Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYDRADDOLDEB AC AMRYWIAETH STRATEGOL YNG NGHYNGOR SIR DDINBYCH

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julie Matthews, Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol (copi'n amgaeëdig) yn manylu ar y trefniadau mewnol ar gyfer cefnogi'r agenda cydraddoldeb ac amrywiaeth a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i ffurfio Grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a arweinir gan Aelodau.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi datblygiadau diweddar, ac yn cymeradwyo’r gwaith o ffurfio Grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth dan arweiniad Aelodau (i'w adolygu ar ôl 12 mis i ystyried a oes angen i'r Grŵp ddod i ben, newid a/neu ddathlu cyflawniadau).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julie Matthews yr adroddiad yn manylu ar y trefniadau mewnol ar gyfer cefnogi’r agenda cydraddoldeb ac amrywiaeth a gofynnodd am gymeradwyaeth y Cabinet i ffurfio Grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Strategol dan arweiniad Aelodau.

 

Bu nifer o ddatblygiadau ym maes cydraddoldeb ac amrywiaeth dros y misoedd diwethaf ar lefel genedlaethol (Rhaglen Cymru ar gyfer Llywodraethu, Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol, Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau) ac ar lefel leol (ymchwil sy’n canolbwyntio ar gydraddoldeb yn Asesiad Lleol o Les DCC).  O ganlyniad, argymhellodd Cabinet gweinyddiaeth 2017-22 sefydlu Grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Strategol i oruchwylio trefniadau mewnol i gefnogi a monitro cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y tymor presennol (2022-27).  Tynnodd y Cynghorydd Matthews sylw at yr angen i hyrwyddo a gwreiddio cynhwysiant er mwyn sicrhau Sir Ddinbych sy’n fwy cyfartal a thecach a thynnodd sylw at gylch gwaith a chylch gorchwyl y Grŵp.  Rhoddodd y Cyd-bennaeth Dros Dro Gwella Busnes a Moderneiddio gyd-destun pellach i ffurfio’r Grŵp er mwyn ymateb i’r agenda cydraddoldeb ac amrywiaeth.

 

Yn ystod y drafodaeth, dywedodd yr Arweinydd fod cydraddoldeb ac amrywiaeth yn un o themâu allweddol y Cyngor i sicrhau Sir Ddinbych sy’n fwy cyfartal ac amrywiol, a bod y strategaeth sy’n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth yn fater a blaenoriaeth barhaus i’r Cyngor.  Cydnabu’r Cabinet waith y Cyngor blaenorol a’r Cabinet mewn perthynas â’r mater hwn a phwysigrwydd cefnogi’r agenda cydraddoldeb ac amrywiaeth. Tynnodd y Cynghorydd Gill German sylw at y camau a gymerwyd eisoes o ran cydbwysedd rhwng y rhywiau yn y Cabinet ac arallgyfeirio yng Ngrŵp Llafur y Cyngor, ac roedd yn falch o nodi’r gwaith ehangach sydd ar y gweill i ddelio â’r materion hynny.

 

Atebodd yr Aelod Arweiniol, Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd, a’r Cyd-bennaeth Busnes a Gwella Dros Dro gwestiynau’r aelodau fel a ganlyn –

 

·         ymhelaethwyd ar drafodaeth ‘Menywod mewn Gwleidyddiaeth’ y cyn Arweinydd gyda’r holl fenywod a oedd yn cael eu hethol ym mis Tachwedd 2021 ynghylch eu profiadau o’r rhwystrau a wynebwyd wrth sefyll mewn etholiad ac ar ôl cael eu hethol, gydag bwriad i wella’r profiad.  Cyfeiriwyd at waith Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar amrywiaeth mewn democratiaeth a rôl y pleidiau gwleidyddol a’r awdurdod o ran cael gwared ar rai o’r rhwystrau hynny a wynebir, gyda rhagor o waith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd yn hynny o beth a chynnal safon dda o ymddygiad a thrafodaeth.

·         roedd ymrwymiad i adolygu effeithiolrwydd y Grŵp ar ôl deuddeg mis a fyddai hefyd yn cynnwys ymateb i newidiadau mewn deddfwriaeth a allai ychwanegu is-set benodol o nodweddion gwarchodedig, a sicrwydd y byddai’r Cyngor hefyd yn ymateb i unrhyw faterion o’r fath sy’n codi yn ei gymunedau

·         esbonio’r rhesymeg y tu ôl i adolygiad deuddeg mis i ystyried effeithiolrwydd y Grŵp ei hun a’r gwaith a wneir, ond y byddai unrhyw faterion sy’n dod i’r amlwg yn ystod y cyfarfodydd hynny’n cael eu huwchgyfeirio fel y bo’n briodol

·         egluro bod proses newydd yn cael ei drafftio ar hyn o bryd o ran perthnasoedd/ymddygiad aelodau, fel proses ar wahân i’r Grŵp, o ran sut roedd arweinwyr grwpiau’n rheoli diwylliant ac ymddygiad aelodau’n fewnol.  Byddai’r drafft hwnnw’n destun ymgynghoriad gydag aelodaeth ehangach y cyngor.

·         er bod y ffocws ar y drafodaeth ‘Menywod mewn Gwleidyddiaeth’ wedi bod ar ferched sy’n gynghorwyr, roedd yr agenda cydraddoldeb ac amrywiaeth yn hollgynhwysol ac yn cynnwys gwneud Sir Ddinbych yn decach ac yn fwy cyfartal i bawb

·         roedd prosesau ar wahân ar gyfer delio â materion fel bwlio/aflonyddu a materion rhwng aelodau a/neu aelodau a swyddogion.  Er y byddai’r Grŵp yn monitro diwylliant mewnol, roedd ganddo rôl ehangach o lawer o ran darparu gwasanaethau a chydraddoldeb ac amrywiaeth yn gyffredinol.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Cynghorydd Ann Davies am rannu ei phrofiad o’r drafodaeth ‘Menywod mewn Gwleidyddiaeth’ a phwysleisiodd fod cydraddoldeb ac amrywiaeth yn sgwrs barhaus ac anogodd bawb i ddod ymlaen a chymryd rhan.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi datblygiadau diweddar, ac yn cymeradwyo ffurfio Grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a arweinir gan Aelodau (i’w adolygu ar ôl 12 mis i ystyried a oes angen i’r Grŵp roi’r gorau i, newid a/neu ddathlu llwyddiannau).

 

Dogfennau ategol: