Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

AILFODELU’R GWASANAETHAU GWASTRAFF – Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM Y SEFYLLFA ARIANNOL GAN GYNNWYS ACHOS BUSNES WEDI’I DDIWEDDARU

Ystyried adroddiad yn gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd, (copi’n amgaeedig) sy’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet am y sefyllfa ddiweddaraf o ran cost a chyllideb prosiect Ailfodelu’r Gwasanaethau Gwastraff ac sy’n ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer Achos Busnes diwygiedig.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn-

 

(a)       cydnabod y sefyllfa ddiweddaraf o ran cost a chyllideb (Atodiad 1 i’r adroddiad);

 

(b)       cymeradwyo’r Achos Busnes ddiweddaraf (Atodiad 2 i’r adroddiad);

 

(c)        dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro i alw ar gyllid cynllun cyfalaf heb ei neilltuo os bydd angen oherwydd cynnydd afreolus mewn costau o ganlyniad i chwyddiant neu faterion cadwyn gyflenwi.   Adroddir ar unrhyw alwad ar y cyllid hwn i’r cyfarfod nesaf o’r Cabinet, a

 

(d)       cadarnhau ei fod wedi darllen, yn deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3 i’r adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Brian Jones adroddiad yn diweddaru’r Cabinet ar gostau diweddaraf a’r sefyllfa ariannol ar y Prosiect Ailfodelu’r Gwasanaeth Gwastraff a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer Achos Busnes wedi’i ddiweddaru a dirprwyo awdurdod i swyddogion priodol i alw ar gyllid sydd heb ei neilltuo yn y cynllun cyfalaf os bydd angen.

 

Tynnodd y Cynghorydd Jones sylw at dryloywder rheolaeth y prosiect a oruchwyliwyd gan y Bwrdd Prosiect Gwastraff ac sy’n destun craffu gyda diweddariadau rheolaidd i’r aelodau.   Yn unol â chynlluniau eraill y Cyngor roedd effaith cynnydd mewn costau nwyddau a deunyddiau yn fyd-eang wedi effeithio ar y prosiect, ac roedd hyn y tu hwnt i reolaeth y Cyngor, ac wedi arwain at gyflwyno Achos Busnes wedi’i ddiweddaru i geisio cymeradwyaeth.

 

Cyflwynodd Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol rywfaint o gefndir y prosiect a’r gwaith a wnaed ers cymeradwyo’r Achos Busnes gwreiddiol ym mis Rhagfyr 2018.   Pwysleisiodd fuddion y model newydd a fydd yn arwain at gynnydd mewn lefelau ailgylchu, ailgylchu o safon uwch, llai o allyriadau carbon a’r gwasanaeth gwastraff yn costio llawer llai na’r model presennol.   Roedd safle’r depo ger Ystâd Ddiwydiannol Colomendy a thrwy weithio ar y cyd gyda phedwar o fusnesau lleol i gaffael tir ar gyfer y safle, roedd swyddi lleol wedi’u diogelu a swyddi newydd wedi’u creu.   Ond, roedd y datblygiad wedi cymryd mwy o amser na’r disgwyl gydag effaith Covid-19 hefyd yn amharu ar gynnydd.

 

Y prif newid ers cymeradwyo’r Achos Busnes oedd y cynnydd sylweddol mewn chwyddiant a chostau nwyddau a deunyddiau oherwydd ffactorau byd-eang nad oedd modd eu rhagweld.   Roedd yr arian at raid yn y gyllideb gyffredinol wedi’i gynyddu i £2m ym mis Gorffennaf 2019 i ddelio â risgiau / elfennau anhysbys.   Ond, oherwydd cynnydd sylweddol yng nghostau nwyddau  / deunyddiau yn y deuddeg mis diwethaf, roedd pwysau costau o £3.588m wedi’u nodi ar draws y prosiect.   Roedd cais am £1.588m o gyllid ychwanegol ar gyfer y diffyg ariannol wedi’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth.   Roedd costau chwyddiant yn parhau i fod yn risg nes bo’r tendrau wedi’u dychwelyd a’r contractau wedi’u dyfarnu.   I gydnabod y broblem honno roedd Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid cyfalaf heb ei neilltuo yn ychwanegol i’r 22 o awdurdodau lleol. 

 

Eglurodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill nad oedd y sefyllfa ariannol yn unigryw i’r prosiect gwastraff gyda’r cynnydd mewn costau wedi’i gynnwys mewn nifer o gynlluniau ar draws yr awdurdod.   Roedd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r prosiect hwn a’r cyllid ychwanegol a ddarparwyd yn golygu ar y cam hwn bod y prosiect wedi’i ariannu’n llawn gan alluogi’r contractau gofynnol yn yr wythnosau/misoedd sydd i ddod hyd at gwblhau ac roedd yn cefnogi’r argymhellion.   Ychwanegodd y Cynghorydd Brian Jones bod contract y Cyngor gydag United Paper Mills (UPM) Shotton i ailgylchu gwastraff y cartref yn dod i ben yn yr hydref 2023 a fyddai’n debygol o arwain at bwysau ariannol ychwanegol ar y gwasanaeth gwastraff, ac y byddai unrhyw oedi yn y prosiect y tu hwnt i’r hydref 2023 yn arwain at fwy o gostau i’r Cyngor.

 

Ymatebodd y Cynghorwyr Brian Jones a Julian Thompson-Hill, a Phennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol i’r cwestiynau fel a ganlyn –

 

·        roedd Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau £1.588m o gyllid grant ychwanegol i gynorthwyo i ddiwallu’r pwysau o ran costau gan olygu bod y prosiect wedi’i ariannu’n llawn ar hyn o bryd, ond roedd costau chwyddiant yn parhau i fod yn risg nes y dyfernir y contract.

·        darparu sicrwydd bod y prosiect wedi’i ddatblygu cyn gynted â phosibl.   Roedd wedi cymryd pymtheg mis yn dilyn cymeradwyaeth yr Achos Busnes gwreiddiol i gaffael y safle oherwydd cymhlethdodau gyda’r gofrestrfa tir a’r wybodaeth dechnolegol ar gyfer manyleb y tendr nad oedd ar gael cyn hynny.   Roedd anwadalrwydd y farchnad bresennol yn golygu nad oedd contractwyr yn fodlon dal prisiau tendr a fyddai’n ddilys am wythnosau’n unig.

·        mewn ymateb i bryderon y Cynghorydd Barry Mellor o ran y cynnydd mewn costau a’r cais ganddo bod Archwilio Mewnol yn ymchwilio’r Achos Busnes, eglurwyd bod y wybodaeth ar gael i’r aelodau drwy gydol y prosiect, roedd Bwrdd Prosiect Gwastraff wedi monitro cynnydd a chostau, ac roedd gwaith wedi’i gyflawni gyda Rhaglen Weithredu'r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau (WRAP) a’r Tîm Cyllid gyda llawer o graffu ar elfennau ariannol y prosiect.   Ni fyddai problem pe bai Archwilio Mewnol yn ymchwilio’r Achos Busnes os yw hynny’n briodol.

·        o ran y tabl cyllid, nid oedd yn arferiad dangos yr arian at raid fel llinell gyllidebol ar wahân gan ei fod yn rhan o’r gost gyffredinol gyda’r holl brosiectau cyfalaf yn cael rhyw lefel o arian at raid yn rhan o’r amlen gyllid.

·        roedd maint y prosiect yn sylweddol gyda chyfanswm cost y prosiect yn £19,337,142.   Ond, roedd yn darparu isadeiledd gwastraff newydd sbon i wasanaethu’r sir gyfan, gan gynnwys fflyd newydd ar gyfer y gwasanaeth gwastraff, ac roedd dros £11m o gostau’r prosiect wedi’i ddarparu gan Lywodraeth Cymru - roedd y prosiect wedi’i reoli’n dda a’r cyllid wedi’i graffu a’i reoli cymaint â phosibl.

·        roedd gan y Cyngor gofnod llwyddiannus o gwblhau prosiectau cyfalaf mawr o fewn neu’n is na’r amlen gyllid a ddyrannwyd, ond mae’r cynnydd mawr mewn costau dros y deunaw mis diwethaf o ganlyniad i ffactorau allanol nas rhagwelwyd ac sydd y tu hwnt i reolaeth y Cyngor wedi effeithio ar nifer o brosiectau presennol, gan gynnwys y prosiect gwastraff, hyd yn oed gyda chynnydd canran bychan o’r costau yn cael effaith sylweddol oherwydd maint y prosiect.

·        er nad oedd yn ymwneud â’r adroddiad yn uniongyrchol, nodwyd na fyddai’r ffioedd ailgylchu gwastraff newydd yn golygu bod y preswylwyr yn talu’n ychwanegol am wasanaethau presennol ond byddent yn elwa o wasanaeth gwell lle y gellir derbyn mwy o ddeunyddiau mewn canolfannau ailgylchu am bris is na’r sector preifat.   Roedd tipio anghyfreithlon yn broblem genedlaethol (nad yw’n unigryw i Sir Ddinbych) ond roedd gwaith ar y gweill i fynd i’r afael â’r mater drwy addysg a gorfodi.

 

Diolchodd y Cynghorydd Bobby Feeley i’r swyddogion am yr adroddiad a’r eglurhad manwl o’r problemau.   Tynnodd sylw at bwysigrwydd y prosiect ac ailgylchu ac roedd yn gefnogol ohono ac argymhellion yr adroddiad.   Ychwanegodd yr Arweinydd y gellir cymryd sicrwydd o graffu manwl y prosiect a gwaith y Bwrdd Prosiect Gwastraff, gyda chostau wedi cynyddu oherwydd ffactorau y tu hwnt i reolaeth y Cyngor.   Croesawyd y cyfle i weithio gyda busnesau lleol i ddiogelu swyddi a hwyluso creu swyddi a thwf economaidd ar y safle hefyd.   Nododd y Prif Weithredwr nad oedd y Cyngor yn osgoi mynd i’r afael â phrosiectau mawr a chymhleth ac roedd yn arfer da i adolygu’r Achos Busnes i ailystyried a oedd y prosiect wedi newid dros amser er budd bod yn agored a thryloyw.   Mynegodd ei gefnogaeth ar gyfer yr Achos Busnes diwygiedig.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn–

 

(a)       cydnabod y sefyllfa bresennol o ran costau a’r gyllideb (Atodiad 1 yr adroddiad);

 

(b)        yn cymeradwyo’r Achos Busnes diwygiedig (Atodiad 2 yr adroddiad);

 

(c)         yn dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro, i alw ar gyllid y cynllun cyfalaf sydd heb ei neilltuo os oes angen oherwydd cynnydd nad oes modd ei reoli mewn costau o ganlyniad i chwyddiant neu broblemau gyda’r gadwyn gyflenwi.   Bydd unrhyw alwad am y cyllid hwn yn cael ei adrodd i gyfarfod nesaf y Cabinet, a

 

(d)       chadarnhau ei fod wedi darllen, yn deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

 

Dogfennau ategol: