Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CWRICWLWM CYMRU

Ystyried adroddiad ar y cyd gan Brif Swyddog Addysg y Cyngor a Swyddogion GwE (copi ynghlwm) sy’n rhoi gorolwg ar weithredu Cwricwlwm Cymru a’r ffordd y mae GwE a’r awdurdod lleol yn cefnogi ei ddatblygiad yn ysgolion Sir Ddinbych

10:05am – 10:45am

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd yr adroddiad (a ddosbarthwyd o flaen llaw) a oedd yn adolygu’r cynnydd wrth weithredu Cwricwlwm Cymru. Lluniwyd yr adroddiad mewn partneriaeth â GwE a fyddai’n cefnogi ysgolion wrth iddynt roi’r cwricwlwm newydd ar waith.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor fod y cwricwlwm yn dra gwahanol i’r un blaenorol, bod mwy o bwyslais ar sgiliau a bod llai o gyfarwyddo disgyblion. Anogid ysgolion i lunio’r cwricwlwm ar sail anghenion eu dysgwyr. Byddai’r cwricwlwm yn statudol ymhob ysgol gynradd yng Nghymru o fis Medi 2022 ymlaen ac ymhob ysgol uwchradd o fis Medi 2023 ymlaen.

 

Eglurodd y Pennaeth Addysg nad oedd y cwricwlwm newydd yn cyfarwyddo disgyblion ond ei fod yn rhoi strwythur pendant er mwyn sicrhau bod y 16,500 o fyfyrwyr yn Sir Ddinbych yn tyfu i fod yn uchelgeisiol, galluog, mentrus, creadigol, iach, hyderus a gwybodus am faterion moesegol.

 

Roedd yn ofyniad statudol i gynnwys Moeseg Cydberthynas a Rhywioldeb yng Nghwricwlwm Cymru o fis Medi 2022 ymlaen ac roedd yn bwnc gorfodol i ddysgwyr rhwng tair ac un ar bymtheg oed. Yn yr un modd, byddai’n ofyniad statudol i ddarparu Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ond pennid y maes llafur yn lleol. Yn Sir Ddinbych roedd y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) wedi argymell mabwysiadu canllawiau Llywodraeth Cymru ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg fel y maes llafur cytunedig ar gyfer y sir.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor y byddai’r cwricwlwm yn seiliedig ar themâu ac yn canolbwyntio ar sgiliau yn hytrach na chynnwys, ac er y byddai modd addysgu pwnc ar ei ben ei hun, fel mathemateg, er enghraifft, gellid hefyd ei gynnwys wrth gyflwyno maes arall fel dyniaethau.

 

Roedd ymgynghori’n parhau ynglŷn ag arddull arholiadau TGAU a Lefel A a chymwysterau cyfwerth - hyd oni roddid y cwricwlwm newydd ar waith mewn ysgolion uwchradd - ond roedd disgwyliad serch hynny y byddai yno gymwysterau ym meysydd rhifedd, llythrennedd a gwyddoniaeth ac yn y blaen.

 

Yn y gorffennol cyflwynwyd adroddiadau ar ganlyniadau addysgol, asesiadau cyfnodau allweddol a chymariaethau â chanlyniadau cenedlaethol yn gyson i’r Pwyllgor Craffu Perfformiad. Wrth newid y drefn o blaid addasu’r maes llafur yn lleol yn hytrach na chanolbwyntio cymaint ar ganlyniadau byddai angen newid y dull o adolygu perfformiad. Er y byddai profion safonedig yn parhau ni fyddai’r meincnodau blaenorol yn bodoli mwyach. Roedd gwaith yn mynd rhagddo i gytuno ar ddull ystyrlon o gyflwyno’r canlyniadau i bwyllgorau craffu yn y dyfodol.

 

Rhoes swyddogion Sir Ddinbych a GwE y wybodaeth ganlynol wrth ymateb i gwestiynau’r Pwyllgor:

 

·         Cydnabuwyd yr effaith andwyol ar iechyd meddwl dysgwyr yn sgil y pwysau o eistedd nifer o arholiadau mewn cyfnod cymharol fyr. Rhagwelwyd y byddai ymgynghori â Llywodraeth Cymru a’r byrddau arholi’n golygu bod modd ymchwilio i gyflwyno asesiadau parhaus a ffyrdd eraill o leddfu’r pwysau.

·         Darparwyd ychwaneg o grantiau i ysgolion er mwyn paratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd a’i ddarparu.

·         Roedd y pwnc newydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn wahanol i’r hyn a addysgwyd o’r blaen ac yn ymdrin â systemau cred yn hytrach na chrefyddau ynddynt eu hunain.

·         Er yr anogid ysgolion i addasu’r cwricwlwm yn lleol roedd yno 27 o sgiliau craidd y byddai’n rhaid i’r cwricwlwm a fabwysiadwyd roi sylw iddynt. Asesid sgiliau a gwybodaeth y dysgwyr fel o’r blaen, ond byddai ‘hynt y daith’ yn newid ac roedd gan

·         GwE drefniadau rhagorol ar gyfer gweithio mewn partneriaeth â’r Athro Graham Donaldson, a luniodd y cwricwlwm newydd, a chlystyrau o ysgolion (lleol a chenedlaethol) er mwyn rhannu’r arferion gorau.

 

Pwysleisiodd y Pennaeth Addysg eto mai dyma fan cychwyn y daith wrth fesur llwyddiant Cwricwlwm Cymru. Yn ôl pob tebyg byddai’n cymryd deuddeg mis i asesu llwyddiant y cwricwlwm, y gwersi a ddysgwyd a’r hyn y gellid ei alw’n llwyddiant.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl,

 

Penderfynwyd:  yn amodol ar y sylwadau uchod –

 

(i)   derbyn y wybodaeth a gyflwynwyd ynglŷn â’r cynnydd wrth weithredu Cwricwlwm Cymru yn ysgolion Sir Ddinbych; a

gofyn am adroddiad arall mewn deuddeg mis yn manylu ynghylch effeithiolrwydd cyflwyno’r Cwricwlwm yn ysgolion cynradd y sir, gan gynnwys y gwersi a ddysgwyd wrth ei gyflwyno, ac yn egluro’r camau a gymerwyd wrth baratoi ar gyfer darparu’r Cwricwlwm yn holl ysgolion uwchradd y sir o fis Medi 2023 ymlaen.

Dogfennau ategol: