Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD MONITRO IAITH GYMRAEG BLYNYDDOL

I drafod a chytuno ar gynnwys yr adroddiad Monitro Iaith Gymraeg blynyddol ar gyfer 2021/22 (copi ynghlwm)

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr Adroddiad Monitro’r Gymraeg blynyddol gan yr Arweinydd Tîm - Cyfathrebu (adroddiad wedi’i ddosbarthu eisoes).

 

Yn unol â Safonau’r Gymraeg a gyflwynwyd o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, mae’n ofynnol i’r Cyngor gyhoeddi adroddiad erbyn 30 Mehefin bob blwyddyn yn amlinellu’r gwaith a wnaed i gydymffurfio â gofynion y Safonau rhwng 1 Ebrill a 31 Mawrth. Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar 6ed blwyddyn gweithrediad Safonau’r Gymraeg gyda’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn wahanol iawn i’r arfer. Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi ymrwymo’n llwyr i ymateb yn gadarnhaol i Safonau’r Gymraeg fel sydd wedi’i adlewyrchu yn Strategaeth y Gymraeg 2017-2022 ac mae’r Cyngor yn dal yn gwbl ymrwymedig i chwarae ei ran yn yr ymdrech genedlaethol i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050.

 

Yn 2021-22 roedd y Cyngor yn canolbwyntio’n benodol ar weithrediad y Safonau Iaith o fewn yr awdurdod gan sicrhau cydymffurfiaeth â’r 167 Safon o dan y penawdau Cynllunio Gwasanaethau, Gwneud Polisïau, Hyrwyddo a Chadw Cofnodion. Er mwyn gwneud hyn roedd yn hanfodol gweithio’n agos â Phencampwyr y Gymraeg ar draws yr Awdurdod i fonitro cydymffurfiaeth staff pan oedd y rhan fwyaf o’r gweithlu’n dal i weithio gartref. Rydym yn dal i gefnogi’r gweithlu fwy nag erioed gyda gweithrediad y safonau a’n targed yw dyblu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg. I wneud hyn rydym yn hyrwyddo cyrsiau Cymraeg er mwyn i staff allu cychwyn ar eu siwrnai iaith neu gyrsiau magu hyder a gweithgareddau mewnol i helpu staff i ddatblygu a meithrin eu sgiliau Cymraeg.

 

Roedd y Cyngor yn aelod gweithredol o’r Bartneriaeth Iaith a arweiniwyd  gan Fenter Iaith Sir Ddinbych.  Mae’r fforwm yn cynnwys sawl sefydliad, lleol a chenedlaethol, sy’n gweithio’n strategol tuag at hyrwyddo a datblygu’r Gymraeg yn Sir Ddinbych.

 

Mae Cynllun y Gymraeg Mewn Addysg Sir Ddinbych hyd 2032 yn cynnwys gwybodaeth am y bwriad i gyfuno Grŵp Strategol y Gymraeg Mewn Addysg â Fforwm Iaith y Sir i oruchwylio gweithrediad a gwerthusiad y cynllun.

 

Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi gwneud llawer o waith hanfodol i hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg yn fewnol ac yn allanol er mwyn sicrhau bod y Safonau Iaith yn cael eu gweithredu.

 

Cynhaliodd y Cyngor ei bedwerydd Eisteddfod rhwng 18 Chwefror ac 1 Mawrth fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi. Roedd y digwyddiad yn rhan o ymdrechion y Cyngor i godi proffil y Gymraeg,  i sicrhau gwell dealltwriaeth o’r iaith  ac i ddathlu diwylliant Cymru. Cynhaliwyd yr Eisteddfod yn ystod cyfnod o gryn ffocws ar y Gymraeg gydag Eisteddfod yr Urdd  ar fin dychwelyd i’r Sir ym mis Mai 2022. Unwaith eto eleni, oherwydd Covid-19, cynhaliwyd Eisteddfod y Staff yn ddigidol.

 

Roedd ‘Mae Gen i Hawl’ yn ymgyrch genedlaethol i ddathlu’r gwasanaethau iaith a gynigir gan Awdurdodau Lleol a hawliau pobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu hymwneud â nhw. Roedd yn gyfle i hyrwyddo gwasanaethau iaith Gymraeg yn Sir Ddinbych ac i gynyddu’r niferoedd sy’n dewis eu defnyddio. Mae’r ymgyrch farchnata’n siarad am rai o’r hawliau sydd gan y cyhoedd y ogystal â staff y Cyngor.

 

Trafododd y pwyllgor y pwyntiau canlynol yn fwy manwl –

 

  • Diolchodd y Cynghorydd Emrys Wynne i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, Cymunedau, Swyddog y Gymraeg a’r Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts - cyn aelod arweiniol y Gymraeg, am y gwaith a grybwyllwyd yn yr adroddiad. Roedd y cytuno bod gweithio o bell wedi effeithio ar gymdeithasu a chyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg. Un o uchelgeisiau’r Cynghorydd Wynne fel aelod arweiniol oedd sicrhau y gallai pobl ddefnyddio’r Gymraeg ac na fyddai unrhyw effeithiau anffafriol o wneud hynny.
  • Codwyd y mater o’r gyllideb ar gyfer y Gymraeg a dywedwyd wrth yr aelodau y bydd unrhyw gostau perthnasol yn dod o gyllidebau’r gwasanaethau.
  • Codwyd y mater o agor cyfarfodydd pwyllgor gan fod rhai aelodau’n meddwl bod pob cyfarfod i fod i gael ei agor yn Gymraeg ond nad yw hyn yn digwydd bob tro. Bydd y Swyddog Iaith yn rhannu’r wybodaeth gyda’r aelodau i annog cadeiryddion pwyllgorau i agor cyfarfodydd yn Gymraeg.

 

PENDERFYNWYD bod Pwyllgor Llywio’r Gymraeg yn nodi ac yn cymeradwyo’r adroddiad

 

 

Dogfennau ategol: