Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

GWASANAETHAU DIGARTREFEDD A CHYMORTH TAI

Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Rheolwr Gwasanaeth, Cymorth i Fusnesau a Chymunedau, Uwch Archwilydd a Rheolwr Rhaglen - Datblygu Tai (copi ynghlwm) ar effeithiolrwydd y gwasanaeth digartrefedd amlddisgyblaethol a weithredwyd yn unol â gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer digartrefedd a chymorth cysylltiedig â thai ym mis Ebrill 2021.

 

 11.00 – 11.45 a.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau, adroddiad y Gwasanaethau Digartrefedd a Chymorth Tai (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Roedd yr adroddiad ar waith y Gwasanaeth Digartrefedd yn cynnwys adroddiad cynnydd ar ddarpariaeth y gwasanaeth yn Atodiad 1, wedi’i gyflwyno ar ran adran Archwilio Mewnol y Cyngor. Atgoffodd yr Aelod Arweiniol yr aelodau bod digartrefedd wedi bod ac yn parhau i fod yn fater heriol i bob awdurdod lleol. Roedd Llywodraeth Cymru wedi galw am ddulliau newydd o weithredu.

 

Dywedodd Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Cymorth Cymunedol wrth yr aelodau fod yr adroddiad yn un dilynol i adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor tua diwedd y llynedd. Pwysleisiwyd bod y Gwasanaeth Digartrefedd wedi mynd drwy newidiadau sylweddol yn 2021. Roedd tîm amlddisgyblaethol wedi’i sefydlu i gefnogi’r Tîm Digartrefedd. Ar ôl cyflwyno’r drefn newydd, roedd y Gwasanaeth wedi symud yn nes at weithredu drwy’r dull y dymunai Llywodraeth Cymru ei weld gan awdurdodau lleol. Roedd y dull hwn yn edrych ar fynd i’r afael ag effaith ehangach digartrefedd yn ogystal â cheisio sicrhau llety parhaol i bobl digartref.

Roedd y niferoedd mewn llety brys a thros dro’n parhau i fod oddeutu 180 aelwyd. Roedd y ffigwr hwn yn cynnwys pobl sengl neu deuluoedd. Roedd y nifer yn parhau’n gyson gan fod aelwydydd yn cael eu cefnogi. Clywodd yr aelodau mai’r pryder mwyaf i’r Gwasanaeth oedd nifer y bobl sengl dan 35 oed a oedd yn datgan eu bod yn ddigartref. Her arall oedd wedi wynebu’r tîm oedd dod o hyd i dai ar gyfer teuluoedd mwy. Yn ystod y 12–18 mis diwethaf, drwy gydweithio’n agos gyda’r Tîm Tai Cymunedol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, roedd y Gwasanaeth wedi lleoli 99 o aelwydydd mewn tenantiaethau parhaol mewn tai cymdeithasol.

Roedd gweithio gyda’r sector rhentu preifat i sefydlu cynllun sector rhentu preifat wedi bod yn her, oherwydd y newid yn y farchnad dai gyda’r cynnydd mewn galw am eiddo rhent. Roedd Llywodraeth Cymru wedyn wedi newid y cynllun yr oedd y Tîm Digartrefedd wrthi’n ei gyflwyno.

Dywedwyd wrth yr aelodau bod gofyn i swyddogion ddatblygu dull ailgartrefu cyflym. Roedd gwaith wedi dechrau i ddatblygu cynllun cychwynnol i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Roedd ailgartrefu cyflym yn golygu unigolyn a fyddai’n dod i mewn i’r system ddigartrefedd, yn cael ei asesu, wedyn byddai tenantiaeth yn cael ei chanfod ar ei gyfer a byddai’r Gwasanaeth yn sicrhau bod yr holl gymorth angenrheidiol ar gael i’r unigolyn. Y gobaith oedd y byddai hyn yn lleihau’r ddibyniaeth ar ddefnyddio llety brys.

 

Roedd contract wedi’i ddyfarnu’n ddiweddar i ddarparu gwasanaethau ymyrraeth gynnar ac atal. Drwy gyllid y grant cymorth tai, roedd y Gwasanaeth wedi caffael contract a oedd wedi’i ffurfio o gytundeb partneriaeth i gefnogi unigolion ac atal pobl rhag mynd yn ddigartref. Roedd y contract wedi’i ddyfarnu ym mis Ebrill 2022 ac roedd ar fin dod yn weithredol.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau bod niferoedd y rhai oedd yn cysgu allan yn Sir Ddinbych yn gymharol isel. Roedd y swyddogion yn ymwybodol o’r unigolion hynny a oedd yn dewis cysgu allan, felly roedd pob ymdrech yn cael ei gwneud i gefnogi a rheoli’r bobl hynny a oedd yn cadw cysylltiad â phob unigolyn. Roedd aelwydydd oedd yn dod at y Gwasanaeth Digartrefedd fel arfer yn gwneud hynny o ganlyniad i golli tenantiaeth ar eiddo. 

 

Cadarnhaodd yr Uwch Archwilydd fod yr archwiliad gwreiddiol o ddarpariaeth llety digartrefedd wedi dod i ben fis Mawrth 2020 ac roedd yn nodi 7 risg a phroblem, a 2 o’r rheiny’n risgiau mawr. Codwyd y sgôr sicrwydd isel oherwydd y risgiau sylweddol a nodwyd. Cynhaliwyd yr adolygiad archwilio dilynol cyntaf a bu ger bron y Pwyllgor Craffu Partneriaethau ym mis Rhagfyr 2021. Roedd yr archwiliad dilynol yn dangos nifer o welliannau ond roedd wedi cymryd mwy o amser i gyflawni’r gwelliannau, felly roedd y sgôr sicrwydd isel yn parhau. Nodai’r ail adolygiad dilynol fod cynnydd sylweddol wedi’i wneud. Dim ond 5 o’r 18 cam gweithredu oedd ar ôl. Roedd y tri phrif faes i’w gwella oedd ar ôl yn ymwneud â chofnodi adolygiadau achosion a chyflwyno gweithdrefnau ysgrifenedig. Yn dilyn yr ail adolygiad, roedd y sgôr sicrwydd wedi codi i sgôr ganolig. Roedd adolygiad arall wedi’i drefnu at fis Rhagfyr 2022.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r holl swyddogion am y papurau manwl. Darparodd y swyddogion ragor o wybodaeth am y pwyntiau canlynol a godwyd gan aelodau:

·         Roedd gwasanaethau Tai yn Gyntaf yn parhau i gael eu darparu. Roedd Tai yn Gyntaf yn cael ei gynnig i’r rhai digartref mwyaf di-newid eu harferion, a oedd â’r anghenion mwyaf cymhleth. Roedd yn wasanaeth mwy hirdymor a gynigai gymorth bob awr o bob dydd. Roedd yn darparu cymorth dwys parhaus. Roedd Llywodraeth Cymru wedi darparu ac ar hyn o bryd yn parhau i ddarparu cyllid.  Roedd y model ailgartrefu cyflym yn cynnwys darpariaeth o fath Tai yn Gyntaf.

·         Roedd rhai dan 35 oed yn parhau’n bryder i’r Gwasanaeth Digartrefedd gan nad oedd ganddynt ond hawl i gyfraddau lwfans tai lleol ar gyfer budd-dal tai. Roedd yn is na’r hyn a oedd fel arfer yn fforddiadwy i’r unigolion hynny. Nid oedd swyddogion yn ymwybodol o unrhyw newidiadau yr oedd disgwyl iddynt newid lefel budd-daliadau.

·         Yn dilyn y pandemig Covid, roedd nifer yr aelwydydd a oedd yn troi’n ddigartref wedi parhau’n gyson, heb ostwng na chynyddu.

·         Roedd sgôr sicrwydd uchel wedi’i hystyried gan Archwilio Mewnol yn dilyn yr adolygiad diweddar, ond gan fod dau gam gweithredu ar ôl ynghlwm â risgiau mawr, cadwyd y sgôr ar sicrwydd ganolig. Pe bai cynnydd yn parhau fel yr oedd wedi eisoes, y gobaith oedd cael sgôr sicrwydd uchel yn yr adolygiad nesaf.

·         Cyfyngedig oedd llety brys mewn ardaloedd gwledig. Roedd y Gwasanaeth yn ceisio rhoi llety i aelwydydd yn yr ardaloedd roeddent yn gofyn amdanynt, ond nid oedd modd gwneud hynny bob tro. 

·         Roedd galw am dai cymdeithasol yn cael ei fonitro ar draws y sir gyfan, gyda’r rhan fwyaf o’r galw i’w weld yng ngogledd y sir. Roedd y gyfraith yn dweud mai ond y sir roeddent yn ei ffafrio ar gyfer tŷ cymdeithasol yr oedd modd i unigolion ei nodi, ond roedd yr awdurdod lleol yn gwneud pob ymdrech i gynnig llety yn yr ardaloedd yr oedd yr unigolyn yn eu ffafrio lle bo modd. Pan oedd tai cymdeithasol ar gael, roedd y Tîm Digartrefedd yn cael y cynnig cyntaf i’w gynnig i aelwydydd posib’.

·         Atgoffwyd yr aelodau bod polisi ar waith i brynu hen eiddo’r Cyngor yn ôl – rhai a oedd wedi’u prynu yn rhan o’r Cynllun Hawl i Brynu. Pan oedd y tai hynny’n cael eu rhoi ar y farchnad, roedd yr Awdurdod yn ystyried eu prynu. 

·         Roedd y Tîm yn gweithio’n agos gyda’r Gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau ac roeddent yn cael mynediad at ddata a allai ddynodi aelwydydd a allai fod mewn perygl o ddigartrefedd. Roedd y gwaith hwn wedi’i wneud fel cynllun peilot ac roedd wedi bod yn llwyddiannus. Clywodd yr aelodau fod y Tîm yn aml yn dibynnu ar deuluoedd yn cyfathrebu â’r Tîm i gael cymorth. Y gobaith oedd y byddai’r gwaith ymyrraeth gynnar hwn yn fuddiol i gefnogi teuluoedd ac unigolion wrth iddynt wynebu anawsterau, gan eu hannog i gysylltu â’r Gwasanaeth mor fuan â phosib’ i geisio osgoi argyfwng am le i fyw yn nes ymlaen.

·         Lle’r oedd aelwydydd angen eiddo wedi’i addasu, roedd tîm o swyddogion yn cefnogi unigolion ac yn gweithio’n agos gyda’r teulu i asesu anghenion a pha gymorth roeddent ei angen. Roedd llety brys i aelwydydd oedd ag anghenion ychwanegol wedi bod yn broblem. Roedd llety a oedd eisoes yn eiddo i’r Cyngor yn aml yn cael ei addasu ar gyfer anghenion aelwydydd. 

·         Sefydlwyd fforwm landlordiaid y sector rhentu preifat er mwyn i swyddogion allu cyfathrebu â landlordiaid a phartneriaid i sôn am anghenion a thrafod pryderon.

·         Roedd angen i landlordiaid fod wedi cofrestru â Rhentu Doeth Cymru. Roedd yn un o’r amodau yr oedd swyddogion yn eu hasesu wrth drefnu tenantiaethau gyda landlordiaid.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r holl swyddogion am yr adroddiad manwl, ac i’r swyddogion a’r timau am y gefnogaeth barhaus i unigolion ac aelwydydd.

 

Ar ddiwedd trafodaeth y Pwyllgor:

 

Penderfynwyd: gan ystyried yr uchod –

 

(i)  bod y Pwyllgor wedi’i sicrhau bod cyflwyno’r gwasanaeth digartrefedd amlddisgyblaethol a dull traws-wasanaeth Corfforaethol yn unol â gweledigaeth ddigartrefedd a chymorth tai Llywodraeth Cymru, a’i fod yn cyfrannu at nod y Gwasanaeth Atal Digartrefedd i sicrhau bod pawb yn cael eu diogelu a’u cefnogi i fyw mewn cartrefi sy’n bodloni eu gofynion; ac

(ii) ar ôl adolygu’r cynnydd sylweddol a wnaed i fynd i’r afael â’r camau gweithredu o’r archwiliad, fod y Pwyllgor bellach yn fodlon bod unrhyw adroddiadau diweddaru eraill ar gynnydd y cynllun gwella’n cael eu cyflwyno o hynny ymlaen i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

 

Dogfennau ategol: