Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD CYLLID (SEFYLLFA ARIANNOL DERFYNOL 2021/22)

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi yn amgaeedig) yn nodi’r sefyllfa refeniw derfynol ar gyfer 2021/22 a’r defnydd arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a balansau.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       nodi’r sefyllfa refeniw derfynol ar gyfer 2020/21;

 

(b)       cymeradwyo'r driniaeth arfaethedig o gronfeydd a balansau wrth gefn fel y manylir yn yr adroddiad ac yn Atodiadau 1, 2 a 3; a

 

(c)        nodi manylion y trosglwyddiadau rhwng Cronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd fel y nodwyd yn Atodiad 4.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad ar sefyllfa refeniw derfynol 2020/21 a’r driniaeth arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a balansau.

 

Tywysodd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo yr aelodau drwy fanylion yr adroddiad a’r atodiadau fel yr amlinellir yn gryno isod –

 

·         Yn gryno, y sefyllfa derfynol ar gyllidebau corfforaethol a gwasanaeth (gan gynnwys tanwariant ysgolion o £6.778m) oedd tanwariant o £9.177m.

·         Ym mis Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynnydd untro yn y Grant Cynnal Refeniw ar gyfer 2021/22 o £60m (cyfran CSDd £1.994m) gyda chais i ddefnyddio £10m (cyfran CSDd £0.332m) i ariannu gwelliannau i drefniadau teithio ar gyfer gweithwyr gofal gan gynnwys cerbydau trydan; byddai’r £1.662m sy’n weddill yn cael ei roi yn y gronfa liniaru’r gyllideb wrth gefn i helpu’r Cyngor i ddelio â phwysau chwyddiant

·         manylu ar arbedion gwasanaeth cyllideb 2021/22 a’r arbedion effeithlonrwydd gofynnol (£2.666m)

·         Tynnwyd sylw at effaith y coronafeirws a’r cyllid grant sylweddol a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru – derbyniwyd £19m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gyda’r rhagdybiaeth y byddai’r hawliadau grant terfynol (£2.7m) yn cael eu talu yn llawn

·         byddai balans ysgol cyffredinol o £12.448m yn cael ei ddwyn ymlaen (cynnydd o £6.778m ar falansau diffyg a ddygwyd ymlaen i 2021/22 o £5.670m) gyda llawer o’r cyllid hwnnw i’w ddefnyddio yn 2022/23 i adfer o effaith Covid

·         roedd elfennau allweddol o’r tanwariant mewn cyllidebau corfforaethol (£1.964m) yn ymwneud yn bennaf â chyllidebau wrth gefn a gedwir yn ganolog ar gyfer gorwariant gwasanaethau, setliadau cyflog, costau ynni a Threthi Busnes

·         gan ystyried sefyllfa gyffredinol y gwasanaethau a’r cyllid corfforaethol oedd ar gael, cynigiwyd bod y gwasanaethau yn dwyn ymlaen y tanwariant net a restrwyd fel balansau gwasanaethau ymrwymedig er mwyn helpu i gyflawni strategaeth cyllideb 2022/23 a bodloni ymrwymiadau oedd yn bodoli eisoes

·         disgwyliwyd y byddai angen cronfeydd wrth gefn cyllideb sylfaenol nas defnyddiwyd yn 2021/22 i ariannu effaith cynnydd mewn costau chwyddiant yn 2022/23

·         darparwyd manylion llawn y trosglwyddiadau i mewn i Gronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd ac allan ohonynt.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd -

 

·         Croesawodd y Cynghorydd Gill German y sefyllfa ar gyllidebau ysgolion a chymorth amserol gan Lywodraeth Cymru gyda chyllid ar gael i fynd i’r afael ag effaith y pandemig a’r heriau sydd o’n blaenau a thalodd deyrnged i’r ffordd yr oedd ysgolion wedi ymateb yn ystod y pandemig.  Cydnabu hefyd fod teuluoedd yn cael trafferth gyda’r cynnydd mewn costau byw a byddai cymorth cyllidol i weithwyr y blynyddoedd cynnar a chysylltiadau teuluol yn hanfodol i liniaru’r effaith ar blant.

·         Bu peth trafodaeth ar reolaeth ariannol ysgolion a rhagwelwyd y byddai cyllidebau ysgolion yn lleihau’n sylweddol dros y tair blynedd nesaf wrth i’r cyllid gael ei wario i sicrhau bod ysgolion a disgyblion yn adfer o’r pandemig, ac amlygwyd y cydweithio agos rhwng ysgolion, timau addysg a chyllid i sicrhau bod gan ysgolion gynlluniau ariannol priodol ar waith a chyllidebau ysgolion cynaliadwy wrth symud ymlaen.  Roedd cymorth penodol wedi’i ddarparu’n flaenorol i ysgolion mewn trafferthion ariannol ac y byddai cymorth yn parhau i ysgolion sy’n wynebu pwysau ariannol er mwyn sicrhau cynllun adfer cadarn.

·         O ran y defnydd posibl o gronfeydd wrth gefn a balansau ar gyfer gwariant cyfalaf, eglurwyd eu bod yn cael eu hadolygu'n flynyddol fel rhan o broses y gyllideb.  Defnyddiwyd y gronfa lliniaru cyllideb wrth gefn i gefnogi cyllidebu a gellid ei defnyddio at ddibenion cyfalaf pe bai'r Cyngor yn penderfynu ar hynny.  Roedd y rhaglen gyfalaf ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf wedi elwa o £1.6m ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a byddai’r adroddiad cyllid i’w gyflwyno i gyfarfod nesaf y Cabinet yn cynnwys crynodeb o’r rhaglen gyfalaf ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd ac argymhelliad y dylid rhoi £1.6m yn y gronfa wrth gefn ar gyfer y rhaglen gyfalaf i helpu i ariannu pwysau sy’n deillio o’r broses dendro oherwydd y cynnydd sylweddol yng nghostau nwyddau a deunyddiau.

·         Fel rhan o broses y gyllideb yn 2022/23 roedd rhywfaint o arian refeniw wedi’i glustnodi i ariannu benthyca a galluogi cyflawni rhai o’r prosiectau a nodwyd fel rhan o’r ymarfer sganio’r gorwel gyda rhagor o waith i’w wneud er mwyn darparu proses o adolygu. a chymeradwyo'r prosiectau hynny.

·         Cyfeiriodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts at adferiad ôl-Covid a gofynnodd am eglurder ar ddyfodol adeiladau a deiliadaeth Sir Ddinbych ynghyd â’r effaith ar gyllid a thynnodd sylw at effaith adeiladau gwag ar yr economi leol.  Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd adroddodd swyddogion ar y Prosiect Ffyrdd Newydd o Weithio a'r cam presennol o ganiatáu i staff benderfynu ar eu patrymau gwaith eu hunain yn amodol ar ddiwallu anghenion busnes y Cyngor.  Byddai'r sefyllfa'n cael ei monitro dros y 6/8 mis nesaf gyda bwriad i benderfynu ar y ffordd orau ymlaen o ran datblygu strategaeth ar gyfer rheoli asedau a allai gynnwys defnyddiau amgen ar gyfer adeiladau neu gydweithio a rhannu gofod swyddfa.  Cafwyd trafodaeth ar adferiad ôl-Covid a’r gweithle a’r manteision a’r anfanteision posibl pe bai staff yn dychwelyd i adeiladau swyddfa yn erbyn gweithio gartref a’r effaith ar les, economïau lleol ac ôl troed carbon y patrymau gwaith hynny yn y dyfodol.  Rhoddwyd sicrwydd bod effeithlonrwydd ynni adeiladau’r cyngor yn cael ei ystyried fel rhan o’r broses honno.  Nodwyd y byddai'r dull o benderfynu ar ffyrdd o weithio yn y dyfodol yn seiliedig ar anghenion staff, gan ystyried cydbwysedd gwaith/bywyd a darparu gwasanaethau, a byddai unrhyw arbedion posibl yn deillio o ffyrdd o weithio yn y dyfodol yn eilradd.  Nodwyd hefyd bod ymagwedd Sir Ddinbych yn debyg i awdurdodau lleol eraill a bod gwaith yn mynd rhagddo i drafod y dulliau hynny ymhellach a rhannu arfer gorau, a gellid rhannu mwy o wybodaeth yn hynny o beth ag aelodau wrth i’r sefyllfa ddatblygu.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       Nodi sefyllfa refeniw derfynol 2021/2022;

 

(b)       Cymeradwyo y driniaeth arfaethedig i gronfeydd wrth gefn a balansau fel a ddisgrifiwyd yn yr adroddiad a manylwyd yn Atodiadau 1, 2 a 3, a

 

(c)        nodi manylion y trosglwyddiadau rhwng Cronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd fel y nodwyd yn Atodiad 4.

 

 

Dogfennau ategol: