Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 07/2021/0684/ PF - TIR YM MYNYDD MYNYLLOD, LLANDRILLO, CORWEN

Ystyried cais i godi mast meteorolegol 90m am gyfnod dros dro o dair blynedd ar Dir ym Mynydd Mynyllod, Llandrillo, Corwen (copi ynghlwm).

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais ar gyfer codi mast meteoroleg 90m am gyfnod dros dro o dair blynedd ar dir ym Mynydd Mynyllod, Llandrillo,

Corwen.

 

Amlygodd y Cadeirydd y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd yn y papurau atodol hwyr.

 

Gwerthfawrogodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis (Aelod Lleol) adolygiad gweledol o’r mast arfaethedig, a oedd yn dangos o ble y byddai’r mast yn weledol. Roedd yn dangos y byddai’r mast i’w weld yn glir o bentrefi Cynwyd a Llandrillo. Pwysleisiodd fod trigolion yn cael anhawster gwahaniaethu’r cais hwn rhwng y cynigion fferm wynt posibl yn y dyfodol. Pwysleisiodd ei phryderon o ran yr effaith gweledol y byddai’n ei gael ar bentrefi gerllaw.

 

Diolchodd y Rheolwr Rheoli Datblygu i’r aelod lleol am ei sylwadau. Roedd yn cydnabod y byddai strwythur o’r maint hwn yn cael effaith gweledol, a phwysleisiodd fod swyddogion wedi asesu os oedd yr effaith yn ddigon sylweddol i roi rheswm dros wrthod. Pwysleisiwyd bod angen i aelodau asesu’r cais ar ei rinwedd ei hun a diystyru unrhyw geisiadau posibl eraill. Cafodd yr aelodau eu hatgoffa o hanes y safle, roedd mastiau blaenorol wedi cael eu cymeradwyo a’u codi ar y safle.  Roedd swyddogion wedi ystyried ymatebion gan gyrff cyhoeddus wrth benderfynu ar argymhelliad y swyddog.

 

Trafodaeth gyffredinol - Cododd y Cynghorydd Mark Young bryderon o ran diogelwch awyrennau, a gofynnodd a gafwyd unrhyw ymateb gan gyrff awyrennau. Cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod cyfatebiaeth gan gyrff y Weinyddiaeth Amddiffyn a’r Gwasanaethau Traffig Awyr Cenedlaethol wedi cael eu cynnwys yn y prif adroddiad. Ni nodwyd unrhyw wrthwynebiadau.

Clywodd aelodau fod gwybodaeth wedi cael ei chynnwys yn yr adroddiad ar ddyfodol posibl y fferm wynt. Pwysleisiwyd na ddylai aelodau ystyried unrhyw ddatblygiad posibl ar y safle.

 

Dywedodd y Cynghorydd Merfyn Parry yn ei farn ef dylai ceisiadau ar y safle yn y dyfodol ar gyfer fferm wynt posibl gael eu hystyried ar y cyd â’r cais hwn. Roedd yr eitem a gyflwynwyd i aelodau ar gyfer gwaith dichonoldeb ar gyfer fferm wynt yn y dyfodol a dylai gynnwys datblygiad pellach posibl ar y safle fel un cais.

Cynigodd y Cynghorydd Merfyn Parry y dylid gwrthod y cais i’r gwrthwyneb i argymhellion y swyddog gan y dylai gael ei gyflwyno fel un cais yn cynnwys fferm wynt yn y dyfodol. Eiliodd y Cynghorydd Emrys Wynne y cynnig i wrthod.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod yr aelodau wedi derbyn cais cynllunio cyfreithlon a oedd wedi dilyn y drefn gywir. Roedd ceisiadau cynllunio blaenorol a oedd wedi dilyn yr un weithdrefn wedi cael eu cymeradwyo ar y safle. Pwysleisiodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y byddai aelodau yn cael rhoi sylwadau ar unrhyw gais fferm wynt posible yn y dyfodol gyda’r penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan swyddogion Llywodraeth Cymru. Byddai swyddogion yn cyflwyno adroddiad ar effaith lleol gyda sylwadau i Lywodraeth Cymru ar geisiadau o’r fath.

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol na fyddai’r rheswm dros wrthod yn gallu cael ei amddiffyn ar apêl. Byddai’n gwbl afresymol gofyn i unrhyw ddatblygwr gynnwys unrhyw astudiaeth dichonoldeb fel rhan o ddatblygiad llawn. Roedd y cais a gyflwynwyd i aelodau ar gyfer cais dichonoldeb, a phwysleisiodd y byddai canlyniad y gwaith dichonoldeb yn profi os yw’r safle yn addas ar gyfer datblygiad yn y dyfodol ai peidio. Roedd rhaid i’r cais gael ei benderfynu yn ei rinwedd ei hun.

 

Cododd y Cynghorydd Emrys Wynne bryderon pe byddai’r cais yn cael ei gymeradwyo, y byddai hyn yn arwain at ddatblygiad pellach yn digwydd ar y safle. Yn ei farn ef byddai’r cais yn ddechrau ar ddatblygiad llawer mwy. Teimlai y gallai’r cais effeithio ar y gorwel gweledol ar gyfer cymunedau lleol. Pwysleisiodd y byddai’r gwaith i godi’r mast yn cael effaith ar y tir amgylchynol. 

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Brian Jones y byddai angen ynni gwyrdd i gefnogi cymunedau yn fyd-eang yn y dyfodol, gan gynnwys y defnydd o ffermydd gwynt ac ar y sail honno, cynigodd y dylai’r cais gael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad, ac eiliodd y Cynghorydd Peter Scott y cynnig.

 

Cefnogodd y Rheolwr Rheoli Datblygu farn y Cynghorydd Jones ac edrych ar y darlun mawr ac atgoffodd yr aelodau fod y penderfyniad ei angen er mwyn penderfynu  ar y strwythur dros dro er mwyn asesu dichonoldeb y fferm wynt posibl a’i leoliad. Pwysleisiwyd bod angen i aelodau asesu’r cais ar ei rinwedd ei hun a diystyru unrhyw geisiadau posibl eraill yn y dyfodol. Pwysleisiwyd i aelodau yr anhawster o gymharu agweddau o’r broses gynllunio a’r gwahaniaethau rhwng gwahanol fathau o geisiadau ynghlwm y broses gynllunio.

 

Cytunodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis gyda’r Cynghorydd Parry y dylai’r cais fod wedi cael ei gyflwyno gyda’r fferm wynt fel un. Diolchodd y Cynghorydd Ellis i’r swyddogion cyfreithiol a chynllunio am eu hymateb manwl gan gydnabod yr ymateb i bryderon. Amlygwyd i’r aelodau fod y mast arfaethedig yn llawer uwch na’r mast blaenorol ar y safle ac y byddai’n achosi effaith gweledol ar gyfer aelodau lleol.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai effaith ar amwynder gweledol ar gyfer trigolion yn cael ei ystyried fel ystyriaeth cynllunio materol ar gyfer gwrthod. Ategodd  Rheolwr Rheoli Datblygu y datganiad a wnaed gan y Cadeirydd.

Dywedodd y Cynghorydd Merfyn Parry y byddai’n cytuno i gynnwys effeithiau gweledol fel rheswm ar gyfer gwrthod ynghyd â’i farn y dylai’r cais gael ei gyflwyno fel un gyda datblygiadau yn y dyfodol. 

 

Ymatebodd y Rheolwr Rheoli Datblygu i bryderon aelodau o ran ystyriaethau diogelwch awyrennau yn hedfan yn isel. Cadarnhaodd fod swyddogion wedi ymgynghori gyda’r cyrff perthnasol ac roedd eu hymatebion wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.  Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr amodau ynghlwm yr adroddiad a oedd yn cynnwys rhagofalon diogelwch ychwanegol.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y dylai aelodau osgoi cynnwys bod angen i’r cais dichonoldeb fod yn rhan o’r prif gais fel rheswm dros wrthod. Awgrymodd y dylid anfon llythyr eglurhaol i’r ymgeisydd yn ategu pryderon aelodau.

Nid oedd y Cynghorydd Merfyn Parry yn teimlo y byddai llythyr eglurhaol yn ddigon cryf a dywedodd mai ei reswm dros wrthod oedd y dylai’r cais dichonoldeb gael ei gynnwys fel rhan o’r cais cyfan.   

 

Cynnig - Cynigodd y Cynghorydd Merfyn Parry y dylid gwrthod y cais i’r gwrthwyneb i argymhelliad y swyddog am y rhesymau y dylai fod yn un cais gan gynnwys y gwaith dichonoldeb a datblygiadau yn y dyfodol ac yr effaith gweledol ar drigolion lleol. Cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Emrys Wynne.

Cynigodd y Cynghorydd Brian Jones gymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddogion, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Peter Scott.

 

Gwnaeth y Cadeirydd yn glir pe byddai’r aelodau yn pleidleisio i wrthod y cais, byddai’n cynnwys y ddau reswm a nodwyd uchod. Roedd y Cynghorydd Ellis yn credu y dylai’r rheswm dros wrthod fod yn amwynder gweledol gyda llythyr ynghlwm i’r ymgeisydd.

Cytunwyd y dylid cynnal pleidlais i gadarnhau os oedd y cais yn cael ei gymeradwyo neu ei wrthod, ac yna pe byddai’r aelodau’n pleidleisio i wrthod y cais, byddai ail bleidlais yn cael ei gynnal er mwyn cadarnhau’r rhesymau dros wrthod. Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol ei bod yn dderbyniol cynnal pleidlais yn y drefn honno cyhyd â bod yr holl aelodau yn deall y bleidlais.

 

Pleidlais -

O BLAID – 11

YN ERBYN – 5

YMATAL – 0

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd na fyddai pleidlais arall.

 

PENDERFYNWYD CYMERADWYO’r  cais yn unol ag argymhelliad y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad, gan gynnwys yr amodau a nodwyd yn yr adroddiad

 

Dogfennau ategol: