Eitem ar yr agenda
NEWIDIADAU ARFAETHEDIG I DABL FFIOEDD CERBYDAU HACNI
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn
Gwlad (copi ynghlwm) yn ceisio adolygiad pellach y Pwyllgor o’r ffioedd tariff
cyfredol ar gyfer cerbydau hacni (tacsis) yn dilyn yr ymgynghoriad ar y ffioedd
tariff arfaethedig.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod -
(a) y
tariff bwriedig fel y manylwyd yn Atodiad D gyda’r adroddiad i gael ei
gymeradwyo gyda dyddiad gweithredu 1 Gorffennaf 2022, yn ddarostyngedig i
filltiroedd ychwanegol gael eu mesur mewn degfed rhan o gynyddran milltiroedd,
dim newidiadau i’r amser tariff a fyddai’n parhau fel y gosodiad cyfredol yn
2018, a gordal fesul teithiwr o fwy na 4 teithiwr o 20c, ac
(b) adolygiad o’r tariffau, gan
gynnwys amser Tariff 2, i gael ei gynnal gydag adroddiad yn ôl i’r aelodau ar
gyfer ystyriaeth bellach mewn tua chwe mis.
Cofnodion:
Cyflwynodd Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd
(RhBGC) adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r aelodau adolygu’r
ffioedd tariff arfaethedig ymhellach ar gyfer cerbydau hacni (tacsis) yn sgil
yr ymatebion a dderbyniwyd i’r ymgynghoriad.
Roedd y newidiadau arfaethedig i ffioedd cerbydau
hacni a ffioedd wedi eu cymeradwyo ar gyfer ymgynghori gan y Pwyllgor Trwyddedu
ym mis Mawrth 2022 ac wedi dilyn cais gan yrwyr trwyddedig i adolygu’r ffioedd
tariff. Roedd pedwar gwrthwynebiad
wedi eu derbyn mewn ymateb i’r ymgynghoriad ynghyd â nifer o sylwadau a
dderbyniwyd i gefnogi’r newidiadau arfaethedig yn y tariff a dwy ddeiseb wedi
eu llofnodi gan 38 o yrwyr trwyddedig.
Roedd y newidiadau arfaethedig i’r tariff presennol wedi eu hamlygu a
chyfeiriwyd hefyd at sefyllfa bresennol yr awdurdod yn y “tabl cynghrair” o
ffioedd tacsis o’u cymharu â’r cynnig.
Gofynnwyd i’r Aelodau adolygu’r ffioedd tariff arfaethedig ac ystyried
pa un i addasu’r ffioedd tariff arfaethedig neu wrthod y cynigion, yn sgil y
wybodaeth a ddarparwyd ac ymatebion a dderbyniwyd. Roedd meysydd penodol i’w hystyried yn
cynnwys amseru Tariff 2, y dyddiau ble
roedd Tariff 2 yn cael ei weithredu a pha un a oedd y raddfa fesul milltir yn
fesur priodol ar gyfer pellter dilynol.
Roedd y RhBGC yn arwain yr aelodau drwy fanylion yr
adroddiad a’r ymatebion a dderbyniwyd i’r ymgynghoriad yn amlygu’r materion a
godwyd yn y sylwadau hynny. Yn fyr,
roedd yna wrthwynebiadau cymysg i’r ffioedd tariff arfaethedig yn ymwneud ag
amrywiol agweddau o’r cynigion gyda rhai yn gwrthwynebu elfennau penodol o’r
cynnig ac eraill i unrhyw a holl gynnydd yn y tariff. Roedd y rhan fwyaf o wrthwynebiadau yn erbyn
amseriad Tariff 2 ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn a’r cyflwyniad o Dariff 2 ar
ddydd Sul. Roedd gwrthwynebwyr eraill
yn cefnogi cynnydd yn y ffi cychwyn ond nid fesul milltir ac roedd eraill yn
cwestiynu’r raddfa fesul milltir fel mesur priodol. Prif sail y gwrthwynebiad oedd y byddai’r
cynnydd arfaethedig yn y ffi yn atal defnydd o dacsi ac yn cael effaith
niweidiol ar y gwaith, gyda gwaith gwerthfawr yn cael ei golli o
ganlyniad. Roedd y sawl o blaid y
cynnydd yn gweld cynnydd mewn costau byw yn cael effeithiau arwyddocaol ar
hyfywedd y fasnach a phrinder gyrwyr i fodloni’r galw gan gwsmeriaid. Roedd y RhBGC hefyd yn cyfeirio at e-bost a
anfonwyd yn uniongyrchol at aelodau gan yrrwr tacsi mewn ymateb i sylwadau a
dderbyniwyd i gefnogi’r newidiadau tariff arfaethedig.
Nid oedd y Cynghorydd Martyn Hogg yn teimlo bod yna
ddigon o wybodaeth wedi’i darparu i ddeall effeithiau llawn y cynnydd yn y
raddfa ond roedd yn derbyn yr angen i godi’r tariff oherwydd cynnydd mewn
costau gan y busnes tacsis. Roedd y
cynnig presennol yn uwch na chwyddiant ac yn cymryd i ystyriaeth yr ymatebion
i’r ymgynghoriad roedd yn cynnig newid (fel cyfaddawd) yn unol â chwyddiant
(tua 10%) fel a ganlyn -
·
Tariff 1 - ffi cychwyn
£4.00 (yn cynnwys y filltir gyntaf), ffi fesul milltir ar ôl hynny £2.20
·
Tariff 2 - ffi cychwyn
£5.50 (yn cynnwys y filltir gyntaf), ffi fesul milltir ar ôl hynny £3.30
·
Codi ffi mewn cynyddrannau
un rhan o ddeg o filltir
·
Dim newid i amseru Tariff 2
Roedd y Cynghorydd Hogg yn egluro ei reswm am y newid
a rhoddodd enghreifftiau o’r cynnydd canran yn y gost fesul siwrnai o
ganlyniad. Roedd yn teimlo y dylid
gwneud mwy o waith i ddeall y cyfartaledd siwrnai tacsi yn y sir ac adolygu
amseroedd tariff gynted â phosibl.
Roedd y newid arfaethedig wedi’i drafod gyda’r RhBGC wnaeth gadarnhau
bod y cynnig Tariff 2 angen ei adolygu fel y raddfa fesul milltir. Roedd ymarferoldeb y newid wedi’i gydnabod
ond ni wnaed unrhyw gyfrifo ar y cynigion diwygiedig. Roedd y Cynghorydd Joan Butterfield yn
eilio’r newid a hefyd yn galw am adolygiad mewn chwe mis. Roedd yn siomedig i nodi mai ond un ymateb
a dderbyniwyd i’r ymgynghoriad gan y cyhoedd.
Roedd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau
Dynol a Democrataidd yn nodi’r ddeddfwriaeth yn ymwneud â’r adolygiad o ffioedd
a’r prosesau i’w dilyn yn y cyswllt hwnnw ynghyd â’r dewisiadau fydd ar gael
i’r Pwyllgor i gymeradwyo/newid y tariffau arfaethedig gyda dyddiad gweithredu
1 Gorffennaf 2022 neu eu gwrthod. Os
byddai’r aelodau o blaid cynnal ymgynghoriad pellach, yna byddai’r broses yn
ailddechrau a fyddai’n gohirio unrhyw weithrediad o’r tariffau.
Roedd yr Aelodau yn ystyried yr adroddiad yn
ofalus, gan gynnwys ymatebion i’r ymgynghoriad, y tariff arfaethedig a newid
dilynol i’r tariff hwnnw, a manteisiodd ar y cyfle i ofyn cwestiynau i’r RhBGC
a hefyd clywodd gan ddau aelod o’r busnes tacsi, un o blaid ac un yn erbyn y
cynnydd arfaethedig yn y tariff. Roedd
Mr L Peake yn siarad yn erbyn y cynnydd arfaethedig yn y tariff, amlygodd y
problemau i weithwyr tacsi yn hysbysebu ffioedd gostyngol gyda rhai gyrwyr yn
codi’r mwyafswm ffi oedd yn anodd i weithwyr yn arbennig yn achos
perchennog-yrrwr. Roedd yn dadlau bod y
cynnydd arfaethedig yn y tariff yn rhy uchel ac y byddai cwsmeriaid yn cael eu
colli. Roedd Mr I Horvath yn siarad dros
y cynnydd tariff arfaethedig gan amlygu’r cynnydd sylweddol mewn cost
cysylltiedig â cherbyd cyffredin a rhoddodd enghreifftiau o siwrnai
nodweddiadol a chostau a ysgwyddir mewn gwahanol ardaloedd o’r sir a phellteroedd
hirach.
Yn ystod y drafodaeth, codwyd y pwyntiau canlynol -
·
roedd y ffi cychwyn yn y
tariff arfaethedig hefyd yn cynnwys y filltir gyntaf
·
ffioedd tariff a osodwyd
gan y Cyngor oedd y mwyafswm a ganiateir a gellir cytuno ar lai o ffi gyda’r
cwsmer.
·
roedd y mwyafrif o
ymatebwyr yn cefnogi’r cynnydd arfaethedig yn y tariff
·
roedd y mwyafrif o
wrthwynebiadau yn ymwneud â’r newidiadau arfaethedig i Dariff 2
·
roedd codi graddfa
cynyddrannol fesul milltir yn hytrach na chyfradd safonol fesul milltir yn golygu
bod y cwsmer ond yn talu am yr union filltir a wnaed yn hytrach na milltir
llawn
·
mae’n bosibl y bydd
canlyniad nas fwriadwyd o ddosbarthu newidiadau i’r tariffau arfaethedig o
ystyried nad oedd y manylion wedi eu harchwilio yn iawn ymlaen llaw.
·
roedd y cynigion tariff a
gytunwyd gan y Pwyllgor ar gyfer ymgynghoriad yn seiliedig ar gynigion a
gyflwynwyd gan nifer o yrwyr trwyddedig, nid gan swyddogion.
·
nid oedd unrhyw gorff
cynrychioli ar gyfer gyrwyr tacsi yn Sir Ddinbych
·
roedd y cynigion tariff yr
ymgynghorwyd arnynt mewn telerau canran wedi codi o 7% ar gyfer siwrnai dwy
filltir ac wedi cynyddu dros filltiroedd ychwanegol, po bellaf y siwrnai, po
uchaf y cynnydd yn y canran. Fodd
bynnag, byddai’r Tariff 2 arfaethedig o bosibl yn dyblu neu’n treblu’r ffi a
byddai’n fater dadleuol i gwsmeriaid.
Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol,
Adnoddau Dynol a Democrataidd gyngor o ran y broses gwneud penderfyniad a
rheolau gweithdrefn o ran newidiadau i gynigion. Ar y pwynt hwn, galwodd y Cadeirydd am
bleidlais ar y newid arfaethedig gan y Cynghorydd Hogg, a eiliwyd gan y
Cynghorydd Joan Butterfield, a gafodd ei ailddatgan er budd aelodau. O'i roi i bleidlais, COLLWYD y
diwygiad.
Roedd y Cynghorydd Delyth Jones yn amlygu’r angen
am gynnydd mewn ffioedd i gefnogi’r diwydiant tacsi i symud tuag at gerbydau
ecogyfeillgar. Roedd yn cefnogi graddfa
cynyddrannol fesul milltir o’r ail filltir ymlaen er budd tegwch i gwsmeriaid,
ond teimlwyd na ddylid wneud unrhyw newid i amser Tariff 2 yn dibynnu ar
adolygiad buan o ganlyniadau ei weithredu.
O ganlyniad, roedd y Cynghorydd Jones yn cynnig newid pellach, eiliwyd
gan y Cynghorydd Paul Keddie, bod y tariff fel y nodwyd yn y cynigion
gwreiddiol, yn ddarostyngedig i filltiroedd ychwanegol yn cael eu mesur mewn
degfed ran o gynyddran milltir a dim newidiadau i amseriadau Tariff 2 (a
fyddai’n ddarostyngedig i adolygiad buan). Wrth bleidleisio, cafodd y newid ei GARIO
felly yn cymryd lle y cynnig gwreiddiol ac yn brif gynnig y gellir
cymeradwyo unrhyw newid pellach iddo.
Roedd y RhBGC yn nodi ar y pwynt hwn bod yr 20c o
ordal fesul teithiwr ar gyfer siwrnai gyda mwy na 4 teithiwr wedi’i adael o’r
adroddiad. Gofynnodd i’r aelodau
ystyried gweithredu’r elfen honno o’r cynnig fel rhan o’u hystyriaethau.
Er y cydnabuwyd y gallai newidiadau i’r tariff
arfaethedig gael eu dosbarthu yn y cyfarfod, roedd y Cynghorwyr Joan
Butterfield a Hugh Irving yn mynegi pryder y gallai fod canlyniadau na
fwriadwyd o ganlyniad nad oedd y manylion wedi’i archwilio’n iawn gan
swyddogion a’i gyflwyno i aelodau ymlaen llaw gyda’r effeithiau llawn wedi eu
cadarnhau. Roedd y Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd wedi cynnwys y gofynion
deddfwriaethol a rheolau gweithdrefn ac roedd yn fodlon bod y prosesau statudol
wedi eu dilyn a’i fod yn berffaith iawn i wneud penderfyniad. Fodd bynnag, os nad oedd yr aelodau yn
hapus i wneud penderfyniad ac yn dymuno gohirio neu geisio ymgynghoriad
pellach, yna roedd yn fater llwyr iddyn nhw.
Os byddai penderfyniad yn cael ei ohirio, byddai’r ffioedd presennol yn
parhau a byddai’r broses yn ailddechrau.
Roedd y Cynghorydd Hogg yn ailddatgan ei bryderon nad oedd yna ddigon o
wybodaeth wedi’i darparu o’r dechrau i wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth a
gofynnodd am broses briodol ar gyfer asesu ffioedd tacsi yn y dyfodol i gynnwys
costau chwyddiant a’r effeithiau ar gwsmeriaid a lletygarwch.
Roedd y Cadeirydd yn galw am bleidlais ar y prif
gynnig, a ailddatganwyd, gan gynnwys gordal o 20c fesul cwsmer ar gyfer siwrnai
gyda mwy na 4 o deithwyr.
Wrth bleidleisio –
PENDERFYNWYD bod -
(a) y
tariff bwriedig fel y manylwyd yn Atodiad D gyda’r adroddiad i gael ei
gymeradwyo gyda dyddiad gweithredu 1 Gorffennaf 2022, yn ddarostyngedig i
filltiroedd ychwanegol gael eu mesur mewn degfed rhan o gynyddran milltiroedd,
dim newidiadau i’r amser tariff a fyddai’n parhau fel y gosodiad cyfredol yn
2018, a gordal fesul teithiwr o fwy na 4 teithiwr o 20c, ac
(b) adolygiad o’r tariffau, gan
gynnwys amser Tariff 2, i gael ei gynnal gydag adroddiad yn ôl i’r aelodau ar
gyfer ystyriaeth bellach mewn tua chwe mis.
[Ar y pwynt hwn (11.25am) cymerodd y pwyllgor egwyl fer.]
Dogfennau ategol:
- HACKNEY CARRIAGE FARES AND CHARGES, Eitem 7. PDF 209 KB
- HC FARES AND CHARGES - Appendix A - Tariff Public Notice, Eitem 7. PDF 82 KB
- HC FARES AND CHARGES - Appendix B - Tariff Report Objections, Eitem 7. PDF 240 KB
- HC FARES AND CHARGES - Appendix C, Eitem 7. PDF 192 KB
- HC FARES AND CHARGES - Appendix D - Tariff, Eitem 7. PDF 415 KB