Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CERBYDAU FFLYD GWASTRAFF NEWYDD 5M – DYFARNU’R CONTRACT

Ystyried adroddiad (sy’n cynnwys atodiadau cyfrinachol) gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd, (copi’n amgaeedig) sy’n ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu contract i’r cyflenwr a ffefrir ar gyfer 14 Cerbyd Adfer Adnoddau 5M fel rhan o brosiect ailfodelu ehangach y Gwasanaethau Gwastraff.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn-

 

(a)       cymeradwyo dyfarnu’r contract i’r cyflenwr a ffefrir ar gyfer yr 11 RRV 5M disel a 3 RRV 5M allyriadau isel iawn am gost o £2,712,231.   Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn ariannu £2,217,231 a bydd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu £495,000 i brynu’r 3 cerbyd allyriadau isel iawn. Gweler Atodiad 1 (Rhan 2) am fwy o fanylion ariannu;

 

(b)       cadarnhau ei fod wedi darllen, wedi deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3) fel rhan o’u hystyriaethau, a

 

(c)        cymeradwyo gweithredu’r penderfyniad ar unwaith oherwydd yr amser mae’n ei gymryd i gyflenwi’r cerbydau RRV 5M mwyaf, ac (yr un mor bwysig) i sicrhau’r prisiau tendro o gofio’r ansicrwydd yn y farchnad a chwyddiant yn y prisiau sy’n gallu golygu bod y prisiau tendro yn cael eu tynnu’n ôl ar fyr rybudd.

 

Cofnodion:

[Cyfeiriodd Pennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd at yr atodiadau cyfrinachol am resymau sensitifedd masnachol a chynghori y dylai unrhyw gwestiynau sy’n codi o ran yr elfennau hynny gael eu cyflawni mewn sesiwn breifat].

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Brian Jones yr adroddiad ar y broses a gymerwyd yn ystod yr ymarfer caffael fflyd fel rhan o brosiect ehangach o ran ail-fodelu gwasanaethau gwastraff a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu contract i’r cyflenwr a ffefrir ar gyfer 14 o Gerbydau Adfer Adnoddau newydd 5M (RRV).   Roedd dyfarnu contract yn cynnwys 11 cerbyd gwastraff RRV 5M disel a 3 cerbyd gwastraff allyriant isel iawn (ULEV).   O ystyried y cyfnodau arweiniol hir ar gyfer yr RRV 5M mwy ac i sicrhau prisiau’r tendr argymhellwyd bod y penderfyniad yn cael ei weithredu ar unwaith.

 

Ychwanegodd Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, yn dilyn trafodaeth bellach gyda Llywodraeth Cymru, y cytunwyd i gynyddu nifer y cerbydau gwastraff ULEV o 2 i 3 a fyddai’n lleihau allyriadau’r fflyd ymhellach ac yn cynrychioli newid sylweddol i sut yr oedd y gwasanaeth yn gweithredu.   Pwysleisiodd y Cynghorydd Jones bod angen lansio’r model gwastraff newydd yn yr hydref 2023 i osgoi pwysau ariannol pellach ar y gwasanaeth yn dilyn terfyn y contract presennol gydag United Paper Mills.

 

Roedd y Cabinet yn cefnogi’r camau i leihau allyriadau carbon y fflyd ac wedi trafod dibynadwyedd / cadernid y cerbydau gwastraff ULEV gyda swyddogion i ddiwallu anghenion yr awdurdod a’r ffyrdd newydd o weithio yn y dyfodol ynghyd â’r amseroedd arwain i ddiwallu terfynau amser cyflenwi.   Ymatebodd y swyddogion–

 

·         bod gwaith wedi’i gyflawni ar hyfywedd y cerbydau ULEV a’u cyfyngiadau ar lwybrau gwahanol, amodau ac ati, ac roedd hyder y byddant yn diwallu ymrwymiadau’r gwasanaeth - roedd unrhyw risg o ran hynny wedi’i liniaru trwy gyflwyno nifer fechan i’r fflyd ar y pwynt hwn a’r bwriad oedd cyflwyno mwy o gerbydau ULEV dros amser; roedd yn debygol pan fyddai’r cerbydau disel yn cyrraedd diwedd oes y byddai’n ofynnol eu disodli gyda cherbydau heb allyriadau, a dyna’r rheswm dros gyflwyno’r rhain fesul cam er mwyn rheoli risg.

·         roedd y Tîm Cynnal a Chadw wedi derbyn hyfforddiant i gynnal a chadw cerbydau trydan a oedd yn darparu cyfleoedd posibl ar gyfer y gwasanaeth fflyd i gyd-weithio yn y dyfodol.   Roedd yr Uned Cynnal a Chadw ym Modelwyddan ar ffurf garej masnachol a gobeithir y byddai’r newid yn darparu buddion hirdymor i’r gymuned fusnes yn lleol a’r fflyd fewnol.

·         disgwylir y byddai’r amser arweiniol eithaf hir yn darparu’r cyfle i gomisiynu’r cerbydau a darparu’r hyfforddiant gofynnol i’r staff newydd yn barod i gyflwyno ffordd newydd o weithio –yn amodol ar beidio ag wynebu problemau sylweddol yn y diwydiant, dylai’r cyflenwyr allu cyflwyno’r cerbydau mewn oddeutu blwyddyn er mwyn gallu cyflwyno’r model gwastraff newydd erbyn yr hydref 2023.

 

Gwahoddodd yr Arweinydd ragor o gwestiynau gan aelodau heb fod yn aelodau o'r Cabinet ac ymatebodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion i'r pwyntiau canlynol a godwyd–

 

·         roedd gwastraff y cartref na ellir ei ailgylchu yn cael ei brosesu ym Mharc Adfer, Glannau Dyfrdwy, fel rhan o drefniant ar y cyd gyda phum awdurdod Gogledd Cymru tra bo gwastraff y cartref y gellir ei ailgylchu yn cael ei brosesu yn United Paper Mills, Shotton.

·         roedd y rhesymau a roddwyd pam fod cerbydau trydan yn ddrytach na cherbydau disel yn cynnwys cost y batri o gymharu ag injan tanio mewnol, yr ymchwil a chostau datblygu technoleg newydd sy’n cael ei dalu ar y dechrau fel arfer, a grymoedd y farchnad.

·         eglurwyd y rhesymeg dros y penderfyniad i gael cerbydau cwbl drydanol.  Er bod cerbydau hybrid llai ar gael roedd y Cyngor wedi dewis cerbydau trydan er mwyn gwneud y mwyaf o leihau allyriadau carbon gan fod cerbydau trydan yn ddigonol o ran maint, gwefru, ac ystod i ddiwallu gofynion dyddiol.   Nid oedd dewisiadau hybrid ar gael ar gyfer y cerbydau mwy ac er bod rhai cerbydau sy’n rhedeg ar hydrogen, roeddent yn ddrud iawn a roedd y prisiau’n afresymol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn–

 

(a)        cymeradwyo dyfarnu contract i’r cyflenwr a ffefrir ar gyfer 11 RRV disel 5M a 3 x RRV ULEV 5M am gyfanswm o £2,712,231.   Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn ariannu £2,217,231 gyda Llywodraeth Cymru yn cyfrannu £495,000 i brynu’r 3 cerbyd ULEV (Atodiad 1 yr adroddiad);

 

(b)       cadarnhau ei fod wedi darllen, yn deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau, ac

 

(c)         yn cymeradwyo gweithrediad y penderfyniad ar unwaith o ystyried y cyfnod arweiniol hir ar yr RRV 5M mwy a (cyn bwysiced) i sicrhau prisiau’r tendr o ystyried ansicrwydd y farchnad a chwyddiant prisiau a allai olygu bod prisiau’r rhai sy’n cyflwyno tendr yn cael eu tynnu’n ôl yn fyr rybudd.

 

 

Dogfennau ategol: