Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

RHAGLEN ADFYWIO'R RHYL

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn archwilio effeithlonrwydd gwaith y Bwrdd Rhaglen yn darparu’r rhaglen adfywio

10:15am – 11:00am

Cofnodion:

Ar y pwynt hwn, hysbyswyd y Pwyllgor gan y Cadeirydd bod yr Arweinydd, y Cynghorydd Jason McLellan, a Phennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad yn methu bod yn bresennol yn y cyfarfod, oherwydd ymrwymiad cynharach.

 

Cyflwynwyd Rhaglen Adfywio’r Rhyl a’r Adroddiad Llywodraethu (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) gan Bennaeth Gwella Busnes ar y Cyd Dros Dro, Nicola Kneale, er mwyn amlinellu’r gwaith a wnaed drwy Raglen Adfywio’r Rhyl. 

 

Yr oedd Adfywio’r Rhyl wedi bod yn flaenoriaeth gan y Cyngor (a Llywodraeth Cymru (LlC)) ers llawer o flynyddoedd oherwydd lefel yr amddifadedd yn y dref.  Yr oedd y 2 ward fwyaf amddifad yng Nghymru yng Ngorllewin y Rhyl, ynghyd â Chanol y Dref ac o’i gwmpas.

 

Cafwyd swm sylweddol o fuddsoddiad ar gyfer adfywio’r Rhyl, gyda chymorth cyllid grant sylweddol.

 

Yr oedd cam presennol y gweithgareddau adfywio yn adeiladu ar y sylfeini a osodwyd dros flynyddoedd blaenorol, ac yn canolbwyntio ar adfywio Canol y Dref.

 

Ailsefydlwyd Grŵp Gweithredol Adfywio’r Rhyl ym mis Gorffennaf 2020 fel Bwrdd Rhaglen Adfywio’r Rhyl.  Yr oedd y Bwrdd Rhaglen yn gyfrifol am oruchwylio cyfraniad y Cyngor at gyflawni Gweledigaeth Canol y Dref ynghyd â rheoli unrhyw brosiectau adfywio o dan arweiniad y Cyngor yn y dref.

 

Gan gymryd ei arwain gan Weledigaeth Canol y Dref, yr oedd y Bwrdd Rhaglen yn canolbwyntio ar 5 prif ffrwd waith:–

·         Manwerthu a Masnachol

·         Yr Amgylchedd

·         Adeiladau’r Frenhines

·         Preswyl

·         Priffyrdd a Mynediad.

 

Yr oedd Pennaeth Gwella Busnes ar y Cyd Dros Dro’n cefnogi Bwrdd Datblygu Cymunedol y Rhyl, ac yr oedd hefyd yn aelod o Fwrdd Rhaglen Adfywio’r Rhyl.  Gweithiai Cadeiryddion y Byrddau’n agos gydag Arweinydd y Cyngor, ac yr oedd hyn yn sicrhau bod cyfathrebu da rhwng y ddau Fwrdd a’r Cyngor, gyda gwaith yn mynd rhagddo tuag at yr un nod.

 

Cyflwynodd Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd, Adfywio a Datblygu Economaidd (RhGCADE), Gareth Roberts, y trefniadau llywodraethu sy’n cefnogi’r gwaith.

 

Bu gweledigaeth y Rhyl drwy broses ymgynghori maith.   Hyd yn ddiweddar, Llywodraeth Cymru (LlC) oedd prif ffynhonnell y cyllid, ond cyflwynwyd ceisiadau yn ddiweddar ar gyfer Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.

 

Crynhowyd rhestr y prosiectau a gynhwysir yn Atodiad 2 gan RhGCADE.  Dyma oedd y prif brosiectau –

 

Eitem 1 – Adeiladau’r Frenhines oedd y prosiect mwyaf.  Dymchwelwyd yr adeilad gwreiddiol, ond cafodd y gwaith o godi adeilad newydd ei ohirio oherwydd bod gwylanod yn nythu yno.  Yr oedd y datblygiad yn cynnwys adeiladu neuadd fwyd a marchnad, man hyblyg ar gyfer digwyddiadau, a pharth cyhoeddus allanol cysylltiol.  Penodwyd y prif gontractwyr, ac yr oeddynt i leoli eu compownd gerllaw’r safle. 

 

Eitem 13 – Porth 1 a 2.  Yr oedd y Cyngor wedi caffael 131 a 123-129 Stryd Fawr i greu man gwyrdd / parth cyhoeddus.  Dymchwelwyd 123-125 Stryd Fawr yn ddiweddar gan fod yr adeilad mewn cyflwr peryglus iawn.  Yr oedd angen cau’r ffordd ar gyfer dymchwel yr adeilad.  Yr oedd y cynlluniau ar gyfer y safle’n cael eu datblygu ar hyn o bryd.

 

Eitem 11 – Strategaeth Parth Cyhoeddus.  Yr oedd hyn yn rhan o’r Gronfa Ffyniant Bro ac yn gysylltiedig ag Eitem 9 – Ailgysylltu pen uchaf Stryd Fawr y Rhyl â’r traeth.

 

Yr oedd llawer iawn o waith i’w wneud o hyd o ran tu blaen y siopau, ac yr oedd y Tîm Gorfodi yn ymwneud â hyn.

 

Yn ystod trafodaethau codwyd y pwyntiau canlynol –

·         Cyfeiriwyd at hen adeilad Woolworth ym mhen uchaf y Stryd Fawr fel dolur llygad.  Cadarnhaodd swyddogion bod cyswllt wedi ei wneud â pherchennog yr eiddo, ac yr oedd ef yn awyddus bod gwaith yn cael ei wneud.  Cafwyd problemau hefyd gyda’r gwydrau yn y ffenestri, a oedd yn beryglus i gerddwyr, ac yr oedd y perchennog yn mynd i'r afael â’r broblem honno.

·         Problemau gyda cheir yn parcio yn y rhan i gerddwyr yn unig ar y Stryd Fawr, gan nad oedd y rhwystr yn gweithio mwyach.  Cadarnhawyd y byddai rhwystr dros dro’n cael ei osod yno, a chysylltwyd ag ymgynghorydd er mwyn cael datrysiad mwy parhaol.  Yr oedd swyddogion Gorfodi Parcio’n cynyddu nifer y patrolau yn yr ardal hefyd.

·         Cadarnhawyd bod cais Sir Ddinbych ar gyfer y Gronfa Ffyniant Bro yn gais cryf, ond yr oedd y Cyngor yn disgwyl i gael clywed a oedd wedi bod yn llwyddiannus ai peidio.  Pe bai’r cais hwnnw’n aflwyddiannus eir at LlC, gan fod LlC yn bartner allweddol yn y rhaglen adfywio ar gyfer y Rhyl, ac archwilir i ffynonellau cyllid eraill.

·         Nid oedd rhai o’r pwyntiau a gyflwynwyd yn addas ar gyfer eu trafod yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau, a chynghorwyd aelodau i’w codi yng nghyfarfod Grŵp Ardal Aelodau’r Rhyl.

·         Ymgymerodd RhGCADE â’r gwaith o ddosbarthu gwybodaeth fanylach ar y gwahanol fathau o eiddo ar rent a ddatblygid yn rhan o’r rhaglen, gan gynnwys Rhandai Rhent Canolradd.

·         Awgrymwyd adolygu’r eitem yn flynyddol, ond pe bai unrhyw aelod o’r Pwyllgor Craffu eisiau craffu ar unrhyw ran o’r cynllun adfywio, gall gyflwyno’r ffurflen gynnig ar gyfer ei hystyried cyn y cyfnod o 12 mis.

·         Cadarnhawyd bod y Cabinet yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf yn fisol fel rhan o’r adroddiad Cyllid rheolaidd a oedd yn manylu ar y gwariant yn adroddiad y Prif Gynlluniau.  Yr oedd croeso i bob aelod fod yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw i fonitro’r prif gynlluniau ar gyfer adfywio’r Rhyl.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Brian Blakeley y dylid cytuno ar yr adroddiad, gan gynnwys adolygiad blynyddol i’w gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Michelle Walker.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod:

(i)  derbyn yr adroddiad a chytuno arno, a

(ii) gofyn am i adroddiad monitro gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn flynyddol.

 

 

Dogfennau ategol: