Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD SEFYDLOGRWYDD Y FARCHNAD GOFAL CYMDEITHASOL
Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan Bennaeth Dros Dro’r Gwasanaethau Cymorth Cymunedol, ynglŷn ag Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad Gofal Cymdeithasol sy’n seiliedig ar yr Asesiad o Anghenion y Boblogaeth, yn unol â gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
11:30am – 12:00pm
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol
yr adroddiad (a ddosbarthwyd o flaen llaw). Roedd Deddf Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn rhoi dyletswydd newydd ar awdurdodau
lleol a byrddau iechyd i lunio asesiad ar y cyd o ddigonolrwydd a chynaladwyedd
y farchnad gofal cymdeithasol. Lluniwyd yr Adroddiad ar Sefydlogrwydd y
Farchnad gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn unol â’r Cod
Ymarfer (Llywodraeth Cymru, 2021a). Hwn oedd y tro cyntaf y lluniwyd Adroddiad
ar Sefydlogrwydd y Farchnad ac roedd yn seiliedig ar Asesiad o Anghenion
Poblogaeth Gogledd Cymru 2022.
Roedd yr adroddiad yn asesu digonolrwydd gofal a chymorth
o ran bodloni’r anghenion a’r galw am ofal cymdeithasol, yn ogystal â
sefydlogrwydd y farchnad.
Cyfeiriodd y Pennaeth Dros Dro, Gwasanaethau Cymorth
Busnes at y negeseuon allweddol ynglŷn â gofal cymdeithasol i oedolion yn
Sir Ddinbych, yn ogystal â gostyngiad bychan yn nifer y lleoedd oedd ar gael
mewn cartrefi gofal yn Sir Ddinbych. Nid oedd y lleoedd oedd ar gael (gofal
preswyl sylfaenol) yn bodloni anghenion cleientiaid am ofal ar gyfer anghenion
mwy cymhleth – gofal preswyl a gofal nyrsio i’r henoed bregus eu meddwl.
Nid mater hawdd oedd newid cartrefi preswyl i fedru
bodloni anghenion yr henoed bregus eu meddwl. Roedd yr adeiladau’n aml yn
anaddas ac nid oedd y ffioedd bob amser yn talu costau’r darparwyr.
Roedd datblygiadau mewn gofal iechyd a meddyginiaeth wedi
cael effaith arwyddocaol ar anghenion gofal cymdeithasol. Roedd pobl ag
anableddau dysgu’n symud o’r gwasanaethau plant i’r gwasanaethau oedolion gyda
phecynnau gofal cymhleth y byddai angen eu darparu gydol eu hoes.
Oherwydd yr awydd i gleientiaid gadw’n annibynnol ac aros
yn eu cartrefi eu hunain roedd y galw am ofal cartref wedi cynyddu. Roedd
heriau â recriwtio a chadw staff ym maes gofal cartref yn ei gwneud yn anos
fyth i sicrhau’r ddarpariaeth.
Roedd gofal seibiant i bobl â chyflyrau iechyd cymhleth –
strôc, anaf i’r ymennydd ac yn y blaen – yn brin a byddai hynny’n destun
adolygiad yn ystod ymarferion comisiynu yn y dyfodol.
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod yr adroddiad
yn amlygu materion yr oedd Sir Ddinbych eisoes yn gwybod amdanynt. Yn benodol,
prinder y lleoliadau maeth tymor byr oedd ar gael yn lleol, yn enwedig felly i
blant ag anghenion cymhleth, yn fewnol ac yn y sector annibynnol. Canolbwyntid
ar y lleoliadau penodol hynny wrth gomisiynu yn y dyfodol.
Er bod lleoliadau preswyl ar gael yn Sir Ddinbych
tueddai’r rheiny fod yn rhai arbenigol ac yn destun meini prawf penodol. Roedd
yn rhaid chwilio ymhellach am leoliadau mwy cyffredinol. Byddai’r gwaith
comisiynu yn y dyfodol yn canolbwyntio ar Fwthyn y Ddôl, uned asesu ar y cyd â
Chonwy a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Y meysydd dan sylw yn y dyfodol fyddai:
·
Y bwriad i hyrwyddo maethu’n nes at adref wrth
gomisiynu, a
·
Rhoi cynllun gweithredu ar waith yn y 12-18 mis
nesaf ar gyfer y tîm mewnol. Byddai hynny’n cynnwys adolygu’r gefnogaeth graidd
a ddarperid i ofalwyr.
Rhoes swyddogion y wybodaeth ganlynol wrth ymateb i
gwestiynau’r aelodau:
·
Roedd yno brinder staff gofal cymdeithasol ac
argyfwng recriwtio a chadw (ar bob lefel) ledled y Deyrnas Gyfunol.
·
Manteisiwyd ar bob cyfle i hyrwyddo / rhoi
cyhoeddusrwydd i swyddi ym maes gofal cymdeithasol a gofal maeth, gan gynnwys
cefndiroedd sgrin mewn cyfarfodydd ar-lein, ochrau cerbydau fflyd y Cyngor, ffeiriau
swyddi ac yn y blaen.
·
Sefydlwyd bwrdd arbennig i ymchwilio i amryw
ddulliau o roi hwb i recriwtio a chadw staff ym maes gofal cymdeithasol. Un o’r meysydd dan ystyriaeth oedd amodau a
thelerau. Cydnabuwyd, fodd bynnag, y
byddai ceisio mynd i’r afael â phroblemau recriwtio a chadw staff drwy amrywio
amodau a thelerau’n cael effaith ar swyddi gydol y Cyngor.
·
Er mai landlordiaid cymdeithasol cofrestredig oedd
yn berchen ar y tai gofal ychwanegol yng ngogledd y Sir, staff Cyngor Sir
Ddinbych oedd yn darparu gofal i’r preswylwyr.
·
Roedd y galw am dai gofal ychwanegol dan reolaeth.
Pe byddai darparwyr cartrefi gofal preswyl yn dymuno addasu eu darpariaeth
roedd Sir Ddinbych yn fodlon trafod hynny â hwy.
·
Roedd trafodaeth yn mynd rhagddi yn y rhanbarth
ynglŷn â gweithredu dull consortiwm lle byddai’r awdurdod lleol yn gorff
arweiniol ar gyfer cynllun prentisiaethau ac yn darparu lleoliadau mewn
gwahanol leoliadau, gan gynnwys gofal mewnol a darparwyr allanol.
·
O safbwynt sefydlogrwydd y farchnad, y rhain
fyddai’r amcanion allweddol dros y deuddeg mis nesaf:
o
sicrhau sefydlogrwydd mewn gofal cartref, gan
ystyried microfentrau a darparwyr gwledig, a
o
gweithredu polisïau sy’n ystyriol o faethu yn Sir
Ddinbych a pharatoi ar gyfer agor uned asesu breswyl Bwthyn y Ddôl.
Wedi i’r Pwyllgor ystyried yr adroddiad a chael atebion i
gwestiynau’r aelodau,
Penderfynwyd:
(i)
argymell cymeradwyo Adroddiad Sefydlogrwydd y
Farchnad yng Ngogledd Cymru 2022 (Atodiad 1), a
(ii)
chadarnhau fod y Pwyllgor, wrth ystyried y mater,
darllen yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb (Atodiad 2), ei ddeall a’i
gymryd i ystyriaeth.
Dogfennau ategol:
- MSR Draft Report 140722FINAL, Eitem 7. PDF 234 KB
- MSR Draft Report 140722 - App 1, Eitem 7. PDF 1 MB
- MSR Draft Report 140722 - App 2, Eitem 7. PDF 592 KB