Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 45/2022/0226/ PS - MEITHRINFA DDYDD EARLY LEARNERS, 13 DYSERTH ROAD, RHYL LL18 4DW

Ystyried cais i amrywio Amod rhif 2 caniatâd cynllunio 45/2010/0171/PF i ddarllen na fydd lle i fwy na 43 o blant yn y feithrinfa ddydd i blant ar unrhyw adeg ym Meithrinfa Ddydd Early Learners, 13 Dyserth Road, Rhyl (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Ar y pwynt hwnt gadawodd y Cynghorydd Ellie Chard y cyfarfod ar ôl iddi ddatgan cysylltiad personol sy’n rhagfarnu â’r eitem.

 

Cyflwynwyd cais am Amrywio Amod 2 caniatâd cynllunio 45/2010/0171/PF i ddarllen y gellir darparu lle i ddim mwy na 43 o blant yn y feithrinfa ddydd ar unrhyw adeg ym Meithrinfa Early Learners, 13 Ffordd Dyserth, Y Rhyl.

 

Hysbysodd yr Aelod Lleol Pete Prendergast yr aelodau bod y feithrinfa wedi bod yno ers dros 40 mlynedd a chyn hynny roedd wedi bod yn siop groser fach. Roedd cyfyngiad wedi’i osod ar nifer y plant a ddylai fynychu’r feithrinfa yn y gorffennol yn bennaf oherwydd pryderon a godwyd ynghylch traffig ar y safle. Hysbysodd yr aelodau mai dim ond un ddamwain a oedd wedi’i chofnodi yno hyd yma, a honno wedi digwydd y tu allan i oriau gweithredu’r feithrinfa.

Diolchodd yr aelod lleol i swyddogion am fonitro traffig ar y safle er mwyn cael canfyddiadau i’r aelodau.  Datganodd fod nifer fawr o ddefnyddwyr y feithrinfa yn cerdded i’r safle ac mai’r nifer fwyaf o geir a welwyd ar y safle oedd dau. Adleisiodd y Cynghorydd Diane King yr hyn a ddywedodd y Cynghorydd Prendergast.

Cynigodd y Cynghorydd Pete Prendergast, y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd fod ymweliad safle wedi’i gynnal. Roedd manylion y rheiny a oedd yn bresennol yn yr ymweliad wedi cael eu darparu. Nodwyd bod y Cynghorydd Pete Prendergast wedi bod yn bresennol i gynrychioli’r grŵp Llafur.

Hysbysodd y Cynghorydd Peter Scott yr aelodau ei fod wedi mynychu’r ymweliad safle a’i fod yn hapus i gefnogi’r Aelodau Lleol a chefnogi’r cais.

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad a oedd yr adeilad wedi’i ymestyn neu ei addasu i wneud lle i’r darpariaethau ychwanegol ar y safle yn y cais. Datganodd y Cynghorydd Peter Prendergast fod llawr cyntaf y safle wedi cael ei ehangu i’w ddefnyddio fel cyfleusterau ar gyfer y feithrinfa, sy’n golygu y byddai’r safle cyfan yn cael ei ddefnyddio fel meithrinfa os oedd y pwyllgor yn cytuno.

Cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Datblygu (RhRhD) bod yr adeilad wedi cael ei ymestyn yn ffisegol yn y gorffennol. Cadarnhaodd fod y safle wedi cael caniatâd cynllunio i’w ddefnyddio fel meithrinfa ddydd ar y llawr gwaelod a’r llawr cyntaf. Byddai’r cais hwn yn caniatáu i’r ymgeisydd ehangu’r cyfleusterau i’r llawr cyntaf, nid oedd newidiadau ffisegol i’r adeilad wedi’u cynnwys yn y cais. 

 

Cododd aelodau bryderon fod digwyddiadau bach wedi bod ar achlysuron ar y safle ond nad oeddent o bosibl wedi cael eu hadrodd. Gofynnwyd a oedd swyddogion traffig wedi bod yno yn arsylwi ar adegau prysur megis yn gynnar yn y bore ac yn hwyrach yn y dydd. Cadarnhaodd yr Uwch Beiriannydd - Rheoli Datblygu bod y swyddog achos wedi mynychu’r safle ar amseroedd gollwng a chasglu plant. Cadarnhaodd nad oedd wedi bod yn dyst i unrhyw broblemau. Pwysleisiodd nad oedd unrhyw ddigwyddiadau wedi’u hadrodd ar y safle ers dros 12 mlynedd. Yn ei farn ef nid oedd unrhyw dystiolaeth ddoeth i wrthod ar sail priffyrdd.

Clywodd yr Aelodau gan y RhRhD bod modd gweld manylion y gofod ffisegol sy’n ofynnol mewn adeilad ar gyfer nifer y plant y dylai cyfleuster gofal plant ddarparu ar eu cyfer mewn canllawiau a deddfwriaeth ar wahân. Roedd yn disgyn o dan Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru a fyddai'n sicrhau bod digon o le i'r plant ychwanegol. Roedd yr Aelodau yn meddwl y byddai ASGC wedi cynnal ymchwiliadau llawn o’r gofod a’r niferoedd er mwyn derbyn y cais. Cadarnhaodd y swyddogion fod ASGC yn fodlon â’r cynnig.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Pete Prendergast bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y swyddog gan gynnwys nodyn i’r ymgeisydd, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Peter Scott.

 

PLEIDLAIS:

O BLAID - (9 pleidlais wedi’u bwrw yn y Siambr, 4 pleidlais trwy Zoom) - 13

YN ERBYN – 3

YMATAL – 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: