut fyddai’n cael ei ddarparu, ac fe
amlygodd drafodaeth ehangach ar wahân i’r mater o ran rhaglenni i gymryd lle’r
rhaglenni gyda chyllid Ewropeaidd a rhyngweithiadau o ran hynny.
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -
(a) cymeradwyo datblygiad pellach y rhaglen
Cronfa Ffyniant Gyffredin o fewn Sir Ddinbych, ac yn rhanbarthol drwy fewnbwn
swyddogion yn unol â’r egwyddorion fel y nodwyd yn yr adroddiad.
(b) darparu awdurdod dirprwyedig i’r Prif
Weithredwr a’r Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Tlodi er mwyn datblygu
a chyflwyno blaenoriaethau Sir Ddinbych ar gyfer eu cynnwys yn y Strategaeth
Buddsoddi Rhanbarthol er mwyn galluogi’r cyllid rhaglen i gael ei dynnu i lawr,
a
(c) chefnogi’r cynnig i ofyn i Gyngor Sir
Gwynedd i weithredu fel y corff arweiniol i gyflwyno Strategaeth Buddsoddi
Rhanbarthol i Lywodraeth y DU ac i arwain ar ddarparu’r rhaglen.
Dogfennau ategol:
- SHARED PROSPERITY FUND, Eitem 6. PDF 213 KB
- SHARED PROSPERITY FUND - APPENDIX 1, Eitem 6. PDF 131 KB
- SHARED PROSPERITY FUND - APPENDIX 2, Eitem 6. PDF 219 KB