Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGU PENDERFYNIAD Y CABINET YN YMWNEUD Â'R CYNLLUN PENDERFYNIADAU DIRPRWYEDIG ARFAETHEDIG AR GYFER CAFFAEL TIR (RHYDD-DDALIADOL A LES-DDALIADOL) I DDIBENION DAL A STORIO CARBON A GWELLIANNAU ECOLEGOL

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Huw Williams, Cadeirydd Pwyllgor Craffu Cymunedau, (copi ynghlwm) sy’n gofyn i’r Cabinet adolygu ei benderfyniad gwreiddiol yn ymwneud â’r cynllun penderfyniadau dirprwyedig arfaethedig ar gyfer caffael tir (rhydd-ddaliadol a lesddaliadol) i ddibenion dal a storio carbon a gwelliannau ecolegol, gan roi sylw i ganfyddiadau ac argymhellion y Pwyllgor Craffu.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       cydnabod casgliadau, pryderon ac argymhellion y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn dilyn ei adolygiad o benderfyniad y Cabinet ar 15 Chwefror 2022  o ran ‘Cynllun Penderfyniadau Dirprwyedig Arfaethedig ar gyfer Caffael Tir (Rhydd-ddaliadol a Lesddaliadol) i Ddibenion Dal a Storio Carbon a Gwella Ecolegol’;

 

(b)       yn cytuno i ailystyried ei benderfyniad gwreiddiol, gyda’r bwriad o gyflymu’r broses benderfynu ar gyfer prynu tir, ac fel rhan o’r adolygiad hwnnw bydd yn ystyried ac yn cymryd i ystyriaeth yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Craffu fel y nodir ym mharagraff 3.2 o’r adroddiad, a

 

(c)        gofyn i swyddogion ddod ag adroddiad gerbron y Cabinet ar yr adolygiad hwnnw, i’w ystyried gan y Cabinet ym mis Hydref.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Williams, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau adroddiad yn rhoi gwybodaeth ar ganfyddiadau ac argymhellion y Pwyllgor Craffu yn dilyn ystyriaeth o alw mewn penderfyniad y Cabinet ar 15 Chwefror 2022 mewn perthynas â chynllun penderfyniadau dirprwyedig arfaethedig ar gyfer caffael tir i ddibenion dal a storio carbon a gwelliannau ecolegol.

 

Yn gryno, cydnabu’r Pwyllgor pe byddai’r Cyngor am gyflawni ei uchelgais mewn perthynas â lleihau carbon, byddai angen mabwysiadu dull amlochrog, a fyddai’n cynnwys prynu darnau o dir i’w defnyddio i osod yn erbyn y defnydd carbon na ellir ei osgoi, ac roedd y Pwyllgor wedi derbyn sicrwydd na fyddai tir amaethyddol sefydlog yn cael ei brynu ar gyfer y diben hwn.  Fodd bynnag, codwyd pryderon o ran y canlyniadau anfwriadol posibl y gall bryniannau tir o’r fath ei gael ar hyfywedd busnesau amaethyddol lleol yn y dyfodol a bywoliaeth teuluoedd lleol, a all gael effaith andwyol ar gynaladwyedd economaidd hirdymor cymunedau lleol, gan newid cyfansoddiad ac ethos bywyd cymunedol mewn ardaloedd gwledig y sir.  O ganlyniad i hynny, gofynnwyd i’r Cyngor ail-ymweld â’r penderfyniad gan ystyried pryderon ac argymhellion y Pwyllgor i sicrhau cefnogaeth cymunedau gwledig ar gyfer y broses, atgyfnerthu cyfranogiad aelodau etholedig yn y broses, a sicrhau y byddai adnoddau digonol ar gael i’r Tîm Gwasanaethau Cefn Gwlad i ddarparu dyheadau amgylcheddol y Cyngor.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Williams nad oedd y Pwyllgor Craffu yn erbyn egwyddor y dull, ond ei fod eisiau prosesau cywir yn eu lle i wasanaethau trigolion Sir Ddinbych a sicrhau proses agored a thryloyw.

 

Ystyriodd y Cabinet yr adroddiad a canolbwyntiwyd ar y prif faterion trafod a ganlyn -

 

·         Roedd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yn gefnogol o’r Cabinet yn ailystyried ei benderfyniad gan ystyried barn y Pwyllgor Craffu.  Fodd bynnag, roedd hi’n teimlo y dylai’r camau a argymhellwyd ym mharagraffau 3.2 (i) - (iv) gael eu hystyried fel rhan i’r ail-ystyriaeth yn hytrach na chael eu cytuno ymlaen llaw, a chynigodd addasiad ar y sail honno, gan adrodd yn ôl i’r Cabinet wedyn

·         rhoddwyd eglurder o ran y broses gwneud penderfyniadau a rôl craffu, a nodwyd yn sgil y galw i mewn, nid oedd penderfyniad y Cabinet wedi cael ei weithredu.  Er y gallai swyddogion barhau i brynu tir o dan y prosesau cyfredol, roedd y broses gwneud penderfyniadau cyflym wedi ei atal tan i’r Cabinet ail-ystyried ei benderfyniad.

·         roedd cefnogaeth gyffredinol ar gyfer y dull i gaffael tir ar gyfer dibenion dal a storio carbon a gwelliannau ecolegol, o ystyried yr argyfwng newid hinsawdd, ynghyd â’r angen i gyflymu’r broses penderfyniad dirprwyedig ar gyfer prynu tir er mwyn bodloni’r amcan heb unrhyw oedi.

·         er y cytunwyd y dylid cyflawni ymgynghoriad pellach gyda’r Undeb Amaethwyr a Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc cyn gynted â phosibl, cydnabu hefyd bod angen ymateb yn gyflym er mwyn lleihau unrhyw oedi o ran y Cabinet yn gwneud y penderfyniad olaf ar y mater.  Adroddodd y Cynghorydd Huw Williams ar lwyddiant y Grŵp Tasg a Gorffen Perygl Llifogydd fel fforwm ar gyfer trafod, ac os oedd yn briodol, byddai Grŵp Tasg a Gorffen yn gallu cael ei sefydlu fel ffordd o ymgysylltu â’r partïon perthnasol yn y mater hwn.

·         o ran terfynau amser, awgrymwyd y byddai adroddiad yn ôl i’r Cabinet ym mis Hydref yn darparu digon o amser i weithio gydag Undebau Amaethwyr a Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc i geisio ymatebion cynhwysfawr mewn perthynas â’r cynllun arfaethedig fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Craffu.

·         Cadarnhaodd Pennaeth Cyllid ac Eiddo fod y broses o gaffael tir yn parhau ac adroddodd ar bryniant tir presennol yn Llanelwy ar gyfer y diben a oedd wedi derbyn yr holl gymeradwyaeth angenrheidiol.  Fodd bynnag, roedd y Cyngor wedi methu allan ar brynu o leiaf un darn o dir ers mis Ebrill yn sgil yr angen am benderfyniadau cyflym.  Er hynny, roedd angen i’r broses fod yn gywir ar gyfer pawb ynghlwm ac roedd yn briodol i adolygiad gael ei gynnal

·         Amlygodd y Cynghorydd Merfyn Parry bwysigrwydd gwybodaeth leol, a dyna’r rheswm dros argymell ymgynghoriad gydag aelodau lleol a Grwpiau Ardal yr Aelodau, na fyddai’n achosi unrhyw oedi yn y broses, ac i fod yn ystyriol o anghenion cymunedau ffermio yn yr ardal gyda phroses mwy cynhwysol.

·         derbyniwyd fod angen cydbwysedd er mwyn cyflymu’r broses o wneud penderfyniadau dirprwyedig ar gyfer caffael tir ac i wneud y mwyaf o gyfleoedd i’r Cyngor fodloni ei dargedau lleihau carbon wrth ddarparu proses cynhwysol i sicrhau cefnogaeth holl fudd-ddeiliaid lle bynnag bosibl, a bod angen ystyried cydbwysedd fel rhan o adolygiad y Cabinet i’w benderfyniad gwreiddiol.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Cynghorydd Huw Williams am ei gyfraniad, gan amlygu’r angen i Undebau Amaethwyr a Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc ymgysylltu ac ymateb yn brydlon i’r ymgynghoriad.  Darparodd y Cynghorydd Williams sicrwydd o ran hynny.  Amlygodd hefyd yr oedi sylweddol wrth symud ymlaen gyda gwerthiant tir a gyflwynodd ar gyfer dibenion dal a storio carbon, ac roedd angen mynd i’r afael â hyn.

 

Ailddatganwyd addasiad arfaethedig y Cynghorydd Ellis i’r argymhellion, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Emrys Wynne, ac ar bleidlais -

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       cydnabod casgliadau’r Pwyllgor Craffu Cymunedau, ei bryderon a’i argymhellion yn dilyn ei adolygiad o benderfyniad y Cabinet ar 15 Chwefror 2022 mewn perthynas â chynllun penderfyniadau dirprwyedig arfaethedig ar gyfer caffael tir (rhydd-ddaliadol a les-ddaliadol) i ddibenion dal a storio carbon a gwelliannau ecolegol,

 

(b)       cytuno i ail-ystyried ei benderfyniad gwreiddiol, gyda golwg i gyflymu’r broses o wneud penderfyniad ar gyfer prynu tir, ac fel rhan o’r adolygiad hwnnw, ystyried yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Craffu fel y nodwyd ym mharagraff 3.2 yr adroddiad, a

 

(c)       gofyn i swyddogion ddod ag adroddiad yn ôl i’r Cabinet ar yr adolygiad i’w ystyried gan y Cabinet ym mis Hydref.

 

Dogfennau ategol: