Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 18/2021/1260/ PF - TIR GER MAES LLAN, LLANDYRNOG, DINBYCH, LL16 4HF

Ystyried cais ar gyfer codi 40 annedd, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau, gwaith tirlunio a chysylltiedig ar dir ger Maes Llan, Llandyrnog, Dinbych (copi ynghlwm).

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i adeiladu 40 o anheddau, adeiladu mynediad newydd i gerbydau, tirlunio a gwaith cysylltiedig ar dir ger

Maes Llan, Llandyrnog, Dinbych.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Mr Emyr Morris (yn bresennol ar-lein) (YN ERBYN) – dywedodd Mr Morris y byddai datblygiad o 40 o dai yn cynrychioli’r datblygiad unigol mwyaf yn hanes y pentref gan ychwanegu 10% at stoc dai, trigolion a thraffig yn yr ardal. Hysbysodd yr aelodau bod ffordd y B5429 i mewn i’r pentref ar gau ar ddiwrnod yr ymweliad safle oherwydd bod gwaith trwsio yn cael ei wneud felly ni fyddai’r aelodau a oedd yn bresennol yn yr ymweliad wedi gweld cynrychiolaeth gywir o’r lefelau traffig. Yn ei farn ef, os defnyddir tir amaethyddol ar gyfer datblygiad, dylai ddiwallu anghenion y trigolion lleol yn gyntaf gan gymryd i ystyriaeth y pentrefwyr lleol sydd eisoes yn byw yno. Roedd cynllun presennol y safle yn wahanol iawn i’r cynigion yn y cais cynllunio amlinellol. Roedd y tir blaen gwyrdd a gynigiwyd yn wreiddiol wedi’i ddileu, byddai hyn wedi sicrhau bod y datblygiad yn gydnaws ag eiddo cyfagos arall. Roedd y byngalos arfaethedig ar gyfer pobl â phroblemau symudedd neu sy’n dymuno symud i eiddo llai wedi diflannu. Hysbysodd yr aelodau y byddai lefelau gwelededd yn gostwng yn sylweddol ar gyfer un eiddo o ganlyniad i wrych, culni’r ffordd a thro yn y ffordd.

Tynnodd sylw at y wybodaeth yn y papurau cyfarwyddyd ategol gan ddatgan mai dim ond 12.4m fyddai rhwng cefn 14 Maes Llan a thalcen ochr llain 37 gyda ffenestr landin ochr yn wynebu Maes Llan.  Mae hynny’n llai na 41 troedfedd sef hyd bws ysgol, a dim ond 12m fyddai rhyngddo a rhif 13 Maes Llan. Yn ei farn ef nid oedd ffenestri mor agos i’w gilydd â hyn yn dderbyniol ac yn is na’r cyfarwyddyd o 15m. Datganodd ei fod wedi cael gwybod nad oedd dwysedd adeiladau yn broblem ar y safle, felly holodd pam y bwriedir eu hadeiladu mor agos at eiddo presennol.

Mae dŵr wyneb sy’n teithio o’r datblygiad o bwll arafu i gyli ar y brif ffordd sy’n wynebu problemau llifogydd ar hyn o bryd, i bibell sy’n gollwng i gwrs dŵr sy’n cael ei nodi fel un sydd mewn perygl uchel o lifogydd ar fapiau Cyfoeth Naturiol Cymru, yn annerbyniol.  Dywedodd ei fod yn pryderu nad oedd unrhyw sylwadau wedi cael eu cyflwyno gan CNC na swyddogion perygl llifogydd Sir Ddinbych. Datganodd y dylai’r cynlluniau gynnwys system waredu ar y safle gan ddefnyddio craeniau arafu ac nid pasio’r dŵr ymlaen.

 

Helen Morgan (O BLAID) – Hysbysodd yr aelodau ei bod wedi cael ei magu’n lleol yn Rhuthun. Clywodd yr aelodau bod yr ymgeisydd yn gwmni lleol hirsefydledig a oedd wedi creu llawer iawn o swyddi i’r ardal gan gyflogi dros 500 o bobl gyda 8% o’r rheiny yn dod o ogledd Cymru. Yn ei barn hi, roedd lleoliad y safle yn briodol ar gyfer datblygiad newydd ac yn gynaliadwy ac yn cyd-fynd â’r cynllun datblygu lleol (CDLl). Roedd yr egwyddor o ddatblygu tai ar y safle yn cael ei ystyried yn dderbyniol. Roedd Llandyrnog wedi cael ei nodi fel pentref o fewn strategaeth dwf y CDLl, gan hynny byddai’n diwallu anghenion tai yr ardal leol. Mae safle gwreiddiol y cynnig wedi cael caniatâd cynllunio sy’n bodoli ar gyfer 40 o dai, roedd y datblygiad hwn yn cynnig yr un nifer o dai. Roedd y cynnig wedi cael ei ddiwygio i sicrhau bod y datblygiad yn ateb gofynion deddfwriaethol.      

Roedd cymysgedd o dai 2, 3 a 4 ystafell wely yn cael eu cynnig a chymysgedd o dai sengl a thai pâr. Pwysleisiwyd fod yr adran briffyrdd wedi datgan na fyddai’r datblygiad yn cael effaith annerbyniol ar briffyrdd lleol a bod y prif fynediad yn cydymffurfio â’r safonau.

Pwysleisiodd nad oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi cael eu derbyn gan yr ymgyngoreion statudol. Yn ei barn hi roedd y datblygiad yn cynrychioli cyfraniad cadarnhaol i ddatblygiad cynaliadwy yn Sir Ddinbych a byddai’n cyfrannu at yr angen am dai yn yr ardal gan gynnwys 4 o dai fforddiadwy. Roedd y datblygiad yn cyd-fynd ag egwyddorion allweddol polisïau cynllunio Cymru, gan gynnwys polisïau lleol a oedd wedi’u mabwysiadu yn y CDLl.

 

Trafodaeth gyffredinol - Diolchodd y Cadeirydd i’r ddau siaradwr am eu sylwadau. Hysbysodd y Rheolwr Rheoli Datblygu (RhRhD) yr aelodau bod nifer o swyddogion yn bresennol i gynnig gwybodaeth ychwanegol i ymholiadau technegol.

Hysbyswyd yr aelodau bod prif adroddiadau’r rhaglen gynllunio yn cael eu paratoi ychydig wythnosau cyn dyddiad y cyfarfod er mwyn gallu cyfieithu a chyhoeddi’r papurau.  Yna mae swyddogion yn cynhyrchu’r Nodiadau Cyfarwyddyd Ychwanegol gan gynnwys unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd wedi’i derbyn ac yn eu cylchredeg ddiwrnod cyn y cyfarfod. Hysbysodd y RhRhD yr aelodau bod swyddogion ambell waith yn derbyn sylwadau hwyr iawn a gyflwynir ar ôl cylchredeg yr wybodaeth hwyr.

Clywodd yr aelodau bod sylwadau hwyr iawn wedi cael eu derbyn ar gyfer y cais hwn. Datganodd y RhRhD bod y wybodaeth wedi cael ei derbyn gan Dr James Davies AS. Gyda chytundeb y Cadeirydd a'r pwyllgor cyflwynodd y RhRhD ar lafar y wybodaeth a oedd wedi ei chynnwys o fewn y llythyr. Darllenodd yr RhRhD y llythyr yn llawn at y Pwyllgor a oedd yn ymdrin â materion yn ymwneud â'r dyraniad tir, dwysedd, diogelwch ffyrdd, pellter i anheddau presennol, draenio a mathau o dai.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd fod ymweliad safle wedi’i gynnal.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Peter Scott ei fod wedi mynychu’r ymweliad safle. Hysbysodd y pwyllgor fod Swyddogion Priffyrdd wedi bod yn bresennol i ateb pryderon ynghylch traffig. Roedd yn pryderu am agosrwydd y tai presennol 13 a 14 a'r eiddo arfaethedig newydd yn plot rhif 37 . Roedd yn falch o nodi yn y wybodaeth ychwanegol na fyddai wyneb talcen llawn yr eiddo arfaethedig ar lain 37 yn syth y tu ôl i 13 neu 14 Maes Llan, ond yn hytrach hanner ffordd rhwng y ddau ac felly nid oedd yn cael ei ystyried yn ormesol ar y naill eiddo na’r llall. Credai y byddai gosod ffenestr afloyw yn atal pobl rhag edrych drosodd i eiddo 13/14.

Fe wnaeth y Cynghorydd Merfyn Parry (Aelod Lleol) atgoffa'r aelodau bod dadl ynglŷn â datblygu'r safle wedi bod yn mynd rhagddo ers nifer o flynyddoedd gan annog aelodau i ddarllen hanes y cais oedd wedi ei gynnwys yn y papurau. Dywedodd bod amryw o drigolion lleol wedi mynegi pryderon ynghylch priffyrdd, effaith ar lefelau gwelededd, perygl llifogydd a’r llwybr troed. Dywedodd ei fod yn falch o nodi bod swm gohiriedig wedi’i gynnig ar gyfer ardal agored yn y pentref. Roedd hefyd yn falch bod anghenion tai wedi cael eu newid i ddiwallu anghenion y trigolion.

 

Diolchodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts i swyddogion am y papurau manwl a chynigodd y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog. Eiliodd y Cynghorydd Peter Scott y cynnig i gymeradwyo.

 

Mewn ymateb i bryderon a godwyd, nododd yr Uwch Beiriannydd - Rheoli Datblygu bod y plot yn destun caniatâd cynllunio sy’n bodoli ar gyfer codi’r un nifer o anheddau a roddwyd yn 2016. Pwysleisiwyd bod bwriad i ymestyn y terfyn cyflymder 30mya presennol 40 metr y tu hwnt i ffin y datblygiad. Roedd llwybr troed newydd yn cael ei gynnig hefyd i gysylltu â’r llwybr troed presennol sydd ar y safle. Cadarnhaodd bod y lleoedd parcio oddi ar y stryd i’r tai ger Gladstone Terrace yn amrywiad sylweddol i’r cynllun gwreiddiol.  Byddai’n rhaid i gerbydau fynd dros y droedffordd i fynd i mewn i’r dreif. Nid oedd y cyfleuster parcio hwn yn un anghyffredin. Clywodd aelodau bod llwybr troed ar hyd ffin ogleddol y safle a oedd yn cysylltu ger tafarn y Ceffyl Gwyn, ac y byddai gwelliannau megis goleuadau. Byddai’r gwelliannau arfaethedig i’r llwybr troed a’r goleuadau yn darparu cyswllt diogel i’r pentref gan gynnwys yr ysgol.    

 

Cadarnhaodd y Peiriannydd Risg Llifogydd bod unrhyw ddatblygiad newydd dros 100 metr sgwâr yn gorfod cael cymeradwyaeth gan Gorff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (SUDs). Roedd cais wedi cael ei gyflwyno ac roedd yn ateb yr holl ofynion statudol. Clywodd yr Aelodau y byddai angen mynd i’r afael â phroblem ynghylch gollwng dŵr wyneb ar y safle.  Byddai angen uwchraddio cylfat presennol. Roedd cynigion i uwchraddio’r cylfat hwnnw wedi cael eu cyflwyno a byddai’n ddibynnol ar berchnogion tir cyfagos.  Unwaith y byddai’r gwaith hwnnw wedi’i gyflawni, nid oedd unrhyw reswm i beidio â chymeradwyo’r Systemau Draenio Cynaliadwy.

Amlygwyd bod y cynnig yn cynnwys mewn egwyddor cael lagŵn i gynorthwyo yn ystod digwyddiadau lle mae gormodedd o ddŵr. Cadarnhaodd y byddai’r lagŵn yn aros yn sych am ran helaeth o’r flwyddyn.

 

Cadarnhaodd y RhRhD bod yr amod i osod ffenestr afloyw ar lain 37 yn dderbyniol a gellid ei gynnwys gyda’r amodau eraill a awgrymwyd. Amlygwyd bod dyluniad y cynllun wedi newid ers y dyluniad gwreiddiol. Roedd swyddogion yn fodlon bod ystod eang o fathau o eiddo wedi’u cynnwys yn nyluniad y cynllun. Roedd deddfwriaethau newydd hefyd wedi arwain at rai newidiadau i ddyluniad y cynllun.

 

Cynnig - Cynigodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog, gan gynnwys amod ychwanegol ar gyfer ffenestri afloyw ar y llawr cyntaf ar lain 37. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Peter Scott. 

 

Oherwydd problemau technegol i aelodau a oedd yn pleidleisio ar-lein, cafwyd saib o 5 munud. Penderfynwyd galw’r gofrestr ar gyfer yr aelodau a oedd yn mynychu ar-lein.

 

PLEIDLAIS:

O BLAID - (11 pleidlais wedi’u bwrw yn y Siambr, 5 pleidlais trwy Zoom) - 16

YN ERBYN – 0

YMATAL – 1

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol ynghyd â’r amod ychwanegol a nodir uchod.

 

Dogfennau ategol: