Eitem ar yr agenda
EITEM O’R PWYLLGOR CRAFFU - CAEL GWARED AR NWYDDAU NA ELLIR EU HAILGYLCHU YNG NGWASANAETHAU ARLWYO YSGOLION
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Arwel Roberts, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu
Perfformiad (copi yn amgaeedig), sy’n argymell bod y Cabinet, ar ran y Cyngor,
yn rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cefnogaeth ariannol ddigonol i
awdurdodau lleol i’w helpu i gael gwared ar ddefnyddio nwyddau na ellir eu
hailgylchu a hwyluso mesurau lleihau carbon yng Ngwasanaethau Arlwyo Ysgolion.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD
bod y Cabinet, ar ran y Cyngor, yn ysgrifennu
at Lywodraeth Cymru yn gofyn iddynt -
(a) weithio gydag awdurdodau
lleol ar draws Cymru i geisio lleihau a dileu’r arfer o ddefnyddio plastig
untro a nwyddau na ellir eu hailgylchu yn y cyflenwad, ac wrth baratoi a gweini
prydau ysgol;
(b) darparu adnoddau ariannol
digonol i’r holl awdurdodau lleol i’w galluogi i ddeall yr amcanion uchod a
hwyluso mesurau lleihau carbon o fewn eu Gwasanaethau Arlwyo Ysgolion wrth
sicrhau bod gwasanaeth prydau ysgol cynaliadwy yn cael ei ddarparu, a
(c) bod y Cabinet, ar ran y
Cyngor, yn ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn gofyn am eu
cefnogaeth i lobïo Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r mesurau a nodi yn (a) a (b)
uchod.
Cofnodion:
Ar wahoddiad yr Arweinydd, cyflwynodd y Cynghorydd Arwel
Roberts, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Perfformiad, yn argymell bod y Cabinet, ar
ran y Cyngor, yn rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cefnogaeth ariannol
ddigonol i awdurdodau lleol i’w helpu i ddileu defnyddio nwyddau nad oes modd
eu hailgylchu, a hwyluso mesurau lleihau carbon o fewn Gwasanaeth Arlwyo
Ysgolion, heb gyfaddawdu ar eu gallu i ddarparu gwasanaeth prydau ysgol hyfyw a
chynaliadwy.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Roberts ar y gwaith a wnaed, gyda
bwriad i ddileu defnydd nwyddau nad oes modd eu hailgylchu yn y gwasanaeth i
gefnogi uchelgais y Cyngor i fod yn ddi-garbon erbyn 2030. Adroddodd ar drafodaeth fanwl y Pwyllgor mewn
perthynas â’r pwnc a chyfraniadau gwerthfawr i’r drafodaeth gan ddau ddisgybl
oedd yn cynrychioli Ysgol Dinas Brân.
Tynnwyd sylw’r Cabinet at y pwysau ariannol sylweddol oedd yn wynebu’r
gwasanaeth, a’i ddibyniaeth ar incwm o werthu diodydd mewn poteli plastig i
ddarparu prydau maethlon a chost effeithiol i ddisgyblion, ynghyd â phwysau
ychwanegol i ddod i ddarparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd,
a oedd yn cymhlethu materion ymhellach.
Diolchwyd i Ysgol Glan Clwyd am gynnal cyfnod prawf diodydd yn eu
hymdrechion i fynd i’r afael â’r broblem a oedd yn amlygu’r costau sy’n
gysylltiedig â’r dull hwnnw a’r heriau cysylltiedig. Roedd yn glir bod pwysau ariannol a staffio
ar y gwasanaeth, cyfyngiadau amser i weini prydau, dim digon o le yn y ffreutur
a’r angen i addysgu disgyblion i ddychwelyd eu cytleri yn ei gwneud yn anodd ar
hyn o bryd i leihau’r ddibyniaeth ar ddeunyddiau nad oes modd eu hailgylchu ac
ôl troed carbon y gwasanaeth, wrth baratoi prydau ysgol maethlon ond
fforddiadwy. Mae ymrwymiad y gwasanaeth
i leihau ei ôl troed carbon a defnyddio deunyddiau nad oes modd eu hailgylchu
wedi cael eu nodi, yn ogystal â’r angen i ddatblygu gwasanaeth hyfyw. O ganlyniad, teimlwyd y dylid mynd at
Lywodraeth Cymru i geisio ei chefnogaeth ar gyfer awdurdodau’n genedlaethol i
gyflawni’r nodau hynny. Gofynnwyd i’r
Cabinet ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn iddynt weithio gydag awdurdodau
lleol ledled Cymru i leihau a dileu ei ddefnydd o blastigion untro neu gynnyrch
nad oes modd ei hailgylchu yn y gwasanaeth a darparu adnoddau ariannol digonol
at y dibenion hynny, a hwyluso mesurau lleihau carbon gan ddarparu gwasanaeth
cynaliadwy.
Diolchodd yr Arweinydd i’r Cynghorydd Roberts am yr
adroddiad a gwaith y Pwyllgor Craffu, ac roedd yn falch o nodi cyfranogiad pobl
ifanc fel rhan o’r broses honno i sicrhau fod ganddynt lais yn y materion sy’n
effeithio ar eu dyfodol.
Diolchodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts i’r Pwyllgor
Craffu am eu gwaith, ac roedd yn cefnogi’r argymhellion yn llwyr, o wybod y
gefnogaeth ariannol sydd ei angen i gyflawni nodau mewn perthynas â lleihau
defnydd a dibyniaeth ar blastigion untro.
Fe ymhelaethodd ar y cyfnod prawf diodydd yn Ysgol Glan Clwyd, a’r
heriau a wynebir ynghyd, o ran yr effaith ariannol sylweddol: tua £220,000 y
flwyddyn ar gyfer stopio gwerthu diodydd mewn ysgolion uwchradd a £200,000 y
flwyddyn ar gyfer gwerthu/tywallt diodydd i gwpanau y gellir eu
hailddefnyddio. Roedd problemau hefyd o
ran cwpanau y gellir eu hailddefnyddio ddim yn cael eu dychwelyd. Er bod y gwasanaeth wedi ymrwymo i leihau ei
ddefnydd o blastigion, roedd anawsterau o ran y costau ariannol sy’n
gysylltiedig gyda’r nod hwnnw, a’r model presennol ar gyfer arlwyo mewn
ysgolion. Roedd ehangu’r gwasanaeth i
ddarparu prydau ysgol am ddim ar gyfer disgyblion cynradd yn codi heriau ychwanegol
hefyd, yn nhermau ei ddarpariaeth a’i effaith ar y gwasanaeth yn y dyfodol.
Ystyriodd y Cabinet yr adroddiad ac roedd y drafodaeth yn
canolbwyntio ar y pwyntiau canlynol -
·
Cydnabu’r Cynghorydd Julian
Thompson-Hill yr anawsterau sy’n wynebu’r gwasanaeth wrth geisio bodloni
uchelgeisiau amgylcheddol ac roedd yn llwyr gefnogi’r argymhelliad i ymgysylltu
gyda Llywodraeth Cymru o ran hynny. O
wybod bod hyn yn fater cenedlaethol ac i gryfhau safle’r Cyngor ymhellach, fe
gynhigiodd argymhelliad ychwanegol i geisio cefnogaeth hefyd gan Gymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i ddatblygu’r mesurau hynny. Mynegodd y
Cynghorwyr Huw Hilditich-Roberts ac Arwel Roberts eu cefnogaeth o’r cynnig er
mwyn cyflwyno safle cyfunol ac unedig ar y mater.
·
Amlygodd y Cynghorydd Brian
Jones, yn dilyn y drafodaeth yn y Pwyllgor Craffu, bod y ddau ddisgybl o Ysgol
Dinas Brân wedi siomi nad oedd mwy y gellir ei wneud ar y cam hwn er mynd i’r
afael â’r mater, ac roedd yn hyrwyddo gweithio ar y cyd a gohebiaeth reolaidd
gydag ysgolion a phobl ifanc i ganfod datrysiadau arloesol er mwyn symud y
rhaglen newid hinsawdd ymlaen.
·
Nododd y Pennaeth Priffyrdd
a Gwasanaethau Amgylcheddol y siom a’r rhwystredigaeth nad oedd datrysiad
cyflym yn bosib yn yr achos hwn, o wybod y cymhlethdodau sy’n gysylltiedig, a
phwysleisiodd ymrwymiad ac ymdrechion y gwasanaeth i’r perwyl hwnnw. Yn sgil y gofynion newydd ar gyfer prydau
ysgol am ddim, roedd angen i’r gwasanaeth ganolbwyntio ar gyflawni’r gwaith
hwnnw dros y deuddeg mis nesaf, ac er y gallai gymryd hirach i gyflawni nodau’r
gwasanaeth o leihau carbon a phlastigion untro, roedd pawb wedi ymrwymo i
ddatrys y mater.
·
Gofynnodd y Cynghorydd
Bobby Feeley a fyddai budd mewn cysylltu’r gofyniad am ddarpariaeth prydau
ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd gyda’r nodau o ddileu plastigion untro yn y
gwasanaeth, a’u hadolygu ar y cyd.
Cynghorodd swyddogion bod y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim yn fater
mewn ysgolion cynradd, a bod y mater o ran plastigion untro yn bennaf yn fater
mewn ysgolion uwchradd, gan ei fod yn ymwneud â gwerthu diodydd mewn poteli
plastig, ac o ganlyniad i hynny, roeddent yn faterion ar wahân.
·
Mewn ymateb i gwestiynau
gan y Cynghorydd Mark Young, tynnwyd sylw at y cynnydd da a waned o ran lleihau
plastig mewn meysydd gwahanol o’r gwasanaeth, fel y nodwyd yn yr adroddiad, ond
oedd yr elfen benodol hon sy’n ymwneud â gwerthu diodydd mewn ysgolion uwchradd
wedi profi’n heriol am y rhesymau a amlinellwyd; nid oedd digon o gyllid yn y
gyllideb gyfredol i dalu am yr elfen hon, ac o ganlyniad, byddai cost o
ddarparu’r newid angen cael ei ddiwallu gan gynnydd i gost prydau ysgol neu
basio’r costau ymlaen i ysgolion. Nodwyd
nad oedd Ysgol Glan Clwyd yn dymuno dychwelyd i werthu diodydd mewn cynwysyddion
plastig a fyddai’n gadael diffyg ariannol y byddai’n rhaid ei fodloni; roedd yn
aneglur hefyd a fyddai cyflwyno prydau ysgol am ddim yn creu pwysau ariannol.
Estynnodd yr Arweinydd wahoddiad i gwestiynau gan Aelodau
nad oeddent yn y Cabinet, ond o wybod y nifer o gwestiynau a godwyd ynghylch
materion ehangach, a fyddai wedi bod yn well wrth graffu ar yr eitem i
ddechrau, gofynnodd i gyfyngu’r cwestiynau i argymhellion y Pwyllgor Craffu,
fel y manylwyd yn yr adroddiad er mwyn datblygu’r broblem. Nododd swyddogion argymhellion yr aelodau ac
ymateb i’r cwestiynau a ofynnwyd -
·
cadarnhawyd nad oedd y
mwyafrif o gwpanau y gellir eu hailddefnyddio a ddarparwyd i hwyluso’r cyfnod
prawf diodydd wedi cael eu dychwelyd, ac wedi’u canfod mewn amryw leoliad, rhai
wedi cael eu torri, ac ystyriwyd bod llawer wedi cael eu cymryd gan y
disgyblion; roedd staff yn edrych am y cwpanau o amgylch yr ysgol yn rheolaidd
i’w dychwelyd i’r ffreutur.
·
nid oedd Ysgol Glan Clwyd
yn dymuno dychwelyd i werthu diodydd mewn cynwysyddion plastig, ond i wneud y
cyfnod prawf yn nodwedd barhaol, byddai angen £20,000 ychwanegol ar yr ysgol
bob blwyddyn, ac ni fyddai hyn yn gallu cael ei ddiwallu gan y gwasanaeth; er y
byddai deialog reolaidd yn parhau gyda’r ysgol, byddai angen iddynt
ganolbwyntio ar sut i ddiwallu’r diffyg cyllid wrth symud ymlaen.
·
esboniwyd yr angen i
gydymffurfio gyda chanllawiau Llywodraeth Cymru ar faetheg a bwyd mewn
ysgolion, a oedd yn golygu gwerthu dŵr, diodydd ffrwythau a llaeth, heb
swigod i’w gwerthu gan y gwasanaeth mewn ysgolion.
·
o ran yr awgrymiad i roi
pwysau ar Lywodraeth y DU i newid y ddeddfwriaeth genedlaethol a gwahardd
cynhyrchu plastigion untro, roedd yr Arweinydd yn teimlo, o wybod argymhellion
Craffu a chymhlethdodau’r materion yn lleol, y dylid ceisio cefnogaeth
Llywodraeth Cymru a CLlLC i ddechrau.
Amlygodd y Cynghorydd Emrys Wynne yr angen i barhau
gyda’r gwaith yn y gwasanaeth arlwyo ysgolion a cheisio cyflawni nod y Cyngor o
leihau plastigion untro, a darparodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts sicrwydd
mai uchelgais y gwasanaeth oedd bod yn ddi-blastig a lleihau carbon lle bo’n
bosib, gydag awydd gan y gwasanaeth ac ysgolion o ran hynny. Esboniodd, oherwydd y costau ariannol
sylweddol sy’n gysylltiedig â datblygu’r elfen sy’n ymwneud â gwerthu diodydd
mewn cynwysyddion untro, nid oedd yn bosibl gwneud hyn ar hyn o bryd, ac o
ganlyniad bu argymhelliad i geisio cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i’r
perwyl hwnnw a hwyluso’r mesurau lleihau carbon.
Ar ôl ystyried adroddiad y Pwyllgor Craffu a’r
argymhellion, yn ogystal â’r argymhelliad ychwanegol a gynhigiwyd gan y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill -
PENDERFYNWYD Bod y Cabinet, ar ran y Cyngor, yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn
iddynt -
(a) weithio gydag awdurdodau
lleol ledled Cymru mewn ymgais i leihau a dileu’r arfer o ddefnyddio plastigion
untro a deunyddiau nad oes modd eu hailgylchu wrth gyflenwi, paratoi a gweini
prydau ysgol;
(b) darparu adnoddau ariannol
digonol i bob awdurdod lleol i’w galluogi i wireddu’r amcanion uchod, a hwyluso
mesurau lleihau carbon o fewn Gwasanaethau Arlwyo Ysgolion, gan sicrhau
darpariaeth gwasanaeth prydau ysgol cynaliadwy, a
(c) bod y Cabinet, ar ran y
Cyngor, yn ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ceisio eu
cefnogaeth i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu’r mesurau a nodwyd yn
(a) a (b) uchod.
Dogfennau ategol:
- SCHOOL CATERING, Eitem 5. PDF 367 KB
- SCHOOL CATERING - APP 1 E, Eitem 5. PDF 239 KB
- SCHOOL CATERING - APP 2 E, Eitem 5. PDF 438 KB