Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD BLYNYDDOL BWRDD UCHELGAIS ECONOMAIDD GOGLEDD CYMRU 2021/22

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Cynghorydd Elen Heaton, yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ar ran yr Arweinydd, y Cynghorydd Jason McLellan, Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd. Clywodd yr aelodau mai pwrpas yr adroddiad oedd rhoi crynodeb i’r aelodau o berfformiad blynyddol a chwarterol y gwaith yr oedd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru’n ei wneud (BUEGC). Cyflwynodd swyddogion o BUEGC a oedd yn bresennol i roi cyflwyniad i’r aelodau ac i ateb cwestiynau’r Pwyllgor.

 

Diolchodd Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd i’r Cynghorydd Heaton am gyflwyno’r adroddiad. Darparodd swyddogion BUEGC rywfaint o gefndir ynglŷn â’r fargen dwf a phrif benawdau’r adroddiad blynyddol i’r aelodau. Roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth am y prosiectau oedd ym mhob rhaglen yn y fargen dwf. Roedd yr adroddiad hefyd yn darparu canllawiau am lywodraethu’r fargen dwf. Pwysleisiwyd bod swyddogion Cyngor Sir Ddinbych ynghlwm â’r prosiectau. Roedd swyddogion yn mynd i gyfarfodydd byrddau prosiect i gyflwyno safbwynt Sir Ddinbych ar y prosiect dan sylw.  

 

Gwnaeth Hedd Vaughan Evans, Pennaeth Gweithrediadau ar gyfer Swyddfa Rheoli Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru, gyflwyniad PowerPoint i’r aelodau. Cyflwynodd Stuart Whitfield, Rheolwr y Rhaglen Ddigidol, a David Matthews, Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo, i’r Pwyllgor.

 

Darparwyd gwybodaeth gefndir i’r aelodau am y Bwrdd a dywedwyd wrthynt bod y Swyddfa Rhaglenni’n uniongyrchol atebol i’r Bwrdd, a oedd yn pennu cyfeiriad y gwaith ac yn gwneud unrhyw benderfyniadau angenrheidiol. Roedd BUEGC wedi bodoli ers 2016, yn gosod gweledigaeth ar gyfer Gogledd Cymru. Roedd Cytundeb Penawdau'r Telerau ar gyfer y Fargen Dwf wedi’i lofnodi yn 2019 yn dilyn llawer o waith a thrafodaethau rhwng amryw swyddogion. Cafodd Swyddfa’r Portffolio ei chreu wedyn ym mis Ionawr 2020. Clywodd yr aelodau fod y Bwrdd wedi llofnodi a sicrhau’r fargen gyda’r ddwy Lywodraeth erbyn diwedd 2020, gan sicrhau buddsoddiad o £240m i Ogledd Cymru. Rhoddwyd cadarnhad bod gan y fargen dwf amcanion clir wedi’u cynnwys yn rhan o’r fargen gyda’r llywodraeth.

 

Cytunwyd ar fargen dwf Gogledd Cymru ar sail portffolio o 5 rhaglen; Bwyd-amaeth a Thwristiaeth, Rhaglen Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel, Ynni Carbon Isel, Tir ac Eiddo a Chysylltedd Digidol. Cyflwynwyd detholiad i’r aelodau a oedd yn crynhoi’r cynnydd ar bob un o’r prosiectau. Fe wnaeth y cynrychiolwyr arwain yr aelodau drwy bob prosiect gan ddarparu rhagor o fanylion am y gwaith a wnaed a’r gwaith oedd yn cael ei wneud.

 

Roedd yr adroddiad blynyddol wedi’i gynnwys yn y papurau a oedd yn amlygu rhai o uchafbwyntiau gweithgareddau Uchelgais Gogledd Cymru. Clywodd yr aelodau fod dros £1 miliwn o refeniw ychwanegol wedi’i sicrhau i ariannu gweithgareddau penodol a oedd yn ategu’r fargen dwf. Roedd hyn yn cynnwys grant arloesi o £500,000 mewn partneriaeth â Choleg Cambria Llysfasi i edrych ar brosiectau peilot i helpu’r sector amaeth i ddatgarboneiddio. Roedd strategaeth ynni hefyd wedi’i mabwysiadu ar gyfer Gogledd Cymru, yn cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru.  Amlygwyd i’r aelodau bod prosiect y rhwydwaith ffeibr llawn wedi’i gyflawni’n llwyddiannus, a oedd yn brosiect wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU. Roedd y prosiect yn darparu cysylltiad ffeibr llawn ar draws gwasanaethau cyhoeddus yng Ngogledd Cymru. Cyrhaeddwyd dros 300 o safleoedd, gan wella ansawdd a gwytnwch y cysylltiad i’r gwasanaethau’n sylweddol. Roedd 65 o safleoedd wedi’u cysylltu yn Sir Ddinbych. Clywodd yr aelodau mai un elfen o’r prosiect oedd cefnogi ardaloedd gwledig â chysylltedd. Y gobaith, gyda chymorth cyllid Llywodraeth Cymru, oedd ehangu cwmpas y prosiect i 28 o safleoedd eraill yn y rhanbarth. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am y cyflwyniad ac am ymuno â’r cyfarfod dros y we i gyflwyno’r adroddiad. Trafodwyd yr elfennau canlynol yn fwy manwl:

·         Safle strategol allweddol Bodelwyddan – roedd gwaith sylweddol yn cael ei wneud ynghlwm â’r prosiect. Gallai polisi cynllunio greu newidiadau sylweddol i’r rhai a gymeradwywyd yn wreiddiol. Byddai trafodaethau’n cael eu cynnal gyda swyddogion Sir Ddinbych i asesu’r newidiadau a byddai’r prosiect yn cael ei ailasesu yn y fargen dwf. Y gobaith oedd y byddai’r Bwrdd yn gwneud penderfyniad ynglŷn â’r prosiect erbyn dechrau’r gaeaf. Roedd holiadur yn edrych tua’r gorwel ar y gweill i asesu unrhyw brosiectau amgen posib’ i’r Bwrdd eu hystyried. Byddai BUEGC yn gwneud y penderfyniad am unrhyw newidiadau i brosiectau’r fargen dwf, gan gynnwys dileu neu newid prosiectau.

·         Roedd prosiect Canolfan Ragoriaeth Ynni Carbon Isel gyda Phrifysgol Bangor wedi’i sgorio fel un a fyddai’n hwyr oherwydd cais gan y Brifysgol i oedi am bedwar mis i gadarnhau cwmpas y prosiect. Nid oedd yr oediad wedi’i dderbyn gan y Bwrdd hyd yma.

·         Roedd disgwyl mwy o eglurder am brosiect Fferm Net Sero Llysfasi dros y misoedd nesaf hefyd. Roedd yr awdurdod dirprwyedig gan BUEGC i benderfynu a ellid dileu prosiect o’r rhaglen.

·         Roedd y cyllid ar gyfer prosiectau’r Fargen Dwf yn dod o ffynhonnell gyllid gwbl wahanol i gyllid Ffyniant Bro.

·         Roedd chwyddiant yn risg a fyddai’n cael ei hystyried gan y Bwrdd. Ni fyddai’r Bwrdd yn cael rhagor o gyllid gan ddim un o’r llywodraethau. Byddai pob prosiect yn cael ei arfarnu a byddai cost chwyddiant yn cael ei chyfrif yn rhan o’r cyfrifon costau, ac unrhyw arbedion y gellid eu gwneud.

·         Clywodd yr aelodau fod pob bargen dwf angen bod â Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) fel targed. Roedd wedi’i gynnwys ar bob prosiect wedi’i osod ar sail prosiectau unigol yn edrych ar y cynnydd GVA o swyddi a oedd wedi’u creu. Roedd angen ei gofnodi yn rhan o’r Fargen Dwf. Roedd y Bwrdd wedi gweld amryw fanteision, yn enwedig effaith prosiectau ar gymunedau a’r ardal. 

·         Nid oedd cwmpas y rhaglen Cysylltedd Digidol yn cynnwys ysgolion. Roedd Llywodraeth Cymru yn y gorffennol wedi buddsoddi mewn cysylltedd ffeibr i ysgolion. Roedd gwybodaeth a ddarparwyd i’r Bwrdd yn 2019/20 yn dweud nad oedd unrhyw angen ychwanegol am gysylltedd i ysgolion yn y rhanbarth. Cafwyd cadarnhad bod y cwmni Openreach wedi’i ddefnyddio ar gyfer y cynllun. Clywodd yr aelodau fod Openreach wedi cyhoeddi ei gynlluniau ardal cyfnewidfeydd ar gyfer y DU, gan gynnwys Gogledd Cymru, yn nodi ei gynlluniau buddsoddi.

·         Cadarnhawyd bod y fideo ar y prosiect Cyfathrebu ac Ymgysylltu i gael ei rhannu â’r aelodau.

 

Rhoddodd Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd sicrwydd bod swyddogion Sir Ddinbych yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr BUEGC. Gobeithid y byddai modd trefnu sesiwn friffio i’r Cyngor am y Fargen Dwf a’i rhaglenni er mwyn darparu gwybodaeth i’r holl Gynghorwyr.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r holl swyddogion am y cyflwyniad manwl a’r ymatebion i sylwadau a chwestiynau’r aelodau.

 

Felly:

 

Penderfynwyd: gan ystyried y sylwadau uchod ynghyd â’r atebion a’r sicrwydd a gafwyd yn ystod y drafodaeth, derbyn Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a’i Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2021/22.

 

Dogfennau ategol: