Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

HUNANASESIAD Y CYNGOR O'I BERFFORMIAD, 2021 I 2022

Ystyried adroddiad gan Arweinydd y Tîm Cynllunio a Pherfformiad Strategol (copi ynghlwm) sy’n ceisio sylwadau’r Pwyllgor ar hunanasesiad y Cyngor o’i berfformiad yn ystod 2021 i 2022.

 

11.25am – 11.55am

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Gwyneth Ellis adroddiad Hunan-asesiad y Cyngor o’i berfformiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Yn anffodus, nid oedd awdur yr adroddiad, Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad wedi gallu bod yn bresennol oherwydd salwch.   Roedd y Cyd Bennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio Dros Dro (Pennaeth Dros Dro) yn bresennol yn ei le. 

 

Roedd yr adroddiad y ddogfen gyntaf statudol a ysgrifennwyd mewn ymateb i’r Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, oedd angen i’r Cyngor lunio Hunanasesiad o’i berfformiad yn erbyn ei swyddogaethau.   Roedd hefyd yn ymateb i ddyletswydd y Cyngor o amgylch monitro cydraddoldeb (o dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010) a Mesur Cymru 2011, oedd yn cynnwys y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol a’r cyfraniadau i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Roedd adrodd yn rheolaidd yn ofyniad monitro yn fframwaith rheoli perfformiad y Cyngor a byddai adroddiad monitro perfformiad yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet a’r Pwyllgor Craffu Perfformiad yn chwarterol.   Gofynnwyd am adborth gan y Pwyllgor Craffu Perfformiad cyn cymeradwyo’r dogfennau terfynol gan y Cyngor ym mis Gorffennaf 2022.

 

Rhoddwyd crynodeb o’r adroddiad a’r atodiadau i’r aelodau. 

 

Roedd y Cynghorydd Harland wedi cyflwyno nifer o gwestiynau cyn y cyfarfod i alluogi swyddogion i roi atebion cynhwysfawr i’r cyfarfod.  Yn eu hymateb i’r cwestiynau hynny, roedd y swyddogion yn cynghori fel a ganlyn - 

·         Roedd cynllun trafnidiaeth gynaliadwy yn cael ei ddatblygu a byddai’n cymryd darpariaeth i ystyriaeth ar gyfer teithio llesol.  Cadarnhaodd y Pennaeth Dros Dro BIM nad oedd ganddi’r wybodaeth i law ynglŷn â’r amserlen ar gyfer hyn ond byddai’n edrych i mewn i hyn ac yn rhoi’r wybodaeth i’r aelodau y tu allan i’r cyfarfod.

·         Roedd 15,000 o goed wedi eu plannu a chadarnhaodd swyddogion wrth symud ymlaen y byddai holl goed a blannwyd o dan y Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol ar dir y Cyngor yn cael ei fonitro a’i gynnal am y 18 mis cyntaf. 

·         Roedd dileu plastig, nid ei leihau, o fewn ysgolion yn brif bryder i’r Cynghorydd Harland.  Cadarnhawyd bod Grŵp Tasg a Gorffen wedi’i sefydlu yn ystod y Cyngor blaenorol a chasgliadau’r Grŵp wedi eu cyflwyno i’r Cyngor Llawn.    Ar ddechrau 2022, roedd y Pwyllgor Craffu wedi cyflwyno argymhellion i’r Cabinet o ran lleihau’r defnydd o blastig untro yn y Gwasanaeth Prydau Ysgol.   Roedd y Cabinet wedi cefnogi’r egwyddor o leihau’r defnydd o blastig.   Fodd bynnag, roedd cyflawni’r uchelgais hwn yn lleol yn fater cymhleth gan y byddai yna ddiffyg sylweddol yn y gyllideb ar gyfer y Gwasanaeth Prydau Ysgol os nad oedd poteli dŵr plastig yn cael eu gwerthu mewn ysgolion mwyach.   Felly, byddai ystyried y gwrthwynebiad angen bod yn rhan o’r broses gosod cyllideb wrth symud ymlaen er mwyn nodi’r adnoddau i gyllido unrhyw ddiffyg.    Roedd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, cyn Aelod Arweiniol Gwasanaethau Addysg a Phlant oedd yn bresennol fel arsylwr, yn amlinellu’r cymhlethdodau wrth aelodau’r Pwyllgor.   Awgrymwyd bod y Cynghorydd Harland yn cyflwyno Rhybudd o Gynnig i’r Cyngor Llawn ynglŷn â’r mater hwn ond y dylai siarad gyda’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd i drafod hyn a’r ffordd ymlaen.  

·         Cadarnhaodd y Cynghorydd Harland yr ymatebwyd yn gadarnhaol i’r cwestiynau eraill.    Byddai’r cwestiynau a’r ymatebion yn cael eu dosbarthu i’r holl aelodau o’r Pwyllgor Perfformiad er gwybodaeth. 

·         Eglurodd y Cydlynydd Craffu nad oedd Pwyllgorau Craffu yn gwneud penderfyniadau ond yn gallu gwneud argymhellion i’r Cabinet a’r Cyngor.     Byddai agweddau penodol o’r adroddiad yn cael eu nodi a ffurflen cynnig yn cael ei llenwi gan aelodau i’w chyflwyno i’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu ar gyfer cymeradwyaeth i gyflwyno mewn cyfarfod Pwyllgor Craffu yn y dyfodol. 

·         Roedd monitro amddifadedd wedi’i godi a chadarnhawyd nad oedd yna unrhyw beth penodol mewn perthynas â’r mater hwn o fewn yr adroddiad.    Roedd Cynllun Corfforaethol newydd yn cael ei ddatblygu gyda’r nod o gael ei gadarnhau mewn cyfarfod o’r Cyngor Llawn ym mis Hydref 2022, gall amddifadedd ymddangos yn y Cynllun hwnnw. 

·         Byddai angen cyfleoedd a mesurau lleihau carbon yn y dyfodol wrth ddarparu gwasanaethau ar draws y sir.

 

Roedd y Cynghorydd Paul Keddie yn cynnig derbyn yr adroddiad, eiliwyd gan y Cynghorydd Jon Harland.

 

Roedd holl aelodau’r Pwyllgor Craffu Perfformiad yn cytuno.

 

Ar ôl trafodaeth fanwl, roedd y Pwyllgor wedi:

 

PENDERFYNU yn amodol ar y sylwadau uchod -

 

(i)            derbyn a chymeradwyo Hunanasesiad o Berfformiad y Cyngor yn ystod 2021 i 2022, ynghyd â’i berfformiad i ddarparu’r Cynllun Corfforaethol 2017 i 2022; ac

(ii)          argymell wrth symud ymlaen bod y Cyngor yn gwneud pob ymdrech i hwyluso teithio llesol, lleihau ei ddefnydd o blastig mewn prydau ysgol a gwasanaethau eraill, yn chwilio am gyfleoedd lleihau carbon wrth ddarparu gwasanaethau ac yn rhagweithiol wrth leihau amddifadedd ar draws y sir.

 

 

Dogfennau ategol: