Eitem ar yr agenda
MATERION BRYS
Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Penderfyniad:
Caniataodd yr Arweinydd i gwestiwn gael ei roi gerbron y Cabinet am ffioedd gofal ac i ateb gael ei roi hefyd.
Cofnodion:
Ar y pwynt hwn, dywedodd yr Arweinydd ei fod wedi derbyn
cais gan y Cynghorydd Mark Young i gyflwyno cwestiwn hwyr i’r Cabinet
ynglŷn â ffioedd gofal a gofynnwyd am gyngor ar hynny. Eglurodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd y darpariaethau
cyfansoddiadol sy’n ymwneud â chwestiwn i’w gyflwyno i’r Cabinet, a’r meini prawf
ar gyfer mater brys, ni fodlonwyd yr un ohonynt yn yr achos hwn. Fodd bynnag, roedd gan yr Arweinydd
ddisgresiwn i ganiatáu'r cwestiwn. Ar ôl ystyried y cwestiwn a nodi
pwysigrwydd y testun, defnyddiodd yr Arweinydd ei ddisgresiwn a chaniatáu i’r cwestiwn
gael ei gyflwyno. Roedd y
cwestiwn yn cyfeirio at bolisi presennol ac roedd yr Arweinydd yn cynghori ac
yn atgoffa’r Cynghorydd Young am y dulliau mewnol sydd ar gael o fewn y Cyngor,
fel y Pwyllgorau Craffu, os bydd yn dymuno herio neu graffu’r polisi hwnnw.
Darllenodd y Cynghorydd Mark Young ei gwestiwn fel a
ganlyn:
“Byddwch yn ymwybodol o’r wasg ar draws Cymru ac yn fwy
diweddar yng Ngogledd Cymru o ran costau gofal sy’n cael ei dalu gan awdurdodau
lleol. Y mis diwethaf, pleidleisiodd Cabinet
Cyngor Gwynedd i gynyddu ffioedd ar gyfer gofal nyrsio o 25%, ac erbyn hyn mae
Ynys Môn hefyd wedi cytuno i gynyddu ffioedd o 25%. Rwyf wedi cael gwybod bod Conwy a Wrecsam
hefyd wedi cynnal adolygiadau o lefelau cyllido. Felly yn sgil yr adroddiadau diweddar hyn, fy
nghwestiwn i, ar ôl i’r uchod gael eu codi yn y wasg, ac i mi yn bersonol, ac
wrth fynd ar eu pen eu hunain mae’r cynghorau yn symud i ffwrdd o’r dull
rhanbarthol ar gyllid gofal, beth yw sefyllfa Sir Ddinbych mewn perthynas â
hyn? Teimlaf y bydd yr ymateb gan y
Cabinet heddiw yn ddefnyddiol ac yn cael ei werthfawrogi gan aelodau etholedig,
trigolion a darparwyr gofal.”
Ymatebodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol
Iechyd a Gofal Cymdeithasol i’r cwestiwn fel a ganlyn:
“Rwy’n ymwybodol o’r wasg diweddar o ran ffioedd gofal
yng Ngogledd Cymru ac rwy’n croesawu’r cyfle i fynd i’r afael â’r mater ac
egluro sefyllfa Sir Ddinbych. Bob
blwyddyn, mae Cyngor Sir Ddinbych yn gosod ffioedd cyn y flwyddyn ariannol
nesaf ar gyfer pecynnau gofal Nyrsio a Phreswyl a gomisiynir yn allanol,
Cartrefi Gofal Arbenigol, Gofal Cartref a Chynlluniau Byw â Chymorth. Nid yw hwn yn benderfyniad unochrog, mae mewn
cydweithrediad â Grŵp Ffioedd Gofal Rhanbarthol Gogledd Cymru ac mewn
ymgynghoriad gyda darparwyr. Yn fras, yn
dilyn y fethodoleg hon a gytunwyd yn rhanbarthol, gwnaed penderfyniad ym mis
Ionawr eleni i gynyddu ffioedd ac i dalu’r Cyflog Byw Gwirioneddol. Golygai hyn ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022
- 23 (o ffioedd y flwyddyn flaenorol) roedd cynnydd o 6.96% ar gyfer cartrefi
gofal preswyl, 10.15% ar gyfer cartrefi gofal preswyl EMI, 7.04% ar gyfer
cartrefi nyrsio, 10.21% ar gyfer cartrefi nyrsio EMI, a 8.12% ar gyfer gofal
cartref.
Anfonwyd llythyrau ym mis Chwefror i ddarparwyr yn amlinellu’r cynnydd
arfaethedig mewn ffioedd, a chynhaliwyd cyfarfodydd i drafod hyn. Er bod nifer o’n darparwyr wedi croesawu hyn,
mae pryderon wedi cael eu codi am y cynnydd mewn costau, megis cynnydd mewn
costau tanwydd yn effeithio ar ofal cartref, cynnydd mewn costau bwyd,
cyfleustodau ac yswiriant yn effeithio ar gartrefi gofal, gan gydnabod bod rhai
wedi dibynnu ar gymorth ariannol Covid-19 dros dro Llywodraeth Cymru sydd
bellach wedi dod i ben, ac wrth gwrs y gost o heriau recriwtio a chadw staff. Felly, gwnaed penderfyniad arall ym mis
Mehefin eleni i gydnabod yr her bresennol ac i ddarparu cynnydd ychwanegol i’r
ffioedd presennol, a hefyd hoffwn nodi bod hyn cyn i Wynedd ac Ynys Môn
gyhoeddi eu cynnydd mewn ffioedd yn gyhoeddus.
Felly golygai hyn ar gyfer ffioedd cartrefi gofal preswyl a gofal nyrsio
a ffioedd cartrefi gofal arbenigol, penderfynwyd cynyddu CPI 0 3.1% (Medi 2021)
i 7% ym Mawrth eleni er mwyn adlewyrchu’r costau chwyddiant. Ar gyfer gofal cartref, penderfynwyd rhoi
cyfradd 50c ychwanegol i’n holl alwadau awr o hyd, sydd hanner y £1/awr a
gafodd ei roi gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2021/22 gyfan ac i gynyddu’r gost o
alwadau hanner awr o 50c i gydnabod adborth gan y darparwyr a’r lleihad mewn
amser cynhyrchiol rhwng galwadau byr.
Mae hyn wedi cael ei ôl-ddyddio i 1 Ebrill 2022 ac anfonwyd llythyrau ar
21 Mehefin i’r darparwyr yn cadarnhau hyn, ac mae wedi cael ei groesawu gan
nifer. Darllenaf ymateb gan un o’r
darparwyr i chi, mae’n dweud, “Hoffwn ddiolch i chi am yr elfen ychwanegol
ar gyfer y cynnydd ar gyfer 2022/23.
Roedd yn gadarnhaol iawn eich bod wedi gallu ymateb i’r pwyntiau a
godwyd gan ddarparwyr a gwerthfawrogir hyn.
Pasiwch ein diolchiadau ymlaen i eraill oedd yn rhan o’r adolygiad”.
Y pwynt pwysicaf yr hoffwn ei ychwanegu, gan fy mod yn credu ei fod yn
angenrheidiol i aelodau fod yn ymwybodol o hyn, yn ogystal â thrigolion, mae
Sir Ddinbych bob amser wedi cynnal yr agwedd hon gyda’n holl ddarparwyr, os oes
ganddynt anawsterau penodol, byddem yn cwrdd â nhw a chyflawni ymarfer llyfr
agored. Felly i bwysleisio hyn, mae
cynnig ar gael i ddarparwyr gwrdd â’r Cyngor os oes ganddynt anawsterau
ariannol, cyhyd â’u bod yn cyfiawnhau’r angen am gymorth ychwanegol trwy agor
eu llyfrau. Felly i grynhoi, rwy’n credu
ei bod yn bwysig ystyried y cyd-destun o gymharu ffigyrau gan fod ein marchnad
gofal cymdeithasol yn wahanol iawn i Ynys Môn a Gwynedd, felly gyda hynny mewn
golwg mae Sir Ddinbych wedi bod yn adolygu’r mater ac wedi darparu cynnydd mewn
ffioedd i adlewyrchu’r pwysau yn lleol ac rwy’n gwybod y bydd Sir Ddinbych yn
parhau i weithio gyda darparwyr a Grŵp Ffioedd Gofal Rhanbarthol Gogledd
Cymru wrth ddechrau gwaith i benderfynu ar ffioedd gofal ar gyfer 2023/24.”
Diolchodd yr Arweinydd i’r Cynghorydd Heaton am ei
hymateb, yn ogystal â’r Cynghorydd Mark Young, a amlygodd yr angen i adolygu’r
dull rhanbarthol wrth symud ymlaen o ystyried bod dau gyngor wedi symud i
ffwrdd o ffioedd safonol Gogledd Cymru.