Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD BLYNYDDOL AR DDIOGELU OEDOLION YN SIR DDINBYCH

Ystyried adroddiad perfformiad blynyddol y Rheolwr Tîm, Gwasanaeth Diogelu Oedolion (copi ynghlwm) ar effaith trefniadau ac arferion Diogelu Lleol ac adolygu'r cynnydd a wnaed yn ystod y deuddeg mis diwethaf.

 

11.55 a.m – 12.40 p.m.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yr Adroddiad Blynyddol ar Ddiogelu Oedolion yn Sir Ddinbych (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i’r aelodau. Roedd yr adroddiad yn trafod y cyfnod o fis Ebrill 2021 tan fis Mawrth 2022. Yn ei barn hi, roedd yr adroddiad yn adlewyrchu’r gwaith caled a oedd wedi’i fuddsoddi i gynnal y gwelliant i ansawdd a chysondeb gwaith diogelu yn Sir Ddinbych. Canmolodd y staff am eu gwaith a’u cyflawniadau. 

 

Fe wnaeth y Rheolwr Gwasanaeth – Gwasanaeth Arbenigol arwain yr aelodau drwy’r adroddiad. Rhoddodd drosolwg o berfformiad y tîm dros y blynyddoedd diwethaf. Roedd yr adroddiad yn manylu ar weithgareddau’r Tîm gan ganolbwyntio ar gynnal gwelliannau o ran cysondeb ansawdd y gwaith diogelu, gan gynnwys perfformiad o ran dangosydd perfformiad Llywodraeth Cymru i gwblhau ymholiadau o fewn 7 diwrnod gwaith. Roedd swyddogion yn falch o roi gwybod i’r Pwyllgor bod perfformiad Sir Ddinbych ar y dangosydd hwn yn parhau i fod yn uchel, ar 99.7% dros y flwyddyn ddiwethaf.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn dangos sut roedd y tîm wedi bod yn cyflwyno gweithdrefnau Diogelu Cymru’n llawn, oedd yn cynnwys adroddiadau neu atgyfeiriadau oedd yn ymwneud ag unigolion mewn swyddi o ymddiriedaeth. Arweiniwyd yr aelodau i atodiad 2 ynghlwm wrth yr adroddiad, oedd yn rhoi mwy o fanylion ar ffurf astudiaeth achos o atgyfeiriad Unigolyn mewn Swydd o Ymddiriedaeth a dderbyniwyd. Roedd atodiad 3 yn darparu manylion i’r Pwyllgor ar ‘Adran 5: Canllaw Ymarfer Honiadau/Pryderon Diogelu am Ymarferwyr a’r Rhai mewn Swyddi o Ymddiriedaeth’. Pwysleisiwyd bod gweithredu’r maes hwn o ddiogelu’n gymharol newydd o fewn gweithdrefnau Cymru ac roedd ar adegau wedi bod yn heriol i’r Tîm Diogelu.

 

Roedd yr adroddiad yn darparu data i’r aelodau, yn cynnwys nifer yr atgyfeiriadau a dderbyniwyd dros y 3 blynedd ddiwethaf. Nodwyd bod nifer yr atgyfeiriadau wedi gostwng ers y pandemig COVID ond nid oedd yn achosi pryder i swyddogion. Roedd patrymau tebyg wedi bod mewn awdurdodau cyfagos. Roedd y Tîm wedi derbyn nifer o alwadau gan ddarparwyr gwasanaeth a gweithwyr proffesiynol eraill yn gofyn am gyngor ac arweiniad.

 

Roedd gwybodaeth yn cael ei darparu am y Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid. Darparwyd ystadegau i’r aelodau’n dangos cynnydd yn nifer y galwadau a gafwyd yn y maes hwn. Roedd y ceisiadau’n dod yn bennaf gan gartrefi gofal a chartrefi nyrsio ac roeddent yn bennaf yn ymwneud ag unigolion a oedd heb y gallu i wneud penderfyniad i fyw mewn cartref gofal. Felly, roedd angen asesiad i sicrhau bod y lleoliad er budd pennaf yr unigolyn. Arweiniwyd yr aelodau drwy’r prif gyflawniadau dros y 12 mis fel y nodai’r adroddiad.

 

Yn ystod y drafodaeth, trafodwyd y pwyntiau canlynol yn fwy manwl:

·         Roedd y ffigyrau am atgyfeiriadau o gam-drin mewn cartrefi gofal yn uchel gan fod yr unigolion yn y sefydliadau hyn yn fregus. Roedd dyletswydd ar staff i roi gwybod am unrhyw arwydd o gam-drin tybiedig. Nid oedd nifer yr atgyfeiriadau’n golygu bod mwy o gam-drin ynddynt nag mewn sefydliadau eraill. Roedd y data’n ymwneud â nifer yr atgyfeiriadau ac nid oedd bob amser yn golygu bod camdriniaeth.

·         Cadarnhaodd y swyddogion fod rhestr aros i geisiadau Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid oedd yn cael eu derbyn. Roedd y galw’n uchel ac roedd y rhestr aros yn cael ei hadolygu’n gyson a’i rheoli gan y Tîm Diogelu.

·         Cadarnhawyd bod dau Asesydd Budd Pennaf wedi’u recriwtio dros dro i geisio lleihau’r rhestr aros wrth baratoi at gyflwyno’r Trefniadau Amddiffyn Rhyddid yn 2023.

·         Roedd ymarfer adolygu ac ailfodelu’r Tîm yn cael ei wneud ar hyn o bryd. Byddai rhan o’r adolygiad hwnnw’n edrych ar ba adnoddau y byddai’r tîm eu hangen yn y dyfodol.

·         Roedd recriwtio a dal gafael ar staff cymwys ym mhob rhan o faes gofal cymdeithasol yn heriol iawn ar hyn o bryd. Roedd swyddogion corfforaethol yn ymwybodol o’r heriau ac yn trafod camau i gefnogi a gwella’r gwasanaeth yn rheolaidd. Roedd yr heriau’n rhai oedd i’w gweld ar hyd a lled y DU.

·         Awdurdodau lleol oedd y sefydliad arweiniol cyfrifol i asesu pryderon diogelu oedolion. Roedd yr adroddiad yn ymwneud â diogelu oedolion yn unig. Pe bai trydydd parti’n rhoi gwybod am bryder diogelu, byddai’n cael ei anfon i Adran Ddiogelu Sir Ddinbych i ymchwilio iddo, ble bynnag roedd yr achos honedig wedi digwydd. Byddai’r Cyngor wedyn yn cydweithio â’r holl asiantaethau partner i gynnal yr ymchwiliad. Roedd y model hwn o adrodd ar waith yn holl awdurdodau eraill Cymru.

·         Mae Grŵp Cyflawni Conwy a Sir Ddinbych yn gyfarfod misol o asiantaethau partner lle mae data diogelu ac unrhyw dueddiadau’n cael eu rhannu a’u trafod a’u meincnodi yn erbyn ystadegau cenedlaethol Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) lle bo’n briodol. Mae'r Grŵp Cyflawni yn bwydo drwodd i Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru.

 

Bu i’r aelodau longyfarch y Rheolwr Gwasanaeth – Gwasanaeth Arbenigol ar ennill gwobr Gofalu trwy’r Gymraeg yn gynharach eleni.

 

Felly:

 

Penderfynwyd: gan ystyried y sylwadau uchod –

 

(i)   derbyn a chymeradwyo cynnwys yr adroddiad;

(ii)   cydnabod pwysigrwydd mabwysiadu ymagwedd gorfforaethol at ddiogelu oedolion mewn perygl; a

(iii)  chyfrifoldeb y Cyngor i ystyried y mater hwn yn faes blaenoriaeth allweddol.

 

 

Dogfennau ategol: