Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 46/2021/1161/ PF - TIR ODDI AR FFORDD UCHAF DINBYCH, LLANELWY LL17 0RY

Ystyried cais ar gyfer codi 113 annedd, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau, gwaith tirlunio a chysylltiedig ar dir oddi ar Ffordd Uchaf Dinbych, Llanelwy, LL17 0LW (copi ynghlwm).

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais ar gyfer adeiladu 113 o anheddau, adeiladu mynediad newydd i gerbydau, tirlunio a gwaith cysylltiedig ar dir ger

Ffordd Dinbych Uchaf, Llanelwy.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Mr Stuart Andrew (O BLAID) – Cyflwynodd Mr Andrew ei hun i’r pwyllgor gan esbonio mai ef oedd y cyfarwyddwr dylunio a chynllunio i gwmni Castle Green Homes. Roedd y cais am 130 o gartrefi yn Llanelwy. Atgoffodd yr aelodau bod safle’r cais wedi’i ddyrannu ar gyfer tai gan Gyngor Sir Ddinbych yn y Cynllun Datblygu Lleol presennol. Datganodd mai ail hanner dyraniad ehangach oedd y cais arfaethedig hwn, a bod y cyntaf wedi cael ei ddatblygu’n rhannol gan Pure Residential. Roedd y cais a gyflwynwyd yn cynnig darpariaeth lawn tai fforddiadwy a man agored cyhoeddus fel sy’n ofynnol gan bolisïau mabwysiedig y Cyngor. Datganodd bod 10 o’r 13 annedd a gynigir wedi’u dynodi fel rhai fforddiadwy. Yn unol â gofynion swyddogion cynllunio strategol y cyngor, byddai cymysgedd o anheddau un, dwy a thair ystafell wely ar gael.

Clywodd yr Aelodau y byddai 2 acer o fan agored wedi’i dirlunio ac ardal chwarae newydd yn cael eu creu ar gyfer y cyhoedd. Hefyd byddai oddeutu un acer o diroedd aeddfed presennol yn cael eu cadw i wella’r gofod.

Ychwanegodd bod cyfraniadau ariannol wedi’u cadarnhau ar gyfer adeiladu tai fforddiadwy oddi ar y safle, ardaloedd mannau agored cyhoeddus presennol, cyfleusterau chwaraeon ac addysg gynradd gyda swyddogion Sir Ddinbych.  Roedd cyfanswm y taliadau bron yn £250,000 i’w sicrhau trwy gytundeb cyfreithiol gyda’r cyngor.

Yn ystod y cais roedd yr ymgeisydd wedi bod yn ymwybodol o broblem yn ymwneud â llifogydd ar Ffordd Dinbych Uchaf. Dywedodd nad oedd y cais yn cyfrannu at y broblem lifogydd bresennol.  Roedd yr ymgeisydd wedi cynnig gwneud gwaith i wella draeniad y tir gerllaw’r briffordd wedi’i mabwysiadu a’r ardal a effeithir heb unrhyw gost i’r awdurdod.

Cyfeiriodd yn yr adroddiad at yr effaith ar Hosbis Sant Cyndeyrn. Amlygodd fod yr hosbis wedi gohebu gyda’r cyngor yn y gorffennol gan roi cefnogaeth i’r cais hwn. Cadarnhaodd, ar ôl cyd-drafod â’r hosbis, eu bod wedi dod i gytundeb y byddai rhan o’r datblygiad yn cael ei neilltuo er mwyn ymestyn gardd bresennol yr hosbis.

Rhoddwyd cadarnhad fod y cais wedi cael ei ystyried gan yr holl ymgyngoreion statudol angenrheidiol a swyddogion y cyngor a daethpwyd i’r casgliad nad yw’r cais yn cael unrhyw effaith andwyol ar amwynderau gweledol a phreswyl lleol. Byddai materion yn ymwneud ag ecoleg yn cael eu datrys i safon foddhaol swyddog ecoleg y cyngor. Roedd y gwaith priffyrdd a draenio arfaethedig yn cael eu hystyried yn dderbyniol ac roedd yr holl ofynion polisi wedi cael eu hateb.

Diolchodd Mr Andrew i’r aelodau am eu hamser a’u hystyriaeth o’r cais.

 

Trafodaeth Gyffredinol –

 

Hysbysodd y Cadeirydd y pwyllgor bod ymweliad safle wedi’i gynnal. Cadarnhaodd y Cynghorydd Peter Scott, a oedd yn bresennol yn yr ymweliad safle, bod yr ymweliad wedi bod yn llawn gwybodaeth. Hysbysodd yr aelodau fod Cyngor y Ddinas wedi ysgrifennu llythyr gwrthwynebu yn y gorffennol, ond ar ôl yr ymweliad safle roedd y pryderon a godwyd yn wreiddiol gan Gyngor y Ddinas wedi cael eu lliniaru. Roedd yn falch o weld y gwelliannau mynediad i’r safle a’r llwybrau troed newydd a gynigwyd ar hyd y 525 ac roedd Cyngor y Ddinas yn cefnogi’r rheiny. Roedd yn dda gweld y gwaith a gynllunnir yn yr hosbis. Pwysleisiodd y byddai'r draeniad tir a gynigiwyd ar y safle o fudd i drigolion lleol.

 

Roedd y Cynghorydd Martyn Hogg (Aelod Lleol) hefyd wedi mynychu’r ymweliad safle. Hysbysodd yr aelodau ei fod wedi cael cefnogaeth gref gan y swyddogion cynllunio i ddeall ac edrych ar wrthwynebiadau a godwyd gan Gyngor y Ddinas. Yn ei farn ef, teimlai fod yr ymgeisydd wedi ymateb yn dda i’r gwrthwynebiadau. Awgrymodd bod y Pwyllgor Cynllunio yn rhoi adborth i’r Grŵp Cynllunio Strategol am y wybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd ynghylch y Cynllun Datblygu Lleol i’w gwneud yn haws i drigolion lleol ddeall beth sy’n cael ei gynnwys yn y cynllun. Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai’n dweud wrth y grŵp beth yw’r pwyntiau.

 

Cododd Aelodau bryderon y byddai rhai o’r gwrychoedd a’r coed yn cael eu torri yn ystod gwaith adeiladu’r datblygiad. Y gobaith oedd y byddai’r coed presennol yn cael eu hymgorffori yn y cynlluniau os yw hynny’n bosibl. Cadarnhaodd y Swyddog Cynllunio bod y cynllun wedi cael ei ddiwygio i geisio cadw cymaint ag sy’n bosibl o wrychoedd a choed. Trafodwyd defnyddio’r coed a gwympir i greu cynefin coed marw ar y safle. Roedd cynllun tirlunio ac ecoleg cynhwysfawr  wedi cael ei ddarparu a oedd yn cynnwys plannu coed a llwyni newydd. Roedd ecolegydd yr awdurdod yn fodlon bod y cynlluniau’n cynnwys digon o goed a gwrychoedd.

 

Rhoddodd yr Uwch Beiriannydd - Rheoli Datblygu  fanylion pellach am yr asesiad priffyrdd sy’n rhan o’r cais. Nododd ei fod wedi darllen a deall amcanion a phryderon y cais. Cadarnhaodd bod asesiad cludiant manwl wedi cael ei gwblhau. Byddai mynediad i’r safle arfaethedig yn lôn sy’n troi i’r dde. Ni fydd yn effeithio ar lif esmwyth traffig. Byddai gwaith yn cael ei wneud ar symud y goleuadau stryd a’r arwyddion 30mya tuag at Trefnant. Byddai’r holl fanylion yn cael eu cynnwys mewn cytundeb cyfreithiol gyda’r ymgeisydd a chyfamod i gwblhau’r gwaith a gytunwyd. Roedd swyddogion hefyd wedi gofyn am gyswllt i’r rheilffordd i’r dwyrain er mwyn sicrhau unrhyw hawl tramwy ar gyfer y dyfodol. Clywodd yr Aelodau bod swyddogion wedi gofyn am gynnwys llwybr troed ar y safle ar hyd ymyl yr A525 o’r lôn wledig sy’n cysylltu â’r mynediad i’r safle ar gyfer cerddwyr.

 

Cadarnhaodd y Peiriannydd Perygl Llifogydd fod angen cymeradwyaeth SUDS (Systemau Draenio Cynaliadwy) ar gyfer datblygiadau dros 100 metr sgwâr. Cadarnhaodd fod y datblygwyr wedi cyflwyno cais SUD. Fel rhan o’r cais hwnnw, roedd cynigion i wneud gwelliannau i ddraeniad presennol y tir.

 

Nododd yr aelodau ddiffyg ymateb gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Mewn ymateb, cadarnhaodd swyddogion yr ymgynghorwyd â CNC trwy gydol y broses. Roeddent wedi gofyn am gynnal arolwg madfallod dŵr cribog. Clywodd yr aelodau bod arolwg madfallod wedi’i gynnal rhwng mis Mawrth a mis Mai.  Cafwyd cadarnhad bod yr ymgeisydd wedi cynnal yr arolygon gofynnol. Roedd swyddogion wedi ail-ymgynghori â CNC ond oherwydd terfynau amser y pwyllgor nid oedd ymateb i’w gynnwys ar y rhaglen hyd yma. Yn gynwysedig yn y nodiadau ategol oedd yr ymateb gan CNC, a oedd yn cadarnhau bod yr arolygon a gwblhawyd yn foddhaol ond roeddent wedi cynnwys rhai amodau.

 

Pwysleisiwyd pa mor bwysig oedd cyfathrebu rhwng aelodau a thrigolion lleol trwy gydol y broses. Pwysleisiodd y RhRhD pa mor bwysig oedd perthynas waith dda gyda chymunedau a darpar ddatblygwyr.

 

Clywodd yr Aelodau y byddai’r swyddogion yn trafod gyda’r datblygwr amseriad darparu’r man agored a gynigiwyd yn Hosbis Sant Cyndeyrn. Byddai’n cael ei gynnal ar yr amser mwyaf priodol i wneud hynny. Cadarnhaodd y RhRhD y byddai’n trafod gyda’r ymgeisydd pe bai’n llwyddiannus ac yn cynnwys y Cynghorydd Martyn Hogg fel aelod lleol.

 

Roedd aelodau’n falch o nodi’r symiau gohiriedig tuag at addysg gynradd. Rhoddwyd canmoliaeth i’r gwaith eang a wnaethpwyd gan swyddogion. Roedd yr Aelodau’n falch o weld y berthynas waith gadarnhaol rhwng swyddogion a’r datblygwr.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y swyddog, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Peter Scott.

 

PLEIDLAIS:

O BLAID - (12 pleidlais wedi’u bwrw yn y Siambr, 5 pleidlais trwy Zoom) - 17

YN ERBYN – 0

YMATAL – 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.

 

Dogfennau ategol: