Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 557452

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 554278.

10.45 am

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD gwrthod cais ar gyfer trwydded cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 557452.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol) wedi -

 

(i)            derbyn cais gan Ymgeisydd Rhif 557452 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat;

 

(ii)          yr Ymgeisydd wedi dal trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat yn flaenorol a oedd o ganlyniad wedi’i ddirymu ym mis Mai 2021 yn dilyn croniad o euogfarnau moduro am oryrru ac arwain at wahardd rhag gyrru am gyfnod o chwe mis o dan y gweithdrefnau crynhoi pwyntiau cosb (TT99);

 

(iii)         y cais wedi’i atgyfeirio i’r Pwyllgor Trwyddedu ar 2 Mawrth 2022 i’w benderfynu ac yn dilyn ystyriaeth o holl dystiolaeth a gyflwynwyd, yn cynnwys cais yr Ymgeisydd ac ymateb i gwestiynau, roedd y Pwyllgor wedi penderfynu caniatau’r cais yn ddarostyngedig i holl wiriadau angenrheidiol eraill cysylltiedig â’r cais yn foddhaol;

 

(iv)         Mae gwiriadau dilynol wedi dangos bod dau o’r troseddau goryrru wedi digwydd mewn tacsi trwyddedig, yn groes i gyfrif yr Ymgeisydd, roedd yr euogfarnau goryrru wedi digwydd tra’n gyrru beic modur yn unig drwy weithgaredd hamdden ac nid mewn capasiti proffesiynol fel gyrrwr trwyddedig. 

 

(v)          roedd y mater wedi’i gyfeirio’n ôl i’r Pwyllgor Trwyddedu yn sgil y wybodaeth newydd lle roedd amheuaeth am onestrwydd yr Ymgeisydd. 

 

(vi)         polisi’r Cyngor ynglŷn ag addasrwydd Ymgeisydd a dewisiadau ar gael i’r Pwyllgor wrth ystyried y cais, a

 

(vii)        i’r Ymgeisydd gael ei wahodd i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Cadarnhaodd yr ymgeisydd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd yr adroddiad a ffeithiau'r achos.

 

Roedd yr Ymgeisydd yn ymddiheuro am y wybodaeth anghywir a ddarparwyd yn y cyfarfod diwethaf.  Roedd wedi cysylltu â’r DVLA i gael y wybodaeth angenrheidiol ond cafodd wybod nad oedd ar gael mwyach felly roedd wedi ateb hyd eithaf ei allu.    Nid oedd yn ymwybodol y gellir cael y wybodaeth gan Lys yr Ynadon.  Roedd ganddo nifer o gerbydau gwahanol ac roedd yn anodd gwybod ym mha gerbyd yr oedd yr euogfarnau wedi digwydd.    Cyfeiriwyd at effaith y gwaharddiad gyrru ar ei amgylchiadau personol a rhoddodd sicrwydd ynglŷn â’i ymddygiad gyrru yn y dyfodol.   Bu’n yrrwr trwyddedig am bedair blynedd ar ddeg heb broblem ac roedd wedi darparu geirda ynglŷn â’i gymeriad a gwasanaeth da.   Mewn ymateb i gwestiynau, dywedodd yr Ymgeisydd nad oedd wedi derbyn unrhyw euogfarnau goryrru ers adfer ei drwydded DVLA.

 

O ran anonestrwydd yn y broses ymgeisio, gofynnwyd am eglurhad ynglŷn â pha mor anghywir oedd y wybodaeth ddaeth gerbron y Pwyllgor.    Eglurodd yr Ymgeisydd fod ganddo nifer o gerbydau gwahanol, tri ohonynt wedi eu trwyddedu ac roedd bellach wedi gwerthu’r ddau feic modur - roedd wedi bod yn poeni mwy am yr euogfarnau goryrru yn hytrach na’r cerbyd oedd ganddynt a brynwyd ym mis Mawrth.    Roedd wedi cysylltu â’r DVLA gyda’r bwriad i brofi nad oedd wedi bod yn gyrru llawer mwy na’r terfyn cyflymder ond nid oedd yn gallu derbyn y wybodaeth.    Roedd wedi cael y cwestiwn gan y Pwyllgor heb baratoi ac wedi ateb mor onest ag y gallai heb fod â’r wybodaeth angenrheidiol.  Nid oedd yn siaradwr cyhoeddus ac roedd wedi cynhyrfu wrth ateb y cwestiwn.    Yn ei ddatganiad terfynol roedd yr Ymgeisydd yn ymddiheuro i’r Pwyllgor am ei gamau ac roedd yn gobeithio symud ymlaen. 

 

Cafodd y Pwyllgor egwyl er mwyn ystyried y cais a -

 

PENDERFYNWYD gwrthod cais ar gyfer trwydded cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 557452.

 

Dyma resymau’r Pwyllgor Trwyddedu dros y penderfyniad –

 

Roedd y penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor ar 2 Mawrth 2022 yn seiliedig ar y ffaith bod yr Ymgeisydd wedi derbyn yr euogfarn goryrru tra’n gyrru beic modur yn unig drwy hamddena ac nid mewn capasiti proffesiynol fel gyrrwr trwyddedig.  Roedd y penderfyniad hwnnw hefyd wedi gosod amod rhoi’r drwydded, yn ddarostyngedig i’r holl wiriadau angenrheidiol cysylltiedig â bod y cais yn foddhaol.    Roedd y gwiriadau hynny wedi dangos bod yr euogfarn goryrru a gyflwynwyd i’r Pwyllgor yn ymwneud â dau gerbyd trwyddedig gwahanol. 

 

Roedd y Pwyllgor wedi ystyried amgylchiadau penodol yr achos yn ofalus, fel yr oeddent i'w gweld yn yr adroddiad, ynghyd â chyflwyniadau’r Ymgeisydd a'i atebion i gwestiynau a’r geirdaon a ddarparwyd.  Roedd yr aelodau hefyd wedi ystyried yr adrannau perthnasol yn Natganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor ynghylch addasrwydd ymgeiswyr a deiliaid trwydded yn y masnachau cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.   Yn benodol, roedd y Pwyllgor wedi ystyried adran 4.20 oedd yn nodi y byddai unrhyw anonestrwydd gan yr ymgeisydd a ganfuwyd oedd wedi digwydd mewn unrhyw ran o unrhyw broses ymgeisio yn arwain at wrthod trwydded.    Gan ystyried y ddarpariaeth polisi, fe wnaeth y Pwyllgor wedyn ystyried 3.19 yn yr un polisi, oedd yn datgan na ddylid ond gwyro oddi wrth ddarpariaeth yn y polisi  mewn amgylchiadau eithriadol ac am resymau cyfiawn.  Roedd y Pwyllgor wedi cymryd i ystyriaeth yr eglurhad a ddarparwyd gan yr Ymgeisydd ynglŷn â’r cwestiwn o anonestrwydd ynghyd â’r geirdaon a ddarparwyd a hanes blaenorol fel gyrrwr trwyddedig, ond nid oedd yn teimlo bod yna sail digonol i wyro oddi wrth darpariaeth polisi yn adran 4.20.  O ganlyniad, roedd y Pwyllgor wedi penderfynu gwrthod y cais.

 

Cafodd penderfyniad a rhesymau’r Pwyllgor felly eu cyfleu i’r Ymgeisydd.

 

Hefyd, cynghorwyd yr ymgeisydd nad oedd penderfyniad y Pwyllgor yn ei atal rhag cyflwyno cais pellach yn y dyfodol.  Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor yn pwysleisio wrth yr Ymgeisydd am bwysigrwydd bod yn gwbl onest a thryloyw gydag unrhyw wybodaeth a ddarperir mewn unrhyw gais yn y dyfodol. 

 

Hysbyswyd yr Ymgeisydd ymhellach am yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad o fewn 21 diwrnod o dderbyn y llythyr penderfyniad ffurfiol.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 1.15pm.

 

 

Dogfennau ategol: