Eitem ar yr agenda
DEDDF TRWYDDEDU 2003: ADOLYGU TRWYDDED EIDDO - THE GLANGLASFOR, 1 GLANGLASFOR, Y RHYL, SIR DDINBYCH LL18 1RP
Ystyried cais gan
Heddlu Gogledd Cymru i adolygu Trwydded Eiddo a gyflwynwyd yn unol ag Adran 51
Deddf Trwyddedu 2003 (mae amlinelliad o’r cais a’r papurau cysylltiedig
ynghlwm).
Nodwch y
weithdrefn i’w dilyn gan yr Is-Bwyllgor os gwelwch yn dda (sydd ynghlwm wrth y
rhaglen hon).
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD fod
yr amodau ar y Drwydded Eiddo yn cael eu haddasu yn unol â’r deuddeg addasiad
fel yr argymhellwyd gan Heddlu Gogledd Cymru yn eu Cais Adolygu.
Cofnodion:
Cyflwynwyd
adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) ar –
(i)
gais a oedd wedi dod i law
gan Heddlu Gogledd Cymru ar gyfer Adolygu Trwydded Safle mewn perthynas â
Glanglasfor, 1 Glanglasfor, Y Rhyl (copi o'r Drwydded Eiddo bresennol a'r
amserlen weithredu gyfredol wedi'u hatodi fel Atodiad A yn yr adroddiad);
(ii)
y sail dros adolygu, a
nodir yn y cais, yw -
“o ganlyniad i’r eiddo’n methu â
hyrwyddo’r pedwar amcan trwyddedu, yn benodol Atal Trosedd ac Anrhefn, Atal
Niwsans Cyhoeddus ac Amddiffyn Plant rhag Niwed. Yn ogystal, mynegwyd pryder nad oedd yr
eiddo’n cadw at yr oriau a ganiateir yn ei drwydded eiddo. Er gwaethaf ymdrechion gan Heddlu Gogledd
Cymru a Chyngor Sir Ddinbych i fynd i’r afael â’r pryderon a godwyd, roedd yr
eiddo wedi methu yn barhaus ag ymgysylltu .
Mae gan Heddlu Gogledd Cymru ddiffyg hyder yng Ngoruchwyliwr Dynodedig
yr Eiddo, Deiliad y Drwydded Eiddo a Rheolwyr yr Eiddo i reoli'r eiddo’n
gyfrifol”
atodwyd
manylion llawn y Cais am Adolygiad fel Atodiad B yn yr adroddiad ond i grynhoi,
mae’n ymwneud â digwyddiad ar 3 Mawrth 2022 pan godwyd pryderon difrifol
ynglŷn â’r posibilrwydd o dorri rheolau’r drwydded eiddo; unigolion meddw
yn yr eiddo; methu â rheoli cwsmeriaid; polisi gwirio oedran; plant yn feddw yn
yr eiddo a’r eiddo yn cloi’r drysau tra bo plant yno, a’r diffyg ymgysylltiad
dilynol gan Ddeiliad y Drwydded Eiddo / Goruchwyliwr Dynodedig yr Eiddo i
drafod y pryderon hynny a phryderon blaenorol yn gysylltiedig â Covid ym mis
Hydref 2020;
(iii)
cyfeiriwyd at y protocol
gorfodi ar y cyd rhwng Heddlu Gogledd Cymru a’r Cyngor, a oedd yn cynnwys
cyfarfod ymgysylltu Lefel 1 gyda’r eiddo am ganiatáu i gwsmeriaid feddwi yn yr
eiddo a methu â darparu lluniau teledu cylch cyfyng i’r Heddlu yn dilyn
ymosodiad difrifol yn yr eiddo;
(iv)
yng ngoleuni’r digwyddiadau
sy'n gysylltiedig â'r eiddo, honnodd Heddlu Gogledd Cymru nad oedd gan yr eiddo
fesurau digonol mewn lle i hyrwyddo'r pedwar amcan trwyddedu, a thynnodd sylw
hefyd at ddiffyg ymgysylltiad Deiliad y Drwydded Eiddo / Goruchwyliwr Dynodedig
yr Eiddo gyda’r Heddlu a'r Cyngor. O
ganlyniad, roedd yr Heddlu wedi gwneud cais am adolygu’r drwydded eiddo a gofyn
i aelodau ystyried nifer o fesurau ychwanegol er mwyn datrys y mater (atodiad C
yn yr adroddiad);
(v)
nid oes unrhyw sylwadau
pellach wedi’u derbyn gan Awdurdodau Cyfrifol nac aelodau o’r cyhoedd mewn
ymateb i’r hysbysiad cyhoeddus gofynnol o’r Cais am Adolygiad;
(vi)
yr angen i ystyried y Cais
am Adolygiad gan ystyried Datganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor; Canllawiau a
gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol; deddfwriaeth berthnasol arall a
sylwadau a dderbyniwyd, ac
(vii)
yr opsiynau sydd ar gael
i’r pwyllgor wrth benderfynu ar y cais.
Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu yr adroddiad gan amlinellu ffeithiau'r
achos.
CYFLWYNIAD YR YMGEISYDD (HEDDLU GOGLEDD CYMRU)
Roedd Mr . Aaron Haggas, Swyddog Trwyddedu’r Heddlu
ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych, yn bresennol ar ran Heddlu Gogledd Cymru.
Wrth gyflwyno achos yr Heddlu, esboniodd Mr. Haggas
bod yr Heddlu wedi ceisio ymgysylltu â’r eiddo trwyddedig ar y cyfle cyntaf
posibl yn dilyn unrhyw bryder, a oedd yn tueddu i fod ar ffurf llythyr ffurfiol
gyda disgwyliad i dderbyn neu wrthod y cynnig.
Roedd yn rhwystredig pan na fynychodd y rheiny a wahoddwyd, a hyd yn oed
yn fwy rhwystredig pan anwybyddwyd gwahoddiadau dilynol. Amlygwyd pa mor bwysig yw’r berthynas waith
rhwng pob awdurdod cyfrifol ac eiddo trwyddedig ac roedd yr Heddlu yn gwbl
ymwybodol o’r heriau a’r beichiau sy’n wynebu’r diwydiant trwyddedu. Fodd bynnag, roedd cyfrifoldeb i hyrwyddo’n
weithredol y pedwar amcan trwyddedu ac roedd y cyfrifoldebau sy’n gysylltiedig
â hynny yn cael eu rhoi yng ngofal yr eiddo trwyddedig.
Cyfeiriodd Mr. Haggas at ddigwyddiadau ar 3 Mawrth
2022, fel y manylir yn y Cais am Adolygiad, a oedd wedi cymell yr Heddlu i
fynychu’r eiddo yn dilyn galwad yn eu hysbysu o aflonyddwch yn yr eiddo. Pan gyrhaeddodd yr Heddlu, roedd y drws
ffrynt wedi’i gloi ond roedd rhywfaint o sŵn i’w glywed a goleuadau disgo a phobl i’w gweld y tu
mewn. Roedd rhywfaint o gyndynrwydd i
adael yr Heddlu i mewn i’r eiddo ac ar ôl mynd i mewn gwelodd y swyddogion
nifer o bobl, rhai dan 18 oed, a chyflwynodd Mrs. Butler ei hun fel y
trwyddedai. Nododd swyddogion yr heddlu
bod pobl yn feddw ac yn swnllyd iawn ac roedd llawer ohonynt yn dal diodydd
alcoholig - pan gawsant eu herio bu’n rhaid cymryd y diodydd oddi wrthynt ac fe
wnaethant droi’n wrthdrawol. Nid oedd y
rheiny a oedd yn bresennol yn ddieithr i’r heddlu gan eu bod yn cael eu
hystyried yn grŵp heriol yn y dref.
Oherwydd pryderon am gyflwr meddw’r bobl ifanc, aethpwyd â nhw adref;
arestiwyd un ohonynt yn ddiweddarach.
Roedd y bobl yn feddw iawn, yn cael trafferth sefyll, yn siarad yn
aneglur ac yn wrthdrawol iawn. Codwyd
pryderon pellach ynglŷn â pham oedd plant ar safle’r eiddo
trwyddedig. Dywedodd Mr. Haggas, mewn
sefyllfa lle mae Goruchwyliwr Dynodedig yr Eiddo neu aelod o staff yn gweld
pobl ifanc yn yr eiddo, dylent gymryd gofal a sylw priodol i gysylltu â rhywun
sy’n gyfrifol amdanynt neu’r Heddlu, nid hwyluso’r hyn y cyfeiriodd ato fel
clwb ieuenctid y tu allan i oriau lle’r oedd alcohol yn cael ei yfed. Roedd yn bryder difrifol i’r Heddlu nad oedd
unrhyw amodau ar y drwydded a fyddai’n helpu i ddiogelu’r eiddo a’u cynorthwyo
i ddelio gyda phlant yn yr eiddo, meddwdod, monitro digwyddiadau, a sut i reoli
ymddygiad. Pryder arall oedd y diffyg
ymgysylltiad ar ôl anfon y llythyrau gwahoddiad a’r Cais am Adolygiad a
gyflwynwyd ar ôl hynny.
Atebodd Mr. Haggas gwestiynau ynglŷn â’r
cyfarfod ymgysylltu Lefel 1, i drafod mesurau priodol i’w cymryd i ymdrin â
digwyddiad yn yr eiddo, gan gynnwys cwsmeriaid meddw, ymosodiad a methu â
darparu lluniau teledu cylch cyfyng. Er
efallai bod rhyw fath o gytundeb anffurfiol wedi bod yn hynny o beth, nid oedd
unrhyw fesurau wedi cael eu cyflwyno o ran amodau ar y drwydded eiddo.
SYLWADAU DEILIAD TRWYDDED YR EIDDO
Roedd Mr. Stephen Butler, Deiliad y Drwydded Eiddo
/ Goruchwyliwr Dynodedig yr Eiddo yn bresennol i gefnogi’r adolygiad o’r
drwydded eiddo.
Ymatebodd Mr. Butler i’r digwyddiad ar 3 Mawrth
2022. Esboniodd fod Mrs. Butler wedi
cymryd ei le i weithio yn yr eiddo ar y diwrnod hwnnw gan ei fod o adref yn
sâl. Roedd Mrs. Butler wedi dod â dau
unigolyn ifanc i mewn i’r eiddo oherwydd eu bod yn chwydu y tu allan ac roedd
hi am drefnu tacsi i fynd â nhw adref.
Derbyniwyd nad oedd pawb yn yr eiddo yn 18 oed a chytunodd fod grŵp
heriol wedi dod i mewn i’r eiddo oddeutu awr yn gynharach, gan ymddwyn yn
ymosodol a brawychu Mrs. Butler, ac nid oedd hi’n gwybod beth i’w wneud gyda
nhw. Ychwanegodd Mr. Butler ei fod wedi
mynd i Swyddfa’r Heddlu ar achlysuron yn y gorffennol pan gafodd ei wahodd i
siarad gyda’r Heddlu ond nad oedd wedi derbyn llythyr yn ymwneud â’r digwyddiad
ar 3 Mawrth 2022, felly nid oedd yn ymwybodol o’r cyfweliad ynglŷn â hyn.
Gofynnodd y Cadeirydd nifer o gwestiynau i Mr.
Butler a cheisio cael eglurhad o faterion ynghylch y manylion yn y Cais am
Adolygiad. Roedd ymateb Mr. Butler fel a
ganlyn -
·
pan oedd wedi derbyn llythyrau gan yr Heddlu ynglŷn â materion eraill
yn y gorffennol, cadarnhaodd ei fod wedi ymateb iddynt
·
dywedodd ei fod wedi methu’r cyfarfod ym mis Hydref 2020 i drafod pryderon
ynglŷn â Covid a dau gyfarfod ym mis Mawrth 2022 oherwydd nad oedd wedi
derbyn y llythyrau
·
esboniodd mai newydd ddechrau rhedeg yr eiddo oedd o cyn y cyfarfod ymgysylltu
Lefel 1 yn 2019, ac er ei fod yn y broses o osod teledu cylch cyfyng, nid oedd
wedi bod yn weithredol ar y pryd, ac roedd
hynny wedi bod yn destun trafodaeth gyda’r Heddlu ac ni chymerwyd unrhyw
gamau pellach ynglŷn â hynny
·
cadarnhaodd bod teledu cylch cyfyng bellach yn weithredol yn yr eiddo ac
roedd yr Heddlu wedi cael mynediad ato ar sawl achlysur mewn perthynas â
digwyddiadau y tu allan i’r eiddo nad oeddent yn gysylltiedig â’r eiddo ei hun
·
dywedodd mai anlwc oedd ei fod yn sâl yn ei gartref yn ystod y digwyddiad
ar 3 Mawrth 2022, a bod Mrs. Butler, a oedd yn llai profiadol, yn gweithio ar
ei phen ei hun a’i bod wedi cael grŵp o bobl fygythiol yn ymweld â’r
dafarn yn annisgwyl
·
rhoddodd sicrwydd nad oedd y grŵp o bobl wedi bod yn yr eiddo cyn y
digwyddiad hwnnw nac ers hynny; tafarn dawel oedd hi a dim ond un aelod o staff
oedd ei angen. Roedd hwn yn ddigwyddiad
unigol ac nid oedd unrhyw beth tebyg wedi digwydd ers hynny.
Ar y pwynt hwn, gofynnodd y Cadeirydd a oedd gan yr
Heddlu unrhyw dystiolaeth o ddigwyddiadau blaenorol yn gysylltiedig â’r
eiddo. Cadarnhaodd Mr. Haggas nad oedd
tystiolaeth i ddangos bod yr eiddo wedi achosi pryder cyson; roedd y pryder yn
gysylltiedig â difrifoldeb y digwyddiad penodol ar 3 Mawrth 2022. Dywedodd bod rhedeg tafarn yng nghanol tref
brysur yn golygu ei bod yn ofynnol i drwyddedigion allu ymdrin ag unigolion
heriol, a’i bod yn debygol mai lwc dda yn unig oedd y ffaith nad oedd unrhyw
ddigwyddiadau eraill wedi bod yn yr eiddo.
Roedd tystiolaeth hefyd yn dangos bod yr eiddo wedi gweithredu y tu hwnt
i’w oriau a ganiateir gyda methiannau cyson yn yr eiddo yn cael eu hamlygu yn
ystod y digwyddiad. Atebodd Mr. Butler
trwy ddweud mai digwyddiad unigol oedd hwn a oedd wedi digwydd pan nad oedd ef
wedi bod yn yr eiddo ac ni allai Mrs. Butler alw arno am gymorth. Credai yn gyffredinol bod yr eiddo’n cael ei
reoli yn dda. Nodwyd bod y drwydded
eiddo yn caniatáu i alcohol gael ei werthu tan 12 hanner nos ac mai’r amser cau
oedd 12.30am.
Aeth Mr. Butler ymlaen i esbonio, er ei fod yn
ymwybodol o’r polisi Her 25, nid oedd wedi bod yn ymwybodol o’r angen i gofnodi
gwiriadau prawf adnabod mewn achosion lle’r oedd oedran wedi cael ei wirio fel
18 oed neu’n hŷn. Cwestiynodd anghenraid
a chyfreithlondeb yr arfer hwnnw. Esboniodd
Mr. Haggas mai achos o ddiwydrwydd dyladwy yw dangos bod gwiriad wedi’i gynnal
ac ni fyddai unrhyw fanylion eraill yn cael eu cofnodi ar wahân i’r dyddiad
geni a llofnod y gwiriwr.
Tynnodd y Cadeirydd sylw Mr. Butler at y mesurau
ychwanegol a gynigir gan yr Heddlu fel datrysiad. Ymatebodd Mr. Butler i’r rheiny fel a ganlyn
-
·
nid oedd yn cytuno â’r bwriad i dynnu ei enw fel Goruchwylydd Dynodedig yr
Eiddo neu Ddeiliad Trwydded Eiddo.
·
roedd yn dymuno cadw’r oriau presennol a ganiateir ar gyfer gweithgareddau
trwyddedu, sef 12 hanner nos bob nos, gan y byddai’r cynnig i ostwng yr amser i
11.00pm yn arwain at oblygiadau difrifol i hyfywedd y busnes.
·
cytunodd â’r amodau arfaethedig mewn cysylltiad â’r system teledu cylch
cyfyng
·
dywedodd fod Her 25 yn cael ei weithredu ar hyn o bryd yn y safle a
derbyniodd yr amod arfaethedig yn hynny o beth
·
dadleuodd yn erbyn yr angen i bob hyfforddiant gael ei gynnal gan gwmni
hyfforddi allanol gan nad oedd yn credu bod hynny’n gyfiawn o ystyried nad oedd
unrhyw broblemau yn yr eiddo [dywedodd Mr. Haggas fod y digwyddiad yn awgrymu
nad oedd y staff wedi’u hyfforddi’n briodol a byddai cwmni allanol yn sicrhau
diwydrwydd dyladwy.]
·
nid oedd yn cytuno â’r amod na ddylai plant gael eu caniatáu yn yr eiddo, o
ystyried fod pobl ar wyliau, teuluoedd a phlant yn rhan graidd o fasnach
prynhawn y dafarn, ac yn hanfodol i’r busnes.
Mewn ymateb i ddatganiad Mr. Haggas nad oedd plant wedi cael eu diogelu
yn yr eiddo yn ystod y digwyddiad ar 3 Mawrth 2022, dywedodd Mr. Butler ei bod
yn hwyr iawn a bod Mrs. Butler wedi eu gwahodd i mewn i gael dŵr yn unig
gan eu bod yn chwydu y tu allan, gyda’r bwriad o fynd â nhw adref mewn
tacsi. Roedd gweddill y bobl yn yr eiddo
dros 18 oed.
Gofynnodd Aelodau gwestiynau pellach i Mr. Butler a
ymatebodd fel a ganlyn -
·
o ran y digwyddiad ar 3 Mawrth 2022, daeth y grŵp heriol i mewn i’r
eiddo tua 11.00pm ac yna ymgasglodd grŵp o ferched iau y tu allan i’r
eiddo tua 12 hanner nos yn chwydu. Gwahoddodd
Mrs. Butler nhw i mewn gan eu bod yn feddw iawn a rhoddodd ddŵr iddyn nhw
gyda’r bwriad o fynd â nhw adref. Roedd
y grwpiau yn ddau grŵp ar wahân.
·
pan ddaeth amser cau’r dafarn, gwrthododd y grŵp heriol adael ac
roeddent yn stwrllyd a bygythiol
·
roedd y teledu cylch cyfyng yn weithredol ar adeg y digwyddiad ond ni
ofynnodd yr Heddlu am y recordiad a gadwyd am 28 diwrnod - ni soniwyd am y
digwyddiad wrtho tan 6 - 12 wythnos ar ôl iddo ddigwydd
·
nid ef oedd perchennog yr eiddo; SGB House Limited oedd y perchennog (ei
frawd yng nghyfraith), ac roedd yn cael ei weithredu fel tafarn, roedd yn arfer
cael ei weithredu fel clwb flynyddoedd yn ôl.
·
nid oedd yn ymwybodol o’r arfer i gofnodi gwiriadau oedran i’r rheiny a
oedd wedi cael cais i brofi eu bod yn 18 oed neu’n hŷn
·
mae’n bosibl nad oedd y llythyrau wedi cael eu derbyn yng nghyfeiriad y
busnes oherwydd y ffordd y mae’r caeadau wedi’u gosod ar yr adeilad gyda rhai
llythyrau yn cael eu taflu yng nghefn yr eiddo.
O ran cyfeiriad ei gartref, mae’r post yn ysbeidiol gyda dryswch
ynghylch enwau strydoedd tebyg. Fodd
bynnag, lle’r oedd llythyrau wedi cael eu derbyn, roedd wedi ymateb iddynt ac
wedi cyfarfod gyda’r Heddlu ar sawl achlysur i drafod materion eraill.
DATGANIAD TERFYNOL YR YMGEISYDD (HEDDLU GOGLEDD CYMRU)
Wrth wneud datganiad terfynol,
dywedodd Mr. Haggas fod datganiad Mr. Butler ynglŷn â’i ddiffyg gwybodaeth
am bethau penodol wedi dangos bod angen i gwmni allanol ddarparu hyfforddiant a
chefnogaeth i’r eiddo. Pe bai Mr. Butler
wedi mynychu’r cyfarfod a drefnwyd ar 14 Mawrth a 21 Mawrth 2022, byddai wedi
bod o fewn y terfyn amser i ddarparu lluniau teledu cylch cyfyng o’r digwyddiad
ar 3 Mawrth 2022 ac amlygodd ymhellach yr angen i drwyddedigion ymgysylltu â’r
Heddlu. Roedd plant yn gysylltiedig â’r
digwyddiad hwn ac mae’n rhaid rhoi blaenoriaeth i hynny bob amser a gweithredu
mesurau priodol. Byddai mynd â phlant
adref mewn tacsis neu geir yn peri pryderon, oherwydd fe allai godi cwestiynau
ynghylch diogelwch y bobl eu hunain a diogelwch y plant, a’r mesur priodol
fyddai cael unigolyn cyfrifol i gasglu’r plant a hysbysu’r Heddlu. Byddai hyn yn sicrhau bod yr eiddo wedi
dangos diwydrwydd dyladwy i ddiogelu eu hunain a’r plant pe bai pryder neu
ddigwyddiad yn codi.
Caniataodd y Cadeirydd i Mr. Butler
roi ymateb terfynol a chadarnhaodd Mr. Butler nad oedd ganddo unrhyw beth
pellach i’w ychwanegu.
GOHIRIAD I YSTYRIED Y CAIS
Ar y pwynt hwn (2.30 p.m.), daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben i bawb
arall, ac aeth yr Is-Bwyllgor Trwyddedu ati i ystyried y cais mewn sesiwn
breifat.
PENDERFYNIAD A’R RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
PENDERFYNWYD bod amodau’r Drwydded Eiddo yn cael eu haddasu yn unol â’r addasiadau fel
yr argymhellir gan Heddlu Gogledd Cymru yn eu Cais am Adolygiad, fel y nodir isod -
Atal
Trosedd ac Anrhefn
1. Teledu Cylch Cyfyng (TCC)
a)
Bydd system TCC yn cael ei gosod yn yr
eiddo a bydd yn weithredol bob amser pan fydd yr eiddo ar agor.
b)
Bydd gan y system TCC gamerâu sy’n
monitro’r eiddo yn fewnol ac yn allanol.
Y tu mewn i’r eiddo bydd digon o gamerâu yn cael eu gosod i gwmpasu pob
ardal y mae gan y cyhoedd fynediad atynt, ar wahân i’r toiledau. Bydd pob pwynt mynediad ac allanfa yn weladwy
ar y camerâu a rhaid gallu gweld pennau ac ysgwyddau pobl.
c)
Bydd y system TCC o safon sy’n gallu
darparu lluniau o ansawdd tystiolaethol ac yn gallu adnabod wynebau ym mhob
cyflwr golau.
d)
Bydd gan y system TCC gyfleuster i
recordio lluniau ar bob camera a bydd y lluniau hyn yn cael eu cadw am o leiaf
28 diwrnod.
e)
Bydd y system TCC yn cynnwys cyfleuster
i ddangos y dyddiad a’r amser cywir ar y lluniau a recordir bob amser.
f)
Bydd y system TCC yn cynnwys cyfleuster
lle gellir lawrlwytho’r lluniau ar ryw fath o gyfrwng symudadwy. Deiliad y drwydded eiddo sy’n gyfrifol am
ddarparu’r cyfrwng symudadwy ac os bydd angen ymafael yn y cyfrwng symudadwy
hwnnw, yr eiddo sy’n gyfrifol am sicrhau bod cyfryngau symudadwy ychwanegol ar
gael.
g)
Bydd lluniau o’r system TCC yn cael eu
darparu i swyddogion yr Heddlu neu’r Awdurdod Lleol ar gais.
h)
Bydd o leiaf un aelod o staff sydd
wedi’i hyfforddi i ddefnyddio’r system TCC ac yn gallu darparu’r lluniau sydd
wedi’u recordio ar y system TCC ar gael bob amser y mae’r eiddo ar agor.
i)
Mae’n rhaid i Oruchwyliwr Dynodedig yr
Eiddo sicrhau bod gwiriadau yn cael eu cynnal o weithrediad y system TCC bob
wythnos. Mae’n rhaid i’r gwiriad hwn
gynnwys gweithrediad y camerâu, y cyfleusterau recordio, y cyfleusterau ar
gyfer darparu lluniau a chywirdeb yr amser a’r dyddiad. Mae’n rhaid cadw cofnod ysgrifenedig o’r
gwiriadau hyn, gan gynnwys llofnod y sawl sy’n cynnal y gwiriad. Mae’n rhaid i’r cofnod ysgrifenedig gael ei
gadw yn yr eiddo bob amser ac mae’n rhaid iddo fod ar gael i gynrychiolydd o
unrhyw awdurdod cyfrifol ar gais
j)
Os na fydd y TCC yn weithredol, bydd yr
eiddo yn terfynu gweithgareddau trwyddedig ac yn ailagor unwaith y bydd y TCC
ar gael ac yn weithredol yn unig
k)
Dylid cynnal gwiriadau a gofnodir yn
ddyddiol i sicrhau bod y TCC yn gweithio a dylai’r gwiriadau hyn fod ar gael i
Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Sir Ddinbych ar gais.
2. CYN cael caniatâd i ddechrau gwerthu alcohol,
mae’n rhaid i bob aelod o staff sydd heb drwydded bersonol, gan gynnwys aelodau
o staff di-dâl, aelodau o’r teulu ac unigolion sy’n gweithio’n achlysurol a
allai fod yn gysylltiedig â gwerthu alcohol yn yr eiddo, gael eu hyfforddi ar
eu cyfrifoldebau o dan Ddeddf Drwyddedu 2003 ac unrhyw ddiwygiadau dilynol i’r
Ddeddf honno - yn arbennig, byddant yn derbyn hyfforddiant ar werthu alcohol i
unigolion sy’n feddw.
3. Dylai’r holl hyfforddiant gael ei gynnal gan gwmni hyfforddiant allanol.
4. Cynhelir hyfforddiant diweddaru mewn perthynas â’r hyfforddiant dechreuol
yn 2) uchod gan bob aelod o staff sy’n gysylltiedig â gwerthu alcohol bob
deuddeng mis.
5. Bydd cofnodion o’r hyfforddiant dechreuol a dderbynnir a’r hyfforddiant
diweddaru dilynol yn cael eu cadw a byddant yn cael eu rhoi i swyddogion yr
Heddlu neu’r Awdurdod Lleol ar gais.
6. Llyfr Digwyddiadau a Gwrthodiadau - rhaid cadw’r llyfr hwn (gyda rhifau ar
y tudalennau) yn yr eiddo a rhaid iddo fod ar gael i’w archwilio gan awdurdodau
cyfrifol. Mae’n rhaid i’r llyfr
digwyddiadau a gwrthodiadau gael ei ddefnyddio i gofnodi’r canlynol –
a) Unrhyw achos o drais neu anrhefn yn yr eiddo neu y tu allan i’r eiddo
b) Unrhyw ddigwyddiad yn cynnwys cyffuriau (cyflenwi / meddiant / dan
ddylanwad) yn yr eiddo
c) Unrhyw drosedd neu weithgaredd troseddol arall yn yr eiddo
d) Unrhyw achos o wrthod gwerthu alcohol i unigolion sy’n feddw
e) Unrhyw achos o wrthod gwerthu alcohol i rywun dan 18 oed neu unrhyw un sy’n
ymddangos dan 18 oed
f) Unrhyw alwad am gymorth yr heddlu i’r eiddo
g) Unrhyw achos o droi rhywun allan o’r eiddo
h) Unrhyw achos o roi cymorth cyntaf / gofal arall i gwsmer
7. Bydd y llyfr cofnodi digwyddiadau a gwrthodiadau ar gael i’w archwilio gan
swyddogion Heddlu Gogledd Cymru neu’r
Awdurdod Lleol ar gais
8. Ni chyfyngir mynediad i’r eiddo ar unrhyw adeg a phan fydd cwsmeriaid yn yr
eiddo, bydd pob pwynt mynediad ac allanfa yn aros ar agor a heb eu cloi. Oni bai fod aelod o Heddlu Gogledd Cymru neu Gyngor Sir Ddinbych yn rhoi cyfarwyddyd
penodol i beidio.
Amddiffyn
Plant rhag Niwed
1. Ni chaniateir plant yn yr eiddo ar ôl 19.00 o’r gloch.
2. Y polisi gwirio oedran a weithredir gan yr eiddo fydd Her 25.
3. Bydd pob aelod o staff, gan gynnwys aelodau o staff di-dâl, aelodau o’r
teulu ac unigolion sy’n gysylltiedig â gwerthu alcohol yn achlysurol yn cael
hyfforddiant ar y polisi Her 25 CYN cael eu caniatáu i werthu alcohol a
byddant yn cymryd rhan mewn hyfforddiant diweddaru bob deuddeng mis o leiaf.
4. Dylai’r holl hyfforddiant gael ei gynnal gan gwmni hyfforddiant allanol.
5. Bydd cofnodion o’r hyfforddiant Her 25 yn cael eu cadw a byddant ar gael
i’w harchwilio gan swyddogion Heddlu Gogledd Cymru neu’r Awdurdod Lleol ar
gais.
6. Bydd yr eiddo yn gweithredu cofnod Her 25 lle bydd pob cwsmer sy’n cael
cais i ddangos prawf oedran yn cael eu cofnodi.
Y manylion a gedwir yw blaenlythrennau enwau cyntaf ac olaf, dyddiad
geni a chod post.
Dywedodd y Cadeirydd wrth yr
Ymgeisydd beth oedd penderfyniad yr Is-bwyllgor a nododd y Cyfreithiwr yr
addasiadau i’r Drwydded Eiddo a dywedodd beth oedd y rhesymau dros y
penderfyniad fel a ganlyn -
Roedd yr Is-Bwyllgor Trwyddedu
wedi rhoi ystyriaeth ofalus i’r adroddiad a’r sylwadau ysgrifenedig a wnaed gan
amryw bobl, y cyflwyniadau llafar yn ystod y gwrandawiad gan Mr Haggas o Heddlu
Gogledd Cymru a Mr Butler, yn ogystal ag ymatebion i gwestiynau gan aelodau’r
Is-Bwyllgor. Roedd yr Is-Bwyllgor hefyd wedi rhoi ystyriaeth i’r gyfraith
a’r canllawiau perthnasol a Datganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor fel rhan o’u
hystyriaethau.
Roedd y dystiolaeth yn dangos
yn glir bod:
- Plant yn yr eiddo ar ôl oriau a ganiateir yn y
drwydded, ac roeddent yn feddw.
- Nid oedd gan y rheiny a oedd yn gwerthu alcohol yn
yr eiddo ddealltwriaeth digonol o ofynion Her 25.
- Nid oedd yr eiddo yn peri pryder cyson i Heddlu
Gogledd Cymru.
- Roedd Mr Butler wedi mynychu cyfarfod ymgysylltu
Lefel 1 gyda Heddlu Gogledd Cymru ynghylch gosod system TCC yn yr eiddo.
Ar sail y dystiolaeth a
ddarparwyd ac yng ngoleuni’r digwyddiad yn yr eiddo ar 3 Mawrth 2022, a nodwyd
yn y dystiolaeth a gyflwynwyd gan Heddlu Gogledd Cymru, bu i’r Is-bwyllgor
Trwyddedu ganfod nad oedd sail ddigonol i gyfiawnhau tynnu enw Mr Butler fel
Goruchwyliwr Dynodedig yr Eiddo neu Ddeiliad y Drwydded Eiddo, nac i newid
oriau gweithredu’r drwydded.
Fodd bynnag, bu i’r
Is-bwyllgor Trwyddedu ganfod bod methiannau wedi bod o ran rheoli’r eiddo yn
effeithiol. Teimlai y byddai addasiadau
i amodau’r drwydded yn rhoi cyfle i wella ymarferion rheoli a chadw staff,
cwsmeriaid a’r gymuned, gan gynnwys plant, yn ddiogel. Byddai hynny’n fodd priodol o fynd i’r afael
â’r pryderon a godwyd gan Heddlu Gogledd Cymru ynglŷn â’r digwyddiad ar 3
Mawrth 2022 a galluogi’r eiddo i’w reoli’n well yn y dyfodol yn unol â’r
amcanion trwyddedu perthnasol.
Roedd y penderfyniad wedi’i
wneud ar sail hyrwyddo’r amcanion trwyddedu sy’n ymwneud ag Atal Trosedd ac
Anrhefn ac Amddiffyn Plant rhag Niwed.
Daeth
y cyfarfod i ben am 3.30 p.m.
Dogfennau ategol: