Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

AIL GARTREFI A THAI GOSOD BYRDYMOR

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan y  Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad yn ymwneud â’r gofynion cynllunio mewn perthynas ag eiddo/anheddau fel hyn.

11:00am – 11:45am

Cofnodion:

Ar y pwynt hwn, hysbysodd y Cadeirydd y Pwyllgor nad oedd yr Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Win Mullen-James, yn gallu bod yn bresennol yn cyfarfod oherwydd salwch.

 

Cyflwynodd Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai, Angela Loftus, Adroddiad Gofynion Cynllunio parthed Ail Gartrefi a Thai Gosod Byrdymor (a ddosbarthwyd ymlaen llaw), i roi gwybodaeth am y gofynion a’r rheolaethau cynllunio cyfredol sydd ar gael parthed ail gartrefi a thai gosod byrdymor.

 

Cyfyngwyd yr adroddiad i ystyried y defnydd o eiddo ar y farchnad ar gyfer ail gartrefi neu dai gosod byrdymor. Diffinnir ail gartref at ddibenion treth y cyngor fel annedd nad yw’n unig gartref neu’n brif gartref person ac sydd wedi ei ddodrefnu’n helaeth.  Ystyrir tŷ gosod byrdymor yn gyffredinol fel eiddo sy’n cael ei osod ar gyfer gwyliau’n unig; byddai gan y gwestai brif gartref yn rhywle arall a byddai’r tŷ gosod yn cael ei osod am lai na 3 mis.

 

Yr oedd Llywodraeth Cymru wedi bod yn adolygu’r sefyllfa ail gartrefi a thai gosod byrdymor, gan roi sylw i’r effaith ar gymunedau Cymru.  Dull gweithredu Llywodraeth Cymru oedd canolbwyntio ar y canlynol:–

·         Cefnogaeth – mynd i’r afael â fforddiadwyedd ac argaeledd tai;

·         Fframwaith a system reoleiddio – yn ymdrin â chyfraith cynllunio a chyflwyno cynllun cofrestru statudol ar gyfer llety gwyliau;

·         Cyfraniad tecach – defnyddio systemau trethu cenedlaethol a lleol i sicrhau bod perchnogion ail gartrefi yn gwneud cyfraniad teg ac effeithiol yn y cymunedau y maent yn prynu eiddo. 

 

Y mae ardal beilot am fod yng Nghymru, y penderfynir arno yn ystod yr haf, lle bydd mesurau newydd yn cael eu treialu a’u gwerthuso cyn eu hystyried ar gyfer eu cyflwyno’n ehangach.

 

Yr oedd gweithredoedd cefnogol eraill i ddechrau dros yr haf yn ogystal, yn cynnwys y gwaith ar gynllun cofrestru ar gyfer pob llety gwyliau ac ymgynghoriad ar newidiadau i drethi lleol i reoli effaith ail gartrefi a llety hunanddarpar.

 

Byddai Cynllun Tai Cymunedol parthed y Gymraeg, i ddiogelu buddiannau penodol cymunedau Cymraeg eu hiaith, yn cael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghori arno yn yr hydref.

 

Y llynedd, daeth Cymru i fod yr unig wlad yn y DU i roi’r pŵer i awdurdodau lleol godi cynnydd o 100% yn nhreth y cyngor ar ail gartrefi.  Cyflwynwyd hyn gan Lywodraeth Cymru (LlC) yn 2017, ac fe’i cymeradwywyd gan Gyngor Sir Ddinbych yn 2018.

 

Aeth LlC ati i wneud ymarfer ymgynghori, a ddaeth i ben ym mis Chwefror 2022, ar ‘Ddeddfwriaeth a pholisi cynllunio ar gyfer ail gartrefi a thai gosod byrdymor’.  Er nad oedd canlyniadau’r ymgynghoriad wedi eu cyhoeddi’n llawn eto, yr oedd y dull gweithredu tri phen a amlinellwyd yn natganiad LlC i’r wasg yn ffurfio rhan o ymateb y Llywodraeth i ganfyddiadau’r ymarfer ymgynghori.

 

Yn ystod trafodaethau codwyd y pwyntiau canlynol:–

·         Mynegwyd pryder bod rhai cartrefi gwyliau’n cael eu gadael yn wag yn ystod misoedd y gaeaf, ac yr oedd hyn yn achosi rhwystredigaeth gan fod gymaint o bobl a theuluoedd lleol yn chwilio am gartrefi.

·         Cadarnhawyd bod Treth y Cyngor yn dreth sydd heb ei neilltuo, ac felly ni ellir yn gyfreithiol ei glustnodi ar gyfer dibenion penodol.   Ar hyn o bryd, codid 150% o Dreth y Cyngor ar ail gartrefi yn Sir Ddinbych, ond ar ôl mis Ebrill 2023 byddai gan yr awdurdod lleol ganiatâd i benderfynu ei gynyddu i 300%.

·         Gwneid y penderfyniad ar ba un a fo eiddo’n ail gartref neu’n dŷ gwyliau i’w osod, ac a yw’n agored i Ardrethi Annomestig Cenedlaethol (AAC) ynteu Dreth y Cyngor, gan y Swyddfa Brisio ac nid gan yr awdurdod lleol.  Byddai’n rhaid i berchnogion eiddo a all fod yn gymwys i’w cofrestru fel eiddo AAC wneud cais i’r Swyddfa Brisio am benderfyniad, fel arall byddent yn agored i dalu Treth y Cyngor.  Gallai cyflwyno cynllun trwyddedu ar gyfer y mathau hyn o eiddo fod o gymorth i leihau’r nifer o eiddo a oedd yn cofrestru fel eiddo AAC, ac o’r herwydd yn cael budd o’r ddarpariaeth Rhyddhad Ardrethi ar gyfer Busnesau Bach a fyddai’n golygu na fyddent yn talu unrhyw drethi, er gwaethaf y ffaith bod y bobl a oedd yn aros yn y llety’n gallu cael mynediad at wasanaethau lleol. 

·         Cytunwyd bod angen proses teg gan fod twristiaeth yn bwysig eithriadol i’r ardal, ond yr oedd yna angen am dai lleol.

 

Cynigiwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Brian Blakeley, ac fe’i heiliwyd gan Karen Edwards.

 

Yn unfrydol:

 

PENDERFYNWYD: yn amodol ar y sylwadau uchod –

(i) derbyn yr adroddiad; a

(ii) gofyn am i adroddiad yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor pan gyhoeddir canlyniadau llawn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru.

 

Ar y pwynt yma, diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am eu holl waith da.

 

 

Dogfennau ategol: